Ewch i’r prif gynnwys

Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn y Gyfraith

Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn cynnig rhaglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i weithwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn astudio modiwlau lefel Meistr fel unedau sengl.

Mae’r Rhaglen DPP wedi’i chynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol prysur sydd eisoes wedi ymrwymo i lwybr gyrfa – nid o angenrheidrwydd yn y gyfraith – ac mae’n fodd i fyfyrwyr amseru eu hastudiaethau yn unol â’u hymrwymiadau proffesiynol.

Mae'r rhaglen yn cynnig fformat astudio hyblyg. Gall myfyrwyr ddewis astudio un uned yn unig, gan ennill un uned LLM, neu efallai y byddant am fynd ymhellach ac ennill LLM llawn drwy gwblhau pedair uned fodiwlaidd a thraethawd yn llwyddiannus.

Nodweddion arbennig

  • Mae ein modiwlau DPP wedi'u hachredu gan Gyngor Safonau’r Bar (BSB) a'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA).

Disgrifiad o'r cwrs

Mae angen i bob gweithiwr cyfreithiol proffesiynol ddiweddaru eu sgiliau a'u gwybodaeth gyffredinol a gallant elwa ar gymryd rhan yn yr ystod o weithgareddau ac adnoddau DPP a ddarperir gan Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

Caiff pob modiwl DPP ei ddilysu'n llawn gan Fwrdd Safonau'r Bar a'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr yn ogystal â sefydliadau proffesiynol perthnasol eraill. Mae modiwlau'n agored i bob gweithiwr cyfreithiol proffesiynol, ond hefyd y rhai o gefndiroedd eraill sy'n berthnasol i'r modiwlau y maent am eu dilyn.

Fel arfer, addysgir modiwlau dros 10 wythnos drwy gymysgedd o ddysgu dan gyfarwyddyd a dysgu ar-lein. Cynhelir dysgu dan gyfarwyddyd mewn sesiynau wythnosol 2-3 awr yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, sydd wedi'i lleoli'n gyfleus ym Mharc Cathays yng nghanol Caerdydd.

Ar ôl cwblhau pob modiwl yn llwyddiannus, mae myfyrwyr yn derbyn Gwobr DPP Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth gwerth 30 credyd ar lefel M. Gellir cronni credydau a gallant gyfrif tuag at ddyfarniad LLM pe bai myfyrwyr yn penderfynu astudio ymhellach a gwneud cais i un o'n llwybrau LLM poblogaidd.

Cyfleusterau ac adnoddau

Cefnogaeth TG a’r Llyfrgell

Darperir cymorth cyfrifiadurol cyffredinol gan Ganolfan Gyfrifiadureg a Llyfrgelloedd y Brifysgol, ac mae cysylltiad agos rhwng gwasanaethau cyfrifiadurol yr Ysgol. Mae Gwasanaethau Cyfrifiadura ar gael mewn nifer o leoliadau ddydd a nos.

Mae gennym Lyfrgell y Gyfraith ragorol sydd â mwy na 100,000 o gyfrolau a thanysgrifiadau i dros 200 o gyfnodolion ac adroddiadau cyfreithiol cyfredol. Mae'r llyfrgell wedi'i lleoli'n gyfleus yn Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol, gyferbyn ag Adeilad y Gyfraith. Gall myfyrwyr fenthyg hyd at 12 llyfr ar unrhyw un adeg, gyda chyfnod benthyciad safonol o hyd at dair wythnos. Gellir benthyg llyfrau y mae galw mawr amdanynt, megis testunau a argymhellir, am gyfnodau mwy byr. Mae’r llyfrgell yn llawn cyfrifiaduron, sy’n eich galluogi chi i ddod o hyd i lyfrau ar-lein, gwirio pa rai sydd ar gael, cadw llyfrau i’r naill ochr ac adolygu eich cyfrif. Mae llungopïwyr hunan-wasanaeth, argraffwyr laser a gwasanaeth graffeg llawn hefyd ar gael.

Yn ogystal, mae cronfeydd data electronig a systemau adalw megis Westlaw UK, Lexis®Library a HeinOnline yn hwyluso mynediad i nifer o adroddiadau a chyfnodolion allweddol eraill.

Addysgu a dysgu

Ar gyfer pob modiwl, anogir myfyrwyr i weithio'n annibynnol i chwilio am ddeunyddiau cyfreithiol drostynt eu hunain, i ddarllen a dadansoddi'r deunyddiau hyn yn feirniadol ac i gyflwyno dadl strwythuredig a rhesymegol o dan arweiniad eu tiwtoriaid a'u goruchwylwyr. Er bod rhai darlithoedd mewn sawl un o'r modiwlau, cynhelir addysgu yn bennaf drwy seminarau. Bydd myfyrwyr yn cael cyfres o ddeunyddiau sy’n berthnasol i bob modiwl cyn y sesiynau addysgu, a bydd gofyn iddynt eu darllen. Mae'r rhain yn sail i ddarlithoedd, seminarau a gweithdai.

Gofynion mynediad

Gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth o brifysgol yn y DU neu gymhwyster cyfwerth a gydnabyddir gan y Brifysgol.  Gall ymgeiswyr fod yn gymwys i gael eu derbyn os oes ganddynt gymhwyster nad yw'n raddedig y mae Prifysgol Caerdydd o'r farn ei fod o safon foddhaol at ddibenion derbyn i astudiaeth ôl-raddedig, neu os yw profiad gwaith perthnasol yn gwneud yn iawn am eu diffyg cymwysterau ffurfiol. Wrth benderfynu a fydd unrhyw ymgeisydd yn cael ei dderbyn i'r cwrs, bydd profiad gwaith ymgeiswyr unigol yn cael ei ystyried yn ogystal â chymwysterau ffurfiol.

Sut i wneud cais

I gael rhagor o wybodaeth am y modiwlau sydd ar gael a'r prosesau ymgeisio cysylltwch â Swyddfa Ôl-raddedigion Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Y dyddiad derbyn yw mis Medi bob blwyddyn.

Cysylltu â ni

Swyddfa Ôl-raddedig y Gyfraith a Gwleidyddiaeth