Ewch i’r prif gynnwys

Cyllid gan Cyllid Myfyrwyr

Diweddarwyd: 10/08/2023 10:12

Os na fyddwch am ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl cymhwyso, gallwch wneud cwrs gofal iechyd o hyd yng Nghymru a wneud cais i Gyllid Myfyrwyr am gyllid. Mae angen i chi optio allan i weithio yng Nghymru ar ôl cymhwyso i fod yn gymwys i gael cyllid gan Gyllid Myfyrwyr.

Mae gwybodaeth am y cyllid y gallwch wneud cais amdano a’r cyllid rydych yn gymwys i’w gael, gan gynnwys cyfarwyddiadau ar sut i optio allan, ar gael ar ein tudalennau gwe cyllid myfyrwyr.

Newid eich meddwl

Mae gennych hyd at ddeg wythnos ar ôl dechrau eich cwrs i newid eich meddwl ar ôl ymrwymo i weithio yng Nghymru ar ôl cymhwyso a chael cyllid gan y GIG.

I optio allan, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  1. canslo eich cais am fwrsari gan y GIG yng Nghymru. Gallwch wneud hyn drwy ebostio Gwasanaeth Dyfarniadau Myfyrwyr y GIG ar abm.sas@wales.nhs.uk i egluro eich bod am optio allan a chanslo eich cais. Bydd angen i chi roi eich rhif cyfeirnod SAS neu eich dyddiad geni
  2. Cofrestru’n fyfyriwr newydd eto ar wefan Gwasanaeth Dyfarniadau Myfyrwyr y GIG drwy ddefnyddio enw defnyddiwr a chyfeiriad ebost newydd. Y tro hwn, nodwch eich bod yn optio allan. Dylech gael ebost sy'n cadarnhau eich bod wedi optio allan
  3. Anfon yr ebost i Gyllid Myfyrwyr. Gallwch lanlwytho'r ebost optio allan i'ch cyfrif Cyllid Myfyrwyr drwy'r opsiwn ‘lanlwytho tystiolaeth ddigidol’ newydd neu ei anfon drwy ebost.  Byddai'n ddefnyddiol gwneud y ddau i wneud yn siŵr bod Cyllid Myfyrwyr yn cael cadarnhad eich bod wedi optio allan:

Os ydych yn gwneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru

Cwblhewch y 3 ffurflen canlynol:

  1. PFF2 – Ffurflen Asesiad o amgylchiadau ariannol 2023 i 2024
  2. Ffurflen NMT i MT (23/24) (gwneud cais am gyllid myfyriwr yn seiliedig ar eich ffurflen incwm cartref)
  3. Ffurflen gais am Fenthyciad Ffi Dysgu (23/24).

Os ydych yn fyfyriwr sengl annibynnol, does dim angen cwblhau y ffurflen PFF2.

Gallwch lanlwytho'r ffurflenni a'r dystiolaeth wedi'u cwblhau trwy'r opsiwn llwytho i fyny digidol newydd ar eich cyfrif SFW. Fel arall, gallwch anfon popeth drwy'r post i'r cyfeiriad ar y ffurflenni.

Cadwch lygad ar eich cyfrif Cyllid Myfyrwyr Cymru ar-lein yn aml neu ffoniwch Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad eich cais.

Os ydych yn gwneud cais i Gyllid Myfyrwyr Lloegr

Cwblhewch y 3 ffurflen canlynol:

  1. PFF2 – Ffurflen Asesiad o amgylchiadau ariannol 2023 i 2024
  2. Gwneud cais am gyllid myfyriwr yn seiliedig ar ffurflen incwm eich cartref 2023/24
  3. Ffurflen gais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu - ffoniwch Student Finance England i ofyn am y ffurflen hon.

Os ydych yn fyfyriwr sengl annibynnol, does dim angen cwblhau y ffurflen PFF2.

Gallwch uwch lwytho eich ffurflenni gorffenedig drwy'r opsiwn uwch lwytho digidol newydd ar eich cyfrif Cyllid Myfyrwyr Lloegr. Fel arall, gallwch anfon popeth drwy'r post ar y cyfeiriad ar y ffurflenni.

Cadwch lygad ar eich cyfrif Cyllid Myfyrwyr Lloegr ar-lein yn aml neu ffoniwch Cyllid Myfyrwyr Lloegr i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad eich cais.

Cyngor ychwanegol

Os bydd angen rhagor o gyngor arnoch a gwybodaeth am fod yn gymwys i gael cyllid, cysylltwch â: Cyllid a chyngor i fyfyrwyr.

Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr