Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Fel ysgol, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb, dathlu amrywiaeth a chynnal amgylchedd cynhwysol i bob aelod o gymuned yr ysgol.
Rydym yn cyflawni hyn drwy feithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol ar gyfer myfyrwyr a staff beth bynnag yw eu rhyw, anabledd, tarddiad ethnig, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol, oedran, neu genedligrwydd, a thrwy hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl arferion a gweithgareddau.
Rydym yn gymuned fywiog ac amrywiol, gyda myfyrwyr a staff o nifer o wledydd a chefndiroedd ethnig. Mae arweinyddiaeth yr ysgol yn adlewyrchu’r amrywiaeth hwn. Mae hil, crefydd, anabledd, rhyw a rhywioldeb oll yn elfennau craidd o’r hyn a addysgwn ac yn feysydd ymchwil gweithredol ar gyfer sawl aelod o’n staff.
Llywodraethu
Mae gan yr Ysgol Bwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sy'n ystyried materion cydraddoldeb ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig sy'n ymwneud â staff, myfyrwyr a chwricwlwm. Mae gan y Pwyllgor hefyd nifer o weithgorau gweithredol:
Cydraddoldeb hiliol
Mae gan yr ysgol Grŵp Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol gweithredol. Mae gweithgareddau'r grŵp wedi cynnwys hyfforddi staff, gwahodd siaradwyr allanol ysbrydoledig, trefnu arddangosfa ffotograffiaeth ac archwilio'r cwricwlwm.
Cydraddoldeb rhyweddol
Sefydlwyd Siarter Athena SWAN yn 2005 i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhwng y rhywiau, yn enwedig tangynrychiolaeth menywod yn y gwyddorau. Ers hynny, fe’i hymestynnwyd i gwmpasu’r celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol yn ogystal. Mae Prifysgol Caerdydd wedi cynnal gwobr sefydliadol Efydd ers 2009, ac mae ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol wedi dal gwobr adrannol Efydd ers 2014. Cafodd ei adnewyddu yn 2017.
Grŵp Pencampwyr Cymru
Mae'r grŵp hwn yn trefnu addysgu cyfrwng Cymraeg, yn trefnu tiwtoriaid a goruchwylwyr Cymraeg ar gyfer myfyrwyr, ac yn hyrwyddo datblygiad dwyieithog yr Ysgol trwy gynulliadau cymdeithasol a chyfarfodydd staff a myfyrwyr Cymraeg.
Cysylltwch â ni
Cyfarwyddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yw'r Athro Sally Holland. Mae'n aelod o'r Uwch Dîm Rheoli ac yn cadeirio Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yr Ysgol.
Information on how we work to meet our legal and moral obligations as they apply to equality and diversity.