Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr rhyngwladol

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae gennym system gymorth ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol sy'n cynnig gwasanaethau i helpu ein myfyrwyr i ffynnu.

Gall addasu i ddiwylliant newydd fod yn rhywbeth brawychus. Felly, rydym yn cynnig cymorth arbenigol i fyfyrwyr rhyngwladol ein Hysgol i helpu i wneud eu profiad ym Mhrifysgol Caerdydd yn un cyffyrddus a difyr.

Mae'r gwasanaethau hyn yn rhoi cymorth ar bob agwedd ar fywyd yn y brifysgol – o baratoi i gyrraedd, astudio, cymdeithasu, cyngor meddygol, gyrfaoedd a chymorth crefyddol.

Cwrdd â’n myfyrwyr

A person standing outside their place of work on a cloudy day

"Cefais y fraint o fod yn rhan o adran ardderchog yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol."

Bu Sally Bardayán Rivera, a raddiodd mewn Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus (MSc) yn sgwrsio â ni am ei hamser ym Mhrifysgol Caerdydd.

The front of Cardiff University's Glamorgan building

"Bu'r cymorth a gefais gan y brifysgol yn anhygoel ac yn bendant yn aruthrol."

Bu Deeksha Sharma, a raddiodd mewn Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus (MSc) yn sgwrsio â ni am ei hamser ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dewch i weld beth sydd gan fyfyrwyr a graddedigion rhyngwladol eraill i'w ddweud am fywyd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rydym yn canolbwyntio ar eich cyflogadwyedd

Mae ein myfyrwyr rhyngwladol yn dod o gefndiroedd amrywiol. Rydym wedi ymrwymo i'ch paratoi i allu gweithio yn unrhyw ran o'r byd, tra byddwch yn astudio ac ar ôl i chi raddio.

Mae ein cyrsiau'n canolbwyntio ar gyflogadwyedd rhyngwladol ac yn rhoi cyfleoedd i chi astudio dramor ac ymgymryd â lleoliadau gwaith naill ai yn y DU neu'n rhyngwladol drwy ein rhwydweithiau.

Mae cymorth gyrfaoedd a chyflogadwyedd ychwanegol yn cael ei roi gan yr Ysgol, gan gynnwys Canolfan Cefnogi Myfyrwyr y Brifysgol, sy’n cynnig cyngor a lleoliadau gwaith ac yn cynnal gweithdai a digwyddiadau.

Darganfod mwy am ein gyrfaoedd a chyfleoedd cyflogadwyedd.