Ewch i’r prif gynnwys

Addysg Weithredol

Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn falch iawn o weithio gydag ystod o sefydliadau gwahanol i'w helpu i ddefnyddio ei hymchwil ardderchog drwy gynigion Addysg Weithredol.

Mae gennym gysylltiadau helaeth â diwydiant, ac rydym yn cynnig Addysg Weithredol ar sail agored ac unigryw, yn ogystal â rhaglenni Meistr dan arweiniad proffesiynol gan gynnwys ein MBA Gweithredwr.

Cyrsiau sydd ar gael

Rydym yn cynnig nifer o gyrsiau byr dros ystod o ddisgyblaethau busnes. Manylion am gyrsiau sydd ar y gweill.

Rydym hefyd yn cynnig rhaglenni unigryw sydd wedi'u teilwra'n benodol ar gyfer gofynion eich sefydliad.

Nodweddion arbennig

Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn cael ei chydnabod yn eang fel un o’r ysgolion busnes a rheoli mwyaf blaenllaw yn y DU. Mae’n 4ydd safle yn y DU am Ragoriaeth Ymchwil, ac mae'n cynnig cyfleusterau ardderchog. Mae ar flaen y gad o ran datblygu disgyblaethau rheoli effeithiol.

Rydym yn arbenigo ar raglenni unigryw sy'n helpu sefydliadau i fanteisio ar ffyrdd gwahanol o wella busnes, diolch i'n profiad a'n gwybodaeth o Feddylfryd Di-wastraff, Arweinyddiaeth a Rheoli, Marchnata a Strategaethau a llawer o ddisgyblaethau busnes eraill.

Mae llawer o'n rhaglenni wedi'u hachredu e.e. mae'r rhaglenni di-wastraff wedi'u hachredu gan ein System Cymhwysedd Di-wastraff.

Sut i wneud cais

Gallwch ddod o hyd i gyfarwyddiadau ar sut i gadw lle ar dudalennau gwybodaeth y cwrs Addysg Weithredol.

Cyswllt

Addysg Weithredol

Addysg Weithredol