Seiciatreg
Mae'r cwrs yn addas ar gyfer gweithwyr meddygol proffesiynol a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy’n dymuno meithrin gwybodaeth drylwyr o’r syniadau a’r arferion cyfredol ym maes seiciatreg.
Mae modiwlau annibynnol yn ffordd wych o wella eich gwybodaeth a chyfrannu at bortffolio eich datblygiad proffesiynol parhaus. Bydd cwblhau pob modiwl yn llwyddiannus yn rhoi credyd sefydliadol ichi, ond nid diben y modiwlau annibynnol a restrir yma yw gweithio tuag at gymhwyster penodol (e.e. PGCert/PgDip/MSc). Os hoffech chi astudio er mwyn ennill cymhwyster a enwir, edrychwch ar ein MSc Seiciatreg.
Mae seiciatreg yn faes meddygaeth y bydd pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn dod ar ei draws yn aml trwy gydol ei yrfa. Boed yn achos ysgafn o straen ac iselder neu salwch seiciatrig mwy difrifol, mae ein dealltwriaeth glinigol o'r cyflyrau hyn wedi gwella'n aruthrol yn ystod y degawdau diwethaf.
Mae gan ymchwil ar y ffactorau genetig, biolegol, niwrowybyddol ac amgylcheddol sy'n dylanwadu ar nifer yr achosion o salwch seiciatrig yn y boblogaeth gyffredinol yn cael effaith uniongyrchol ar ein hymarfer clinigol dyddiol. Oherwydd natur gymhleth salwch seiciatryddol, byddai gwell dealltwriaeth o seiciatreg o fudd i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio mewn meysydd sy'n gysylltiedig â seiciatreg a/neu'n debygol o ddod i gysylltiad â salwch seiciatryddol yn rheolaidd.
Gan ein bod yn sefydliad ymchwil byd-enwog ym maes seiciatreg, seicoleg a niwrowyddoniaeth, mae Ysgol Meddygaeth yn falch o gynnig y modiwlau annibynnol hyn.
Bydd pob modiwl ar Lefel 7, sydd â 20 credyd, yn digwydd unwaith pob blwyddyn academaidd, ac mae’n cael ei gynnal ar-lein drwy ddysgu o bell. Mae'r modiwlau hyn yn defnyddio rhyngwyneb gwe modern sy'n gydnaws ag ystod eang o ddyfeisiau electronig, boed yn gyfrifiaduron personol neu lechenni. Bydd myfyrwyr yn cael gweld darlithoedd wedi'u recordio gan arbenigwyr pwnc, fideos o gyfweliadau â chleifion, tiwtorialau rhyngweithiol ar-lein, strategaeth asesu wedi'i moderneiddio a hyblyg, gwerslyfrau ar-lein ac e-adnoddau.
MET461 Anhwylderau Gorbryder ac Iselder
Yn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i wneud diagnosis a rheoli cleifion ag anhwylderau sy'n gysylltiedig â gorbryder ac ofn yn ogystal ag anhwylderau gorfodaeth obsesiynol, datgysylltiol ac iselhaol. Bydd y myfyrwyr hefyd yn dysgu'r seicoleg, y ffarmacoleg, y niwrowyddoniaeth a’r geneteg sy'n sail i’r diagnosis a sut i reoli'r mathau hyn o salwch.
Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar nodweddion allweddol seiciatreg. Bydd y pwyslais ar Feddyginiaeth sy’n seiliedig ar Dystiolaeth a’i ddiben yw rhoi'r galluoedd academaidd y mae eu hangen ar y myfyriwr i ymarfer seiciatreg ar y lefel uchaf un.
MET462 Seicosis ac Anhwylder Deubegynol
Yn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i wneud diagnosis a rheoli cleifion â sgitsoffrenia neu anhwylderau seicotig sylfaenol eraill ac anhwylderau deubegwn ac anhwylderau cysylltiedig. Bydd y myfyrwyr hefyd yn dysgu'r seicoleg, y ffarmacoleg, y niwrowyddoniaeth a’r geneteg sy'n sail i’r diagnosis a sut i reoli'r mathau hyn o salwch.
Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar nodweddion allweddol seiciatreg. Bydd y pwyslais ar Feddyginiaeth sy’n seiliedig ar Dystiolaeth a’i ddiben yw rhoi'r galluoedd academaidd y mae eu hangen ar y myfyriwr i ymarfer seiciatreg ar y lefel uchaf un.
MET463 Anhwylderau Ymddygiadol a Dementia
Yn y modiwl hwn, bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i wneud diagnosis a rheoli cleifion â mathau gwahanol o syndrom dementia, anhwylderau deffro cwsg, anhwylderau bwyta ac anhwylderau'r pwerperïwm ac anhwylderau seicorywiol. Bydd y myfyrwyr hefyd yn dysgu'r seicoleg, y ffarmacoleg, y niwrowyddoniaeth a’r geneteg sy'n sail i’r diagnosis a sut i reoli'r mathau hyn o salwch.
Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar nodweddion allweddol seiciatreg. Bydd y pwyslais ar Feddyginiaeth sy’n seiliedig ar Dystiolaeth a’i ddiben yw rhoi'r galluoedd academaidd y mae eu hangen ar y myfyriwr i ymarfer seiciatreg ar y lefel uchaf un.
MET464 Anhwylderau Organig a Seiciatreg Anabledd Deallusol
Yn y modiwl hwn, bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i adnabod arwyddion anhwylderau organig yr ymennydd sy'n achosi symptomau seiciatrig a sut i reoli'r symptomau seiciatrig hynny. Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i adnabod a rheoli salwch seiciatrig mewn pobl ag anabledd deallusol. Ymdrinnir yn fanwl ag anhwylderau penodol megis epilepsi a deliriwm. Bydd y myfyrwyr hefyd yn dysgu am y niwroleg, y niwroanatomeg, y niwrobatholeg a’r niwroseiciatreg sy'n gysylltiedig ag anhwylderau genetig a chlefydau organig yr ymennydd gan gynnwys tiwmorau, anafiadau corfforol a sawl math o salwch niwrolegol sy'n sail i ddiagnosis a sut i reoli'r afiechydon hyn.
Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar nodweddion allweddol seiciatreg. Bydd y pwyslais ar Feddyginiaeth sy’n seiliedig ar Dystiolaeth a’i ddiben yw rhoi'r galluoedd academaidd y mae eu hangen ar y myfyriwr i ymarfer seiciatreg ar y lefel uchaf un.
MET465 Seiciatreg Fforensig a Chamddefnyddio Sylweddau
Yn y modiwl hwn, bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i wneud diagnosis a rheoli troseddwyr ag anhwylder meddwl, cleifion ag anhwylderau personoliaeth neu anhwylderau meddwl oherwydd camddefnyddio sylweddau. Bydd y myfyrwyr hefyd yn dysgu'r seicoleg, y ffarmacoleg a’r niwrowyddoniaeth sy'n sail i ddiagnosis a sut i reoli'r afiechydon hyn yn ogystal ag agweddau ar gyfraith y DU fel y mae'n berthnasol i seiciatreg.
Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar nodweddion allweddol seiciatreg. Bydd y pwyslais ar Feddyginiaeth sy’n seiliedig ar Dystiolaeth a’i ddiben yw rhoi'r galluoedd academaidd y mae eu hangen ar y myfyriwr i ymarfer seiciatreg ar y lefel uchaf un.
MET466 Anhwylderau Plant a'r Glasoed
Yn y modiwl hwn, bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i wneud diagnosis a rheoli salwch meddwl plant a phobl ifanc gan gynnwys y mathau hynny o salwch sy'n datblygu yn ystod plentyndod megis anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd ac anhwylder ar y sbectrwm awtistig. Bydd y myfyrwyr hefyd yn dysgu'r seicoleg a'r ffarmacoleg sy'n sail i ddiagnosis a sut i reoli'r afiechydon hyn
Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar nodweddion allweddol seiciatreg. Bydd y pwyslais ar Feddyginiaeth sy’n seiliedig ar Dystiolaeth a’i ddiben yw rhoi'r galluoedd academaidd y mae eu hangen ar y myfyriwr i ymarfer seiciatreg ar y lefel uchaf un.
Rydyn ni’n cadw'r hawl i ganslo modiwlau unigol. Hwyrach y bydd hyn yn digwydd os na fydd digon wedi cofrestru ar gwrs neu os bydd newid yn yr amgylchiadau. Digwydd hyn oherwydd bod angen lleiafswm o fyfyrwyr ar rai modiwlau cyn y gellir eu cynnal. Diben hynny yw gwneud yn siŵr y gellir cynnal addysg o safon briodol. Os bydd hyn yn digwydd byddwn ni’n rhoi ad-daliad llawn neu rannol gan ddibynnu ar a gynhaliwyd dosbarthiadau neu beidio.
Gofynion mynediad
Fel arfer, bydd myfyrwyr sy'n dymuno ymrestru ar gyfer y rhaglen hon yn meddu ar radd gychwynnol mewn meddygaeth a ddyfarnwyd gan sefydliad cydnabyddedig.
Byddwn ni’n ystyried graddedigion yn y meysydd astudio canlynol hefyd: seicoleg, nyrsio neu unrhyw bwnc cysylltiedig ym maes gofal iechyd neu wyddor fiolegol. Gellir hefyd ystyried graddedigion o ddisgyblaethau eraill.
Yn ôl disgresiwn y brifysgol, gellir derbyn myfyrwyr nad ydyn nhw’n raddedigion hefyd ar y modiwl a gynigir:
- rydych chi wedi dal swydd gyfrifol sy'n berthnasol i'r cwrs am o leiaf dwy flynedd
neu
- o dan amgylchiadau eithriadol, bernir eich bod yn gallu dangos sgiliau cyfatebol sy'n ddigonol i fodloni gofynion y cwrs
Sut i wneud cais
Cysylltwch â’n Tîm Derbyn Myfyrwyr i Gyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir i gael manylion ar sut i wneud cais.
Cyllid a ffioedd
Ewch i’n tudalennau ffioedd dysgu i weld y ffioedd dysgu ar gyfer y rhaglenni hyn.
Postgraduate Taught Admissions Team
School of Medicine