Ewch i’r prif gynnwys

Cyllid i fyfyrwyr clirio

Diweddarwyd: 12/07/2023 14:30

Os ydych yn fyfyriwr cartref ac yn dod i Brifysgol Caerdydd drwy’r broses Clirio, bydd angen i chi wneud yn siŵr bod eich cais am arian wedi’i ddiweddaru.

Os ydych chi am astudio cwrs gofal iechyd, gweler y wybodaeth i fyfyrwyr gofal iechyd.

Os ydych eisoes wedi gwneud cais am gyllid

Mae angen i chi roi gwybod i Gyllid Myfyrwyr os ydych yn eisoes wedi gwneud cais am gyllid myfyrwyr, ond wedi newid eich cwrs neu brifysgol drwy’r broses Clirio.

Ni fydd eich cyllid yn gallu cael ei dalu i chi os nad ydych yn diweddaru eich cais am Gyllid Myfyrwyr gyda’r gwybodaeth gywir am eich cwrs a phrifysgol.

 phwy y dylech gysylltu

Mae angen i chi roi gwybod i’r corff Cyllid Myfyrwyr y gwnaethoch gais am gyllid.

Sut i ddiweddaru eich manylion

Y ffordd gyflym a rhwydd o ddiweddaru eich manylion yw drwy fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein cyn 1 Medi a dewis ‘Newid eich cais’. Dylid cymryd tua 20 o ddiwrnodau gwaith i’r broses newid gyda Chyllid Myfyrwyr.

Ar ôl 1 Medi, ni fyddwch yn gallu newid y manylion eich hun. Yn hytrach, bydd rhaid i’r brifysgol roi gwybod i Gyllid Myfyrwyr ar eich rhan drwy wneud yr hyn a elwir yn dasg ‘Newid mewn Amgylchiadau’. I ofyn i’r brifysgol wneud hyn, anfonwch ebost at studentconnect@caerdydd.ac.uk a gosod 'SFA Newid Amgylchiadau' fel pwnc gan gynnwys eich:

  • enw llawn
  • rhif myfyriwr Prifysgol Caerdydd
  • rhif Cefnogaeth Myfyrwyr Cyllid Myfyrwyr (noder mai nid eich rhif cyfeirnod cwsmer yw hwn).

Gallwch ddod o hyd i’ch Rhif Cymorth Myfyriwr ar ein llythyr Hawl i Gyllid Myfyrwyr diweddaraf, mae’n cynnwys 4 llythyren, 8 rhif a llythyren arall. Er enghraifft, SFDU12345678Z neu SFWU12345678Z.

Ni fydd y rhif hwn yn cael ei effeithio os ydych yn newid cwrs neu brifysgol. Os nad ydych yn gallu dod o hyd i’ch Rhif Cymorth Myfyriwr, gallwch ffonio Cyllid Myfyrwyr i gael y rhif. Mae angen y rhif hwn ar y brifysgol er mwyn cyflawni’r dasg newid mewn amgylchiadau.

Sut i reoli oedi gyda chyllid

Ni all y brifysgol gadarnhau unrhyw newidiadau iw’ch cwrs neu brifysgol trwy’r dasg ‘Newid mewn Amgylchiadau’ a chrybwyllwyd uchod, nes eich bod wedi ymrestru. Dylid cymryd lleiafswm o 20 o ddiwrnodau gwaith i Gyllid Myfyrwyr ei brosesu ar ôl iddo gael ei anfon, ond gall gymryd yn hirach yn ystod dechrau'r flwyddyn academaidd.

Felly, os nad ydych yn diweddaru eich cais am gyllid gyda'ch corff ariannol cyn 1 Medi, rydym yn disgwyl y bydd oedi cyn caiff y cyllid ei dalu i chi, a chadarnhad o gyllid eich ffioedd dysgu i’r brifysgol. Yn y sefyllfa hon, mae’n well i chi ddod ag arian gyda chi i'r brifysgol i helpu gyda’ch costau byw cyffredinol ar gyfer wythnosau cyntaf mewn prifysgol.

Rhoddir 30 diwrnod i fyfyrwyr ar ôl ymrestru i’r brifysgol gadarnhau eu ffioedd dysgu, felly ni fydd disgwyl i chi dalu unrhyw beth tuag at eich ffioedd dysgu yn ystod y cyfnod hwn.

Os ydych yn symud i lety prifysgol a heb gael taliad cyntaf eich cyllid erbyn y dyddiad talu cyntaf, cysylltwch yn uniongyrchol â'r tîm Preswylfeydd i wneud cais am estyniad.

Swyddfa Preswylfeydd

Os oes gennych unrhyw bryderon neu anawsterau ariannol, mae croeso i chi gysylltu â'r tîm Ariannu a Chyngor Myfyrwyr, a gallwn gynnig cymorth a chyngor.

Os nad ydych eisoes wedi gwneud cais am gyllid

Os nad ydych eisoes wedi gwneud cais am gyllid myfyrwyr ond mae angen yr arian hwn arnoch, mae angen i chi wneud cais cyn gynted â phosibl i’r corff ariannu perthnasol, yn seiliedig ar ble roeddech yn preswylio cyn dechrau eich cwrs:

Gall gymryd hyd at chwe wythnos i 'r corff ariannu brosesu eich cais pan fod ganddyn nhw'r holl wybodaeth angenrheidiol, felly y cyflymaf y byddwch yn gwneud cais, y cyflymaf bydd y cyllid yn cael ei gadarnhau a’i dalu i chi. Efallai na fyddwch yn cael yr holl arian mewn pryd ar gyfer dechrau eich cwrs, ond bydd Cyllid Myfyrwyr yn ceisio talu rhywfaint o arian mor gynnar ar ddechrau’r cwrs â phosibl.

Bydd gennych hawl o hyd i’r cyllid llawn am flwyddyn, hyd yn oed os bydd oedi am y taliad cyntaf a dalir i chi, cyn belled â’ch bod yn gwneud cais o fewn naw mis o ddechrau’r flwyddyn academaidd (1 Medi) ar gyfer cyllid am y flwyddyn honno.

Os ydych yn astudio cwrs gofal iechyd

Os ydych wedi cael lle i astudio cwrs gofal iechyd yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd neu ar gwrs Hylendid a Therapi Deintyddol, mae’n debygol y cewch ddewis o lwybrau ariannu, rhwng Cyllid y GIG neu Gyllid Myfyrwyr llawn. Rhagor o wybodaeth am y gwahanol becynnau cyllid

P’un a ydych eisoes wedi cyflwyno cais am gyllid ai peidio, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu â’r tîm Ariannu a Chyngor Myfyrwyr i gael cyngor penodol ynghylch eich cais. 

Os ydych wedi cyflwyno cais am gyllid, gallwn wirio a yw eich cais yn edrych yn gywir a phryd mae’n debygol y cewch eich talu.

Os nad ydych wedi cyflwyno cais am gyllid eto, gallwn gynnig gwybodaeth am y cyllid sydd ar gael a sut i gyflwyno cais amdano.

Gall cymryd o leiaf chwe wythnos i brosesu cais am gyllid, felly po gyflymaf y byddwch yn gwneud cais, cyflymaf bydd y cyllid yn cael ei gadarnhau a’i dalu i chi ar ôl ymrestru.

Cyngor pellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gyllid myfyrwyr neu gyllid arall cysylltwch â:

Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr