Ewch i’r prif gynnwys

Aros dros yr haf

Cegin (Tai A - K)
Cegin (Tai A - K)

Mae ystafelloedd hunan-arlwyo ar gael i aros am hyd at 7 noson.

Myfyrwyr cofrestredig Prifysgol Caerdydd yn unig

Os ydych chi’n byw yn llety'r Brifysgol ar hyn o bryd ac eisiau aros wedi i’ch contract ddod i ben ar 26 Mehefin 2024:

  • mae ystafelloedd ar gael o 26 Mehefin 2024 hyd at 11 Medi 2024 am £20.38 y noson yn Ne Talybont (arhosiad o 7 noson o leiaf)
  • mae pob ystafell yn en-suite gyda chegin mae pawb yn ei rhannu
  • gwnewch eich cais ar-lein trwy borth SIMS cyn 12 Mehefin 2024

Ni allwch gadw lle trwy SIMS

Pob arhosiad dros yr haf arall i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd:

  • mae ystafelloedd ar gael o 03 Gorffennaf 2024 hyd at 11 Medi 2024 (arhosiad o 7 noson o leiaf)
  • arosiadau o 7 i 28 noson yn Llys Senghennydd am £30 y noson
  • arosiadau o 29 noson neu fwy yng Nghwrt Cartwright neu Lys Senghennydd am bris llai o £25 y noson
  • Mae pob ystafell yn un sengl gyda chegin ac ystafell ymolchi mae pawb yn eu rhannu
  • Rhaid i chi gadw ystafell o leiaf ddau ddiwrnod gwaith ymlaen llaw.

Cadw lle nawr

Cysylltu â ni

Swyddfa Llety