Ewch i’r prif gynnwys

Iechyd y Cyhoedd

Mae'r modiwlau dysgu cyfunol hyn yn cynnig addysg Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i weithwyr proffesiynol o ystod o leoliadau gofal iechyd a chymdeithasol, a’r cyfle i ymgymryd â dysgu integredig ac amlddisgyblaethol o safon uchel yn ymwneud ag arweinyddiaeth a datrys problemau ar draws maes eang iechyd y cyhoedd.

Gallwch chi astudio pob modiwl yn unigol a bydd y rhain yn cyfrannu at eich portffolio datblygu proffesiynol parhaus ac yn rhan o'r MSc Iechyd y Cyhoedd (MPH).

Ar gyfer pob modiwl unigol 20 credyd Lefel 7 ceir sesiynau wyneb yn wyneb sy’n ddarlithoedd arweiniol ac yna ymarferion addysgu mewn grwpiau bychain neu sesiynau ymarferol ac mae nifer yn cael eu hategu gan ddeunyddiau dysgu ar-lein. Addysgir methodoleg ystadegol ochr yn ochr â Stata, sef pecyn meddalwedd a ddefnyddir i gyfrifiannu ystadegau. Mae hyn yn eich galluogi chi i ddysgu ynghylch cysyniadau damcaniaethol a sut i’w cymhwyso.

Cyfeiriwch at dudalennau’r cwrs i gael manylion llawn ynghylch pob un o'r modiwlau.

Nod y modiwl hwn yw galluogi ôl-raddedigion ym maes iechyd y cyhoedd i ddod yn ddefnyddwyr gwybodus o ran arbenigedd ystadegol. Yn ystod y modiwl, byddwch yn dod i ddeall cysyniadau damcaniaethol ynghylch ystadegau meddygol, a sut i gymhwyso’r ystadegau hynny. Datblygir sgiliau dadansoddi a dehongli data drwy ddefnyddio pecynnau meddalwedd ystadegol ac ymarferion dadansoddi a deall canlyniadau cyhoeddedig.

Asesir y modiwl trwy aseiniad ysgrifenedig ac arholiad.

Dyddiadau'r modiwl

5 Hydref 2020 – 9 Ionawr 2021

(dyddiadau wyneb yn wyneb)

I’w cadarnhau

Nod y modiwl hwn yw eich galluogi i gymryd rhan yn effeithiol mewn gwella iechyd ar lefel ficro (unigol/cymuned), meso (cymuned/cenedlaethol) neu facro (cenedlaethol/rhyngwladol), ac i ymateb mewn modd adeiladol i natur amlddimensiwn anghenion iechyd. Bydd yn eich galluogi i arfarnu dogfennau ymchwil a pholisi sy’n deillio o amryw o ffynonellau, yn feirniadol, ac i gynnal dull moesegol ac egwyddorol o ymchwilio a gweithredu.

Asesir y modiwl drwy aseiniadau ysgrifenedig.

Dyddiadau'r modiwl

Ebrill 12 - Mehefin 18

(dyddiadau wyneb yn wyneb)

I’w cadarnhau

Nod y modiwl hwn yw eich helpu i ddeall effaith bosib yr amgylchedd ar iechyd y cyhoedd, ac egwyddorion asesu a lliniaru risg. Bydd hefyd yn eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o glefydau trosglwyddadwy sydd o bwys i iechyd y cyhoedd, dulliau o gadw goruchwyliaeth o’r boblogaeth, dulliau ar gyfer ymchwilio i achosion, a’r seiliau epidemiolegol sy’n gysylltiedig â strategaethau rheoli.

Asesir y modiwl drwy aseiniadau ysgrifenedig.

Dyddiadau'r modiwl

Ebrill 12 - Mehefin 18

(dyddiadau wyneb yn wyneb)

I’w cadarnhau

Drwy’r modiwl hwn cewch ddeall patrymau o ran clefydau a marwolaethau yn fyd-eang, effaith globaleiddio ar iechyd mewn gwledydd sy'n datblygu a gwledydd datblygedig, a gweithgareddau a strwythurau rhyngwladol a gynlluniwyd i fynd i'r afael â'r materion hyn.

Asesir y modiwl trwy aseiniad ysgrifenedig, a chyflwyniad gyda chwestiynau gan banel yn dilyn hynny.

Dyddiadau'r modiwl

5 Hydref – 18 Rhagfyr

(dyddiadau wyneb yn wyneb)

I’w cadarnhau

Erbyn diwedd y modiwl hwn byddwch yn gallu deall egwyddorion epidemiolegol sylfaenol, dulliau ar gyfer mesur iechyd a chlefydau, a methodolegau ymchwil gwahanol a ddefnyddir ym maes gwybodaeth iechyd a'u cyfraniad at y ddealltwriaeth o iechyd a lles.

Asesir y modiwl trwy aseiniad ysgrifenedig ac arholiad.

Dyddiadau'r modiwl

5 Hydref 2020 – 9 Ionawr 2021

(dyddiadau wyneb yn wyneb)

I’w cadarnhau

Mae'r modiwl hwn yn addas i'r rhai sydd â gwybodaeth epidemiolegol a gwybodaeth ystadegol eisoes, a thrwy’r modiwl cewch ddeall sut i’w cymhwyso’n ymarferol. Erbyn diwedd y modiwl hwn, byddwch yn gallu dangos sut gellir cymhwyso dulliau ac egwyddorion epidemiolegol penodol i ystod o agweddau ar ymarfer iechyd y cyhoedd.

Asesir y modiwl trwy aseiniad ysgrifenedig ac arholiad.

Dyddiadau'r modiwl

Ionawr 11 – Ebrill 30.

(dyddiadau wyneb yn wyneb)

I’w cadarnhau

O ddilyn y modiwl hwn, cewch ddeall sut mae gwasanaethau iechyd wedi'u cynllunio, eu comisiynu, eu trefnu, eu rheoli a'u hariannu. Bydd y modiwl yn eich galluogi i wella eich cymhwysedd proffesiynol a hynny ar gyfer amrywiaeth o rolau ym maes iechyd y cyhoedd yn y DU ac mewn mannau eraill, mewn amrywiaeth o wahanol strwythurau sefydliadol. Mae i’r modiwl ffocws cryf ar ddod yn fwy cyfarwydd â chysyniadau economaidd iechyd pwysig a chymhwyso'r cysyniadau hyn i lywio gwaith cynllunio ar gyfer gwasanaethau iechyd.

Asesir y modiwl trwy aseiniad ysgrifenedig ac arholiad.

Dyddiadau'r modiwl

Ionawr 11 – Ebrill 30.

(dyddiadau wyneb yn wyneb)

I’w cadarnhau

Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i chi ddysgu ynghylch amrywiaeth o fodelau rheoli damcaniaethol ac archwilio sut i’w defnyddio o ran ymarfer ym maes y gwasanaeth iechyd y cyhoedd a gwasanaethau iechyd. Byddwch yn trin a thrafod asesu anghenion iechyd a phynciau cysylltiedig yn fanylach. Bydd yn rhoi cyfle i chi gwmpasu ystod o amcanion dysgu sy’n rhan o arholiad 'Rhan A' Cyfadran Iechyd Cyhoeddus y DU.

Dyddiadau'r modiwl

11 January - 2 April 2021

(dyddiadau wyneb yn wyneb)

I’w cadarnhau

Rydyn ni’n cadw'r hawl i ganslo modiwlau unigol. Hwyrach y bydd hyn yn digwydd os na fydd digon wedi cofrestru ar gwrs neu os bydd newid yn yr amgylchiadau. Digwydd hyn oherwydd bod angen lleiafswm o fyfyrwyr ar rai modiwlau cyn y gellir eu cynnal. Diben hynny yw gwneud yn siŵr y gellir cynnal addysg o safon briodol. Os bydd hyn yn digwydd byddwn ni’n rhoi ad-daliad llawn neu rannol gan ddibynnu ar a gynhaliwyd dosbarthiadau neu beidio.

Gofynion mynediad

Yn ogystal â bodloni gofynion isafswm mynediad y Brifysgol, gan gynnwys gofynion Saesneg, rhaid i ymgeiswyr fod â'r canlynol:

  • 2:1 Mewn pwnc israddedig perthnasol megis deintyddiaeth, iechyd yr amgylchedd, gwybodaeth iechyd, cynllunio iechyd, hybu iechyd, gwerthuso'r gwasanaeth iechyd, rheoli'r gwasanaeth iechyd, gwaith cymdeithasol, meddygaeth, maeth a nyrsio.

Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion uchod gysylltu â’r Tîm Derbyn Myfyrwyr ar Gyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yn yr Ysgol Meddygaeth i gael cyngor.

Sut i wneud cais

Cysylltwch â’n Tîm Derbyn Myfyrwyr Meddygaeth ar Gyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir i gael manylion ar sut i wneud cais.

Cyllid a ffioedd

Ewch i’n tudalennau ffioedd dysgu i weld y ffioedd dysgu ar gyfer y rhaglenni hyn.

Tîm Derbyn Ôl-raddedig a Addysgir

Yr Ysgol Meddygaeth