Dermatoleg Glinigol (MSc)
- Hyd: 1 flwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer meddygon gydag o leiaf blwyddyn o brofiad meddygol cyffredinol. Mae'r MSc hwn yn cynnig addysg strwythuredig mewn dermatoleg ac yn rhoi sylfaen gadarn am hanfodion dermatoleg clinigol a gwyddonol. Mae'n blaenoriaethu cyfarwyddiadau clinigol, ond mae hefyd yn rhoi pwyslais ar gynnwys gwyddonol dermatoleg.
Addysgir gan arbenigwyr o fri byd-eang
Cewch ddysgu gan lawer o'r arbenigwyr sy'n ysgrifennu'r gwerslyfrau a'r canllawiau.
Amlygu clinigol
Ategir eich dealltwriaeth drwy arsylwi ar glinigau gydag arbenigwyr, clercio cleifion yn yr uned gofal dydd, cyflwyno canfyddiadau i diwtoriaid.
Gweithdai ymarferol
Datblygir eich sgiliau mewn elfennau ymarferol yn cynnwys pwytho, asesu doppler a dermoscopi. Mynychu cyfarfodydd CPD rhanbarthol rheolaidd.
Dysgu rhyngweithiol
Moddau addysgu niferus i weddu pob math o ddysgu yn cynnwys darlithoedd, grwpiau bach, gweithdai a thiwtorialau.
DIWEDDARIAD COVID19 Mae'r dull o gyflwyno’r rhaglen hon (mynediad 2020/1) wedi'i newid oherwydd pandemig COVID19. Er mwyn sicrhau diogelwch a lles ein holl fyfyrwyr a staff, rydyn ni wedi penderfynu y bydd y rhaglen hon yn cael ei chyflwyno ar-lein tan o leiaf tan fis Ionawr 2021. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn ymdrechu i ddarparu addysgu clinigol drwy gleifion/actorion arbenigol ar draws sesiynau rhyngweithiol ar-lein. Rydyn ni’n gobeithio y bydd elfen 'wyneb yn wyneb' y rhaglen hon yn dechrau'r flwyddyn nesaf yn 2021. Os oes gennych unrhyw gwestiynau o gwbl, cysylltwch â Swyddfa Derbyn Ôl-raddedigion Meddygol ar PGTMedAdmissions@cardiff.ac.uk.
Mae'r MSc mewn Dermatoleg Glinigol wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer meddygon sydd â diddordeb arbennig mewn dermatoleg ar ôl ennill profiad meddygol cyffredinol am o leiaf blwyddyn.
Nod y cwrs yw cynnig sylfaen gref mewn elfennau o ddermatoleg glinigol a gwyddonol, gyda blaenoriaeth i gyfarwyddo clinigol ond gyda phwyslais hefyd ar gynnwys gwyddonol dermatoleg.
Mae'n arbennig o addas ar gyfer graddedigion meddygol tramor, ond mae hefyd yn briodol fel cwrs ychwanegol i gyfrannu at unrhyw raglen hyfforddi sy’n arbenigo mewn dermatoleg.
Addysgir wyneb yn wyneb yn Athrofa Dermatoleg Cymru yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Meddygaeth
Rydym ni'n un o ysgolion meddygaeth fwyaf y DU, wedi ein hymrwymo i geisio gwella iechyd pobl drwy addysg ac ymchwil.
Meini prawf derbyn
Applicants must hold an undergraduate degree in clinical medicine (MBBCh, BMBS, MBBS, or equivalent) awarded by a recognised institution.
AND
have a minimum of one year' full-time equivalent post-qualification general medical experience (evidenced by a reference or internship certificate).
Decisions will be made on a continuous basis throughout the year. Places are limited, so early application is recommended.
English Language Requirements
IELTS 7.0 overall with 6.5 in writing and 6.0 in all other subskills, or equivalent qualification.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Mae'r MSc yn gwrs amser llawn, sy'n cynnwys dau gam.
Cam a addysgir:
Mae hwn yn para am wyth mis, ac mae'n cynnwys chwe modiwl 20 credyd, sef cyfanswm o 120 credyd, ar Lefel 7. Bydd gofyn i chi fynychu sesiynau addysgu dyddiol (o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhai ar ddyddiau Sadwrn).
Mae modiwl sgiliau ymarferol yn cael ei gynnal drwy gydol y cam hwn. Caiff hyn ei ategu gan lawer o ryngweithio â chleifion. Byddwch yn cael eich dyrannu i'r Uned Triniaeth Ddydd ar gyfer Dermatoleg am gyfnod o 1 - 2 wythnos i gael profiad clinigol ymarferol gwerthfawr.
Bydd gofyn i chi fynychu clinigau dermatoleg cleifion allanol cyffredinol rheolaidd yng Nghaerdydd a'r cyffiniau. Ceir ymweliadau dydd hefyd â chanolfannau dermatoleg eraill yng Nghymru.
Cewch adael y cwrs ar ôl cwblhau 60 credyd yn llwyddiannus, a chael Tystysgrif Ôl-raddedig, neu ar ôl cwblhau 120 credyd yn llwyddiannus, a chael Diploma Ôl-raddedig.
Cam traethawd hir:
Mae hyn yn para am bedwar mis arall, i gyfanswm o un flwyddyn academaidd. Bydd yn cynnwys traethawd hir 60 credyd ar Lefel 7, er mwyn cyflawni cyfanswm o 180 o gredydau i gyd i gwblhau'r rhaglen MSc.
Mae'r traethawd hir yn seiliedig ar adolygiad o lenyddiaeth ac fel arfer nid yw dros 20,000 o eiriau, gydag unrhyw ddeunydd arall y gellir ei ystyried yn briodol i'r pwnc yn ei ategu. Mae'n werth 60 credyd ac mae wedi'i bwysoli 50% at ddibenion cyfrifo eich marc terfynol.
Gall meysydd pwnc gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i): imiwnoleg glinigol, dermatoleg gosmetig, arwyddion croenol o glefydau systemig, technegau diagnostig, anhwylderau'r croen a philenni mwcaidd, ffactorau amgylcheddol, meddygaeth seiliedig ar dystiolaeth, imiwnoleg a bioleg, dermatoleg llidiol, microbioleg y croen, ffotofioleg, clefydau croen pigmentog, sgiliau ymarferol, dulliau ymchwil, canser y croen, histopatholeg y croen, ymyrraeth lawfeddygol, clefydau trofannol y croen.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Introduction to Dermatology: Evidence-based Dermatology, Immunology and Biology of the Skin | MET651 | 20 credydau |
Disorders Presenting in the Skin and Mucous Membranes | MET652 | 20 credydau |
Environment and the Skin | MET653 | 20 credydau |
Practical Skills | MET654 | 20 credydau |
Cutaneous Manifestations of Systemic Diseases | MET655 | 20 credydau |
Skin Cancer and Surgical Interventions in Dermatology | MET656 | 20 credydau |
Dissertation: Clinical Dermatology | MET650 | 60 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Cyflwynir y cwrs drwy’r dulliau canlynol:
- Darlithoedd
- Gweithdai
- Dysgu hunangyfeiriedig
- Clybiau cyfnodolion
- Ymlyniadau clinigol
Mae holl diwtoriaid y cwrs yn feddygon, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, a gwyddonwyr, a gyda’i gilydd, mae ganddyn nhw gyfoeth o brofiad a sgiliau mewn dermatoleg. Er mwyn manteisio ar yr adnodd gwerthfawr hwn, mae'r cwrs yn hyrwyddo gwaith ar y cyd mewn grwpiau bach gyda phwyslais ar ddull sy'n seiliedig ar broblemau wrth astudio dermatoleg. Defnyddir dulliau didactig fel darlithoedd ar y rhaglen hefyd. Mae pwyslais ar addysgu clinigol ar ffurf arddangosiadau mewn clinigau, yng Nghanolfan Triniaeth Gofal Dydd ar gyfer Dermatoleg, mewn gweithdai clinigol a thiwtorialau clinigol rhyngweithiol.
Sut y caf fy asesu?
Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o waith ysgrifenedig, cyflwyniadau, cwestiynau strwythuredig gwrthrychol, arholiadau clinigol bach a thraethawd hir.
Nid yw'n ofynnol galw ar y myfyrwyr am arholiad viva voce.
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae pob modiwl yn y rhaglen yn defnyddio ein hamgylchedd dysgu rhithwir yn helaeth, lle byddwch yn dod o hyd i ddeunyddiau cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig ac adnoddau cymorth. Bydd goruchwyliwr enwebedig yn cael ei neilltuo i chi wrth i chi weithio ar eich traethawd hir, a bydd yn trefnu cyfarfodydd rheolaidd i drafod cynnydd, rhoi cyngor ac arweiniad, a rhoi adborth ysgrifenedig ar fersiynau drafft.
Bydd cyfleoedd i fyfyrio ar eich galluoedd a'ch perfformiad drwy gyfarfodydd wedi'u trefnu gyda'ch tiwtor personol.
Adborth
Yn dibynnu ar y modiwl a'r asesiadau, gall adborth gynnwys y canlynol:
- Sylwadau ysgrifenedig ar asesiadau
- Adborth llafar mewn darlithoedd, seminarau a sesiynau tiwtorial
- Adborth llafar mewn sefyllfaoedd clinigol
- Atebion enghreifftiol
- Adborth cyffredinol i’r dosbarth cyfan
- Adborth gan gymheiriaid, naill ai'n ffurfiol fel rhan o dasg asesu neu’n anffurfiol y tu allan i'r ystafell ddosbarth
- Cyfarfodydd gyda thiwtoriaid personol a/neu academaidd
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i chi ennill ystod o sgiliau gwerthfawr, yn rhai sy'n benodol i’r ddisgyblaeth yn ogystal â ""sgiliau cyflogadwyedd"" mwy generig.
Drwy'r rhaglen, byddwch yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau TG a meddygol ymarferol, a byddwch yn cael nifer o gyfleoedd i ymestyn eich sgiliau cyfathrebu a dadansoddi.
O ganlyniad i gymryd rhan lawn yn y cwrs hwn, dylech hefyd allu gwneud y canlynol:
- Arfarnu llenyddiaeth ddermatoleg yn feirniadol a gwerthuso'r broses o integreiddio meddygaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth wrth reoli cleifion.
- Dehongli histopatholeg ystod eang o gyflyrau dermatolegol gan gyfeirio'n benodol at ddatblygiadau cyfredol yn y maes.
- Ymchwilio i broblemau diagnostig, eu cysyniadu a’u datrys, gan integreiddio hanes a nodweddion clinigol amrywiaeth eang o gyflyrau dermatolegol, gan gynnwys sefyllfaoedd problematig sy'n cynnwys llawer o ffactorau sy’n rhyngweithio.
- Arfarnu cynlluniau rheoli yn feirniadol a datblygu ymreolaeth a barn eang ar gyfer amrywiaeth eang o gyflyrau dermatolegol.
- Gwerthuso camau gweithredu, dulliau a chanlyniadau yn feirniadol yn ogystal â'u goblygiadau tymor byr a thymor hir.
- Ysgwyddo cyfrifoldeb am benderfyniadau diagnostig a rheoli ym maes dermatoleg glinigol, perswadio / dylanwadu ar gydweithwyr o ran gofal clinigol priodol gan ddefnyddio egwyddorion gwyddonol cadarn a'r dystiolaeth orau sydd ar gael.
- Cynllunio a threfnu adolygiad o lenyddiaeth mewn modd cydlynol a gwyddonol ar bwnc penodol ym maes dermatoleg.
- Dylunio a chynnal gweithgareddau ymchwil, datblygu neu strategol i lywio theori ac ymarfer dermatoleg, gan bennu a defnyddio methodolegau a dulliau gweithredu priodol.
- Teimlo’n hyderus wrth drin a rheoli cleifion â chlefydau’r croen.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £28,950 | £5,000 |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £28,950 | £5,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Er bod y rhan fwyaf o'r costau wedi'u cynnwys yn y strwythur ffioedd, efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cludiant i ymlyniadau clinigol. Yn ogystal, efallai y bydd cost i fyfyrwyr sydd angen gwasanaeth prawfddarllen Saesneg ar gyfer y traethawd hir neu asesiadau ysgrifenedig eraill.
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Bydd angen cyfrifiadur ar y myfyrwyr gyda mynediad i'r Rhyngrwyd a gyda’r amddiffyniad diweddaraf yn erbyn feirysau a maleiswedd. Bydd angen porwr rhyngrwyd cyfredol, wedi'i ddiogelu'n briodol ac Adobe Reader, i weld deunyddiau’r cwrs. Bydd angen prosesydd geiriau, sy'n gydnaws â Microsoft Word, i gyflawni'r ymarferion crynodol a ffurfiannol. Gall meddalwedd arall hefyd fod yn ddefnyddiol ar rai adegau yn y rhaglen ar gyfer casglu/dadansoddi data, er enghraifft Microsoft Excel.
Gall dermatoscope fod yn ddefnyddiol, ond nid yw'n hanfodol ar gyfer y rhaglen.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Mae'r rhaglen hon yn arbennig o addas ar gyfer meddygon cymwysedig sy'n dymuno dilyn gyrfa arbenigol mewn dermatoleg.
Gall y rhaglen fod yn gam tuag at yrfa fel academydd clinigol, dermatolegydd ymgynghorol, dermatolegydd cosmetig, neu ymarferydd preifat.
Mae’r rhaglen Feistr hon yn eich galluogi i ddangos eich bod yn cymryd cyfle i ddatblygu’ch gallu dadansoddi beirniadol, datrys problemau, gwneud penderfyniadau, canfod a defnyddio tystiolaeth ac ymdrin â materion cymhleth. Nid yw’r rhaglen hon yn disodli rhaglen hyfforddi arbenigol ffurfiol, ond bydd astudio ar y lefel hon yn helpu myfyrwyr llwyddiannus i ddangos sgiliau academaidd niferus y dylid eu gwerthfawrogi’n fawr mewn perthynas â’u datblygiad a’u cynnydd gyrfaol. Yn benodol, mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i ddangos datblygiad gwybodaeth a sgiliau mewn perthynas â chymhwyso meddygaeth yn seiliedig ar dystiolaeth, a chyfoethogi posibl ar wasanaethau a fframweithiau llywodraethu. Felly, dylai ddarparu tystiolaeth o ymrwymiad a photensial a all eich cynorthwyo o ran cael rhagor o gyfrifoldebau, neu o bosib wrth geisio am swyddi rheoli, ymchwil, ysgolheigaidd neu arwain.
Lleoliadau
Lleoliadau clinigol arsylwadol mewn canolfannau dermatoleg lleol bob wythnos.
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Meddygaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.