Ewch i’r prif gynnwys

Meini prawf derbyn ar gyfer astudio ôl-raddedig

Close up of a student sitting in a lecture hall

Rydym yn croesawu ceisiadau gan pob myfyriwr sydd â'r potensial i lwyddo yn y brifysgol hon.

Anelwn at dderbyn y myfyrwyr y gellir dangos, drwy gyfrwng eu hamrywiaeth o gymwysterau a chyflawniadau, fod ganddynt y potensial i elwa o’n dysgu a’n haddysgu ar sail ymchwil.

Bydd angen i chi argyhoeddi'r Tiwtor Mynediadau eich bod wedi cwrdd â neu y byddwch chi wedi cwrdd â'r meini prawf academaidd ac anacademaidd sydd eu hangen ar gyfer y rhaglen astudio. Byddwn hefyd yn ystyried ymgeiswyr cymwys sydd heb ddilyn cwrs astudio penodol. Mae ceisiadau'n cael eu hystyried ar sail rhinweddau unigol.

Bydd ein chwiliwr cyrsiau ar-lein a'r prosbectws i ôl-raddedigion yn rhoi arolwg eang i chi o’r anghenion mynediad ar gyfer rhaglenni gradd benodol. Fodd bynnag, rydym yn croesawu'r rhai hynny sy'n cynnig cymwysterau amgen. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau oddi wrth y rheiny sydd â chyfuniad o gymwysterau ac ymgeiswyr sydd â phrofiad bywyd/gwaith perthnasol.

Myfyrwyr Ewropeaidd a Rhyngwladol

Lawrlwythwch ein rhestr o gymwysterau cyfwerth ar gyfer myfyrwyr Ewropeaidd neu Ryngwladol i weld os yw eich cymhwyster yn bodloni ein meini prawf mynediad. Canllaw cyffredinol yw hwn, efallai y bydd gan rai rhaglenni ofynion mynediad manylach neu benodol a fydd yn cael eu hadlewyrchu yn eich cynnig.

Postgraduate Taught Qualification Equivalences

Check if your qualification meets our entry criteria.

Os nad ydych yn gallu gweld eich cymhwyster, cysylltwch â ni am arweiniad pellach:

Admissions

Gofynion iaith Saesneg

Mae'n rhaid i ymgeiswyr nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt feddu ar sgiliau Saesneg ysgrifenedig a llafar sydd yn ddigon safonol iddynt elwa'n llawn o'u cwrs astudio. Gweler ein tudalen gofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth.

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Os ydych yn meddwl dod i Brifysgol Caerdydd neu'n fyfyriwr yma'n barod, rydym yn ymdrechu i ddarparu'r gefnogaeth gorau posibl i'n holl fyfyrwyr. Mae'r Brifysgol yn hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ei harferion a'i gweithgareddau, gan gynnwys recriwtio, dethol a derbyn myfyrwyr.

Ein nod yw sefydlu diwylliant cynhwysol sy'n croesawu ac sy'n sicrhau cydraddoldeb cyfle ar gyfer ymgeiswyr ar sail oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys tarddiad ethnig, lliw neu genedligrwydd), crefydd neu gred (gan gynnwys anghrediniaeth), rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.

I ddarganfod mwy, ewch i'n tudalennau cydraddoldeb ac amrywiaeth

Mynediad gohiriedig

Fel arfer mae gennych ddewis i wneud cais am fynediad gohiriedig i'r rhan fwyaf o'n rhaglenni ôl-raddedig.

Os na wnaethoch wneud cais am fynediad gohiriedig pan wnaethoch eich cais, ond rydych am ei ohirio wedyn, mae'n rhaid i chi gysylltu â'r Tîm Derbyn Myfyrwyr gan esbonio'r amgylchiadau yn ymwneud â'ch bwriad i ohirio.

Ar gyfer ysgoloriaethau a ariennir mae'n bosibl na fydd yr Ysgol yn caniatáu mynediad gohiriedig ond gall fod yn hyblyg o ran y dyddiad cychwyn.