Ewch i’r prif gynnwys

Troseddeg

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Troseddeg yw’r maes astudio sy’n hoelio sylw ar droseddu, dioddefwyr a’r ymatebion i droseddu.

Mae ein cyrsiau yn rhyngddisgyblaethol ac yn archwilio ymagweddau cymdeithasegol, seicolegol a gwleidyddol at y maes pwnc.

Gallwch ddewis o sawl llwybr gradd:

Byddwch yn meithrin ystod o sgiliau a gwybodaeth ac yn datblygu dealltwriaeth feirniadol o brosesau ymchwil a dadleuon troseddegol, a gweithrediad y system cyfiawnder troseddol.

Fel myfyriwr troseddeg byddwch yn elwa o fod yn rhan o amgylchedd wedi'i ysbrydoli gan ymchwil a chewch gyfle i gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil troseddegol ac ymweliadau.

Gan gael y rhyddid mewn aseiniadau i ychwanegu syniadau cyfoes, megis troseddau diweddar neu ddigwyddiadau cymdeithasol, teimlaf fel pe bai'r astudiaethau'n fwy perthnasol i gymdeithas, gan fy nghadw i ymgysylltu.
Niamh Clift Troseddeg (BSc), 2023