Ewch i’r prif gynnwys

Polisi Buddsoddi Cymdeithasol Gyfrifol

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau ei bod yn gwneud penderfyniadau buddsoddi mewn modd cyfrifol a gonest.

Datblygwyd y polisi hwn ar gyfer buddsoddi moesegol i ganiatáu i'r Brifysgol ddilyn dull moesegol tra'n lleihau unrhyw effaith negyddol ar ei adenillion buddsoddi. Mae'n ymwybodol o safbwynt y Comisiwn Elusennau ar ddyletswyddau ymddiriedolwyr i fuddsoddi er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflawni ein diben fel elusen.

Wrth wneud penderfyniadau ynghylch buddsoddi, mae'r Brifysgol yn disgwyl i'w Rheolwyr Buddsoddi penodedig fuddsoddi yn unol â'r polisi buddsoddi cymdeithasol gyfrifol hwn. Disgwylir i Reolwyr Buddsoddi annog ymddygiad da neu atal ymddygiad gwael drwy sgrinio buddsoddiadau, naill ai'n gadarnhaol neu'n negyddol, a thrwy ymgysylltu'n uniongyrchol â chwmnïau.

Datganiad polisi

Mae polisi buddsoddi'r Brifysgol yn gwahardd buddsoddi’n uniongyrchol mewn cwmnïau, gan gynnwys mewn bondiau llywodraethau, ar sail y paramedrau canlynol: -

Tybaco: unrhyw gwmnïau sy'n ymwneud â chynhyrchu a dosbarthu cynhyrchion tybaco lle disgwylir i’r enillion fod fwy na 10% o enillion byd-eang;

Arfau: unrhyw gwmnïau sy'n cynhyrchu arfau a systemau arfau, gan gynnwys arfau clwstwr a ffrwydron tir gwrthbersonél.

Ymddygiad Moesegol: unrhyw gwmnïau nad oes ganddyn nhw God Polisi Moeseg fel Egwyddorion Compact y CU (neu debyg); neu gwmnïau sy'n arddangos arferion Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethiant gwael ac nad ydyn nhw’n dangos fawr o arwydd eu bod yn gwella.

Mae'r Brifysgol yn ceisio osgoi niwed a bydd yn buddsoddi mewn cwmnïau sy'n bodloni cyfrifoldebau sylfaenol ym meysydd hawliau dynol, safonau llafur, yr amgylchedd a gwrthlygredd yn unig.

Rhaid i bob cwmni buddsoddi gydymffurfio ag Egwyddorion Compact y Cenhedloedd Unedig a gweithredu mewn ffyrdd sy’n gwneud y canlynol:

  • Cefnogi a pharchu diogeliad hawliau dynol a gyhoeddwyd yn rhyngwladol a gwneud yn siŵr nad ydyn nhw’n rhan o unrhyw gam-drin hawliau dynol.
  • Dileu pob math o lafur gorfodol a dan orfod a gwahaniaethu mewn perthynas â chyflogaeth a swyddi a diddymu llafur plant yn effeithiol.
  • Hyrwyddo mwy o gyfrifoldeb amgylcheddol.
  • Gweithio yn erbyn llygredd yn ei holl ffurfiau, gan gynnwys cribddeiliaeth a llwgrwobrwyo.

Tanwyddau ffosil:

  • Mae'r brifysgol wedi rhoi’r gorau i fuddsoddi mewn cwmnïau sy'n ymwneud yn uniongyrchol ag echdynnu tanwydd ffosil.
  • Mae'r brifysgol yn gwahardd buddsoddi mewn cwmnïau sy'n masnachu, trosglwyddo, dosbarthu neu gyflenwi tanwydd ffosil, lle mae disgwyl i enillion cyfansymiol o'r fath fod yn uwch na 10% o gyfanswm eu henillion.
  • Mae'r brifysgol yn gwahardd buddsoddi mewn cwmnïau sy'n cynhyrchu pŵer drwy ddefnyddio tanwydd ffosil, lle mae enillion cyfansymiol o'r fath yn uwch na 10% o gyfanswm eu henillion.

Os gwneir buddsoddiadau gan reolwyr trydydd parti mewn cronfeydd cyfun neu debyg, gofyniad y Brifysgol yw y dylai'r cronfeydd dan sylw, lle bynnag y bo'n ymarferol, geisio osgoi buddsoddi’n uniongyrchol mewn cwmnïau sy'n dod o fewn y gwaharddiad ym mholisi Buddsoddi’n Gyfrifol yn Gymdeithasol y Brifysgol.

Monitro ac adolygu

Bydd y Brifysgol yn cyhoeddi'r polisi hwn a rhestr o'r holl ddaliadau buddsoddi ar wefan y Brifysgol bob blwyddyn. Dylai unrhyw staff neu fyfyrwyr sy'n dymuno gwneud sylwadau ynghylch y meysydd y dylai’r polisi hwn eu cwmpasu, neu am fuddsoddiadau presennol y brifysgol neu rai’r dyfodol, gysylltu â Finance-CFO@caerdydd.ac.uk.

Unwaith y flwyddyn, bydd yr Is-bwyllgor Buddsoddiadau a Bancio yn ystyried a ddylid ymgorffori meysydd eraill na ddylid ymwneud â nhw yn y polisi hwn.

Mae'r Brifysgol yn ymrwymo i gael cynrychiolaeth myfyrwyr ar yr Is-bwyllgor Buddsoddi a Bancio lle trafodir buddsoddiadau.

Gwybodaeth am reoli polisïau

Enw’r DdogfenPolisi Buddsoddi Cymdeithasol Gyfrifol
Noddwr y Polisi ar Fwrdd Gweithredol y BrifysgolPrif Swyddog Ariannol
Perchennog y PolisiRheolydd Ariannol y Grŵp
Awdur(on) y PolisiRheolydd Ariannol y Grŵp
Rhif y fersiwn2.1
Dyddiad Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb a'r GymraegI'W GADARNHAU
Dyddiad Asesiad o’r Effaith ar BreifatrwyddAmherthnasol
Dyddiad CymeradwyoMai 2022
Cymeradwywyd ganY Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau
Dyddiad yr Adolygiad Diwethaf26 Mehefin 2025
Dyddiad yr Adolygiad NesafMehefin 2026

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i fuddsoddiadau Prifysgol Caerdydd.

Nid yw Cronfa Bensiwn Prifysgol Caerdydd yn perthyn i'r Brifysgol. Cyfrifoldeb ymddiriedolwyr y cynllun yw buddsoddi'r cronfeydd hyn.