Ewch i’r prif gynnwys

Addysg

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae ein rhaglen addysg yn canolbwyntio ar ddimensiynau cymdeithasegol, seicolegol a gwleidyddol addysg.

Mae'n rhoi sylfaen i chi wneud cais am gyrsiau hyfforddiant athrawon ôl-raddedig yn ogystal â chyflogaeth mewn amrywiaeth o broffesiynau eraill.

Mae ein myfyrwyr yn mynd ymlaen i weithio ym maes gofal cymdeithasol, y sector ieuenctid a chymunedol, llywodraeth leol, a dylanwadu ar addysg ac ymchwil polisi.

Rydym yn cynnig rhaglenni gradd anrhydedd sengl a chydanrhydedd:

Mae ein cyrsiau yn elwa ar ein cysylltiadau agos â llunwyr polisïau, ysgolion lleol, colegau a sefydliadau addysg a hyfforddiant eraill.

Byddwch yn cael cyfleoedd i ymgysylltu ag ymarferwyr addysg i gymryd rhan mewn ymchwil tra'n datblygu dealltwriaeth o arferion addysg.

Rydw i wedi astudio addysg mewn ffordd sy'n mynd ymhell y tu hwnt i ymarfer yn yr ystafell ddosbarth yn unig. Rwyf wedi gallu gwneud symudiadau tuag at ddod yn wyddonydd cymdeithasol cyflawn a rhyngddisgyblaethol.
Poppy Dall'Occo Addysg (BSc), 2023