Ewch i’r prif gynnwys

Campws Cyfeillgar i Ddraenogod

Gwyliwch fideo Campws Cyfeillgar i Ddraenogod Prifysgol Caerdydd

Ymgyrch genedlaethol yw Campws Cyfeillgar i Ddraenogod sydd â’r nod o wneud campysau prifysgol yn gynefinoedd gwell i ddraenogod. Mae Prifysgol Caerdydd wedi sicrhau Achrediad Aur gan yr ymgyrch.

Yn y DU, mae nifer y draenogod wedi gostwng o leiaf 30% mewn gerddi trefol ers 2000, ac mae llai na miliwn o ddraenogod ar ôl yn y gwyllt. Mae llawer o ffactorau'n cyfrannu at y gostyngiad hwn mewn niferoedd, gan gynnwys gwenwyn amgylcheddol, sbwriel, damweiniau traffig ar y ffyrdd a cholli cynefinoedd. Yn wyneb colled o'r fath, mae'n hynod bwysig ein bod yn gwneud popeth y gallwn ni i achub un o anifeiliaid mwyaf eiconig ac annwyl y wlad.

Yn rhan o'r Cynllun Gweithredu Cydnerthedd Ecosystemau a Bioamrywiaeth (ERBAP), rydyn ni wedi ymrwymo i’r ymgyrch genedlaethol Campws Cyfeillgar i Ddraenogod, sydd â’r nod o wneud campysau prifysgol yn gynefinoedd gwell i ddraenogod. Mae campysau prifysgol yn ymestyn dros dir helaeth, a gallai’r rhain yn aml fod yn gynefinoedd addas ar gyfer draenogod. Mae Campws Cyfeillgar i Ddraenogod yn cydnabod y gall y ffordd y mae prifysgolion yn defnyddio'r tir hwn effeithio’n ddirfawr ar ddraenogod.

Gwyliwch ffilm o gamera llwybr draenogod ar gampws Prifysgol Caerdydd

Lansiwyd yr ymgyrch ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Mawrth 2021. Yng nghyd-destun yr ymgyrch, sicrhaodd y Brifysgol achrediad Efydd ym mis Ionawr 2022, achrediad Arian ym mis Chwefror 2023 ac achrediad Aur ym mis Gorffennaf 2024. Rydyn ni wedi sefydlu Hybiau Bioamrywiaeth ledled y Brifysgol sy’n cynnwys staff a myfyrwyr, ac rydyn ni wedi cynnal digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn i godi ymwybyddiaeth, rhannu'r ymchwil ddiweddaraf, codi arian a helpu draenogod sy'n byw ar y campws. Mae’r camau gweithredu i helpu draenogod ar y campws yn cynnwys cynnal sesiynau casglu sbwriel rheolaidd, cynnal ymgyrchoedd addysg, plannu coed a blodau gwyllt, newid ein harferion torri glaswellt, trefnu cyflwyniadau ar-lein gan arbenigwyr, ymgysylltu â phlant ysgolion cynradd a grwpiau cymunedol, cynnal arolygon o ddraenogod a helpu timau achub draenogod lleol.

Rydyn ni hefyd yn cymryd camau uniongyrchol eraill i helpu draenogod ar y campws, megis sicrhau eu bod yn gallu cael hyd i ddŵr bob amser a gosod rhagor o 'gartrefi draenogod' ar y campws. Byddwn ni’n parhau i wella ein hystad werdd ar gyfer draenogod a bywyd gwyllt arall.

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect a sut i gymryd rhan, cysylltwch â ni:

Hedgehog Friendly Campus