Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol yn dathlu canlyniadau gwych yn REF 2021

12 Mai 2022

Mae Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol wedi sicrhau sgoriau gwych ar gyfer effaith ei hymchwil, ansawdd ei hymchwil a’i hamgylchedd ymchwil yn Unedau Asesu Cymdeithaseg ac Addysg Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021.

Daeth yr Ysgol yn 3ydd yn y DU ar gyfer ymchwil Addysg, ar ôl sicrhau’r sgôr Cyfartaledd Pwynt Gradd uchaf bosibl o 4.0 ar gyfer effaith ei hymchwil. Daeth yn 5ed yn y DU ar gyfer allbwn ymchwil, ar ôl i fwy na 90% o’r ymchwil gael ei hystyried yn ymchwil sy’n arwain y byd neu sy’n rhagorol yn rhyngwladol.

Mae ymchwil Addysg yn yr Ysgol yn cynnwys ymchwil i les plant a phobl ifanc, dysgu ac addysgeg o'r blynyddoedd cynnar, yn ogystal â marchnadoedd addysg, sgiliau a llafur ledled y byd.

Mae ymchwil ddiweddar wedi canolbwyntio ar drawsnewid addysg rhyw a chydberthynas yng Nghymru, yn Lloegr ac yn rhyngwladol, gwella profiadau addysgol plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru, yn ogystal ag ail-lunio dulliau effeithiol o ddarparu addysg y blynyddoedd cynnar ac addysg gynradd yng Nghymru.

Cafodd yr Ysgol ei rhoi yn y 10fed safle yn y DU ar gyfer ymchwil Cymdeithaseg, a daeth yn 4ydd ar y cyfan ar gyfer pŵer ymchwil. Ystyriwyd bod 100% o'r amgylchedd ymchwil yn ffafriol i wneud ymchwil sy’n arwain y byd neu ymchwil sy’n rhagorol yn rhyngwladol.

Mae ymchwil Cymdeithaseg yn yr Ysgol yn canolbwyntio ar bedair thema eang: anghydraddoldebau, rhaniadau ac amrywiaeth; diwylliant, rhyngweithio a bywyd bob dydd; troseddu, diogelwch a chyfiawnder; a gwyddoniaeth, technoleg a risg.

Mae rhywfaint o’i hymchwil wedi canolbwyntio ar wrando ar y rhai y camfanteisiwyd arnynt yn rhywiol yn ystod eu plentyndod, diogelu iechyd plant drwy wneud cyfreithiau tybaco ac e-sigaréts newydd, trawsnewid polisïau, ymarfer a dealltwriaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blant yn y DU ac Awstralia, yn ogystal â gwella’r ymateb polisi i drais a chamdriniaeth ddomestig yn y DU a’r UE.

Mae’r Ysgol yn cynnig cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol.

Dywedodd yr Athro Tom Hall, Pennaeth yr Ysgol:

“Rwy’n falch iawn o’n canlyniadau ardderchog yn y REF – o fod ymhlith y 10 prifysgol orau yn Unedau Asesu Addysg a Chymdeithaseg – ac rwy’n ddiolchgar i bob aelod o’r staff ar draws yr Ysgol a’i chanolfannau ymchwil cysylltiedig am y gwaith caled a’r ysgolheictod sydd wedi gwneud y canlyniadau gwych hyn yn bosibl.

“Wrth gymharu ysgolion y gwyddorau cymdeithasol yn y DU, ni sydd â’r cyrsiau gradd fwyaf amrywiol, ac mae hyn wedi’i adlewyrchu yn ein portffolio ymchwil ryngddisgyblaethol arloesol.”

Cafodd ansawdd yr ymchwil ym mhob sefydliad addysg uwch yn y DU ei asesu yn rhan o’r REF. Cymerodd 157 o brifysgolion ran, a chafodd gwaith 76,000 o staff ei gyflwyno.

Ar y cyfan, barnwyd bod 41% o’r ymchwil a gyflwynwyd yn arwain y byd, sy’n gwneud y DU yn un o’r gwledydd mwyaf pwysig yn y byd ar gyfer ymchwil.

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil arloesol sy’n cael ei gwneud yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, ewch i dudalen we’r Ysgol.

Rhannu’r stori hon

Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yw’r system a ddefnyddir i asesu ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU.