Ewch i’r prif gynnwys

Addysg Feddygol (MSc)

  • Hyd: 1 flwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Bydd ein rhaglen yn apelio at y rhai sydd am ymchwilio i hanfodion addysg effeithiol ar gyfer y proffesiynau iechyd mewn lleoliad deinamig, ysgogol a chefnogol.

rosette

Hybu rhagoriaeth

Dewch i elwa ar ein hangerdd a’n harbenigedd hirsefydlog o ran cyrsiau addysg feddygol arweiniol sy'n integreiddio ymchwil ac ysgolheictod.

tick

Addysgu trochol

Modiwlau dilynol gyda diwrnodau addysgu trochol sy'n hybu datblygiad ac yn cefnogi rolau a chyfrifoldebau arweinyddiaeth addysg.

notepad

Cymhwysol ac ymarferol

Cynllun y cwrs a thasgau asesu'n gysylltiedig â'ch ymarfer addysgol eich hun, yn caniatáu i chi gymhwyso theori a chysyniadau i'ch lleoliad clinigol.

mortarboard

Rhannu arfer da

Cewch gyfle i astudio ochr yn ochr â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o gefndiroedd amrywiol i hyrwyddo dealltwriaeth a rhannu arfer da.

certificate

Cwrs achrededig

Mae’r cwrs wedi’i achredu gan Academi’r Addysgwyr Meddygol (AoME) gan ganiatáu i chi wneud cais am aelodaeth llwybr cyflym. Mae 'Llwybr Cymrodoriaeth' dewisol wedi'i achredu gan Advance HE, a gellir ei ddilyn ochr yn ochr â blwyddyn astudio 1, sy'n eich galluogi i geisio cymrodoriaeth (FHEA).

Mae'r rhaglen yn darparu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, sydd â diddordeb arbennig mewn addysg, gyda chyfle i broffesiynoli eu rôl o'r clinigwr fel athro. Mae’n cydnabod cyd-destunau amrywiol, cymhleth a heriol i’r rheini sy’n newydd i rolau a chyfrifoldebau addysgwyr a’r rheini sydd â blynyddoedd lawer o brofiad. Drwy astudio ar y rhaglen hon, byddwch yn dysgu i hyrwyddo rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol. Ein nod yw annog diwylliant ar gyfer hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol drwy ddatblygu rhwydwaith o addysgwyr sydd wedi ymrwymo i wella dyfodol addysg gofal iechyd. Mae'r rhaglen hon ar gyfer pob gweithiwr meddygol, deintyddol ac iechyd proffesiynol eraill sy'n dymuno ehangu eu dealltwriaeth o ddysgu ac addysgu, a datblygu eu gallu i gymhwyso theori addysgol i wella addysg gofal iechyd yn y dyfodol.

Mae’r cwrs yn hynod ymarferol a’i nod yw modelu arferion gorau mewn dysgu ac addysgu a defnyddio ystod eang o ddulliau gweithredu er mwyn datblygu a chefnogi dysgwyr, gan bwysleisio egwyddorion a chymhwyso drwy drafodaethau a gweithgareddau rhyngweithiol. Bydd cyfres gynhwysfawr o fodiwlau wyneb yn wyneb yn eich galluogi i gyfrannu at drafodaethau beirniadol sy'n hyrwyddo mewnwelediadau dyfnach i theori ac egwyddorion addysgol a gymhwysir i ymarfer clinigol. Bydd amser i chi ddatblygu ac egluro dealltwriaeth o bwnc y modiwl, cymhwyso cysyniadau a sgiliau newydd, a rhannu a myfyrio ar brofiadau a mewnwelediadau gyda chydweithwyr. Mae llawer o'r prosiectau'n cynnig sail ar gyfer arloesi ymarferol yn y gweithle a gallant hefyd ehangu'r ymgysylltu a'r cyfraniadau i'r byd addysg feddygol ehangach.

Trwy ddatblygu rhwydwaith o athrawon clinigol profiadol, nod ein rhaglen yw annog diwylliant ar gyfer hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a dangos aliniad ymarfer addysgu a dysgu gyda Safonau Proffesiynol a gwerthoedd proffesiynol y DU (AdvanceHE, Cyngor Meddygol Cyffredinol, Academi Addysgwyr Meddygol).

Mae’r cwrs wedi’i achredu gan Academi’r Addysgwyr Meddygol (AoME) gan ganiatáu i chi wneud cais am aelodaeth llwybr cyflym. Mae 'Llwybr Cymrodoriaeth' dewisol wedi'i achredu gan Advance HE, a gellir ei ddilyn ochr yn ochr â blwyddyn astudio 1, sy'n eich galluogi i geisio cymrodoriaeth (FHEA). Dylid cyflwyno'r portffolio terfynol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.  

Achrediadau

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Meddygaeth

Rydym ni'n un o ysgolion meddygaeth fwyaf y DU, wedi ein hymrwymo i geisio gwella iechyd pobl drwy addysg ac ymchwil.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2068 7214
  • MarkerYsbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XN

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn pwnc sy'n gysylltiedig â gofal iechyd, neu radd ryngwladol gyfatebol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Datganiad personol sy'n dangos eich diddordeb/cyfranogiad mewn dysgu ac addysgu mewn cyd-destunau gofal iechyd. Dylai hyn gynnwys manylion eich addysgu, asesiad a chyfrifoldebau addysgol cysylltiedig. Rhowch eich datganiad fel PDF (500 gair) a nodwch y cwestiynau canlynol fel penawdau:
  • Pa brofiad sydd gennych chi fel gweithiwr iechyd proffesiynol? Dylech feddu ar o leiaf blwyddyn o brofiad ar ôl graddio.
  • Pam ydych chi'n dymuno dilyn y cwrs hwn?
  • Pa brofiad ôl-gymhwyso sydd gennych chi o addysgu fel gweithiwr iechyd proffesiynol?
  • Pa gyfranogiad presennol mewn addysgu o fewn eich proffesiwn iechyd sydd gennych?

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol mewn maes sy'n gysylltiedig â gofal iechyd. Mae'n rhaid i chi ddal cofrestriad proffesiynol gyda chorff cydnabyddedig. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais a'ch profiad addysgu ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Dyma raglen lefel meistr a addysgir yn amser llawn dros 12 mis. Mae'n cynnwys cwblhau chwe modiwl 20 credyd a modiwl traethawd hir 60 credyd, sef cyfanswm o 180 credyd ar Lefel 7.

Cam a Addysgir

Mae'r cam hwn yn golygu mynd i sesiynau deuddydd yng Nghaerdydd bob tair/pedair wythnos yn ystod y flwyddyn academaidd (mis Medi i fis Mehefin).  Byddwch felly yn treulio tua 20 diwrnod yng Nghaerdydd.  Mae’r sesiwn gyntaf ym mhob modiwl dau ddiwrnod yn gyfle i ddod â’r modiwl blaenorol a'r cyfnod astudio annibynnol ynghyd. Mae’r broses tri cham hwn yn datblygu ac yn sicrhau dealltwriaeth o bwnc y modiwl. Mae hefyd yn cynnig y cyfle a’r amser i roi cynnig ar gysyniadau a sgiliau newydd, a daw i ben drwy fyfyrio ar brofiadau a dealltwriaeth gyda chydweithwyr a’u rhannu. Bydd myfyrwyr sydd wedi cwblhau'r modiwlau a addysgir yn llwyddiannus yn gymwys i dderbyn Diploma Ôl-radd neu Dystysgrif Ôl-raddedig, os byddant yn gadael ar y cam hwn.

Cam y Traethawd Hir

Mae'r elfen hon yn dilyn cwblhau'r cam dysgedig yn llwyddiannus, lle byddwch yn ymgymryd â phrosiect addysgol dan oruchwyliaeth gan arwain at gyflwyno traethawd hir o fewn 3 mis.   

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae'r cwrs yn defnyddio ystod eang o ddulliau ar-lein i gefnogi a datblygu dysgwyr.  Mae dulliau dysgu ac addysgu yn cwmpasu ystod o strategaethau a thechnegau i hyrwyddo dysgu cydweithredol a phwrpasol.

Cynhelir yr addysgu yn ystod diwrnodau penodedig yng Nghaerdydd gan ddefnyddio amrywiaeth o dasgau a gweithgareddau grŵp, a hwylusir gan dîm ymroddedig o diwtoriaid addysgol profiadol. Mae cyfle i drafod, dadlau, archwilio a rhyngweithio â chyfoedion a thiwtoriaid sydd wedi'u cynllunio i wella'r dysgu yn ogystal ag astudio dan arweiniad ac astudio annibynnol.

Mae elfennau ymarferol yn nodwedd allweddol o'r cwrs, a byddwch yn cael eich annog i roi cynnig ar ddulliau newydd o addysgu a dysgu drwy gydol y rhaglen. Bydd cyfosod eich gwybodaeth a defnyddio theori i ymarfer yn eich lleoliad addysgu clinigol eich hun yn un o ofynion canolog asesu ffurfiol a gwaith ffurfiannol.

Bydd cyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau gweithio mewn tîm a chydweithio ar gael drwy eich tasgau a'ch gweithgareddau a thrwy gymryd rhan gyffredinol mewn dadleuon ac archwilio materion â thiwtoriaid a chyfoedion. Mae cam y traethawd hir yn cynnwys prosiect annibynnol dan oruchwyliaeth, wedi'i drafod gyda’r adran a goruchwyliwr y rhaglen.  

Sut y caf fy asesu?

Byddwch yn cael eich asesu mewn amrywiaeth o ffyrdd i lywio dysgu (ffurfiannol) ac i asesu dysgu (crynodol) ac mae'r holl aseiniadau yn gysylltiedig â'ch ymarfer addysgol. Er enghraifft, gall aseiniadau nodweddiadol ymwneud â dylunio a chynhyrchu rhai cyfryngau cyfarwyddiadol ar gyfer angen addysgu penodol rydych chi'n ei nodi, adolygu'n feirniadol y dull asesu rydych chi'n ei ddefnyddio, myfyrio ar eich profiad o gymryd rhan mewn adolygiad gan gymheiriaid o addysgu, cynllunio cynnig ymchwil ar gyfer prosiect addysgol yn eich cyd-destun addysgu clinigol. Mae angen safon foddhaol yn y cyfnod dysgu er mwyn symud ymlaen i'r traethawd hir. Bydd y cam hwn yn cynnwys cwblhau prosiect addysgol, fel arfer astudiaeth empirig neu lenyddiaeth ar raddfa fach, gan arwain at gyflwyno traethawd hir yn y pen draw.  

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae tîm o staff academaidd, staff gweinyddol, staff technoleg dysgu a staff llyfrgell ar gael drwy gydol y flwyddyn i’ch helpu. Byddwch yn derbyn adborth ysgrifenedig ar eich holl aseiniadau. Hefyd, mae llawer o gyfleoedd drwy gydol y cwrs i dderbyn adborth gan gymheiriaid a thiwtoriaid. Byddwch yn cael tiwtor personol/goruchwyliwr traethawd hir a fydd yn cefnogi eich cynnydd ar y cwrs, yn monitro eich cynnydd cyffredinol, yn trafod materion perthnasol ac yn darparu cyngor, arweiniad a chymorth.   

Mae amrywiaeth o dasgau a gweithgareddau ymarferol drwy gydol y cyfnod a addysgir, a byddwch yn archwilio ac yn trafod amrywiaeth o faterion addysgol drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp gyda thiwtoriaid a chyfoedion. Bydd sesiynau cyfosod yn aml yn golygu rhoi adroddiad byr neu gyflwyniad i gydweithwyr am berthnasedd pwnc modiwl i'ch cyd-destun eich hun; trafod heriau addysgol penodol i lywio gwelliannau a newid addysgol. Bydd tiwtoriaid personol yn gwneud sylwadau ar eich cyfnodolyn myfyriol os ydych yn dymuno, ac mae hyn yn gyfle i gael trafodaeth bellach am eich rolau addysgol, eich cyfrifoldebau a’ch profiadau yn eich lleoliad clinigol. 

Yn ystod cam traethawd hir y cwrs byddwch yn cael cyfle i gael adborth ar ddyluniad y prosiect a phenodau traethawd hir drafft. Byddwch yn cael goruchwyliwr traethawd hir i gefnogi eich astudiaeth yn ystod y cam olaf hwn o'r cwrs.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi wedi’i gyflawni erbyn diwedd y rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn nodi'r wybodaeth a'r medrau fydd gyda chi. Maen nhw’n eich helpu i ddeall faint mae disgwyl ichi ei wneud, hefyd. 

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch chi’n gallu:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

GD 1 Adolygu'n feirniadol ddulliau dysgu ac addysgu mewn lleoliadau addysgol clinigol ac ymarfer proffesiynol.

GD 2 Gwerthuso addysg, damcaniaethau a modelau yn feirniadol i lywio arferion addysgol cyfredol.

GD 3 Cyfosod y dystiolaeth i ddylunio amgylcheddau dysgu cynhwysol gyda chydlyniad, integreiddiad a pherthnasedd i ddiwallu a chefnogi anghenion dysgu amrywiol ac yn unol â safonau proffesiynol ar gyfer ymgysylltu a dysgu’n effeithiol  

GD 4 Myfyrio ar a dangos aliniad arferion dysgu ac addysgu â safonau proffesiynol y DU a chydnabod gwerthoedd proffesiynol

GD 5 Cymhwyso egwyddorion dysgu ac addysgu i lywio gwelliannau yn eich lleoliad proffesiynol eich hun a chyfosod offer a dulliau priodol i werthuso gwerth

GD 6 Dangos ysgolheictod wrth ddylunio, cynnal a gwerthuso prosiect ymchwil addysgol a lywir gan dystiolaeth ac egwyddorion arferion gorau

Sgiliau deallusol:

SD 1 Datblygu dull gwybodus beirniadol o chwilio am dystiolaeth a’i gwerthuso, gan fyfyrio ar ansawdd y dystiolaeth, a chyfosod y canlyniadau i lywio arferion addysg glinigol  

SD 2 Defnyddio ystod o strategaethau addysgol, offer, modelau a fframweithiau, gan adolygu eu cryfderau a'u gwendidau yn feirniadol i lywio ymarfer addysgol

SD 3 Ymgysylltu ag ymchwil, ysgolheictod ac ymarfer a delio â chymhlethdodau, anghysonderau a bylchau yn y sylfaen dystiolaeth gyfredol, gan ddatblygu dulliau dysgu annibyniaeth meddwl ymhellach  

SD 4 Meithrin creadigrwydd, arloesedd ac ymarfer moesegol mewn datblygiadau addysgol o fewn addysg glinigol 

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

SY 1 Meistroli'r sgiliau sydd eu hangen i fod yn ddysgwr gydol oes drwy'r gallu i chwilio yn gadarn am dystiolaeth, herio tystiolaeth a chyflwyno'r dystiolaeth orau i ddylanwadu ar addysg glinigol.

SY 2 Llywio amgylcheddau digidol, ymgyfarwyddo â Dysgu Canolog, astudio sgiliau ac adnoddau llyfrgell, y Ganolfan Graddau a Turnitin

SY 3 Cyfosod cysyniadau er mwyn datblygu arferion personol a phroffesiynol ymhellach  

SY 4 Cymhwyso hunanymwybyddiaeth broffesiynol a hunanfyfyrio i'ch datblygiad proffesiynol eich hun mewn ffyrdd sy'n gwella eich ymarfer    

SY 5 Dangos sgiliau cyfathrebu effeithiol mewn arena myfyrwyr ôl-raddedig.

Sgiliau trosglwyddadwy/allweddol:

SA 1 Dangos ymrwymiad i ddysgu gydol oes, cymryd rhan yn y broses o astudio ôl-raddedig, dangos ysgolheictod, uniondeb ac atebolrwydd

SA 2 Cynllunio, trefnu a rheoli gwaith cwrs yn effeithiol, gan ddangos annibyniaeth, mentergarwch a gwreiddioldeb  

SA 3 Cymhwyso eich sgiliau addysgol i ddarparu adborth adeiladol i ddysgwyr a chydweithwyr ac ymateb i heriau a chyfleoedd addysgol

SA 4 Rheoli'n effeithiol eich hun, dysgwyr a'r amgylchedd addysgol 

SA 5 Cyfathrebu'n gywir, yn glir ac yn gryno mewn amrywiaeth o ddulliau, gan ddefnyddio ystod o gyfryngau i amrywiaeth o gynulleidfaoedd  

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £8,950 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £20,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae dros 500 o glinigwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill wedi ymuno â'n cyrsiau o bob cwr o'r byd. Mae llawer o raddedigion yn defnyddio'r wybodaeth a gyflwynir ar y cwrs i newid eu dulliau addysgu mewn ffyrdd arloesol. Mae eraill yn mynd ymlaen i swyddi uwch a rhagor o gyfrifoldeb dros arwain a hyrwyddo rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

Dyma beth sydd gan rai o'n cynfyfyrwyr i'w ddweud am sut mae'r cwrs wedi bod o fudd iddyn nhw'n broffesiynol...

“Ychydig fisoedd ar ôl cwblhau MSc, cefais fy mhenodi yn Arweinydd y Diploma mewn Dermatoleg Ymarferol (DPD) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'r DPD yn gwrs dysgu o bell ar-lein ac mae 300 o feddygon teulu yn dilyn y cwrs bob blwyddyn ac mae cyllideb flynyddol o £1miliwn ar ei gyfer. Erbyn hyn rwy’n arwain tîm cydlynu sy’n cynnwys 4 o weinyddwyr, technolegydd dysgu a thros 80 o diwtoriaid allanol. Bydd cynnwys cynhwysfawr MSc Addysg Feddygol Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys y modiwlau ar asesu a gwerthuso cyrsiau, yn ddefnyddiol iawn i mi bob dydd.” 
John Ingram, Ymgynghorydd Dermatoleg, y DU

"Ers dychwelyd i Wlad Thai lle rwy'n feddyg teulu ac yn ddarlithydd yn y Gyfadran Meddygaeth ym Mhrifysgol Tywysog Songkla (PSU), rwy’n falch dros ben fy mod wedi gallu defnyddio cymaint o’r wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau a gefais yng Nghaerdydd er mwyn gwella’r addysg feddygol yma. Rwyf wedi sefydlu'r Grŵp Diddordeb Addysg Feddygol Thai i alluogi rhwydweithio cymdeithasol ymhlith y gymuned feddygol. Rwyf hefyd wedi bod yn cydweithio â'r Uned Addysg Feddygol yn fy ysgol meddygaeth i ddatblygu gwefan Adnoddau Addysg Feddygol PSU i ddarparu mynediad hawdd at wybodaeth ddibynadwy am addysg feddygol. Rwy'n falch iawn o'r fenter hon sydd heb os wedi'i hategu gan yr addysg a gefais drwy'r MSc yng Nghaerdydd.” 
Krishna Suvarnabhumi, Meddyg Teulu, Prifysgol y Tywysog Songkia, Gwlad Thai

"Roedd yn gwrs egnïol a atgyfnerthodd fy sgiliau addysgu ac mae wedi rhoi hwb sylweddol i mi yn broffesiynol ac yn bersonol. Mae'r cwrs wedi'i gynllunio a'i drefnu'n dda iawn ac mae'n cael ei addysgu gan arbenigwyr blaenllaw yn y maes hwn. Roedd staff y rhaglen yn gefnogol iawn ac yn cydnabod ein cefndiroedd amrywiol. Am yr holl resymau hynny, byddwn yn argymell y cwrs hwn yn fawr i unrhyw un sy'n bwriadu gwella ei yrfa fel addysgwr ym maes y proffesiwn iechyd.” 
Yaser Zeitoun, Deintydd, DU

"Roedd dod i Brifysgol Caerdydd ar gyfer fy MSc mewn Addysg Feddygol yn un o'r penderfyniadau gorau rydw i wedi’u gwneud. Mae'r rhaglen MSc wedi'i strwythuro a'i chynllunio mor dda fel ei bod yn eich herio go iawn heb fod yn ormod. Yn broffesiynol, mae wedi cael dylanwad aruthrol ar fy ngyrfa fel academydd. Rwy'n teimlo'n fwy hyderus nawr fel athro a hwylusydd dysgu. Mae'r MSc wedi fy helpu i symud ymlaen fel academydd. Fe'm penodwyd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Sicrhau Ansawdd ar gyfer fy sefydliad ac rwyf wedi cael fy nyrchafu'n Bennaeth Adran ac Athro Cyswllt yn dilyn fy MSc o Gaerdydd. Mae’r datblygiad hwn wedi digwydd i raddau helaeth o ganlyniad i’r radd Meistr o Brifysgol Caerdydd, ac roedd hi’n fraint cael dysgu gan y tiwtoriaid gwych.”
Syed Hammad Hassan, Deintydd, Pacistan

"Rwy'n credu y bydd y cwrs yn cael effaith fawr ar fy ngyrfa ac ar fy mywyd. Rwyf bellach wedi cael fy ngwahodd i fod ar bwyllgor addysg a hyfforddiant Cymdeithas Llawfeddygaeth Prydain (BSSH). Ar hyn o bryd rydym yn datblygu cwricwlwm ar gyfer llawdriniaeth i'w ddefnyddio ochr yn ochr ag e-ddysgu ar raglenni iechyd. Mae hwn yn brosiect cyffrous. Ni fyddwn byth wedi breuddwydio am allu bod yn rhan ohono flwyddyn yn ôl.”
Jill Webb, Llawfeddyg Ymgynghorol Cosmetig, y DU

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Deintyddiaeth, Addysg, Gofal iechyd, Addysg feddygol a deintyddol, Meddygaeth


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.