Ewch i’r prif gynnwys

Ariannu’ch cwrs gofal iechyd

Diweddarwyd: 25/07/2023 15:17

Deall eich dewisiadau o ran cyllid ar gyfer eich cwrs gofal iechyd a gwneud ceisiadau.

Cyllid sydd ar gael a sut i wneud cais amdano

Mae dau lwybr cyllido ar gael i fyfyrwyr israddedig y DU a fydd yn astudio cwrs gofal iechyd.

  • Fel arfer, mae cyllid gan y GIG ar gael i fyfyrwyr sy’n ymrwymo i weithio yng Nghymru ar ôl cael cymhwyster.
  • Fel arall, os ydych yn cynllunio peidio ag ymrwymo i weithio yng Nghymru ar ôl cymhwyso, gallwch optio allan o gyllid gan y GIG a chyflwyno cais am gyllid drwy Gyllid Myfyrwyr (yn ddibynnol ar amodau cymhwysedd).

Gallwch ddysgu mwy am y ddau lwybr cyllido a’r ymrwymiad i weithio yng Nghymru ar ein tudalen Ariannu’ch cwrs gofal iechyd.

Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr wedi cyflwyno cais am gyllid cyn dechrau eu cwrs. Os nad ydych wedi gwneud hyn, bydd angen i chi benderfynu ar system gyllido a chyflwyno cais amdani cyn gynted â phosibl.  

Os ydych wedi dewis system gyllido ac wedi cyflwyno cais am gyllid, gwiriwch eich llythyr hawl a gwneud yn siŵr bod manylion y brifysgol a’r cwrs yn gywir.

Noder, dim ond hyd at 10 wythnos fydd gennych ar ôl dechrau’r cwrs i newid o gael cyllid gan y GIG i gyllid gan Gyllid Myfyrwyr, neu i'r gwrthwyneb. Ar ôl y cyfnod hwn, ni allwch newid eich system gyllido, oni bai eich bod yn gallu dangos bod gennych resymau eithriadol dros wneud hynny.

Clirio

Os ydych yn dod i Brifysgol Caerdydd drwy Glirio, mae cyllid i fyfyrwyr clirio yn cynnig mwy o wybodaeth am y broses hon a sut i ymdopi ag oediadau posibl gyda’r cyllid.

Cael eich cyllid

Dysgwch fwy am sut cewch eich cyllid ar ôl i chi gyrraedd

Cyngor pellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gyllido eich cwrs gofal iechyd a sut i gyflwyno cais am gyllid, cysylltwch â’r Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr

Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr

Cymorth i Fyfyrwyr Ysgol Fusnes Caerdydd (Ysgol Busnes Caerdydd)