Cyllid myfyrwyr
Diweddarwyd: 21/07/2022 17:25
Deall cyllid myfyrwyr, gwneud ceisiadau, cael cyllid ac osgoi oediadau.
Cyllid sydd ar gael a sut i wneud cais amdano
Er mwyn sicrhau eich cymhwysedd ar gyfer cyllid israddedig fel myfyrwyr cartref dylech gyflwyno cais i’ch corff ariannu myfyrwyr perthnasol cyn dechrau eich cwrs. Ble rydych yn byw yn y DU fel arfer cyn dechrau eich cwrs sy’n pennu eich corff ariannu.
Gallwch ddysgu mwy am y cyllid sydd ar gael i chi a sut i gyflwyno cais amdano drwy fynd i wefan eich corff ariannu myfyrwyr:
- Cyllid Myfyrwyr Cymru - i fyfyrwyr y mae eu cartref yng Nghymru
- Cyllid Myfyrwyr Lloegr - i fyfyrwyr y mae eu cartref yn Lloegr
- Asiantaeth Cyllid Myfyrwyr yr Alban - i fyfyrwyr y mae eu cartref yn yr Alban
- Cyllid Myfyrwyr Gogledd Iwerddon - i fyfyrwyr y mae eu cartref yng Ngogledd Iwerddon.
Ar ôl i chi gyflwyno cais
Eich llythyr hawl
Ar ôl i chi gyflwyno cais a rhoi unrhyw dystiolaeth y gofynnir amdani, ac ar ôl i’ch corff ariannu gwblhau asesiad, cewch hysbysiad hawl drwy’r post. Gallwch gael copi yn adran ‘llythyron ac ebyst’ eich cyfrif cyllid myfyrwyr ar-lein hefyd.
Mae’r llythyr hawl yn amlinellu manylion y cyllid ar gyfer eich ffioedd dysgu a chyllid cynhaliaeth sydd ar gael i chi. Gwiriwch fod y brifysgol, y cwrs a’r flwyddyn astudio’n gywir ar y llythyr. Os yw unrhyw fanylyn o’r wybodaeth hon yn anghywir, diwygiwch eich cais cyn 1 Medi.
Diwygio eich cais am Gyllid Myfyrwyr
Y ffordd gyflym a rhwydd o ddiweddaru eich manylion yw drwy fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein cyn 1 Medi a dewis ‘Newid eich cais’. Dylid cymryd tua 20 o ddiwrnodau gwaith i Gyllid Myfyrwyr brosesu’r newid.
Ar ôl 1 Medi, ni fyddwch yn gallu newid y manylion eich hun. Yn lle hynny, cysylltwch â’r Tîm Ariannu a Chyngor i Fyfyrwyr i gael cymorth ynghylch hyn.
Os ydych yn dod i Brifysgol Caerdydd drwy Glirio, mae cyllid i fyfyrwyr clirio yn cynnig mwy o wybodaeth am y broses hon a sut i ymdopi ag oediadau posibl gyda’r cyllid.
Os nad ydych wedi cael eich llythyr hawl
Os ydych wedi cyflwyno cais am gyllid ond heb gael eich llythyr hawl, gwiriwch eich cais gyda’ch corff ariannu. Os cyflwynoch chi gais ar-lein, gallwch wirio ar eich cyfrif ar-lein a oes unrhyw dasgau i’w cwblhau.
Efallai bydd tystiolaeth y mae eich corff ariannu yn aros amdani o hyd. Os oes pobl eraill yn ymwneud â chefnogi eich cais er mwyn darparu gwybodaeth angenrheidiol, fel eich rhieni er enghraifft, gwiriwch eu bod wedi darparu’r wybodaeth sydd ei hangen ganddynt. Os nad ydych yn sicr o’r hyn sydd heb ei wneud o hyd, cysylltwch â’ch corff ariannu am gyngor.
Os oes gennych unrhyw anawsterau gyda’ch cais am gyllid myfyrwyr, bydd y Tîm Ariannu a Chyngor i Fyfyrwyr yn gallu helpu.
Cael eich cyllid
Dysgwch fwy am sut cewch eich cyllid ar ôl i chi gyrraedd.
Cyngor pellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gyllid myfyrwyr neu gyllid arall cysylltwch â: