Ewch i’r prif gynnwys

Ysgrifennu cynnig ymchwil

Mae'n rhaid cyflwyno cynnig ymchwil gyda'ch cais ar gyfer y rhan fwyaf o raddau ymchwil.

Os ydych yn gwneud cais ar gyfer prosiect ymchwil penodol a gafodd ei hysbysebu, yn enwedig pan fod y prosiect ymchwil wedi ei ddiffinio’n barod, efallai mai ond teitl y prosiect, y goruchwyliwr dynodedig a disgrifiad yn hytrach na chynllun fydd angen eu cynnwys.

Edrychwch ar gofnod y rhaglen ar y Chwiliwr Cyrsiau neu ar yr hysbyseb i weld a oes angen i chi ddarparu cynnig ymchwil.

Mae cynnig ymchwil yn ffurfio rhan hanfodol o’ch cais am radd ymchwil a dylid ei ddatblygu gyda'ch goruchwyliwr arfaethedig os yn bosib. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gennych brosiect addas ar gyfer gradd ymchwil mewn golwg a bod gan yr Ysgol berthnasol yr arbenigedd angenrheidiol i ddarparu digon o oruchwyliaeth.

Pa mor hir y bydd yn rhaid i’r cynnig fod?

Mae hyd a strwythur y cynnig yn dibynnu ar yr Ysgol a’r radd ymchwil rydych yn gwneud cais amdani.

Strwythur awgrymedig

Argymhellir bod y cynnig yn cael ei strwythuro fel ei fod yn cynnwys y canlynol, os ydynt yn berthnasol i'ch ymchwil arfaethedig:

  • teitl awgrymedig ar gyfer y prosiect ymchwil arfaethedig
  • nodau ac amcanion yr ymchwil
  • rhestr o gwestiynau y bydd yr ymchwil yn rhoi sylw iddynt
  • llyfryddiaeth mynegol a chrynodeb o’r ymchwil a wnaed eisoes yn y maes hwn
  • amlinelliad o fethodoleg/cynllun arfaethedig, gan gynnwys gwybodaeth am sampl yr ymchwil a dulliau casglu data.

Beth arall y mae angen ei gynnwys?

Ar frig eich cynnig, sicrhewch eich bod yn ysgrifennu’n glir:

  • eich enw
  • eich rhif cais
  • yr Ysgol academaidd yr ydych yn gwneud cais iddi
  • eich gradd ymchwil arfaethedig

Gallwch wedyn ei lwytho i fyny fel dogfen ategol i’ch cais drwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Gwneud Cais Ar-lein. Nodwch bod hwn ar yr hen wefan ac mewn Saesneg ar hyn o bryd wrth i ni fudo cynnwys i'n gwefan ddwyieithog newydd.

Dylid pwysleisio mai arweiniad cyffredinol yn unig yw'r cyngor a roddir yma, ac nid yw'n gwarantu y cewch eich derbyn ar raglen ymchwil. Mae derbyn myfyrwyr ar raglen ymchwil yn dibynnu ar sawl ffactor. Mae'r rhain yn cynnwys natur eich ymchwil arfaethedig, ansawdd eich syniadau, eich gallu i ymrwymo i gyfnod dwys o astudiaeth ymchwil, effeithiolrwydd eich cynnig ymchwil wrth i chi gyfleu eich syniadau, y 'cysylltiad' rhwng yr ymchwil arfaethedig a'r goruchwyliwr posibl, ac adnoddau'r adran ymchwil.