Ewch i’r prif gynnwys

Meddygaeth Genomeg a Gofal Iechyd (MSc)

  • Hyd: 2 years
  • Dull astudio: Rhan amser yn dysgu o bell

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.


Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Nod yr MSc mewn Meddygaeth Enomig a Gofal Iechyd yw arfogi gweithwyr iechyd proffesiynol â gwybodaeth glinigol uwch am enomeg a geneteg i lywio a chefnogi diagnosis, rheolaeth a gwerthusiad yn achos pobl sy'n ymgyflwyno ag amrywiaeth o gyflyrau. Bydd yr wybodaeth a'r sgiliau a ddatblygir ar y rhaglen hon yn cefnogi'r symudiad tuag at feddygaeth fanwl a phersonol. Nod y rhaglen yw cefnogi'r rhai sy’n bwriadu bod yn glinigwyr a gwyddonwyr iechyd, a’r rhai sydd eisoes yn y rolau hynny, i ddarparu dulliau newydd, trawsnewidiol a fydd yn gwella ansawdd y gofal, a hynny o ofal damcaniaethol a gofal sy'n seiliedig ar gleifion, i ofal sy'n seiliedig ar y boblogaeth.   Trwy astudio ar y cwrs hwn, byddwch yn cael eich galluogi i gefnogi timau iechyd i greu newid ar draws systemau a fydd yn golygu gwelliannau enfawr yng nghanlyniadau cleifion. Mae'n darparu profiad addysgol cyfoes sy'n diwallu anghenion gwasanaethau gofal iechyd o ran datblygu gofal rhagorol ar gyfer y dyfodol mewn poblogaethau eang eu cwmpas ac amrywiol. Trwy raddio o'r rhaglen hon, byddwch yn rhan o newidiadau trawsnewidiol ymatebol yn eich ymarfer, gan hyrwyddo gwelliannau parhaus. Mae'r cwrs yn rhyngddisgyblaethol, ac yn gyson â meysydd ymarfer newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg ym myd genomeg a geneteg. Mae’n eich galluogi i elwa ar ddysgu ochr yn ochr â myfyrwyr o gefndiroedd gofal iechyd a gwyddoniaeth amrywiol. 

Mae'r rhaglen yn hwyluso proses lle gallwch ddeall lle y mae'r bylchau presennol yn y gofal, gofal a ddarperir o safbwynt systemau mewn ffordd integredig, a byddwch yn cael cymorth i gyrraedd y diagnosis cywir a’i reoli, gan fynd i'r afael ag anghenion clinigol nad ydynt wedi’u diwallu.  

Byddwch nid yn unig yn cael eich donio â gwybodaeth ffeithiol gyfredol sy'n cyd-fynd â'r ymchwil a'r datblygiadau diweddaraf ym maes genomeg mewn ymarfer clinigol, ond byddwch hefyd yn cael y cyfle i ddysgu am strategaethau y mae iddynt y nod o ystyried y ffordd orau o ddelio â datblygiadau a heriau yn y dyfodol ym meysydd therapi a rheoli. Byddwch yn rhan o raglen sy'n parhau i hyrwyddo enw da Prifysgol Caerdydd fel arweinydd ym maes ymchwil addysg a genomig amlbroffesiynol, a hynny yng Nghymru a ledled y byd. 

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Meddygaeth

Rydym ni'n un o ysgolion meddygaeth fwyaf y DU, wedi ein hymrwymo i geisio gwella iechyd pobl drwy addysg ac ymchwil.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2068 7214
  • MarkerYsbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XN

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol megis Biowybodeg, Gwyddorau Biofeddygol, Biowyddoniaeth, Deintyddiaeth, Dieteg, Gwyddoniaeth Amgylcheddol, Gwyddorau Iechyd, Mathemateg, Meddygaeth, Niwrowyddoniaeth, Nyrsio, Maetheg, Iechyd Galwedigaethol, Therapi Galwedigaethol, Fferylliaeth, Gwyddorau Ffisegol, Ffisiotherapi, Geneteg Iechyd y Cyhoedd, Radiotherapi, Meddygaeth Milfeddygol, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudiwyd yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Geirda academaidd neu gyflogwr sy'n dangos eich addasrwydd ar gyfer y rhaglen, yn seiliedig ar o leiaf ddwy flynedd o'ch profiad (gall hyn fod yn brofiad clinigol neu academaidd). Dylid cael hwn cyn i chi wneud cais a bydd ei angen cyn i ni allu gwneud penderfyniad ar eich cais.
  4. Datganiad personol nad yw'n fwy na 500 gair ac sy'n dangos eich gwybodaeth a'ch cymhelliant (rhaid i chi ddefnyddio'r cwestiynau isod fel penawdau yn eich datganiad):
  • Pa ddata genomig ydych chi'n gweithio gyda nhw ar hyn o bryd, neu'n bwriadu gweithio gyda nhw yn y dyfodol?
  • Pam ydych chi'n dymuno dilyn y rhaglen hon?
  • Pa sgiliau a phrofiad perthnasol sydd gennych?
  • Sut mae'r cwrs yn berthnasol i'ch dyheadau gyrfa presennol a/neu yn y dyfodol?

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail o leiaf dwy flynedd o brofiad proffesiynol cyfwerth ag amser llawn. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol

Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

 

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn rhaglen lefel Meistr a addysgir yn rhan-amser dros gyfnod o 2 flynedd:

Cam T1  

Mae'r cam hwn yn para am 18 mis, ac mae'n cynnwys modiwlau 20 credyd craidd a dewisol, sy’n dod i gyfanswm o 120 credyd, ar Lefel 7. Bydd gennych yr opsiwn o ddewis modiwlau sy'n cyd-fynd â'ch anghenion dysgu a chlinigol chi. 

Gall y myfyrwyr sydd wedi cwblhau'r tri modiwl craidd yn llwyddiannus adael gyda Thystysgrif Ôl-raddedig neu, os ydynt wedi cwblhau'r holl fodiwlau a addysgir yn llwyddiannus, dyfarniad Diploma Ôl-raddedig.

Cam T2

Mae'r cam hwn yn para am 6 mis ac mae'n cynnwys y modiwl traethawd hir 60 credyd ar Lefel 7. Bydd y myfyrwyr yn dewis maes o ddiddordeb arbennig yn destun i’w traethawd hir, ac fe’i trafodir â chyfadran a goruchwyliwr y rhaglen. Bydd y myfyrwyr sydd wedi cwblhau Cam T2 yn llwyddiannus yn gymwys ar gyfer y dyfarniad MSc. 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Blwyddyn un

Bydd blwyddyn un yn darparu’r modiwlau craidd sy’n eich galluogi i ddeall hanfodion geneteg a genomeg ddynol, genomeg clefydau etifeddol cyffredin a phrin, patholeg foleciwlaidd diagnosio, trin a monitro canser, a biowybodeg, dehongli a sicrwydd ansawdd data mewn dadansoddi genetig. 

Blwyddyn dau

Bydd blwyddyn dau yn rhoi nifer o opsiynau i chi, a gallwch ddewis dau ohonynt. Mae’r modiwlau dewisol hyn yn cynnwys technegau a thechnolegau “omeg” a’r defnydd ohonynt mewn meddygaeth enetig; cyflwyniad i sgiliau cwnsela mewn meddygaeth enetig; geneteg a genomeg anhwylderau’r ymennydd a genomeg iechyd y cyhoedd; a chymhwyso genomeg i glefydau heintus. Wedi i’r elfen a addysgir ddod i ben, neilltuir goruchwyliwr i weithio â chi i gynllunio a chyflawni eich traethawd hir.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Cewch eich addysgu gan arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol o fri mewn ymchwil, addysg ac ymarfer ym maes geneteg a genomeg. Felly gallwch fod yn sicr bod y dysgu y byddwch yn ymgymryd ag ef yn cael ei lywio gan y dystiolaeth orau sydd ar gael a'i fod ar flaen y gad. Yn ystod yr elfen a addysgir, byddwch yn astudio 4 modiwl craidd, ac yna bydd gennych yr opsiwn i ddewis 2 fodiwl arall o restr o fodiwlau dewisol. Er y byddwch yn cofrestru ar gyfer Gradd Meistr, mae yna bwyntiau ymadael ar y rhaglen a all arwain at ddyfarnu credydau sefydliadol, Tystysgrif Ôl-raddedig a Diploma Ôl-raddedig.

Byddwch yn cael eich addysgu trwy amgylchedd ar-lein sy'n defnyddio cyfuniad o weithgareddau cydamserol ac anghydamserol diddorol, a’r rheiny’n seiliedig ar ddamcaniaeth a thystiolaeth addysgol gadarn i ysgogi myfyrdod, trafodaeth a synthesis mewn ymarfer. Mae’r dulliau a ddefnyddir yn amrywio o fodiwl i fodiwl ac yn dibynnu ar yr hyn sy’n cael ei addysgu a’r modd y cewch eich asesu. Byddwch yn cael profiad o grwpiau tiwtorial ar-lein, byrddau trafod, darlithoedd wedi’u recordio, podlediadau ac erthyglau i’w darllen a myfyrio arnynt, sydd oll yn darparu ar gyfer y modd yr hoffech ddysgu, a hynny ar adegau y gallwch gynllunio eich gwaith astudio. Mae yna gyfleoedd i drafod, dadlau, archwilio a rhyngweithio â chyfoedion a thiwtoriaid, cyfleoedd sydd wedi'u cynllunio i wella'r dysgu, yn ogystal ag astudio dan arweiniad ac astudio annibynnol.  Bydd y dysgu yn mynd â chi o'r labordy i erchwyn y gwely wrth i chi astudio'r wyddoniaeth a'i chymhwyso i senarios yn y byd go iawn ac achosion cleifion.

Mae elfennau ymarferol yn nodwedd allweddol o'r cwrs, a byddwch yn cael eich annog i roi cynnig ar ddulliau newydd o addysgu a dysgu ar-lein trwy gydol y rhaglen. Bydd cyfuno eich gwybodaeth a chymhwyso damcaniaeth i ymarfer yn eich lleoliad addysgu clinigol eich hun yn un o ofynion canolog yr asesiadau ffurfiol a’r gwaith ffurfiannol.  

Bydd cyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau gwaith tîm a’ch sgiliau cydweithio i’w cael trwy eich tasgau ar-lein, trwy weithgareddau, a thrwy gymryd rhan yn gyffredinol mewn dadleuon a gwaith archwilio ar y cyd â thiwtoriaid a chyfoedion. Mae cam y traethawd hir yn cynnwys prosiect annibynnol dan oruchwyliaeth, a drafodir â chyfadran a goruchwyliwr y rhaglen.

Sut y caf fy asesu?

Bydd yr asesiad yn cael ei gynnal ar ddiwedd pob modiwl yn ystod yr elfen a addysgir. Bydd yr asesiadau hyn yn rhoi cyfle i chi ddangos y dysgu yr ydych wedi ymgymryd ag ef yn unol â'r canlyniadau dysgu ar gyfer y modiwl ac ar gyfer y rhaglen. Bydd yna gyfleoedd ar gyfer asesu ffurfiannol i sicrhau eich bod yn cael adborth a chyngor ar gyfer y dyfodol i lywio'r asesiadau crynodol y byddwch yn ymgymryd â nhw. Bydd yr amrywiaeth yn yr asesiadau ar draws y modiwlau yn ategu cynnwys y modiwl a astudir. Gall asesu crynodol a ffurfiannol gynnwys astudiaethau achos, portffolios, cyflwyniadau llafar (wedi'u recordio a byw), gwaith grŵp, cyflwyniadau poster, a mwy, gan brofi eich gallu i gyfathrebu, meddwl yn feirniadol, myfyrio, syntheseiddio a datrys problemau.

Sut y caf fy nghefnogi?

Wrth i’r rhaglen gael ei chyflwyno ar-lein, gallwn eich cefnogi i astudio o amgylch eich ymrwymiadau o ran gwaith/bywyd. Byddwch yn cael eich cyfeirio o amgylch y llwyfan dysgu trwy gyfrwng arwyddion clir, a byddwch yn cael cyfarwyddiadau manwl ar sut i drafod y cynnwys. Bydd gan bob modiwl ddisgrifydd; bydd hwn yn cynnwys trosolwg o'r modiwl, pa ddeilliannau dysgu a fwriedir, briff yr aseiniad a chyfleoedd ar gyfer adborth ffurfiannol a chyngor ar gyfer y dyfodol, a'r ffyrdd y byddwch yn cael eich addysgu ac yn dysgu. Byddwch yn cael llawlyfr ar gyfer y rhaglen ar ddechrau'r cwrs; mae hwn yn rhoi gwybodaeth fanwl am y brifysgol, am y rheolau a’r rheoliadau sy'n llywodraethu trylwyredd ein rhaglenni, ac am eich rôl chi, y myfyriwr. Darperir sgiliau astudio i chi i gefnogi eich dysgu, a chewch eich cyflwyno i'r gyfadran a'ch cyd-fyfyrwyr.

Neilltuir tiwtor personol i bob myfyriwr; mae yno i'ch cefnogi yn ystod eich astudiaethau, a gall roi cyngor i chi ar faterion academaidd a phersonol a allai fod yn effeithio arnoch. Dylech gael cyfarfodydd rheolaidd â’ch tiwtor personol er mwyn sicrhau eich bod yn cael cefnogaeth lawn.  Bydd y tiwtoriaid personol yn gallu trafod eich amgylchiadau unigol a'ch arwain trwy eich dewis o fodiwlau a'ch llwybr.  Gall eich tiwtor personol eich cefnogi i symud ymlaen tuag at eich nod arfaethedig. 

Fe'ch cyflwynir i lyfrgellydd ein Hysgol, a fydd yn rhoi trosolwg i chi o'n hadnoddau ar-lein ac yn eich helpu i chwilio am dystiolaeth i gefnogi eich dysgu.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

O gwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

GD 1 Myfyrio’n feirniadol ar y modd y mae meddygaeth enomig yn chwarae rhan allweddol o ran galluogi gweithwyr iechyd proffesiynol i ddysgu, deall ac integreiddio data genomig i mewn i ymarfer clinigol. 

GD 2 Dadansoddi sut y mae data genomeg ddynol a data omig eraill yn personoli gofal meddygol, gan fyfyrio ar y modd y gall gwybodaeth am gyfansoddiad genetig unigolyn arwain at yr unigolyn cywir yn cael y diagnosis a'r driniaeth gywir ar yr amser cywir.

GD 3 Gwerthuso’r modd y mae technolegau a ddefnyddir i nodi amrywiolion a biofarcwyr genetig yn darparu mewnwelediad swyddogaethol i ystod o fecanweithiau clefydau ac ymatebion i driniaethau.

GD 4 Cymharu a chyferbynnu cemegau a llwyfannau dilyniannu ecsomau cyfan a genomau cyfan. 

GD 5 Myfyrio ar ragdueddiadau genetig clefydau cyffredin a phrin, a’r modd y mae risgiau amgylcheddol yn dylanwadu arnynt.

GD 6 Mynd ati mewn modd beirniadol i adolygu sut y gall biowybodeg a bioleg gyfrifiadurol alinio dilyniannau â genomau cyfeirio a nodi amrywiolion dilyniannau clinigol berthnasol yn gywir.

GD 7 Gwerthuso’r modd y gellir defnyddio gwybodaeth enetig ar gyfer gwneud penderfyniadau clinigol yn y llwybr gofal ac i drin cleifion (ffarmacogenomeg)

GD 8 Mynd ati mewn modd beirniadol i werthuso perthnasedd clinigol posibl canfyddiadau genomeg swyddogaethol a'u goblygiadau ar gyfer diagnosis, prognosis a thriniaeth yn achos clefydau.

Sgiliau Deallusol:

SD 1 Myfyrio ar gyfyng-gyngor a heriau moesegol posibl a gwirioneddol sy’n codi yng nghyd-destun meddygaeth enomig a gofal iechyd, megis preifatrwydd a chyfrinachedd, cydsyniad gwybodus a phrofion, a’u trafod.

SD 2 Ffurfio dadl ddiduedd, seiliedig ar ymchwil ac sy'n canolbwyntio ar y claf ynghylch cryfderau a chyfyngiadau haenu unigol a meddygaeth fanwl neu bersonol.  

SD 3 Mynd i’r afael ag arweinyddiaeth, newid clinigol a gofal clinigol gyda phersbectif beirniadol sy’n seiliedig ar eich gallu uwch yn rôl ymarferydd myfyriol a all ddefnyddio data, adnoddau a chanllawiau mewn modd arloesol, cynaliadwy ac adeiladol. 

SD 4 Datblygu dull beirniadol gwybodus o chwilio am dystiolaeth, gwerthuso a graddio cryfder y dystiolaeth, myfyrio ar gryfderau a gwendidau’r dystiolaeth, a chyfuno’r canlyniadau i lywio ymarfer.

SD 5 Defnyddio ystod o dechnolegau blaengar a data genomig i gefnogi gofal cleifion.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

SY 1 Cymhwyso mecanweithiau moleciwlaidd clefydau i ddeall cychwyniad a chynnydd.

SY 2 Meistroli'r sgiliau gofynnol i fod yn ddysgwr gydol oes sy'n dylanwadu ar ofal, gan ddefnyddio offer dilys a dibynadwy i weithredu a gwerthuso newid.

SY 3 Llywio Dysgu Canolog ac ymgyfarwyddo â chyfleusterau’r llyfrgell dysgu o bell, y byrddau trafod, y Ganolfan Graddau a Turnitin. 

SY 4 Defnyddio cwnsela genetig a sgiliau cyfathrebu uwch i gyflwyno materion cymhleth mewn ffyrdd y bydd eraill yn eu deall, ac i gefnogi a rheoli effaith y diagnosis a roddir. 

SY 5 Arwain timau a gweithio ynddynt mewn modd cydweithredol a chadarnhaol, gan barchu eraill. 

Sgiliau Trosglwyddadwy / Allweddol:

SA 1 Ymdrin â gofal iechyd o safbwynt moesegol, cymdeithasol ac amgylcheddol.

SA 2 Cymhwyso hunanymwybyddiaeth broffesiynol a hunanfyfyrdod i'ch datblygiad proffesiynol eich hun mewn ffyrdd sy'n gwella eich ymarfer ac yn gwella canlyniadau cleifion.

SA 3 Amlygu mentergarwch, ymreolaeth a chyfrifoldeb personol wrth gynllunio a gweithredu atebion ym maes gofal iechyd.  

SA 4 Cynllunio, trefnu a rheoli gwaith cwrs yn effeithiol, gan amlygu annibyniaeth, blaengaredd a gwreiddioldeb.

SA 5 Mynd ati’n bwrpasol i fyfyrio ar eich astudiaethau eich hun, eich cyflawniadau a’ch hunaniaeth.

Ymgysylltu â syniadau, cyfleoedd a thechnolegau newydd, gan feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth mewn modd hyderus ac mewn amrywiaeth o gyd-destunau.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £5,725 Dim
Blwyddyn dau £5,725 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £14,100 £2,500
Blwyddyn dau £14,100 Dim

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Nac oes. 

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Mae’r rhaglen Feistr hon yn eich galluogi i ddangos eich bod yn achub ar y cyfle i ddatblygu eich gallu mewn dadansoddi beirniadol, datrys problemau, gwneud penderfyniadau, canfod a defnyddio tystiolaeth, ac ymdrin â materion cymhleth. Er nad ydym yn asesu sgiliau neu gymwyseddau clinigol yn ffurfiol, dylai astudio ar y lefel hon helpu myfyrwyr llwyddiannus i amlygu nifer o sgiliau academaidd y dylid eu parchu’n fawr mewn perthynas â datblygiad eu gyrfa a’u cynnydd. Yn benodol, mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i amlygu datblygiad gwybodaeth a sgiliau mewn perthynas â chymhwyso meddygaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth, meddygaeth fanwl a phersonol, a’r posibilrwydd o wella gwasanaethau a fframweithiau llywodraethu. Fel y cyfryw, dylai ddarparu tystiolaeth o ymrwymiad a photensial a all eich cynorthwyo o ran ysgwyddo rhagor o gyfrifoldebau, neu, o bosibl, wrth geisio am swyddi rheoli, ymchwil, ysgolheictod neu arwain. Bydd llawer o’r myfyrwyr sy'n dilyn y rhaglen hon mewn cyflogaeth. Fodd bynnag, mae llawer o swyddi gofal iechyd mewn disgyblaethau amrywiol yn ei gwneud yn ofynnol i glinigwyr ddilyn hyfforddiant academaidd uwch, ac felly ystyrir bod yr MSc yn gyfrwng i gael dyrchafiad i swyddi estynedig ac uwch. Mae AaGIC yn noddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru i ymgymryd â hyd at ddau o'r chwe modiwl sy'n cyfrannu at y rhaglen hon, gan felly esbonio pwysigrwydd cymwysterau genetig a genomig uwch ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol.

Lleoliadau

Nac oes.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.