Ewch i’r prif gynnwys

Ieithoedd Modern Tramor

Mae'r Ysgol Ieithoedd Modern yn falch o gael cynnig ystod o fodiwlau cyfieithu arbenigol unigol, fel ein MA mewn Astudiaethau Cyfieithu, neu'r rhai sy'n gweithio fel cyfieithwyr proffesiynol yn y sectorau preifat a chyhoeddus.

Coronavirus (COVID-19)

Oherwydd y sefyllfa bresennol o ran COVID, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â ni i gael y wybodaeth ddiweddaraf am raglenni (gweler isod), gan y gallai’r rhain newid.

Modiwlau

Fel arfer, mae’r modiwlau hyn wedi cael eu cynnig fel opsiynau unigol:

Cyfieithu Ieithoedd Lleiafrifol

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno natur a rôl ddiwylliannol ieithoedd lleiafrifol Ewrop o safbwynt cyfieithu.

Mae'n archwilio penodolrwydd ieithoedd lleiafrifol, y wleidyddiaeth a'r polisïau ynghylch eu cyfansoddiad a'u cyfieithu, eu rôl yn niwylliant a chymdeithas Ewrop a pharamedrau eu dimensiynau diwylliannol a gwleidyddol, a'r fframwaith cyfreithiol y maent yn bodoli ynddynt. Mae'n cynnig trosolwg o'r cwestiynau sy'n codi wrth gyfieithu ieithoedd modern lleiafrifol yn ogystal ag esiamplau o localau Ewropeaidd ac o safbwyntiau ôl-drefedigaethol.

Cyfieithu ac addasu yn y celfyddydau

Bydd y modiwl hwn yn ystyried sut a pham y mae gwahanol gyfryngau'n cyfieithu testunau ffynhonnell lenyddol a'r cenhedloedd y tu ôl iddynt. Bydd yn archwilio'r rhesymau masnachol y tu ôl i'r berthynas ymaddasol (bydd llawer o gefnogwyr a thestunau eisoes yn bodoli), yr ail-greu ieithyddol a'r trosglwyddiad diwylliannol wrth i gynnyrch un genedl gael ei gyfieithu ar draws y cyfryngau i un arall.

Mae'r berthynas rhwng addasu a chyfieithu yn bwnc llosg ym maes Astudiaethau Cyfieithu. Bydd y modiwl hwn yn gwneud achos dros eu cysylltiad, gan archwilio'r ffyrdd y mae elfennau penodol o Ddamcaniaeth Cyfieithu, yn arbennig damcaniaethwyr y tro diwylliannol, y ddadl estroneiddio/cynefino a'r damcaniaethau Swyddogiaethol, yn taflu goleuni pwysig ar addasiadau fel arteffactau, gan adolygu'r disgwrs beirniadol sydd o'u cwmpas ar hyn o bryd. Defnyddir pum testun astudiaeth achos ac addasiadau'r modiwl hwn i gymharu a chyferbynnu'r broses addasu mewn gwahanol gyfnodau, gwledydd a chyfryngau er mwyn annog myfyrwyr i ymgysylltu ag addasiadau penodol a thueddiadau a phrosesau ehangach addasu yn gyffredinol.

Cyfieithu a diwylliant

Bydd y modiwl yma'n astudio'r heriau sy'n codi oherwydd dimensiynau diwylliannol y broses cyfieithu a rôl cyfieithu, ynghyd â chyfieithwyr, fel asiantau rhyngddiwylliannol. Bydd yn trafod syniadau cyfieithu diwylliannol ac ieithyddol, yn archwilio deunyddiau o amryw o feysydd (llenyddiaeth, y celfyddydau. cerddoriaeth, sinema, hysbysebu, gwleidyddiaeth) a lleoliadau i ddangos sut caiff cyfieithu ei ymgorffori mewn ymarfer diwylliannol. Mae'r modiwl wedi ei ddylunio er mwyn mireinio sgiliau myfyrwyr wrth iddynt ganolbwyntio ar astudiaethau achos a chysyniadau beirniadol.

Gwneud cais

Dylid gwneud ceisiadau drwy ddefnyddio'r ffurflen gais.

Cysylltwch â'r Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus i gael rhagor o arweiniad ynglŷn â hyn.

Standalone module application form - Welsh version

Ffurflen Gais ar gyfer Modiwl Annibynnol

Equal opportunities monitoring form - Welsh version

Cyfle cyfartal ffurflen monitro

Cysylltu â ni

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus