Ewch i’r prif gynnwys

Data eich cais

Sut mae data personol yn cael ei ddefnyddio wrth ymgeisio am le ar raglen hyfforddiant doethurol gydweithredol.

Os ydych yn ymgeisio am le ar raglen hyfforddiant doethurol gydweithredol a ddarparir gan Brifysgol Caerdydd a phrifysgolion eraill, sefydliadau ymchwil a/neu bartneriaid, byddwch yn ymwybodol bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio a’i ddatgelu ar gyfer y dibenion a nodir isod.

Bydd eich data personol yn cael ei brosesu yn unol â Deddf Gwarchod Data 1998 bob amser. Bydd Prifysgol Caerdydd ("Prifysgol") yn parhau fel rheolydd data ar gyfer y data personol mae’n ei gadw. Gall brifysgolion eraill, sefydliadau ymchwil a/neu bartneriaid (HEIs) fod yn rheolwyr data ar gyfer y data personol perthnasol maent yn derbyn o ganlyniad i'w cyfranogiad yn y rhaglen hyfforddiant doethurol gweithredol ("Rhaglen").

Cyflwyno cais

Yn ystod y broses o gyflwyno cais, gall fod angen i’r Brifysgol rannu ychydig o’ch data personol gyda thrydydd parti i allu gweinyddu eich cais, cynnal cyfweliadau a dewis ymgeiswyr. Nid ydynt yn gyfyngedig i, ond gall gynnwys datgeliadau i:

  • y panel dethol a/neu fwrdd rheoli neu gyfwerth o’r Rhaglen berthnasol, sydd yn debygol o gynnwys staff o fwy nag un HEIs.
  • Staff gweinyddol mewn un neu ragor o Sefydliadau Addysg Uwch sy’n cymryd rhan yn y rhaglen berthnasol

Bydd y math yma o ddatgeliadau yn cael eu cadw i’r lleiafswm o ran y data personol sydd ei angen ar gyfer y dibenion penodol. Gall fod angen i’ch data personol sensitif gael ei rannu mewn amgylchiadau penodol, ond dim ond pan yn gwbl angenrheidiol. Drwy ymgeisio am le, rydych felly'n rhoi caniatâd i’ch data gael ei brosesu a’u rannu yn y modd hwn.

Ymgeiswyr llwyddiannus

Os bydd eich cais yn llwyddiannus ac rydych yn cofrestru ar raglen, gall fod angen i’r Brifysgol wneud datgeliadau pellach o’ch data personol drwy gydol eich amser ar y rhaglen. Mae hyn er mwyn sicrhau bod eich astudiaethau'n cael eu rheoli'n effeithiol ac i gydymffurfio gyda’i rhwymedigaethau i gyllidwyr. Gall y datgeliadau gynnwys yr isod, ond nid ydynt yn gyfyngedig i ddatgeliadau:

  • o fewn grŵp Sefydliadau Addysg Uwch y Rhaglen
  • i bartïon cydweithredol arall y Rhaglen berthnasol e.e.. noddwyr diwydiannol a/neu gydweithwyr, goruchwylwyr o Sefydliadau Addysg Uwch eraill, Cynghorau Ymchwil (sef cyllidwyr y rhaglen)
  • i arholwyr allanol

Gellir gwneud datgeliadau pellach os yn angenrheidiol ar gyfer gweinyddu eich astudiaethau.

Cael gweld eich data personol

Os ydych yn dymuno cael gweld eich data personol sy'n cael ei gadw gan y Brifysgol, cysylltwch â InfoRequest@caerdydd.ac.uk. Gall fod ffi o £10 yn gysylltiedig gyda’r math yma o geisiadau.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon am ddefnyddio eich data personol yn ystod y broses cyflwyno cais neu yn ystod eich amser fel myfyriwr, cysylltwch ag Ansawdd a Gweithrediadau Ôl-raddedig (Y Gofrestra):

Ansawdd a Gweithrediadau Ôl-raddedig