Ewch i’r prif gynnwys

Iacháu Clwyfau

Nod cyffredinol pob un o'r tri modiwl e-Ddysgu annibynnol hyn yw hybu dealltwriaeth o reolaeth cleifion sydd ag wlserau ar eu coesau, briwiau pwyso ac wlserau diabetig ar y droed trwy archwilio tystiolaeth ac arfer cyfredol. Cyflwynir y modiwlau sylfaen hyn ym maes hyfywedd meinweoedd ar Lefel 6 AU.

Mae'r rhaglenni e-Ddysgu 18 wythnos, annibynnol, hunangyfeiriedig hyn yn gyfystyr â 30 credyd - a ddyfernir ar lefel gradd (Lefel AU 6) - ar ôl cwblhau pob modiwl yn llwyddiannus.

Mae eu cynllun unigryw yn rhoi hyblygrwydd i fyfyrwyr cymwys ddewis y modiwl unigol o'u dewis. Un o nodau cyffredin y modiwlau annibynnol hyn yw rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i fyfyrwyr er mwyn eu galluogi i ymateb i'r her o ofalu am gleifion sydd ag ystod o glwyfau y deuir ar eu traws yn aml.

Nid yw'r modiwlau yn rhan o raglen astudio, ond gallant roi sail ardderchog i'r rhai sy'n dymuno parhau â'u hastudiaethau ar lefel uwch. Mae myfyrwyr sy'n cwblhau un o'r modiwlau yn llwyddiannus yn cael eu cyfeirio i ystyried gwneud cais am y radd Meistr a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn Iacháu Clwyfau a Thrwsio Meinwe.

Nodweddion arbennig

  • nid oes angen i chi fod ar y campws
  • hyblygrwydd i ddewis modiwl o ddewis
  • mae cyflwyno aseiniadau ar-lein a mynediad at farciau unigol yn caniatáu i fyfyrwyr weld ac olrhain eu cynnydd ar-lein
  • Mae cyswllt rhyng-fyfyriwr, a myfyriwr/tiwtor yn hawdd i'w gyrraedd, a'i gynnal drwy fforymau trafod ar-lein a thiwtorialau ar-lein.

Disgrifiad o'r cwrs

Nod cyffredinol pob un o'r tri modiwl e-Ddysgu annibynnol hyn yw hybu dealltwriaeth o reolaeth cleifion sydd ag wlserau ar eu coesau, briwiau pwyso ac wlserau diabetig ar y droed trwy archwilio tystiolaeth ac arfer cyfredol. Yn ogystal, mae'r modiwlau hyn yn ceisio cynyddu ymwybyddiaeth bresennol y myfyrwyr, gan eu galluogi i ymestyn eu gwybodaeth a datblygu strategaethau i wella canlyniad ac ansawdd gofal y cleifion.

Strwythur y cwrs

Cynigir y modiwlau hyn yn fodiwlau annibynnol ac maent yn 18 wythnos o hyd. Mae myfyrwyr yn dewis un modiwl i'w ddilyn ac yn cael eu hannog i astudio ar eu cyflymder eu hunain i weddu i'w harddulliau dysgu eu hunain. Mae mynediad i gyfleusterau ar-lein yn hanfodol gan fod modd cyrchu deunyddiau’r modiwl drwy amgylchedd dysgu ar-lein Prifysgol Caerdydd (Dysgu Canolog). Mae'r dull modiwlaidd yn adeiladu sylfaen o wybodaeth mewn elfennau o hyfywedd meinweoedd trwy lyfr gwaith gyda chefnogaeth tiwtor ar-lein. Mae'r model dysgu o bell hyblyg, hunan-gyfeiriedig hwn yn cwmpasu ymagwedd ymarferol a dull datrys problemau at ddysgu.

Mae modiwlau yn 300 awr dros 18 wythnos. Rhaid cwblhau'r modiwl o ddewis o fewn y cyfnod o 18 wythnos.

Dyrennir oriau’r modiwl yn y modd canlynol:

  • cyflwyniad cyn y modiwl: 6 awr y modiwl
  • Llyfr Gwaith y modiwl: 140 awr y modiwl
  • cyflwyniad i’r modiwl: 6 awr y modiwl
  • llyfr gwaith: 140 awr y modiwl
  • aseiniad: 60 awr y modiwl
  • traethawd myfyriol: 20 awr y modiwl
  • gwaith astudio hunan-gyfeiriedig: 36 awr y modiwl
  • tiwtorialau: 8 awr y modiwl
  • cymhwyso i ymarfer clinigol: 30 awr y modiwl

Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu mewn dwy ran:

Er mwyn llwyddo ym mhob modiwl, rhaid i fyfyrwyr gyflwyno aseiniad crynodol o 3,000 o eiriau (75% o'r marc cyffredinol) a thraethawd adfyfyriol (25% o'r marc cyffredinol). Bydd gofyn i'r myfyriwr lwyddo yn y ddwy elfen asesu gyda marc llwyddo o 50% a rhaid llwyddo yn y ddwy ran o'r asesiad er mwyn cwblhau'r modiwl yn llwyddiannus.

Mae'n ofynnol i fyfyrwyr ddangos, trwy eu gwaith, eu bod wedi ennill gwybodaeth newydd a bod tystiolaeth o ddatrys problemau, synthesis a chreadigedd.

Defnyddir asesiadau i asesu deilliannau dysgu a galluogi myfyrwyr i fynegi cysyniadau lefel gradd o ran dealltwriaeth, dadansoddi, gwerthuso a chyflwyno. Dylid dangos yn glir ei fod yn berthnasol i ymarfer clinigol/proffesiynol unigol a meddwl gwreiddiol tra'n ymgorffori elfennau o'r modiwl dan sylw.

Y dyddiad cyflwyno ar gyfer yr aseiniad a’r darn o waith adfyfyriol fydd diwrnod olaf y modiwl 18 wythnos.

Modiwlau sydd ar gael

Mae tri modiwl ar gael i'w hastudio.

Gwybodaeth a dealltwriaeth:

  • gwahaniaethu rhwng y gwahanol achosion o wlserau a phathoffisioleg gysylltiedig ac yn ymwneud ag epidemioleg, ffactorau risg ac asesu
  • dod i ddeall pwysigrwydd y dull amlddisgyblaethol wrth asesu a rheoli cleifion ag wlserau ar eu coesau
  • dangos cymhwysiad gwybodaeth trwy ei gysylltu â'u maes ymarfer clinigol eu hunain
  • dangos tystiolaeth o'r gallu i ddethol a defnyddio llenyddiaeth briodol mewn modd strwythuredig
  • dangos dealltwriaeth ehangach o'r pwnc trwy werthuso effaith canllawiau lleol a chenedlaethol a'u perthnasedd i gyflwyno gwasanaethau
  • cyfleu lefel eu hymwybyddiaeth a chyfrifoldeb personol mewn perthynas â’u côd ymddygiad proffesiynol.

Sgiliau deallusol:

  • dadansoddi'n feirniadol y llenyddiaeth a'r dystiolaeth gyfredol ar gyfer rheoli wlserau ar goesau
  • yn dangos gallu i ffurfio syniadau a chynnig atebion i broblemau sy'n gysylltiedig â rheoli cleifion ag wlserau ar eu coesau
  • yn dangos gallu i gynllunio a chwblhau aseiniad unigol gyda thystiolaeth o drafodaeth gytbwys i ddangos integreiddiad gwybodaeth.

Sgiliau sy’n benodol i’r ddisgyblaeth (gan gynnwys sgiliau ymarferol):

  • adolygu rôl nyrsys wrth asesu cleifion ag wlserau ar eu coesau ac archwilio'r dystiolaeth ar gyfer cynnal asesiad cynhwysfawr
  • llunio cynlluniau triniaeth a rheoli ar gyfer cleifion ag wlserau ar eu coesau
  • adolygu rôl y Doppler Llaw ac o fewn proses asesu'r goes.
  • gwerthuso'r dystiolaeth ar gyfer therapi cywasgu a chysylltu hyn ag arfer cyfredol.
  • beirniadu effaith materion seicogymdeithasol sy'n berthnasol i reoli cleifion ag wlserau ar eu coesau ac awgrymu strategaethau i'w hymgorffori mewn ymarfer clinigol.

Dyddiadau'r modiwl

  • 29 Medi 2022 - 2 Chwefror 2023
  • 9 Mawrth - 13 Gorffennaf 2023

Gwybodaeth a dealltwriaeth:

  • cymharu a chyferbynnu gwahanol achosion briwiau pwyso, eu pathoffisioleg gysylltiedig a'u rôl yn y cynllun rheoli
  • nodi pwysigrwydd y dull amlddisgyblaethol wrth asesu a rheoli cleifion â briwiau pwyso
  • dangos cymhwysiad gwybodaeth trwy ei gysylltu â'u maes ymarfer clinigol eu hunain
  • dangos tystiolaeth o'r gallu i ddethol a defnyddio llenyddiaeth briodol mewn modd strwythuredig
  • dangos dealltwriaeth ehangach o'r pwnc trwy werthuso effaith canllawiau lleol a chenedlaethol a'u perthnasedd i gyflwyno gwasanaethau
  • cyfleu lefel eu hymwybyddiaeth a chyfrifoldeb personol mewn perthynas â’u côd ymddygiad proffesiynol

Sgiliau deallusol:

  • dadansoddi'n feirniadol y llenyddiaeth a'r dystiolaeth gyfredol ar gyfer rheoli briwiau pwyso
  • yn dangos gallu i ffurfio syniadau a chynnig atebion i broblemau sy'n gysylltiedig â rheoli cleifion â briwiau pwyso
  • yn dangos gallu i gynllunio a chwblhau aseiniad unigol gyda thystiolaeth o drafodaeth gytbwys i ddangos integreiddiad gwybodaeth

Sgiliau sy’n benodol i’r ddisgyblaeth (gan gynnwys sgiliau ymarferol):

  • adolygu rôl nyrsys wrth asesu cleifion â briwiau pwyso ac archwilio'r dystiolaeth ar gyfer cynnal asesiad cynhwysfawr
  • llunio cynlluniau triniaeth a rheoli ar gyfer cleifion â briwiau pwyso
  • dadansoddi'n feirniadol y defnydd o'r offer asesu risg amrywiol a ddefnyddiwyd a chysylltu hyn â rheoli cleifion
  • nodi'r offer lleddfu pwysau a ddefnyddir ar hyn o bryd a dangos sut y caiff eu defnydd ei ategu gan ddamcaniaeth
  • beirniadu effaith materion seicogymdeithasol sy'n berthnasol i reoli cleifion â briwiau pwyso ac awgrymu strategaethau i'w hymgorffori mewn ymarfer clinigol.

Dyddiadau'r modiwl

  • 29 Medi 2022 - 2 Chwefror 2023
  • 9 Mawrth - 13 Gorffennaf 2023

Gwybodaeth a dealltwriaeth:

  • gwahaniaethu rhwng a gwrthgyferbynnu patholegau sylfaenol clefyd diabetig ar y droed
  • nodi pwysigrwydd y dull amlddisgyblaethol wrth asesu a rheoli cleifion ag wlserau diabetig ar y droed
  • dangos cymhwysiad gwybodaeth trwy ei gysylltu â'u maes ymarfer clinigol eu hunain
  • dangos tystiolaeth o'r gallu i ddethol a defnyddio llenyddiaeth briodol mewn modd strwythuredig
  • dangos dealltwriaeth ehangach o'r pwnc trwy werthuso effaith canllawiau lleol a chenedlaethol a'u perthnasedd i gyflwyno gwasanaethau
  • cyfleu lefel eu hymwybyddiaeth a chyfrifoldeb personol mewn perthynas â’u côd ymddygiad proffesiynol

Sgiliau deallusol:

  • dadansoddi'n feirniadol y llenyddiaeth a'r dystiolaeth gyfredol ar gyfer rheoli wlserau diabetig ar y droed
  • yn dangos gallu i ffurfio syniadau a chynnig atebion i broblemau sy'n gysylltiedig â rheoli cleifion ag wlserau diabetig ar y droed
  • yn dangos gallu i gynllunio a chwblhau aseiniad unigol gyda thystiolaeth o drafodaeth gytbwys
  • ddangos integreiddiad gwybodaeth

Sgiliau sy’n benodol i’r ddisgyblaeth (gan gynnwys sgiliau ymarferol):

  • adolygu rôl nyrsys wrth asesu cleifion ag wlserau diabetig ar y droed ac archwilio'r dystiolaeth ar gyfer cynnal asesiad cynhwysfawr
  • llunio cynlluniau triniaeth a rheoli ar gyfer cleifion ag wlserau diabetig ar y droed
  • ennill dealltwriaeth o'r sgiliau sydd eu hangen i wneud asesiad cynhwysfawr o’r droed
  • nodi egwyddorion rheoli allweddol, yn seiliedig ar ganllawiau cyfredol
  • beirniadu effaith materion seicogymdeithasol sy'n berthnasol i reoli cleifion ag wlserau diabetig ar y droed ac awgrymu strategaethau i'w hymgorffori mewn ymarfer clinigol.
  • nodi strategaethau priodol ar gyfer darparu addysg iechyd i gleifion â chlefyd diabetig ar y droed

Dyddiadau'r modiwl

  • 29 Medi 2022 - 2 Chwefror 2023
  • 9 Mawrth - 13 Gorffennaf 2023

Rydyn ni’n cadw'r hawl i ganslo modiwl unigol. Hwyrach y bydd hyn yn digwydd os na fydd digon wedi cofrestru ar gwrs neu os bydd newid yn yr amgylchiadau. Digwydd hyn oherwydd bod angen lleiafswm o fyfyrwyr ar rai modiwlau cyn y gellir eu cynnal. Diben hynny yw gwneud yn siŵr y gellir cynnal addysg o safon briodol. Os bydd hyn yn digwydd byddwn ni’n rhoi ad-daliad llawn neu rannol gan ddibynnu ar a gynhaliwyd dosbarthiadau neu beidio.

Sgiliau trosglwyddadwy

  • dangos sgiliau cyfathrebu priodol trwy gyfathrebu ysgrifenedig ac ar afar
  • dangos dealltwriaeth o egwyddorion a phrosesau myfyrio mewn modd strwythuredig
  • dangos gallu i weithio’n effeithiol yn unigol gan ddefnyddio technoleg gwybodaeth yn ddull astudio
  • dangos eu gallu i reoli eu hamser yn effeithiol
  • gallu nodi strategaeth datblygiad personol ar gyfer y dyfodol sy'n cyd-fynd â'r syniad o Ddysgu Gydol Oes

Gyrfaoedd posibl

Gall cwblhau un o’r modiwlau hyn gynorthwyo unigolion yn y meysydd canlynol:

  • bodloni gofynion ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus
  • ysgrifennu i'w gyhoeddi
  • potensial ar gyfer rheoli newid yn seiliedig ar y wybodaeth a gafwyd.

Gofynion mynediad

I gael mynediad i’r modiwlau hyn, dylai unigolion fod yn gweithio gyda chleifion sydd angen rheoli clwyfau o ddydd i ddydd ac sy’n bodloni meini prawf Prifysgol Caerdydd ar gyfer astudiaeth lefel gradd a amlinellir isod:

  • 120 CATS ar lefel 4 neu 5 mewn nyrsio neu faes pwnc perthnasol

Mae pob gweithiwr iechyd proffesiynol yn gymwys.

Caiff ymgeiswyr heb radd, ond sydd â phrofiad o waith perthnasol i wneud iawn am eu diffyg cymwysterau ffurfiol a’u hoedran, eu hystyried hefyd.

Mae'n ofynnol i fyfyrwyr, nad Saesneg yw eu hiaith, ddarparu prawf o'u hyfedredd yn yr iaith Saesneg: IELTS 6.5. Ystyrir ceisiadau felly gan feddygon, nyrsys, fferyllwyr, podiatryddion a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n bodloni'r meini prawf uchod.

Nid yw myfyrwyr rhyngwladol sy’n dilyn rhaglenni astudio rhan-amser yn gymwys i gael fisa (Myfyriwr Cyffredinol) Haen 4, a rhaid iddynt fod â chaniatâd amgen i aros yn y DU os ydynt yn bwriadu aros yn y Brifysgol.

Sut i wneud cais

Cysylltwch â’n Tîm Derbyn Myfyrwyr Meddygaeth i Gyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir i gael manylion ar sut i wneud cais.

Cyllid a ffioedd

Ewch i’n tudalennau ffioedd dysgu i weld y ffioedd dysgu ar gyfer y rhaglenni hyn.

Tîm Derbyn Ôl-raddedig a Addysgir

Yr Ysgol Meddygaeth