Gyrfaoedd a chyflogadwyedd
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Rydym yn eich annog i feddwl am fywyd y tu hwnt i’r brifysgol o’r diwrnod cyntaf, gan gynnig modiwlau a chymorth i roi mantais gystadleuol i chi ar ôl graddio.
- 94% graduates in employment or further study.
Cyrchfannau graddedigion
Mae ein graddedigion yn derbyn swyddi mewn ystod trawiadol o sectorau yn cynnwys llywodraeth, plismona, bancio, gwasanaeth carchardai ac addysgu.
Mae cyrchfannau graddedigion yn cynnwys;
- Llywodraeth Cymru
- Y Gwasanaeth Sifil
- Y Swyddfa Ystadegau Gwoladol
- Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr
- Y GIG
- NSPCC
- Y Weinyddiaeth Amddiffyn
- Y Cyngor Prydeining
Roedd 94% o'n graddedigion mewn cyflogaeth neu astudiaeth bellach chwe mis ar ôl graddio (DLHE 2016/17).
Cymorth gyrfaol pwrpasol
Rydym yn cynnig cyngor ac arweiniad i'n myfyrwyr ar bob cam o'u rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig,
Mae ein cynghorwyr gyrfaoedd yn darparu amrywiaeth o ddigwyddiadau gyrfaoedd wedi'u teilwra drwy gydol y flwyddyn a gallwn eich helpu chi i gwrdd â'ch uchelgais gyrfa drwy amrywiaeth o weithgareddau â ffocws penodol.
Byddwch yn cael:
- apwyntiadau arweiniad gyrfaoedd
- ystod o weithdai am CVs, ceisiadau, rhwydweithiau cymdeithasol (gan gynnwys LinkedIn), cyfweliadau a diwrnodau asesu.
- digwyddiadau rhwydweithio proffesiynol (o fewn meysydd sector megis addysu)
- siaradwyr gwadd proffesiyn o ystod eang o sectorau (e.e. addysgu, plismona, llywodraethu)
- lleoliadau profiad gwaith a chyngor (e.e.llywodraeth, sector elusennol, plismona)
- gweithgareddau menter
- bwrdd swyddi yn cynnwys lleoedd gwag i raddedigion, interniaethau a lleoliadau gwaith
- gwybodaeth am y farchnad lafur.
Mwy o wybodaeth am gyfleoedd lleoliadau gwaith.
Cefnogi ein cynfyfyrwyr
Nid yw'n cymorth gyrfaol yn gorffen ar ôl i chi raddio; mae yna nifer o fanteision ar gael ar gyfer ein graddedigion ni'n unig.
Mae cyngor gyrfaol i gynfyfyrwyr ar gael hyd at dwy flynedd ar ôl graddio, yn cynnig gwybodaeth am ffeiriau gyrfaoedd, gweithdai a digwyddiadau yn ogystal â mynediad i wybodaeth gyrfaol, interniaethau a mwy.
Cysylltwch â ni
Gallwch ddilyn ein gweithgareddau gyrfaol ar Facebook.