Cyfarwyddiadau
Mae'n hawdd i chi gyrraedd Caerdydd pun ai ydych chi'n defnyddio cludiant cyhoeddus, car neu awyren.
Mae’r M4 ger Caerdydd ac mae modd cyrraedd y ddinas yn rhwydd o bob rhan o Brydain.
O'r dde-orllewin Lloegr, ewch ar yr M5, ac o dde Lloegr, dilynwch bob brif heol-A tuag at yr M4.
O'r Alban, gogledd a Chanolbarth Lloegr, ewch ar yr M50 tuag at yr M4.
Teithio i'r dwyrain ar yr M4
Ewch oddi ar y draffordd wrth Gyffordd 32, a dilynwch yr arwyddio.
Campws Parc Cathays
Dilynwch yr A470 tuag at ganol y ddinas a byddwch yn gweld arwyddion y brifysgol.
Campws Parc y Mynydd Bychan
Dilynwch yr A470 cyn belled â Chyfnewidfa Gabalfa. Cymerwch yr allanfa gyntaf i fynd ar yr A48 (Rhodfa'r Dwyrain), sydd ag arwyddion Casnewydd a'r M4, ond gadewch yr heol ar y ffordd ymuno ar y chwith yn syth. Mae’r heol yma’n mynd yn syth i’r Ysbyty Athrofaol.
Mae parcio ar Gampws Parc y Mynydd Bychan wedi'i gyfyngu i gleifion ysbyty, ymwelwyr cleifion a staff meddygol.
Teithio i'r gorllewin ar yr M4
Ewch oddi ar y draffordd ar Gyffordd 29, a dilynwch yr A48(M)/A48, sydd ag arwyddion Dwyrain Caerdydd a'r De (Cardiff East and the South). Dilynwch y ffordd hon am tua saith milltir.
Campws Parc Cathays
Dilynwch yr A48 i'r A470 (Cyfnewidfa Gabalfa). Gadewch yr A48 yng Nghyfnewidfa Gabalfa ac ewch ar yr A470, sydd ag arwyddion Canol y Ddinas. Dilynwch yr A470 tuag at ganol y ddinas a byddwch yn gweld arwyddion y brifysgol.
Campws Parc y Mynydd Bychan
Ar yr A48, bydd yr Ysbyty Athrofaol i'w weld ar y dde. Gadewch y ffordd ymadael nesaf, arwydd "Ysbyty Athrofaol" a throi i'r dde wrth y goleuadau traffig ar hyd ffordd fer sy'n arwain yn uniongyrchol i safle'r Ysbyty Athrofaol.
Mae parcio ar Gampws Parc y Mynydd Bychan wedi'i gyfyngu i gleifion ysbyty, ymwelwyr cleifion a staff meddygol.
Canol y ddinas a pharcio'r brifysgol
Mae parcio o fewn y brifysgol yn gyfyngedig iawn.
Mae parcio i ymwelwyr â'r brifysgol yn cael ei ddarparu ar sail Talu wrth Fynd. Ewch i'n tudalen Parcio Ymwelwyr am fwy o wybodaeth.
Nid yw parcio i ymwelwyr ar gael yn ystod Diwrnodau Agored na digwyddiadau mawr eraill ar y campws.
Yn ogystal, mae nifer o leoedd parcio talu ac arddangos ar y stryd (tymor byr a thymor hir) yn ogystal â meysydd parcio yng nghanol y ddinas a'r cyffiniau. Rydym yn argymell defnyddio gwefannau Croeso Caerdydd a'r Cyngor i gael gwybodaeth am opsiynau parcio pellach.
Er mwyn osgoi gorfod parcio yng nghanol y ddinas a’r gost gysylltiedig, rydyn ni’n argymell defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu ein gwasanaeth Parcio a Theithio (ar gael ar ein Diwrnodau Agored i Israddedigion yn unig – Sadwrn, 19 Hydref 2024).
Os ydych chi’n ddeiliad bathodyn glas sy'n mynd i un o'n diwrnodau agored yn yr hydref ac yr hoffech chi gadw lle parcio, anfonwch e-bost at openday@caerdydd.ac.uk gyda rhif cofrestru eich cerbyd, eich enw, rhif cyswllt a dyddiad eich ymweliad. Os ydych chi’n ddeiliad bathodyn glas sy'n ymweld â'r Brifysgol at ddiben arall, anfonwch e-bost at carparking@caerdydd.ac.uk.
Mae modd teithio ar y trên i Gaerdydd yn ddiffwdan o Lundain, meysydd awyr mwyaf y DU yn ogystal â threfi a dinasoedd ledled y wlad.
Mae gwasanaethau uniongyrchol ac aml o Lundain Paddington i Gaerdydd drwy gydol y dydd.
Mae trenau rheolaidd ar y rhwydwaith rhanbarthol yn cysylltu Caerdydd hefyd â llawer o drefi a dinasoedd ledled y DU, gan gynnwys:
- Bryste (50 munud)
- Llundain (1awr 50 munud)
- Birmingham (tua 2 awr)
- Southampton (2 awr 40 munud)
- Manceinion (3 awr 30 munud)
- Lerpwl (3 awr 45 munud).
Gorsaf drenau Caerdydd Canolog
Mae’n cymryd tua 20-30 munud i gerdded o orsaf drenau Caerdydd Canolog i Brif Adeilad Prifysgol Caerdydd. Bydd cerdded yn eich galluogi i gael ymdeimlad o’r ddinas gan gynnwys y siopau, y bwytai a’r adloniant sydd ganddi i'w chynnig.
Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd
Gorsaf Stryd y Frenhines Caerdydd yw’r lleoliad gorau ar gyfer ymweld ag adeiladau canlynol y brifysgol:
- Ysgol Peirianneg (Adeiladau Trevithick a’r Frenhines)
- Tŷ McKenzie
- Tŷ Eastgate
- Llys/Neuadd Senghennydd
- Neuadd Gordon
Gorsaf drenau Cathays
Gall ymwelwyr newid yng Nghanol Caerdydd neu Heol y Frenhines Caerdydd ar gyfer gorsaf drenau Cathays (gorsaf y brifysgol).
Lleolir gorsaf Cathays yng nghanol Campws Parc Cathays, gyferbyn â'r Prif Adeilad ac wrth ymyl Undeb y Myfyrwyr. Mae'n darparu mynediad hawdd i holl adeiladau eraill y brifysgol ym Mharc Cathays, gan gynnwys Canolfan Bywyd y Myfyrwyr.
Campws Parc y Mynydd Bychan
Mae Parc y Mynydd Bychan wedi’i leoli tua thair milltir o ganol y ddinas.
Gorsafoedd lefel isaf a lefel uchaf Mynydd Bychan yw’r gorsafoedd agosaf o fewn taith gerdded o oddeutu ugain munud o gampws Parc y Mynydd Bychan.
Mae yna nifer o opsiynau ar gyfer teithio i Gaerdydd a mynd o amgylch y ddinas ar fws.
Bws Caerdydd
Fel mae’r enw’n awgrymu, mae Bws Caerdydd yn darparu gwasanaethau bws o fewn y ddinas, ei maestrefi, ac i leoliadau amrywiol tu allan i’r ddinas (ee Casnewydd, Penarth, Dinas Powys, Y Barri, Sain Tathan a Llanilltud Fawr).
Gwasanaethau bysiau lleol eraill (De Cymru)
Mae yna nifer o wasanaethau bysiau eraill yn darparu gwasanaeth o Gaerdydd ac i Gaerdydd, ond hefyd i ardaloedd cyfagos.
Bws Casnewydd
Gwasanaethau bws cenedlaethol
Mae Caerdydd yn derbyn gwasanaeth gan National Express, Megabus a Greyhound Express ac o brif ddinasoedd a threfi eraill.
Bws gwennol maes awyr
Mae Caerdydd yn agos i ddau faes awyr rhyngwladol (Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a Maes Awyr Bryste). Mae gan y ddau wasanaeth bws gwennol.
Y maes awyr agosaf: Maes Awyr Caerdydd
Mae nifer o wasanaethau awyrennau rhyngwladol a rhyngranbarthol yn hedfan o Faes Awyr Caerdydd, sydd tua 12 milltir o ganol y ddinas.
Dysgwch ragor am y cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus sy'n mynd i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd ac yn dychwelyd oddi yno.
Mae gwasanaethau trafnidiaeth ychwanegol ar gael o nifer o feysydd awyr y DU, sy’n fodd o deithio ymlaen i Gaerdydd.
Cymorth i deithio o amgylch Caerdydd drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gan Traveline Cymru.