Costau byw a chyllidebu
Diweddarwyd: 16/08/2022 15:51
Mae cyllidebu yn sgil sy’n ein galluogi i reoli ein harian.
Mae theori cyllidebu yn syml, ond gall roi’r theori ar waith fod yn anodd ac mae angen disgyblaeth.
Costau byw ar gyfartaledd
Dim ond hanner y broses o gyllidebu yw gwybod beth faint o arian sydd gennych. Mae angen i chi wybod hefyd faint fyddwch chi’n ei wario fel myfyriwr.
Gall ein cyfrifiannell costau byw eich helpu i ddangos y gost gyfartalog o fyw (wedi’i gyfrifo o wariant myfyrwyr go iawn) yn dibynnu ar eich lefel astudio, a lle rydych chi’n dewis byw.
Myfyrwyr rhyngwladol: Nodwch fod y ffigyrau yn wahanol i’r prawf cynhaliaeth ariannol a fydd angen i chi basio er mwyn cael fisa myfyrwyr Haen 4.
Cyllidebu
Yn syml, cyfrifwch faint o gyllid sy’n dod i mewn a pha gostau sydd rhaid i chi ei dalu. Gall fod yn ddefnyddiol cyllidebu ar sail wythnosau, misoedd neu dymhorau. Gwnewch yr hyn sy’n gweithio orau i chi. Cofiwch gadw golwg ar eich cyfrif banc yn rheolaidd er mwyn osgoi bod mewn argyfwng arian annisgwyl.
Cael mwy am eich arian
Syniadau ar gyfer cynyddu eich incwm a lleihau eich gwariant.
Efallai eich bod wedi cael swydd rhan amser cyn dod i’r Brifysgol, felly beth am barhau?
Rhagor o wybodaeth am weithio yn ystod eich astudiaethau
Mae gwneud y mwyaf o’ch cynnyrch ariannol sydd ar gael i chi pan rydych yn fyfyriwr yn eich gwneud yn ddeallus ag arian!
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gyfrifon banc i fyfyrwyr; beth sy’n dda amdanynt ond hefyd beth sydd angen bod yn wyliadwrus amdano.
Er gallwch fenthyca llyfrau cwrs o’n llyfrgelloedd, yn aml, mae galw mawr am y llyfrau ac efallai byddwch yn gweld bod yn rhaid i chi aros i’w defnyddio ac efallai mai ond am gyfnod byr iawn gallwch eu benthyca. Mae hyn yn golygu efallai bydd angen i chi brynu llyfrau cwrs pwysig a dylech gyllidebu ar gyfer hyn.
Mae llyfrau cwrs angenrheidiol yn debygol o fod ar gael yn Siop Lyfrau Blackwell, a leolir yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
Efallai gallwch hefyd brynu’r llyfrau ar eich rhestr ddarllen cyn i chi gyrraedd gan fod darlithwyr yn rhoi’r rhestr ddarllen ar gyfer rhai cyrsiau i siop lyfrau Blackwell’s. Felly os ydych yn archebu ymlaen llaw, gall fod y llyfrau yn disgwyl amdanoch pan fyddwch yn cyrraedd yng Nghaerdydd.
Myfyrwyr rhyngwladol: Fel arfer, mae’n syniad da i aros tan eich bod yn cyrraedd Caerdydd cyn prynu llyfrau cwrs. Efallai byddwch yn gallu rhannu llyfrau gyda'ch ffrindiau, ac ni fydd angen i chi gario nhw dramor.
Cerdyn adnabod myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Yn ychwanegol at roi mynediad i adeiladau'r Brifysgol, gall eich cerdyn adnabod myfyrwyr roi gostyngiad myfyrwyr i chi mewn rhai siopau, sinemâu a bwytai.
NUS (Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr)
Fel myfyriwr, byddwch yn gallu prynu cerdyn TOTUM os hoffech gael un. Os hoffech gael un, byddwch yn gweld eich bod yn gallu prynu nifer o bethau, o ticedi sinema i ddillad, DVDs i deithio, am bris gostynedig. Os ydych yn ansicr os oes rhywle yn cynnig gostyngiad i fyfyrwyr, gofynnwch!
ISIC (International Student Identity Card)
Mae’r cerdyn ISIC ar gael i unrhyw fyfyriwr llawn amser ac yn rhoi gostyngiadau i chi ar deithiau awyr siarter, llety penodol, ticedi sinemâu a mynediad i orielau celf ac amgueddfeydd.
Er mwyn cael cerdyn ISIC, bydd angen llun maint pasbort a thystiolaeth eich bod yn fyfyriwr llawn amser.
Coachcard i bobl ifanc
Mae’r cerdyn yn costio £10 am flwyddyn neu £25 am dair blynedd ac yn rhoi 30% o ostyngiad i chi pan yn teithio ar fws National Express yn y DU. I gael cerdyn, yr unig beth sydd angen gwneud yw dangos prawf eich bod yn fyfyriwr. Gallwch brynu Coachcard Pobl Ifanc yn Swyddfeydd Bws National Express neu ar-lein.
Cerdyn Rheilffordd 16-25
Mae'r cerdyn yn rhoi trean o ostyngiad o bris taith rheilffordd (yn amodol i amodau a thelerau) yn y DU. Er mwyn cael y cerdyn bydd angen prawf eich bod yn fyfyriwr, eich pasbort a llun maint pasbort. Gallwch brynu’r cerdyn mewn unrhyw orsaf rheilffordd neu ar wefan y cerdyn rheilffordd.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych am gostau byw neu gyllidebu:
Cyngor ac Arian Myfyrwyr
Cymorth i Fyfyrwyr Ysgol Fusnes Caerdydd (Ysgol Busnes Caerdydd)
Caerdydd yw un o’r dinasoedd mwyaf fforddiadwy yn y DU. Cyfrifwch eich costau byw.