Derbyn cymwysterau
Rydym ni’n derbyn amrywiaeth eang o gymwysterau ar gyfer mynediad i’n cyrsiau israddedig.
Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru/Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru
Mae Prifysgol Caerdydd yn derbyn Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru ar gyfer mynediad i bob un o’i rhaglenni gradd israddedig fel un sy’n cyfateb i un Lefel A ar yr un radd, a bydd yn derbyn Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru yn yr un modd o 2023 ymlaen.
Os ydych yn astudio'r naill gymhwyster neu'r llall ar y cyd â tair Lefel A, bydd unrhyw gynnig a gewch ar gyfer mynediad yn hyblyg, gan ganiatáu i chi fodloni'r graddau sydd eu hangen naill ai o'r Fagloriaeth a dwy lefel A penodedig neu ofynion gradd ar gyfer tair Safon Uwch. Bydd unrhyw ofynion pwnc-benodol hefyd yn cael eu nodi yn y cynnig.
Cambridge Pre-U
Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n cynnig cymhwyster Diploma Cambridge Pre-U a bydd yn ffurfio ei chynigion ar sail sy’n cyfateb â 3 chymhwyster Safon Uwch. Bydd y Brifysgol hefyd yn derbyn Prif Bynciau Pre-U yn lle pynciau Safon Uwch ac eithrio Persbectifau Byd-eang ac Ymchwil Annibynnol.
Sgiliau Allweddol
Rydym ni’n croesawu tystiolaeth o gymhwysedd mewn Sgiliau Allweddol yn frwd ac yn dymuno annog ymgeiswyr i amlygu unrhyw sgiliau o’r fath yn eu cais. Fodd bynnag, ar gyfer y mwyafrif o raglenni gradd, nid ydym yn cynnwys llwyddiant yn y cymhwyster Sgiliau Allweddol yn ein gofynion mynediad ffurfiol. Os ydych yn ansicr, cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn perthnasol am arweiniad mwy penodol.
Safon Uwch Galwedigaethol
I gydymffurfio â phroffil derbyn arferol astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd angen cymwysterau Safon Uwch Galwedigaethol neu lwybr derbyniol amgen drwy ddau Safon Uwch Galwedigaethol ac un Safon Uwch arall. Bydd derbynioldeb yr unedau y byddwch wedi’u hastudio yn y Safon Uwch Galwedigaethol a’r safon angenrheidiol ar gyfer mynediad yn amrywio yn ôl maes y rhaglen.
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol (EPQ/IPQ)
Rydym yn ceisio cefnogi ymgeiswyr sy'n dilyn y cymhwyster EPQ/IPQ drwy gydnabod A yn y cymhwyster EPQ/IPQ i ostwng y gofynion mynediad o un radd ar gyfer ymgeiswyr sy'n astudio Safon Uwch (a Thystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru/Bagloriaeth Cymru), ar gyfer pob rhaglen bar Deintyddiaeth (BDS), Meddygaeth (MBBCh) a'r DipHE mewn Hylendid Deintyddol.
Er enghraifft, byddai AAB Lefel A yn cynnig i ymgeisydd sy'n cymryd yr EPQ/IPQ yn cael ei newid i "AAB o 3 Safon Uwch neu ABB o 3 Safon Uwch a gradd A yn yr EPQ/IPQ.
Gellir ystyried cymwysterau eraill sy'n cael eu cymryd ochr yn ochr ag EPA/IPQ lle gellir gostwng cynnig yn ôl yr hyn sy'n cyfateb i un radd Safon Uwch neu gellir ystyried cyrhaeddiad yn y cymhwyster EPQ/IPQ pan fyddwn yn derbyn eich holl ganlyniadau.
Test of Mathematics
Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig Test of Mathematics for University Admission ar gyfer mynediad i raglenni israddedig Mathemateg y Brifysgol.
Os ydych yn cael 6.5 neu uwch yn y prawf, yna efallai byddwch yn gymwys i gael cynnig ar raglen israddedig Mathemateg heb Safon Uwch Mathemateg, cyn belled â'i fod wedi'i gyfuno gyda graddau addas mewn pynciau eraill ar Lefel 3.
Mathemateg a Rhifedd (TGAU)
Rydym yn derbyn Mathemateg TGAU a Mathemateg TGAU (Rhifedd) yn gyfartal wrth ystyried ceisiadau lle mae Mathemateg TGAU yn ofyniad mynediad, oni nodir yn wahanol yn y gofynion mynediad penodol i'r rhaglen.
Mynediad i AU
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n cynnig y cymhwyster Mynediad i AU ar y mwyafrif o gyrsiau (gall gofynion pwnc fod yn berthnasol). Dylai ymgeiswyr gynnwys eu holl hanes addysgol ar eu cais a chyflenwi datganiad personol sy'n cynnwys eu cymhelliant i ddilyn cwrs Mynediad. Dylai ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn Peirianneg neu Optometreg wneud cais i'r fersiwn o'r cwrs sy'n cynnwys blwyddyn ragarweiniol neu flwyddyn sylfaen. Nid yw'r cwrs Mynediad yn dderbyniol ar gyfer mynediad i'r MBBCh neu Deintyddiaeth.
Peidiwch â cholli allan. Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf ac i wybod pa bryd mae'n Diwrnodau Agored.