Ewch i’r prif gynnwys

Modiwlau Cymraeg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Rydym yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr astudio rhan o'u cyrsiau israddedig yn Gymraeg.

Grwpiau tiwtor personol cyfrwng Cymraeg

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cwrdd â'ch tiwtor personol bob pythefnos mewn grŵp gyda myfyrwyr eraill Cymraeg eu hiaith.  Yn eich grŵp, byddwch yn meithrin sgiliau academaidd yn ystod blwyddyn gyntaf cwrs gradd i israddedigion. Bydd hyn yn arbennig o ddefnyddiol gan fod profiad gennych o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg (ac yn Saesneg, o bosibl). Yn semester y gwanwyn, cewch gyfle i gwrdd ag ymchwilwyr y Brifysgol sy'n gweithio mewn gwahanol feysydd, a gwrando arnynt yn trafod eu gwaith yn Gymraeg.

Yn gyffredinol, cewch eich cynorthwyo i ddysgu ar lefel israddedig a'r cyfle i drafod pynciau yn Gymraeg. Felly, bydd cysylltiad gwerthfawr gennych rhwng dysgu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Byddwch yn parhau i gwrdd â'ch tiwtor personol yn ystod ail a thrydedd flwyddyn eich astudiaethau.

Seminarau cyfrwng Cymraeg

Seminarau cyfrwng Cymraeg

Ar hyn o bryd, mae'r ysgol yn cynnig seminarau trwy gyfrwng y Gymraeg mewn nifer o fodiwlau gwahanol ar bynciau megis troseddeg, ymchwil gymdeithasol, theori gymdeithasol a chymdeithaseg. Bydd y seminarau yn rhoi cyfle i chi drafod yn Gymraeg beth ydych wedi'i ddysgu yn eich darlithoedd. Gallai’r rhain newid wrth i'r ysgol asesu'r ble mae'r galw mwyaf.

Modiwl wedi'i darparu’n llawn drwy gyfrwng y Gymraeg – Cymdeithas Gyfoes yng Nghymru

Yn ogystal, rydym hefyd yn cynnig modiwl o'r enw Cymdeithas Gyfoes yng Nghymru, lle mae'r holl weithgareddau dysgu h.y., darlithoedd a seminarau, trwy gyfrwng y Gymraeg.

Amcan y modiwl yma yw datblygu dealltwriaeth a gwybodaeth ryngddisgyblaethol myfyrwyr o’r gymdeithas maen nhw’n byw ynddi - cymdeithas yng Nghymru. Bydd y modiwl yn archwilio'r amrywiaeth a'r gwahaniaethau sy'n bodoli yng Nghymru o ran nodweddion cymdeithasol megis dosbarth cymdeithasol, rhywedd ac ethnigrwydd a hefyd mewn perthynas ag iaith a hunaniaeth genedlaethol.

Bydd materion cymdeithasol sy'n gyffredin yng Nghymru hefyd yn cael eu harchwilio yn y modiwl hwn.

Yn ogystal, bydd yn edrych ar effaith polisïau Llywodraeth Cymru ar bobl Cymru ac yn cymharu’r polisïau yma gyda pholisïau llywodraethau eraill. Erbyn diwedd y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn ymwybodol o nodweddion unigryw cymdeithas yng Nghymru ac yn ymwybodol o’r gwahaniaethau a’r tebygrwydd rhwng cymdeithas yng Nghymru a chymdeithasau yn rhannau eraill o’r byd.

Goruchwyliaeth traethawd hir yn y Gymraeg

Yn y drydedd flwyddyn, efallai y byddi di'n gwneud traethawd hir, lle fyddi di'n cynllunio ac yn gwneud darn o ymchwil annibynnol, ei ysgrifennu a chyflwyno dy syniadau a dy ganfyddiadau.

Mae'n bosib i chi gael goruchwyliwr sy’n siarad Cymraeg, sy'n gallu rhoi cyngor i chi a thrafod eich prosiect ymchwil yn Gymraeg. Mae hefyd yn bosib i chi gyflwyno eich prosiect ymchwil traethawd hir yn y gynhadledd draethawd hir flynyddol yn y Gymraeg ac ysgrifennu eich traethawd hir yn y Gymraeg.

Cyflwyno asesiadau yn y Gymraeg

Cewch hefyd sefyll arholiadau, ysgrifennu eich traethodau a chyflwyno asesiadau eraill yn Gymraeg os ydych yn dymuno.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Siôn Jones jonessl26@caerdydd.ac.uk

Dr Sion Jones

Dr Sion Jones

Lecturer

Siarad Cymraeg
Email
jonessl26@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 9679