Ewch i’r prif gynnwys

Biowybodeg ac Genomeg Cymhwysol (MSc)

  • Hyd: 1 year
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Nod y rhaglen yw rhoi cyfle i unigolion archwilio, dadansoddi a dehongli data biolegol cyfoes. Mae'r cwrs hwn yn cynnig addysg ar lefel gradd Meistr mewn Biowybodeg, gan ganolbwyntio ar fiowybodeg genomig.

Nod y rhaglen yw rhoi cyfle i unigolion archwilio, dadansoddi a dehongli data biolegol cyfoes. Mae'r cwrs hwn yn cynnig addysg ar lefel gradd Meistr mewn Biowybodeg, gan ganolbwyntio ar fiowybodeg genomig. Byddwch yn datblygu sgiliau allweddol ar gyfer dadansoddi data omeg gan gynnwys data genomeg o dechnolegau dilyniannu cenhedlaeth nesaf. Byddwch yn datblygu sgiliau ychwanegol yn ymwneud ag omeg sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys metabolomeg a phroteomeg, hefyd.

Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio gydag anghenion ymchwil academaidd, biotechnoleg a’r diwydiannau fferyllol a gofal iechyd mewn golwg. Byddwn yn darparu cyfarwyddyd mewn biowyddorau cyfrifiadurol ac ystadegol a bydd myfyrwyr yn meithrin y sgiliau ategol ychwanegol hyn sydd eu hangen i alluogi unigolion i weithio'n effeithiol mewn maes biowybodeg amlddisgyblaethol.

Nodau’r Rhaglen

  • Darparu’r sgiliau a'r wybodaeth ymarferol ryngddisgyblaethol i chi am fiowyddorau cyfrifiadurol ac ystadegol i'ch paratoi ar gyfer gyrfaoedd heriol mewn ymchwil academaidd, biotechnoleg, a’r diwydiannau fferyllol a gofal iechyd;
  • Cyflwyno'r dulliau cyfrifiadurol, ystadegol a dadansoddol a ddefnyddir amlaf mewn bioleg a geneteg ôl-genomig;
  • Datblygu sgiliau i ddeall a gwerthuso methodolegau a chasgliadau ymchwil yn feirniadol er mwyn iddyn nhw allu llunio barn gadarn am ba mor berthnasol yw'r technegau hyn i'w hymchwil eu hunain;
  • Datblygu cymhwysedd wrth ddylunio a dadansoddi astudiaethau a thynnu gwybodaeth yn effeithiol mewn geneteg, genomeg a biowyddorau eraill ynghyd â'r gallu i gyfleu gwybodaeth, canlyniadau, materion a syniadau i gynulleidfaoedd o gefndir arbenigol ac anarbenigol;
  • Paratoi a darparu arweiniad i gyflawni darn gwreiddiol o ymchwil yn y maes arbenigol y mae’n dymuno dilyn gyrfa ynddo. Mae'r maes hwn yn y cwrs hefyd yn anelu at gryfhau eich gallu i gymryd yr awenau ac ysgwyddo’r cyfrifoldeb am gynllunio a chyflawni tasgau a dangos barn wreiddiol wrth fynd i'r afael â phroblemau a'u datrys fel y byddai angen gwneud ym myd gwaith.

Nodweddion unigryw

Sefydlwyd y cwrs hwn gyntaf dros ddegawd yn ôl mewn ymateb i gwblhau drafftiau cyntaf y prosiect genom dynol ac anghenion gwybodeg dilynol y cymunedau geneteg a genomeg.  Mae datblygiadau parhaus mewn technolegau genomig a dulliau dadansoddol wedi arwain at esblygiad parhaus y rhaglen hon i ddarparu cyfarwyddyd cyfoes mewn sgiliau hanfodol newydd.

Mae ein cwrs yn hygyrch i fyfyrwyr sydd â graddau cynradd mewn mathemateg, gwyddorau bywyd neu gyfrifiadura. Mae modiwlau mewn meysydd cydberthnasol craidd megis cyfrifo/sgriptio, ystadegau a bioleg foleciwlaidd yn cynnig y blociau adeiladu sylfaenol sydd eu hangen i lwyddo mewn dadansoddi a dehongli biowybodeg.

Yn ystod Semester y Gwanwyn, byddwch yn ymgymryd ag astudiaeth achos 20 credyd. Bydd hyn yn cynnwys elfennau a addysgir mewn sgiliau ymchwil ac yn golygu gweithio'n uniongyrchol gyda chleient gan ddefnyddio data go iawn. Byddwch yn cael eich gwreiddio yn un o'r llu o ganolfannau ymchwil ar draws y campws ac yn ennill profiad gwerthfawr wrth gyflwyno prosiectau biowybodeg ar gyfer rhaglenni ymchwil.  Bydd y data canlyniadol hefyd yn cael ei gyflwyno ochr yn ochr â'ch cymheiriaid yn ein sesiynau poster astudiaeth achos.

Byddwch yn dysgu sgiliau trefnu a chodio hanfodol a hyfforddiant estynedig mewn ystadegau. Os nad ydych o gefndir gwyddorau bywyd, byddwn yn eich cyflwyno i'r fioleg y tu ôl i'r data ac yn eich helpu i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch dewis a dehongli data.

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Meddygaeth

Rydym ni'n un o ysgolion meddygaeth fwyaf y DU, wedi ein hymrwymo i geisio gwella iechyd pobl drwy addysg ac ymchwil.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2068 7214
  • MarkerYsbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XN

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol fel biowyddoniaeth, cyfrifiadura, mathemateg, ystadegau, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 7.5 gyda 6.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Datganiad personol sy'n esbonio pam yr ydych yn dymuno dilyn y rhaglen hon, pa fuddion rydych yn disgwyl eu cael ohono, a pha sgiliau a phrofiad sydd gennych sy'n eich gwneud yn ymgeisydd addas. Mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r cwestiynau isod fel penawdau yn eich datganiad:
  • Beth sy'n eich cymell i wneud cais ar gyfer y cwrs hwn?
  • Sut fyddech chi'n disgrifio eich llythrennedd cyfrifiadurol a pha brofiad codio sydd gennych chi?
  • Sut fyddech chi'n disgrifio eich gwybodaeth am ystadegau?
  • Sut fyddech chi'n disgrifio eich gwybodaeth am fioleg moleciwlaidd a geneteg?
  • Os ydych wedi gwneud cais o'r blaen am y cwrs hwn ac wedi bod yn aflwyddiannus, disgrifiwch pa brofiad pellach rydych wedi'i ennill a allai gryfhau eich cais.

Os nad oes gennych radd neu os dyfarnwyd 2.2 i'ch gradd, gellir ystyried eich cais ar sail o leiaf dwy flynedd o brofiad proffesiynol perthnasol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Y dyddiad cau yw 31 Gorffennaf. Mae lleoedd yn gyfyngedig ac argymhellir gwneud cais yn gynnar. Nodwch fod y rhaglen yn gofyn am nifer lleiaf o fyfyrwyr er mwyn rhedeg. Os na chaiff niferoedd myfyrwyr eu bodloni erbyn 31 Gorffennaf, ni allwn warantu y bydd y rhaglen yn rhedeg.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid oes gofyn i chi gwblhau gwiriad GDG (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) neu ddarparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys y canlynol (ymhlith eraill):

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer/dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffywiau
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Bydd y cwrs llawn amser yn cael ei gyflwyno ar draws un flwyddyn. Bydd y cwrs yn cael ei asesu gan ddefnyddio gwaith cwrs a thrwy gyflwyniadau myfyrwyr. Yn Semester yr Hydref, byddwch yn cyflawni modiwl 20 credyd 5 wythnos yn gyntaf a gynlluniwyd i ddatblygu ac atgyfnerthu'r sgiliau cyfrifiadurol a sgriptio angenrheidiol ar gyfer trin a dadansoddi data; bydd hyn yn cynnwys elfennau ar linell orchymyn, cyfrifiadura perfformiad uchel, ieithoedd sgriptio a delweddu data.

O ganol Semester yr Hydref, bydd myfyrwyr yn cyflawni dau fodiwl 20 credyd ar yr un pryd mewn dulliau ystadegol a chyflwyniad i ddulliau ac adnoddau biowybodeg. Bydd y 2 gwrs yn cael eu cyflwyno dros 10 wythnos ac yn ymestyn i Semester y Gwanwyn.

Yn Semester y Gwanwyn, bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag astudiaeth achos 20 credyd sy'n ymestyn dros 10 wythnos. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda chleient a data go iawn. Hanner ffordd drwy Semester y Gwanwyn bydd y myfyrwyr yn ymgymryd â dau fodiwl 20 credyd sy'n canolbwyntio ar ddulliau epidemiolegol genetig. Bydd y modiwlau hyn yn cael eu cynnal mewn cyfresi, a byddant yn gyflawn ar ddiwedd Semester y Gwanwyn.

Yn olaf, yn Semester yr Haf, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â phrosiect ymchwil 15 wythnos a fydd yn arwain at greu eu traethawd ymchwil.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Bydd y cwrs llawn amser yn cael ei gyflwyno ar draws un flwyddyn. Bydd y cwrs yn cael ei asesu gan ddefnyddio gwaith cwrs a thrwy gyflwyniadau myfyrwyr. Yn Semester yr Hydref, byddwch yn cyflawni modiwl 20 credyd 5 wythnos yn gyntaf a gynlluniwyd i ddatblygu ac atgyfnerthu'r sgiliau cyfrifiadurol a sgriptio angenrheidiol ar gyfer trin a dadansoddi data; bydd hyn yn cynnwys elfennau ar linell orchymyn, cyfrifiadura perfformiad uchel, ieithoedd sgriptio a delweddu data. O ganol Semester yr Hydref, bydd myfyrwyr yn cyflawni dau fodiwl 20 credyd ar yr un pryd mewn dulliau ystadegol a chyflwyniad i ddulliau ac adnoddau biowybodeg. Bydd y 2 gwrs yn cael eu cyflwyno dros 10 wythnos ac yn ymestyn i Semester y Gwanwyn. Yn Semester y Gwanwyn, bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag astudiaeth achos 20 credyd sy'n ymestyn dros 10 wythnos. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda chleient a data go iawn. Hanner ffordd drwy Semester y Gwanwyn bydd y myfyrwyr yn ymgymryd â dau fodiwl 20 credyd sy'n canolbwyntio ar ddulliau epidemiolegol genetig. Bydd y modiwlau hyn yn cael eu cynnal mewn cyfresi, a byddant yn gyflawn ar ddiwedd Semester y Gwanwyn. Yn olaf, yn Semester yr Haf, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â phrosiect ymchwil 15 wythnos a fydd yn arwain at greu eu traethawd ymchwil.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno fel dysgu wyneb yn wyneb. Fe welwch ddeunyddiau’r cwrs, dolenni i ddeunyddiau ac asesiadau cysylltiedig ar Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd, Dysgu Canolog.

Dull cyflwyno:

  • Bydd pob Modiwl a addysgir yn cael ei gyflwyno drwy fodel ystafell ddosbarth ar gyfer grwpiau bach (llai na 20 o gyfranogwyr ym mhob sesiwn).
  • Bydd disgwyl i chi ymrwymo tua 200 awr o ymdrech fesul modiwl; byddwch yn derbyn tua 60 awr o gyswllt wyneb yn wyneb fel rhan o hyn. Cyflwynir hyn drwy tua 20 o sesiynau addysgu. Bydd pob sesiwn addysgu yn para 3 awr a bydd egwyliau priodol.
  • Bydd sesiynau addysgu yn cynnwys cyfuniad o elfennau fel theori (dysgu ar blackboard), gwaith ymarferol ar gyfrifiadur, gwaith grŵp a thiwtorial. Er mwyn cyflawni deilliannau dysgu ar gyfer cwrs sy'n seiliedig ar fiowybodeg, rydyn ni’n credu nad yw’n ddefnyddiol cyflwyno llawer o sesiynau ""darlithoedd yn unig"" yn aml iawn. Credwn y byddwch yn dysgu drwy gymhwyso a rhyngweithio. Fodd bynnag, lle bo'n briodol, bydd rhywfaint o theori yn cael ei gyflwyno fel darlithoedd.
  • Cynhelir pob sesiwn ar amrywiaeth o ffurfiau, ond y strwythur cyffredinol fydd cyflawni 2-3 o ddeilliannau dysgu allweddol fesul sesiwn drwy gyflwyniad i gysyniadau allweddol, cyfleu gwybodaeth gyfredol berthnasol a dod i gysylltiad â methodoleg a chymhwyso ymchwil.
  • Yn y sesiynau addysgu, byddwn yn rhoi adborth ar asesiadau ffurfiannol a chynnwys y cwrs. Yn yr elfennau hyn, byddwch yn cael y cyfle i drafod themâu neu bynciau, i atgyfnerthu eich gwaith dysgu unigol a chael adborth arno ac i ddatblygu sgiliau cyflwyno llafar. Bydd sgiliau cyfathrebu yn cael eu datblygu mewn tiwtorialau, lle byddwch yn gwneud cyfraniadau unigol i astudiaethau grŵp; er enghraifft, drwy grynhoi asesiad ffurfiannol neu ddeilliannau sesiynau grŵp.
  • Byddwch yn ymarfer ac yn datblygu theori, sgiliau deallusol, gwaith tîm a chyflwyno drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu amrywiol. Mae’r rhain yn cynnwys datrys problemau biowybodeg, trafodaethau mewn grwpiau bach, cyflwyniadau llafar, tasgau ymchwil annibynnol ac aseiniadau ysgrifenedig.
  • Gallwch gael eich addysgu ochr yn ochr â myfyrwyr o Raglenni eraill, gan gynnwys yr MSc mewn Biowybodeg ac Epidemioleg Genetig yn ogystal â myfyrwyr sy'n ymgymryd â Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).

Sut y caf fy asesu?

Adborth Ffurfiannol

Mae adborth ffurfiannol yn adborth nad yw'n cyfrannu at gynnydd na phenderfyniadau dosbarthiad gradd. Nod adborth ffurfiannol yw gwella eich dealltwriaeth a'ch dysgu cyn i chi gwblhau eich asesiad crynodol. Yn fwy penodol, mae adborth ffurfiannol yn eich helpu i wneud y canlynol:

  • canfod eich cryfderau a’ch gwendidau a thargedu meysydd y mae angen gweithio arnyn nhw;
  • helpu staff i’ch cefnogi a rhoi sylw i'r problemau a ganfuwyd - gan alluogi strategaethau wedi'u targedu i gael eu datblygu er mwyn i chi wella.
  • Mae gofyn ymarfer er mwyn datblygu sgiliau ym maes gwyddorau data. Rydych chi'n dysgu drwy eich llwyddiannau a'ch methiannau. Byddwch yn derbyn cwestiynau a thasgau byr fel rhan o'r sesiynau addysgu. Bydd y tasgau ffurfiannol hyn yn helpu i atgyfnerthu eich dysgu ac yn rhoi adborth defnyddiol i gydlynwyr y cwrs ynghylch ble gallwn wella a chanolbwyntio adnoddau. Er na fydd marciau ffurfiannol yn cyfrannu at benderfyniadau ynghylch cynnydd na ddosbarthiad gradd, bydd buddsoddi’n briodol yn y tasgau hyn yn helpu gydag elfennau crynodol y Modiwl.

Adborth Crynodol

  • Adborth sy'n cyfrannu at benderfyniadau ynghylch cynnydd neu ddosbarthiad gradd yw adborth crynodol. Nod asesu crynodol yw rhoi syniad o i ba raddau rydych wedi llwyddo i gyflawni deilliannau dysgu bwriadedig Modiwl a bydd yn eich galluogi i nodi unrhyw gamau sydd eu hangen i wella. Er mwyn cynnal cysondeb a safonau, mae marcwyr asesiadau yn defnyddio cynllun marcio wedi'i ddiffinio ymlaen llaw ar gyfer pob aseiniad. Dylai'r holl adborth gael ei gysylltu’n uniongyrchol â meini prawf asesu/graddio’r modiwl.
  • Mae'r dulliau adborth rydyn ni’n eu ffafrio yn cynnwys gwaith cwrs a chyflwyniadau. Yn gyffredinol, bydd myfyrwyr yn derbyn dwy elfen gwaith cwrs; papur adolygu wedi’i lywio gan theori (e.e. traethawd ""cymharu a chyferbynnu""), a phrosiect ymchwil cymhwysol. Bydd gofyn i fyfyrwyr gyflwyno canfyddiadau eu hymchwil i'w cyfoedion a'u harholwyr fel rhan o'r asesiad crynodol.
  • Bydd adborth ffurfiannol yn cael ei gyfleu i fyfyrwyr yn electronig ac yn ysgrifenedig yn brydlon. Bydd adborth ychwanegol yn cael ei ddarparu i'r grŵp fel rhan o gydrannau tiwtorial y sesiynau addysgu. Darperir adborth crynodol ar asesiadau o fewn yr amserlen a nodir gan y Brifysgol.

Y Strategaeth Asesu Gyffredinol

Bydd y strategaeth asesu a fydd yn cael ei rhoi ar waith yn gwerthuso;

  • Gwybodaeth a Dealltwriaeth: Bydd gwaith cwrs yn cynnwys dadansoddi data, adolygiadau ac ymarferion rhaglennu a bydd y rhain yn cael eu hasesu drwy adroddiadau ysgrifenedig.
  • Sgiliau deallusol: Asesir sgiliau deallusol drwy ymarferion/aseiniadau sy'n seiliedig ar broblemau, ac adroddiadau astudiaethau achos. Caiff eich dealltwriaeth o’r deunydd ei werthuso drwy gyflwyniad hefyd. Lle bo'n berthnasol, caiff y sgiliau hyn eu hasesu drwy'r traethawd hir, cyfweliad prosiect ymchwil ac adolygiad beirniadol.
  • Sgiliau ymarferol: Yn gyffredinol, asesir sgiliau ymarferol drwy aseiniadau ymarferol. Lle bo'n berthnasol, bydd angen dangos y sgiliau hyn yn y traethawd hir, y prosiect ymchwil a'r adolygiad beirniadol. Bydd asesiad o sgiliau ymarferol o'r fath yn cael ei gynnwys yn y radd derfynol ar gyfer y traethawd hir.
  • Sgiliau trosglwyddadwy/allweddol: Asesir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig drwy ysgrifennu adroddiadau a'r traethawd hir (lle bo hynny'n berthnasol). Bydd cyflwyniadau llafar yn rhan o'r asesiad ar gyfer rhai modiwlau a bydd sgiliau gweithio mewn tîm yn cael eu hasesu yn ystod yr aseiniad ar y cyd.
  • Traethawd Hir MSc: Bydd cam y traethawd hir yn cael ei asesu ar sail y traethawd hir terfynol. Neilltuir 60 credyd ar gyfer y traethawd hir ac, ar y cyd â'r cam(au) a addysgir, bydd yn cael ei bwysoli 50% ar gyfer cyfrifo'ch marc terfynol. Bydd y disgwyliadau ar gyfer fformat, cyflwyno a marcio'r traethawd hir yn dilyn Rheoliadau Asesu’r Senedd, a ategir lle bo'n briodol gyda gofynion ychwanegol y Rhaglen/Ysgol/Coleg ac unrhyw ofynion penodol sy'n deillio o natur y prosiect a gynhaliwyd. Byddwn yn rhoi canllawiau i'r myfyrwyr ar sut bydd asesiadau'n cael eu gwneud ar gyfer eu traethodau hir.

Rydyn ni wedi ymrwymo i gydraddoldeb i’r Gymraeg a’r Saesneg ac os ydych yn siarad Cymraeg cewch ofyn am gael Tiwtor Personol sy’n siarad Cymraeg, ac ymgymryd â’ch asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Sut y caf fy nghefnogi?

Fel rhan o'r broses ymsefydlu, rydyn ni’n cynnal sesiwn groesawu 2 awr i bob myfyriwr - er mwyn i chi gael cwrdd â'ch cydfyfyrwyr, rheolwyr y cwrs a'r tîm addysgu. Rydyn ni hefyd yn darparu sesiwn ymsefydlu sy'n ymwneud â thiwtora a gwasanaethau ac adnoddau llyfrgell. Bydd pob myfyriwr yn cael llawlyfr myfyrwyr cyfredol, a fydd yn cael ei ddarparu yn fformat priodol y coleg.

Mae system diwtora personol yno i’ch tywys drwy'r cwrs er mwyn hybu llwyddiant academaidd a llesiant a datblygiad personol. Ar ddechrau'r cwrs byddwch yn cyfarfod â'ch Tiwtor Personol i ganfod a thrafod y meysydd rydych chi’n credu mae gennych gryfderau a gwendidau ynddyn nhw (gan ddefnyddio'r atebion i’r holiadur cyn y cwrs fel man cychwyn ar gyfer trafodaeth). Bydd hyn yn cwmpasu’r meysydd astudio, gallu yn y Saesneg a phrofiad blaenorol mewn arholiadau.

Bydd gwahaniaethau dysgu penodol, anabledd a/neu gyflyrau meddygol yn cael eu nodi a bydd Cyfarwyddwr y Rhaglen yn dilyn gweithdrefnau a chanllawiau'r Brifysgol ar hyn. Rydyn ni wedi ymrwymo i gydraddoldeb ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg ac os ydych yn siarad Cymraeg gallwch ofyn am gael Tiwtor Personol sy’n siarad Cymraeg.

O safbwynt academaidd, mae eich tiwtor yno i roi arweiniad ar unrhyw faterion/cwestiynau academaidd cyffredinol sy'n codi o'r cwrs ac i’ch annog i fwrw ymlaen â dysgu hunangyfeiriedig. Nid darllen na marcio fersiynau drafft o’ch aseiniadau yw rôl y tiwtor, ond gall drafod unrhyw bwnc a allai fod yn heriol i chi. Rhoddir adborth manwl gan Dîm y Modiwl i fyfyrwyr unwaith y bydd aseiniad wedi'i farcio. Mae croeso i chi drafod yr adborth hwn â'ch tiwtor

Yn ystod cam traethawd hir y cwrs MSc, bydd goruchwyliwr traethawd hir yn cael ei neilltuo i bob myfyriwr a fydd yn arwain eu gwaith cynllunio ac yn eu cynghori wrth iddyn nhw gwblhau eu prosiectau.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Ar ôl cwblhau’r Rhaglen, byddwch yn gallu dangos y canlynol:

  • dealltwriaeth systematig o egwyddorion ystadegau, biowyddorau a chyfrifiadureg sy'n sail i epidemioleg genetig a biowybodeg;
  • gwybodaeth am feddalwedd a chronfeydd data biowybodeg cyfredol a sut maen nhw’n cael eu defnyddio i ddatrys problemau biowybodeg yn y maes ac yn eu hymchwil eu hunain;
  • ymwybyddiaeth dda, dealltwriaeth a gwerthfawrogiad beirniadol o'r amrywiaeth eang o ddulliau ystadegol sydd ar gael i ddadansoddi data genetig, gan werthfawrogi'r materion sy'n gysylltiedig â dyluniad astudiaethau;
  • gwybodaeth am feddalwedd ystadegol a ddefnyddir i ddadansoddi data omigau a'r sefyllfaoedd lle dylid/na ddylid defnyddio'r pecynnau;
  • cynnwys gwybodaeth a dealltwriaeth y byddwch yn eu meithrin gyda sgiliau ymarferol, gan arwain at ddull cadarn o ddatrys problemau;
  • cyfosod gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau sydd ar flaen y gad o ran Genomeg a Biowybodeg;
  • gwerthuso gwahanol ddulliau o ddatrys problemau yn feirniadol a dangos eu perthnasedd, eu cryfderau a'u gwendidau;
  • ffurfio damcaniaethau a defnyddio sgiliau dadansoddi i brofi'r damcaniaethau hyn. Dehongli'r canlyniadau a gwneud penderfyniadau yng ngoleuni'r holl wybodaeth sydd ar gael a hynny weithiau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy;
  • cynnal darn o waith ymchwil gwreiddiol neu adolygiad beirniadol lled-annibynnol sy'n dangos eich bod yn mentro, yn cymryd cyfrifoldeb am gynllunio a chyflawni tasgau, ac yn mynd i'r afael â phroblemau ymchwil ac yn eu datrys;
  • y gallu i asesu'r math cywir o ddadansoddiad ar gyfer set ddata a'i gyflawni gan ddefnyddio pecyn cyfrifiadurol priodol;
  • cymhwysedd wrth gael gafael ar offer biowybodeg a'u defnyddio o amrywiaeth o ffynonellau;
  • sgiliau rhaglennu cyfrifiadurol a chymhwysedd mewn dylunio rhaglenni da;
  • y gallu i ddylunio, gweithredu a dadansoddi algorithmau ar gyfer rhaglenni biowybodeg;
  • y gallu i gynhyrchu adroddiadau astudiaethau achos ar bynciau pwysig ym meysydd biowybodeg a bioystadegau;
  • sgiliau ymchwil cymwys, fel chwiliadau llenyddiaeth;
  • gweithio'n annibynnol, rheoli ei amser ei hun a chymryd cyfrifoldeb am y dysgu sy'n ofynnol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus;
  • rhaid rheoli tasgau unigol a phrosiectau ar raddfa fwy gan nodi a datrys rhwystrau posibl;
  • gweithio fel aelod o dimau rhyngddisgyblaethol, gan nodi cryfderau a gwendidau unigolion a dyrannu gwaith yn unol â hynny i gyflawni amcanion y tîm;
  • gallu defnyddio technoleg gwybodaeth, fel ebost, prosesyddion geiriau, offer meddalwedd a'r we fyd-eang;
  • trosglwyddo sgiliau a chysyniadau cyfrifiadurol i becynnau/ieithoedd/cronfeydd data anghyfarwydd wedi hynny;
  • cyflwyno gwybodaeth, dealltwriaeth a dadleuon gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu effeithiol (ysgrifenedig a llafar) a bod yn ymwybodol o'r gynulleidfa darged.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,450 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £27,450 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Disgwylir bod gan bob myfyriwr ei liniadur ei hun. Trafodwch â Chyfarwyddwr y Cwrs cyn prynu unrhyw galedwedd er mwyn cael cyngor pellach ar y dewis cywir o ran peiriant. Hefyd bydd arnoch angen cysylltiad dibynadwy rheolaidd â band eang. Nid oes angen unrhyw gostau ychwanegol ynghlwm â'r Rhaglen hon

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Bydd angen i chi ddarparu cyfrifiadur dibynadwy gyda mynediad priodol i'r Rhyngrwyd, gyda'r amddiffyniad diweddaraf yn erbyn feirysau a maleiswedd.

Bydd deunydd cwrs yn cael ei ddarparu ar ffurf dogfen gludadwy a Microsoft PowerPoint.

Bydd angen meddalwedd prosesu geiriau, sy'n gydnaws â Microsoft Word, i gyflawni'r tasgau a'r asesiadau crynodol a ffurfiannol. Gall meddalwedd arall hefyd fod yn ddefnyddiol ar rai adegau yn y rhaglen ar gyfer casglu/dadansoddi data, er enghraifft Microsoft Excel, neu greu cyflwyniadau, er enghraifft Microsoft PowerPoint.

Bydd Prifysgol Caerdydd yn darparu'r holl ddeunyddiau dysgu sy'n briodol i bob modiwl a chyfnod cwricwlwm ac amgylchedd dysgu ar-lein lle byddwch yn defnyddio deunyddiau cwrs ac yn cyfathrebu â thiwtoriaid a myfyrwyr eraill. Byddwch hefyd yn cael mynediad i amrywiaeth eang o gyfnodolion a llyfrau testun electronig a chopïau caled sy'n gysylltiedig â'ch astudiaethau drwy Lyfrgell y Brifysgol.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy ac i wella cyflogadwyedd graddedig. Rydym eisiau gwybodegwyr graddedig hynod alluog sy'n gallu bodloni anghenion gwybodeg cynyddol cyflogwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Dyna pam y mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio gydag anghenion ymchwil academaidd, y diwydiannau biotechnoleg, fferyllol a gofal iechyd mewn golwg. Bydd cyfarwyddyd mewn biowyddorau cyfrifiadurol ac ystadegol yn galluogi chi i weithio'n effeithiol o fewn maes biowybodeg amlddisgyblaethol.

Cofrestrodd ein carfan gyntaf o bump o fyfyrwyr i'r MSc ar ei newydd wedd ym mis Medi 2018. Ym mis Gorffennaf 2019 mae un myfyriwr wedi derbyn swydd PhD, ac mae dau wedi derbyn swyddi cyswllt ymchwil mewn biowybodeg.   Rydym yn disgwyl yn eiddgar am ganlyniad cyfweliadau sydd ar y gweill!

Yn hanesyddol, o 2004-2017 mae'r rhaglen hon wedi gweld tua 24% o fyfyrwyr yn mynd i mewn i PhD sy'n uniongyrchol gysylltiedig â biowybodeg, aeth 17% o fyfyrwyr i mewn i PhD arall mewn meysydd biofeddygaeth eraill; 10% wedi ymuno â gradd MSc/TAR/meddygol; a thua 49% wedi cael cyflogaeth yn ymwneud â biowybodeg, bioystadegau neu wyddor data arall.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Biomedical sciences, Medicine


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.