Ewch i’r prif gynnwys

Iechyd Cyhoeddus (MPH)

  • Hyd: 1 flwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae’r rhaglen Meistr yn Iechyd y Cyhoedd yn aml-ddisgyblaethol a thraws-broffesiynol o ran ei gynnwys a’r myfyrwyr mae’n ei ddenu fel arfer. Mae’r MPH wedi'i redeg yn llwyddiannus yng Nghaerdydd ers 1989 ac mae ganddo enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae ein rhaglen Meistr yn Iechyd y Cyhoedd (MPH), a ddarperir gan arbenigwyr arweiniol ym maes eang iechyd y cyhoedd, yn darparu profiad dysgu aml-ddisgyblaethol sydd o ansawdd uchel ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae’r MPH yn rhaglen sefydledig sy’n adnabyddus yn fyd-eang, ac mae’n datblygu gweithwyr proffesiynol iechyd y cyhoedd i ddod yn arweinwyr ym maes diogelu a hyrwyddo iechyd a lles y boblogaeth a’r blaned.

Anogir ymgeiswyr o ystod o gefndiroedd i wneud cais, o weithwyr proffesiynol ym maes iechyd a meddygaeth i ddadansoddwyr, gwyddonwyr data a chyfrifiadureg, peirianwyr, penseiri, cynllunwyr, swyddogion iechyd yr amgylchedd, newyddiadurwyr, cyfreithwyr, economegwyr, arloeswyr, entrepreneuriaid a gweithwyr proffesiynol ym maes busnes. Mae hyn yn cynrychioli natur ryngddisgyblaethol ymchwil ac arfer iechyd y cyhoedd, yn unol â dull Iechyd ym Mhob Polisi Sefydliad Iechyd y Byd.

Mae hon yn rhaglen lawn amser wyneb yn wyneb, a ddarperir mewn blwyddyn academaidd. Mae’n cynnwys chwe modiwl craidd a fydd yn eich helpu chi i archwilio hanfodion epidemioleg, cymhwyso dulliau ystadegol i iechyd y cyhoedd mewn modd beirniadol, a chymhwyso egwyddorion epidemioleg yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd.

Bydd hefyd yn rhoi’r arbenigedd i chi hyrwyddo ac arwain newid drwy ymgysylltu ag ymchwil a damcaniaeth rheoli, arweinyddiaeth a pholisi iechyd. Bydd yn eich cefnogi chi i wneud penderfyniadau strategol am ddiogelu a gwella iechyd, a bydd yn caniatáu i chi gymhwyso eich dysgu ar y rhaglen drwy werthuso sefyllfaoedd astudiaethau achos perthnasol yn y maes mewn modd beirniadol.

Er mwyn ennill y cymhwyster Meistr, byddwch yn cyflawni prosiect traethawd hir terfynol, wedi’i gytuno gyda’ch goruchwylydd, ar bwnc iechyd y cyhoedd addas. Gellir cyflawni prosiectau traethawd hir ar ystod o bynciau, o ymchwil, gwerthuso gwasanaethau, arloesedd neu entrepreneuriaeth ym meysydd diogelu iechyd, gwella iechyd, neu iechyd y cyhoedd ym maes gofal iechyd. Byddwch yn cael cefnogaeth lawn gan oruchwylydd y traethawd hir a chyfadran y rhaglen.

Nod y cwrs yw rhoi’r wybodaeth i chi allu:

  • Asesu iechyd ac anghenion iechyd y boblogaeth mewn modd ansoddol a meintiol, gan gynnwys penderfynyddion a statws iechyd a lles a datblygu camau effeithiol
  • Gwerthuso tystiolaeth o effeithiolrwydd ymyriadau, rhaglenni a gwasanaethau iechyd a gofal iechyd mewn modd beirniadol
  • Ystyried damcaniaeth a thystiolaeth, gan gyfosod canfyddiadau i hyrwyddo iechyd poblogaethau drwy ddylanwadu ar ffordd o fyw ac amgylchedd economaidd-gymdeithasol, corfforol a diwylliannol drwy ddulliau hyrwyddo iechyd, gan gynnwys addysg iechyd
  • Cyfosod seiliau tystiolaeth cyfoes a chanllawiau allweddol i ddiogelu iechyd y cyhoedd rhag peryglon trosglwyddadwy ac amgylcheddol
  • Casglu, cynhyrchu, cyfosod, gwerthuso, dadansoddi, dehongli a chyfathrebu gwybodaeth sy’n mesur statws iechyd, risgiau, anghenion a chanlyniadau iechyd poblogaethau penodol
  • Datblygu, rheoli ac arwain datrysiadau arloesol a rhyng-sectoraidd mewn modd strategol er mwyn mynd i’r afael â phroblemau cyfoes, megis newid hinsawdd byd-eang, llygredd amgylcheddol, ymwrthedd gwrthficrobaidd, gordewdra a chlefydau anhrosglwyddadwy.

Nodweddion unigryw

  • Mae’r MPH yn gwrs gofynnol ar gyfer hyfforddeion iechyd y cyhoedd yng Nghymru sy’n paratoi ar gyfer yr arholiad i fod yn aelod o Gyfadran Iechyd y Cyhoedd.
  • Mae cynnwys y cwrs yn gweddu’n agos â maes llafur arholiad Aelodaeth Cyfadran Iechyd y Cyhoedd y Deyrnas Unedig. Mae’n rhaglen sefydledig, mae ganddi enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac mae’r cwricwlwm yn ystyried natur newidiol arferion iechyd y cyhoedd yn fyd-eang.
  • Mae ein gweithdai astudiaethau achos iechyd y cyhoedd yn rhoi cyfle i chi fyfyrio ynghylch eich dysgu a mynd i’r afael ag ystod o sefyllfaoedd. Rydym yn canolbwyntio ar faterion cyfoes a all fod mor bellgyrhaeddol ag iechyd y blaned, ymwrthedd gwrthficrobaidd, iechyd meddwl, clefydau anhrosglwyddadwy sy’n gysylltiedig â ffordd o fyw, Data Mawr, y Rhyngrwyd Pethau, deallusrwydd artiffisial, dysgu peiriannol, blockchain, ac iechyd digidol.
  • Mae lleoliad Prifysgol Caerdydd yng nghanol prifddinas Cymru yn cynnig mynediad rhagorol i fyfyrwyr at gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaethau’r GIG ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • Mae ein cydweithrediad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig cyfleoedd i ymuno â’r Tîm Deallusrwydd Iechyd a chymryd rhan mewn ymchwil cymhwysol ac ymchwiliadau iechyd y cyhoedd go iawn.
'I have learned so much about the different areas of public health from the team associated with this programme. The Team’s tireless pursuit of academic excellence and professional insight were a source of constant encouragement and strong motivation for me to achieve this Masters. I’ve returned to India with increased knowledge and priceless suggestions. I am extremely grateful for their unrelenting support and guidance throughout'
Pooja Public Health (MPH). Graduated July 2016

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Meddygaeth

Rydym ni'n un o ysgolion meddygaeth fwyaf y DU, wedi ein hymrwymo i geisio gwella iechyd pobl drwy addysg ac ymchwil.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2068 7214
  • MarkerYsbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XN

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol fel meddygaeth, deintyddiaeth, iechyd y cyhoedd neu faes cysylltiedig arall, neu radd gyfatebol ryngwladol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Geirda (academaidd neu broffesiynol) sy'n dangos eich addasrwydd ar gyfer y rhaglen. Dylai eich canolwr roi sylwadau ar eich gallu academaidd, cymhelliant ar gyfer iechyd y cyhoedd, moeseg gwaith, a chymeriad cyffredinol. Dylid llofnodi geirda, dyddiad a llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail o leiaf dwy flynedd o brofiad proffesiynol perthnasol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae’r MPH llawn amser yn para deg mis i gyd, ac mae’n cynnwys dau gam – “cam A” (cam a addysgir) a “cam Y” (cam traethawd ymchwil).

Cam a addysgir
Mae’r cam hwn yn para oddeutu saith mis, ac mae’n cynnwys chwe modiwl craidd 20 credyd, sy’n dod i gyfanswm o 120 credyd, ar Lefel 7.

Cam y traethawd hir
Mae’r cam hwn yn para tri mis arall, ac mae’n cynnwys traethawd hir sy’n 60 credyd ar Lefel 7, i gyflawni cyfanswm cyfunol o 180 credyd ar Lefel 7 er mwyn cwblhau rhaglen MPH.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Mae angen i fyfyrwyr llawn amser fynychu 1.5 diwrnod o addysgu bob wythnos, yn ogystal ag astudiaeth annibynnol. Cynhelir y rhain ar ddydd Mercher a dydd Iau bob wythnos. Bydd Llawlyfr y Cwrs yn darparu cynnwys y cwrs ar gyfer y dyddiau hyn.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Methodoleg YstadegolMET21220 credydau
Epidemioleg SylfaenolMET41320 credydau
Epidemioleg GymhwysolMET41420 credydau
Economeg Iechyd, Polisi a ChynllunioMET41520 credydau
Traethawd hir: Iechyd y CyhoeddMET05860 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Gwella IechydMET21320 credydau
Diogelu IechydMET21420 credydau
Iechyd Byd-eangMET41020 credydau
Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn IechydMET41620 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae pob modiwl yn cynnwys darlithoedd wyneb yn wyneb ac e-ddysgu, sgyrsiau anffurfiol, ymarferion mewn grwpiau bach a sesiynau ymarferol. Rydym yn defnyddio ystod o ddulliau dysgu gan gynnwys trafodaethau, fforymau trafod, a sesiynau llawn wedi’u darparu gan arbenigwyr allweddol yn y maes. Bydd y defnydd o’r gwahanol ddulliau dysgu yn meithrin cymuned o arfer ac yn gwella eich cydweithrediad gyda’ch cyfoedion a’r gyfadran, gan gydnabod y bydd gan unigolion arddulliau ac anghenion dysgu gwahanol.  Cefnogir y cwrs gan gyfres o ddeunydd eDdysgu ar ryngwyneb modern ar y we, sy’n addas ar gyfer cyfrifiaduron traddodiadol a llechi ac sy’n defnyddio dulliau addysgu wyneb i waered.

Addysgir methodoleg ystadegol ochr yn ochr â meddalwedd ystadegol. Mae hyn yn eich galluogi chi i ddysgu cysyniadau damcaniaethol a’u cymhwysiad.

Mae cyfathrebu syniadau a gwaith tîm yn rhan hanfodol o bob modiwl, ac maent yn ffurfio rhan o’r asesiadau ffurfiannol ym mhob modiwl. Mae hyrwyddo sgiliau sylfaenol technoleg gwybodaeth wedi’i integreiddio i’r modiwlau, ac mae cefnogaeth technoleg ddysgu ar gael i’r rhai y mae ei hangen arnynt.

Mae gan bob modiwl ei ddeilliannau dysgu ei hun. Cyflawnir y deilliannau hyn drwy ddulliau fel testunau darllen argymelledig, dysgu hunan-gyfeiriedig a thasgau hunanasesu, aseiniadau ffurfiannol a chrynodol, a’r traethawd hir terfynol.

I raddau helaeth, bydd astudiaethau ar lefel traethawd hir MPH yn golygu astudiaeth ac ymchwil annibynnol dan arweiniad, gan wneud defnydd o’r cyfleusterau dysgu ac ymchwil helaeth sydd ar gael. Bydd goruchwylydd prosiect yn cael ei ddynodi i’ch cefnogi a’ch cynghori ar ymchwilio a llunio eich pwnc traethawd hir penodol.

Sut y caf fy asesu?

Defnyddir cyfuniad o’r dulliau asesu canlynol i asesu gwybodaeth a dealltwriaeth: 

  • Profion dosbarth heb eu gweld sy’n cynnwys cwestiynau ateb byr neu strwythuredig neu gwestiynau amlddewis  
  • Cyflwyniadau llafar  
  • Aseiniadau ysgrifenedig unigol, gan gynnwys adroddiadau, tasgau strwythuredig (fel dadansoddi data ac arfarnu beirniadol), traethodau a chyflwyniadau poster 

Bydd eich traethawd hir yn cael ei asesu ar sail adroddiad ysgrifenedig o’ch prosiect traethawd hir.

Sut y caf fy nghefnogi?

Rydym yn rhoi pwyslais ar gefnogi myfyrwyr â dysgu annibynnol mewn amgylchedd a gaiff ei lywio gan ymchwil a gwasanaeth, gan gaffael sgiliau ymarferol o ansawdd uchel a datblygu syniadau arloesol.

Mae tîm o staff academaidd, gweinyddol, technoleg dysgu a llyfrgell ar gael drwy gydol y flwyddyn i’ch cefnogi.  Caiff tiwtor personol ei neilltuo i bob myfyriwr i roi cymorth a chefnogaeth gydag anghenion academaidd a bugeiliol, a gallwch gysylltu â nhw i drafod cynnydd ac i gael cyngor ac arweiniad fel bo angen.  Bydd gennych fynediad hefyd at diwtor arweiniol y modiwl i gael cefnogaeth bellach pan fydd angen. 

Darperir adborth drwy gydol y modiwlau drwy ymarferion ffurfiannol a rhyngweithio yn y dosbarthiadau. Cynhelir asesiadau ffurfiannol drwy ymarferion ymarferol a chyflwyniadau dosbarth, a darperir adborth ysgrifenedig. Darperir adborth hefyd ar asesiadau crynodol, a lle bo’n briodol drwy fyrddau trafod ar-lein ac ymarferion efelychu.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddant yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych. 

Gellir gweld y Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Gwerthuso mesurau epidemiolegol rheolaidd iechyd a chlefydau yn feirniadol, gan gynnwys methodolegau a dulliau ymchwil iechyd y cyhoedd ac epidemiolegol, gan werthuso’n feirniadol eu cywirdeb a’u dilysrwydd wrth fynd i’r afael â chwestiynau iechyd y boblogaeth a llywio penderfyniadau.
  • Ystyried rôl epidemioleg a’i chyfraniad at iechyd y cyhoedd, gan gynnwys goruchwylio iechyd, diogelu iechyd a hyrwyddo iechyd gan ddefnyddio tystiolaeth gyfoes i gefnogi trafodaethau a gweithredu, gan ddeall gwahanol gyd-destunau gwleidyddol ac economaidd a sut a pham fod yn rhaid teilwra ymyriadau i wahanol sefyllfaoedd.
  • Dadansoddi a dehongli yn feirniadol ddosbarthiad a phenderfynyddion iechyd a chlefydau, gan wreiddio’r rhain mewn safbwyntiau damcaniaethol sy’n helpu i ddeall effaith ymddygiad a phenderfynyddion cymdeithasol iechyd a lles.
  • Cynllunio’r gwaith o ymchwilio i broblemau iechyd y cyhoedd mewn modd strategol, gan integreiddio’r gallu i ddatblygu asesiad cadarn o anghenion iechyd gyda mesurau dilys o reoli clefydau a hyrwyddo lles drwy werthusiad beirniadol gan ddefnyddio tystiolaeth o ansawdd uchel a chrebwyll clinigol, a mynd i’r afael â materion cydraddoldeb, effeithiolrwydd a chynllunio gofal iechyd.
  • Cyfosod damcaniaeth rheoli ac arwain i archwilio eu heffaith ar newid rheolwyr, gweithio mewn tîm, polisi, gweithrediad sefydliadol a strategaeth, gan gynnwys ariannu gwasanaethau iechyd.
  • Trafod yn feirniadol y cysyniadau sy’n sail i economeg iechyd a chyfosod i arfer y modelau economaidd iechyd mwyaf priodol i’w defnyddio yng nghyd-destun gofal iechyd, gan gyfiawnhau modelau i sefyllfaoedd ymarferol
  • Ystyried yn feirniadol yr asiantau heintus sylweddol a’r peryglon amgylcheddol a galwedigaethol sydd o bwys i iechyd y cyhoedd, a goblygiadau dod i gysylltiad â’r rhain, gan gynnwys rôl asesu risg a chyfathrebu a rheoli risg, gan ddefnyddio cysyniadau clefydau trosglwyddadwy a chefnogi gwaith cynllunio a pharatoi ar gyfer argyfwng.
  • Cyfosod damcaniaeth ac ymchwil gwella ansawdd i hwyluso adolygiad beirniadol o arfer clinigol, gan gynnwys dadansoddi’r gwahanol ymagweddau damcaniaethol tuag at gynllunio a gwerthuso ymyriadau i wella iechyd y cyhoedd
  • Trafod cysyniadau addysg iechyd, llythrennedd iechyd, ac ymwybyddiaeth iechyd, a’r prosesau sy’n eu defnyddio i bennu dewisiadau ac ymddygiadau ffordd o fyw sy’n berthnasol i iechyd, gan gyfosod modelau’n ymwneud â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd a lles.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • trafod yn feirniadol gyda chydweithwyr gwybodus ynghylch materion allweddol iechyd y cyhoedd, a gwerthuso effeithiolrwydd ymyriadau drwy archwilio, gwerthuso gwasanaethau ac ymchwil
  • asesu pa mor briodol yw technegau ystadegol amrywiol ar gyfer dadansoddi data yn gasgliadol a’u cymhwyso’n briodol, gan ddefnyddio datblygiad rhesymegol dadansoddi data yn effeithiol, a dehongli canlyniadau mewn cyd-destun ystadegol, gan ddeall y canlyniadau o safbwynt iechyd y cyhoedd
  • defnyddio data epidemiolegol i ddadansoddi problem a ffurfio ymateb priodol, gan ddarparu rhesymeg ar gyfer y camau a gynigir

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu: 

  • asesu ymagweddau ymarferol tuag at heriau iechyd penodol a chyfoes gan ddefnyddio meddalwedd ystadegol i ddadansoddi ac archwilio data iechyd y cyhoedd, ac i grynhoi ystadegau ar gyfer cyflwyniadau data.  
  • Deall safbwynt rhanddeiliaid ar ddiffinio a mynd i’r afael â materion iechyd y cyhoedd, a deall rolau a chyfrifoldebau gwahanol asiantaethau rhyngwladol a domestig, gan ddangos rhuglder yn nherminoleg economeg iechyd.
  • defnyddio technegau epidemiolegol i werthuso systemau cadw goruchwyliaeth a chynnal ymchwil yn y maes
  • datblygu, cyflawni a gwerthuso gweithgareddau hyrwyddo iechyd gan fod yn ymwybodol o’r anawsterau ideolegol, ymddygiad, ffactorau cymdeithasol a rhagdybiaethau polisi sy’n sail i wahanol ddulliau
  • cyfosod a beirniadu’r lefel briodol o wybodaeth i’w chyfathrebu ag ystod o gynulleidfaoedd iechyd y cyhoedd, gan gynnwys uwch reolwyr, grwpiau neu unigolion sy’n cynrychioli’r cyhoedd, gwleidyddion a’r cyfryngau gan ddeall eu rolau ac ymateb yn briodol i geisiadau am wybodaeth.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu: 

  • cyfathrebu gwybodaeth yn glir, ar lafar ac yn ysgrifenedig 
  • datrys problemau a chynllunio’n rhesymegol, datrys problemau yn annibynnol ac mewn grwpiau gweithio bach 
  • dangos sgiliau negodi a gweithio’n dda mewn tîm, gan ymgynghori gyda chydweithwyr a gweithredu’n broffesiynol ar bob adeg 
  • cydnabod a gweithio o fewn cyfyngiadau cymhwysedd proffesiynol 
  • defnyddio’r rhyngrwyd i ganfod gwybodaeth gyfredol am faterion iechyd lleol, cenedlaethol a byd-eang 
  • cyfeirnodi’n gywir gan ddefnyddio dull Harvard
  • trafod yn effeithiol mewn amgylchedd aml-randdeiliad er mwyn hyrwyddo pryderon iechyd y cyhoedd

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,450 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Bydd angen cyfrifiadur dibynadwy â mynediad cyflym at y we (ac amddiffyniad cyfredol rhag firysau a maleiswedd) a meddalwedd priodol.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Gall graddedigion MPH ddewis mynd i’r gweithlu, un ai yn sector iechyd y cyhoedd neu’r sector gofal iechyd, neu gymhwyso egwyddorion iechyd y cyhoedd mewn unrhyw sector arall (e.e. tai, peirianneg, cynllunio dinesig, pensaernïaeth, cyfrifiadureg, busnes, entrepreneuriaeth, y gyfraith, neu newyddiaduraeth). Gall graddedigion hefyd wneud cais am hyfforddiant pellach mewn ymchwil (e.e. PhD) neu arfer (e.e. cymrodoriaethau, hyfforddiant arbenigol ac ati).

Mae’r cwrs hwn yn helpu myfyrwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer arholiadau Rhan A Cyfadran Iechyd y Cyhoedd y Deyrnas Unedig, gan alluogi graddedigion i ddilyn gyrfaoedd proffesiynol ym maes iechyd y cyhoedd ynghyd ag ystod eang o yrfaoedd eraill, gan gynnwys ymchwil ôl-raddedig.

Mae’r rhaglen Feistr hon yn eich galluogi i ddangos eich bod yn cymryd cyfle i ddatblygu’ch gallu dadansoddi beirniadol, datrys problemau, gwneud penderfyniadau, canfod a defnyddio tystiolaeth ac ymdrin â materion cymhleth. Nid yw’r rhaglen hon yn disodli rhaglen hyfforddi arbenigol ffurfiol, ond bydd astudio ar y lefel hon yn helpu myfyrwyr llwyddiannus i ddangos sgiliau academaidd niferus y dylid eu gwerthfawrogi’n fawr mewn perthynas â’u datblygiad a’u cynnydd gyrfaol. Yn benodol, mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i ddangos datblygiad gwybodaeth a sgiliau mewn perthynas â chymhwyso meddygaeth yn seiliedig ar dystiolaeth, a chyfoethogi posibl ar wasanaethau a fframweithiau llywodraethu. Felly, dylai ddarparu tystiolaeth o ymrwymiad a photensial a all eich cynorthwyo o ran cael rhagor o gyfrifoldebau, neu o bosib wrth geisio am swyddi rheoli, ymchwil, ysgolheigaidd neu arwain.

“Drwy astudio’r cwrs Meistr yn Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Caerdydd, cefais wybodaeth a sgiliau amhrisiadwy pan ddaeth at wneud cais am Hyfforddiant Arbenigol Iechyd y Cyhoedd. Rydw i wedi cael lle yn ddiweddar i ddechrau’r hyfforddiant arbenigol, ac rwy’n sicr mai’r ffaith fy mod eisoes wedi dechrau astudio’r MPH wnaeth y gwahaniaeth o ran llwyddo ai peidio.”

Oliver Williams, myfyriwr MPH (wedi cofrestru yn 2018)

“Gyda chefndir yn y Geowyddorau Amgylcheddol, roedd gen i lawer i’w ddysgu am Iechyd y Cyhoedd. Fodd bynnag, gyda brwdfrydedd a chefnogaeth y staff ac arbenigwyr iechyd y cyhoedd, gorffennais i’r MPH yn teimlo’n falch o’r hyn ro’n i wedi’i gyflawni. Darparodd natur gynhwysfawr y modiwlau a addysgir sail fanwl, gan fy ngalluogi i gymhwyso ac archwilio’r cyd-destun ehangach yn seiliedig ar y wybodaeth yma. Daeth fy astudiaethau i ben gyda’r traethawd hir, lle ces i gyfle i ddadansoddi data crai gan Médecins Sans Frontières (Meddygon heb Ffiniau), er mwyn archwilio ffactorau risg o ran difrifoldeb a marwolaeth o Hepatitis E mewn gwersylloedd i ffoaduriaid yn Ne Swdan. Ar ôl cwblhau fy MPH, ces fy ysgogi i barhau â fy ymchwil Iechyd y Cyhoedd, a dechreuais ysgoloriaeth PhD ym Mhrifysgol Birmingham, gyda’r nod o lywio ymyriadau iechyd ar gyfer llygredd aer dan do yn Rwanda ddinesig. Mae’r sgiliau a’r wybodaeth a gefais o’r MPH wedi bod yn amhrisiadwy yn ystod misoedd cyntaf fy nghwrs PhD, gan fy ngalluogi i lunio papur i’w gyhoeddi gan ddefnyddio data peilot.’

Katherine Woolley, MPH 2017-18

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Gofal iechyd, Meddygaeth, Gwyddorau cymdeithasol


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.