Cemeg
Mae'r modiwlau hyn wedi'u hanelu at raddedigion neu ymarferwyr profiadol sydd â diddordeb mewn parhau eu datblygiad proffesiynol (DPP) ym meysydd biocatalysis a chemeg cyfrifiadurol.
Mae'r dull hwn o astudio yn addas ar gyfer ymgeiswyr sydd am ddatblygu eu sgiliau gweithle a gyrfa ymhellach ac sy'n hapus i astudio ochr yn ochr â myfyrwyr MSc rhaglen lawn.
Ar ôl eu cwblhau, bydd Prifysgol Caerdydd yn dyfarnu trawsgrifiad o'u credydau ôl-raddedig i'r myfyrwyr llwyddiannus a gallant eu defnyddio fel tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP) ar gyfer aelodaeth corff proffesiynol. Gall hefyd fod yn bosibl rhoi credydau tuag at cymhwyster ôl-raddedig mewn pwnc cysylltiedig - cysylltwch â ni i gael manylion.
Rydym wedi dewis peidio hysbysebu modiwlau penodol ond yn hytrach byddem yn hapus i drafod eich gofynion dysgu ar sail unigol. Er mwyn helpu i gyfeirio eich ymholiadau rydym wedi rhoi blas isod o'r pynciau rydym yn eu cynnig ar lefel ôl-raddedig a addysgir ar hyn o bryd:
- Biocatalysis
- Catalysis Heterogenaidd
- Catalysis Heterogenaidd Diwydiannol
- Catalysis Unffurf
- Dylunio Catalyst
- Electrocatalysis
- Cemeg Bioinorganig
- Modelu Moleciwlaidd
- Datblygu cyffuriau
- Darganfod cyffuriau
- Cemeg feddyginiaethol
- Biosynthesis
- Dadansoddi Restrosynthetig.
Cymorth a chefnogaeth
I gael sgwrs anffurfiol, neu i drafod eich gofynion dysgu unigol gydag academydd o Ysgol Cemeg Caerdydd, cysylltwch â Jonathan Bartley:

Dr Jonathan Bartley
Research Fellow in Heterogeneous Catalysis and Assistant Director of the Cardiff Catalysis Institute
- bartleyjk@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 0745
Gofynion mynediad
Dylai fod gan ymgeiswyr radd gyntaf dda (2:1 fel arfer neu gymhwyster cyfatebol) neu brofiad gwaith cyfatebol mewn disgyblaeth berthnasol sy'n seiliedig ar gemeg.
Rhaid i ymgeiswyr nad ydynt yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf fodloni gofynion iaith Saesneg y Brifysgol.
Er mwyn gwneud cais, mae’n rhaid i chi gyflwyno eich tystysgrifau a’ch trawsgrifiadau sy’n gysylltiedig â’ch cymwysterau blaenorol, datganiad personol a thystiolaeth o’ch hyfedredd mewn Saesneg (lle bo’n berthnasol).
Sut i wneud cais
Dylai ymgeiswyr lenwi ffurflen gais y modiwl a ffurflenni cyfleoedd cyfartal a'u dychwelyd i'r Uned Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).
I gael rhagor o gyngor ymarfer ar ffioedd modiwlau, gwybodaeth am amserlenni a sut i wneud cais, cysylltwch â'r Uned DPP.

Standalone module application form - Welsh version
Ffurflen Gais ar gyfer Modiwl Annibynnol
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.

Equal opportunities monitoring form - Welsh version
Cyfle cyfartal ffurflen monitro
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus
Cynigiwn borth i fusnesau fanteisio ar yr ystod eang o arbenigedd sydd ym Mhrifysgol Caerdydd.