Ewch i’r prif gynnwys

Meddygaeth Liniarol ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol

Lluniwyd y modiwlau amlddisgyblaethol hyn ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n dymuno gwella eu gwybodaeth am reoli cleifion sydd â salwch angheuol neu salwch na ellir ei wella.

Gallwch chi astudio pob modiwl yn unigol i gyfrannu at bortffolio eich datblygiad proffesiynol parhaus ac yn rhan o'r MSc Meddygaeth Liniarol ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol. Bydd pob modiwl unigol ar Lefel 7, sydd â 20 credyd, yn digwydd unwaith pob blwyddyn academaidd, a'i gynnal ar-lein drwy ddysgu o bell.  Yn rhan o'r rhaglen MSc, bydd gan bob modiwl raglen gynefino a thrafod fydd naill ai wyneb yn wyneb yn gyfan gwbl neu bydd hanner ohono wyneb yn wyneb. Mae croeso hefyd i fyfyrwyr sy'n ymrestru ar y modiwlau sy’n fodiwlau unigol fynd i’r rhain. Cynhelir hyn yng Nghaerdydd bob mis Medi.

Mae pob modiwl yn mynd i'r afael ag anghenion gofal lliniarol cleifion waeth beth fo'r diagnosis, gan gydnabod yr angen cyffredinol am wybodaeth a sgiliau ym maes gofal lliniarol

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r cysyniad o ofal lliniarol – ei ddiffiniadau a'i dermau a'i rôl wrth ddarparu gofal iechyd yn gyffredinol.  Bydd asesu symptomau ar lefel sylfaenol a'r foeseg sy'n sail i benderfyniadau clinigol yn cael eu hamlinellu gan gyfeirio at fframweithiau defnyddiol er mwyn eich helpu i adnabod symptomau corfforol a seicogymdeithasol mewn lleoliadau clinigol a gofal iechyd gwahanol.

Bydd y modiwl hefyd yn ymdrin ag asesu a rheoli poen ar gyfer cleifion gofal lliniarol, a sgiliau cyfathrebu mewn perthynas â siarad â chleifion a theuluoedd am ofal lliniarol.

Bydd y deunydd yn berthnasol ar draws lleoliadau gofal iechyd gwahanol, gan gynnwys gofal lliniarol pediatrig.

Mae'r modiwl hwn yn ystyried rheoli symptomau corfforol (ac eithrio poen).  Byddwch chi’n astudio ystod eang o symptomau corfforol wrth ichi reoli symptomau corfforol eich cleifion y mae angen gofal lliniarol arnyn nhw.

Mae'r maes llafur yn cynnwys ystyriaeth fanwl o symptomau niwrolegol, symptomau gastroberfeddol, symptomau anadlol a chylchrediad y gwaed yn ogystal â symptomau eraill sy'n effeithio ar gleifion mewn lleoliadau gofal lliniarol.

Bydd deunydd y modiwl hwn yn berthnasol ar draws lleoliadau gofal iechyd gwahanol, gan gynnwys gofal lliniarol pediatrig.

Bydd y modiwl hwn yn ystyried yr heriau gofal moesegol, cyfreithiol a chymhleth ynghlwm wrth leoliadau clinigol gwahanol, megis Unedau Gofal Dwys (ICU), gofal yn y carchar a gofal trosiannol.  Bydd rôl gallu meddyliol wrth wneud penderfyniadau yn cael ei hystyried yn ogystal ag asesu symptomau yn absenoldeb lleferydd uniongyrchol ac yn achos cleifion â dementia.

Canolbwyntir hefyd ar reoli poen, trallod a symptomau cleifion sydd â deliriwm, anabledd dysgu neu ddementia.

Bydd y modiwl hefyd yn ymdrin â'r heriau moesegol sy'n ymwneud ag ewthanasia, marw â chymorth a thynnu'n ôl/atal triniaeth, yn ogystal â fframwaith cyfreithiol materion megis rhagnodi all-drwydded, gofal yn y carchar a diogeliadau amddiffyn rhyddid.

Yn sgîl y cynnwys, byddwch chi’n gallu defnyddio eich gwybodaeth bresennol o egwyddor foesegol yn y meysydd ymarfer dan ystyriaeth.

Bydd y modiwl hwn yn ystyried yr heriau o ran gofal moesegol, cyfreithiol a chymhleth sy'n codi mewn lleoliadau clinigol pediatrig gwahanol, megis gofal plant newydd-anedig, Unedau Gofal Dwys Pediatrig (PICU), gofal trosiannol, a gofal plant yr ystyrir eu bod 'mewn perygl'.  Bydd rôl gallu meddyliol wrth wneud penderfyniadau yn cael ei hystyried yn ogystal ag asesu symptomau yn absenoldeb lleferydd uniongyrchol ac yn achos cleifion sydd ag anabledd dysgu.

Canolbwyntir hefyd ar reoli poen, trallod a symptomau cleifion sydd ag anabledd dysgu.  Trafodir yr heriau moesegol ynghlwm wrth gyflyrau niwrolegol hirdymor, ewthanasia, hunanladdiad â chymorth a thynnu'n ôl/atal triniaeth.  Bydd fframwaith cyfreithiol pynciau megis rhagnodi all-drwydded a deddfwriaeth amddiffyn plant mewn gwledydd gwahanol hefyd yn cael sylw.

Yn sgîl y cynnwys, byddwch chi’n gallu defnyddio eich gwybodaeth bresennol o egwyddor foesegol yn y meysydd ymarfer dan ystyriaeth.

Ystyried y claf a'r rheini sydd agosaf atyn nhw yw thema ganolog y modiwl hwn.  Bydd yn ystyried pob agwedd ar ofal yn ystod blwyddyn olaf bywyd gan gynnwys: sgoriau prognostig, y lle a ddymunir ar gyfer y gofal a marwolaeth, sgyrsiau cynllunio gofal ymlaen llaw, dymuniadau ynghylch diwedd oes a heriau'r sgyrsiau hynny.  Gan ganolbwyntio ymhellach ar anghenion gofal yn ystod y 12 awr cyn y farwolaeth, adeg y farwolaeth a'r canlyniad uniongyrchol, bydd materion penodol a gofynion cyfreithiol yn cael eu hystyried.

Bydd pwyslais hefyd ar adolygu, mesur ac ymchwilio i safon gofal diwedd oes, gan anelu at greu chwilfrydedd parhaus i wella gofal yn ystod blwyddyn olaf ac eiliadau olaf bywyd.

Bydd deunydd y modiwl hwn yn berthnasol ar draws lleoliadau gofal iechyd gwahanol, gan gynnwys gofal lliniarol pediatrig.

Bydd y modiwl hwn yn ystyried y ffyrdd posibl y bydd eich gweithle yn effeithio ar sut rydych chi’n gallu ymarfer a darparu gofal lliniarol.  Bydd yn codi ymwybyddiaeth o ofal lliniarol mewn lleoliadau gofal iechyd gwahanol ac mewn timau rhyngddisgyblaethol sydd ag adnoddau amrywiol.  Bydd gwella effeithiolrwydd timau clinigol wrth ddarparu gofal lliniarol yn cael ei astudio a bydd disgwyl ichi fyfyrio'n feirniadol ar weithio mewn tîm a thrafod yr hyn sy’n ysgogi a’r hyn sy’n rhwystro mewn perthynas â chynyddu effeithiolrwydd.  Yn rhan o hyn, bydd y modiwl yn ystyried meini prawf safon trosglwyddo prosesau gofal a ffyrdd o wella cyfathrebu effeithiol rhwng gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a theuluoedd ynghylch darparu gofal lliniarol.

Gan ehangu ar bwnc effeithiolrwydd, bydd y modiwl yn cyflwyno egwyddorion craidd dylunio a methodoleg ymchwil fel y byddwch chi’n gallu dehongli a chynllunio eich astudiaethau ymchwil.

Ystyrir rôl cymunedau wrth gefnogi’r gwaith o ddarparu gofal lliniarol yn ogystal ag effaith modelau darparu gofal iechyd strategol ar ddarparu gofal lliniarol i gleifion a theuluoedd.  Drwy gydol y modiwl, byddwn ni’n canolbwyntio’n benodol ar gleifion a bydd gwella gofal wrth wraidd datblygu gwasanaethau.

Bydd deunydd y modiwl hwn yn berthnasol ar draws lleoliadau gofal iechyd gwahanol, gan gynnwys gofal lliniarol pediatrig.

Bydd y modiwl hwn yn ystyried sut i ddefnyddio'ch gwybodaeth am ofal lliniarol i effeithio ar wasanaethau gofal lliniarol lle rydych chi'n gweithio.  Mae'n canolbwyntio ar sut i weithio tuag at wella gwasanaethau drwy ymchwil a gwella safon.  Bydd yn astudio ffyrdd o rannu eich gwybodaeth, dulliau mesur safon gofal a mesur symptomau.  Bydd pwyslais ar ddefnyddio tystiolaeth, dylunio prosiectau a dulliau a moeseg ymchwil a gwella safon, gan gynnwys effaith ymchwil ar gleifion a’r mesurau diogelu y mae angen eu rhoi ar waith.  Nod y modiwl felly yw eich helpu i ddatblygu eich sgiliau wrth werthuso llenyddiaeth ymchwil yn feirniadol, ysgrifennu achosion busnes, cynigion a dogfennau strategol i ategu eich syniadau o ran datblygu gwasanaethau.  Bydd materion rheoli newidiadau’n cael eu hystyried yn ogystal ag ysgrifennu achosion busnes, ceisiadau grant a chyhoeddi’n effeithiol.

Bydd deunydd y modiwl hwn yn berthnasol ar draws lleoliadau gofal iechyd gwahanol, gan gynnwys gofal lliniarol pediatrig.

Rydyn ni’n cadw'r hawl i ganslo modiwl unigol. Hwyrach y bydd hyn yn digwydd os na fydd digon wedi cofrestru ar gwrs neu os bydd newid yn yr amgylchiadau. Digwydd hyn oherwydd bod angen lleiafswm o fyfyrwyr ar rai modiwlau cyn y gellir eu cynnal. Diben hynny yw gwneud yn siŵr y gellir cynnal addysg o safon briodol. Os bydd hyn yn digwydd byddwn ni’n rhoi ad-daliad llawn neu rannol gan ddibynnu ar a gynhaliwyd dosbarthiadau neu beidio.

Gofynion mynediad

Yn ogystal â bodloni isafswm gofynion mynediad y Brifysgol, gan gynnwys gofynion o ran Saesneg, mae'n rhaid bod ymgeiswyr:

  • yn raddedigion meddygaeth neu broffesiwn sy'n gysylltiedig â meddygaeth, neu'n nyrsys â chymhwyster RGN
  • â chofrestriad proffesiynol cyfredol
  • yn gweithio mewn rôl glinigol ar hyn o bryd.

Dylai’r ymgeiswyr nad ydyn nhw’n bodloni'r gofynion uchod gysylltu â’r Tîm Derbyn Myfyrwyr i Gyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yn yr Ysgol Meddygaeth i gael cyngor: pgtmedadmissions@caerdydd.ac.uk.

Sut i wneud cais

Cysylltwch â’n Tîm Derbyn Myfyrwyr i Gyrsiau Ôl-raddedig i gael manylion ar sut i wneud cais.

Cyllid a ffioedd

Ewch i’n tudalennau ffioedd dysgu i weld y ffioedd dysgu ar gyfer y rhaglenni hyn.

Tîm Derbyn Ôl-raddedig a Addysgir

Yr Ysgol Meddygaeth