Ewch i’r prif gynnwys

Adrodd ar garbon

Ategir ymrwymiad Prifysgol Caerdydd i leihau ein hallyriadau carbon cymaint â phosibl gan ddangos tryloywder ynghylch ein hallyriadau, yn gyfredol ac yn hanesyddol.

Mae’r siart isod yn dangos ein hallyriadau gwaelodlin, ac allyriadau yn ôl ystod o wahanol ddulliau adrodd, yn y flwyddyn adrodd ddiweddaraf (1 Awst 2021 i 31 Gorffennaf 2022).

Allyriadau tCO2e 2021/22

Cwmpas

Categori

Allyriadau gwaelodlin yn ystod 2021/22 oni nodir yn wahanol

Adroddiad Rheoli Ystadau (1)

Fframwaith Adrodd Sero Net y Sector Gyhoeddus gan Lywodraeth Cymru (2)

1

Nwy (gwaelodlin yn ystod 2005/06)

13,212

14,247

14,247

Fflyd (gwaelodlin yn ystod 2014/15)

91

70

109

Nwy anesthetig

0.5

Heb ei fesur

0.5

Nwy wedi ei fflworineiddio

506

Heb ei fesur

506

2

Trydan (gwaelodlin yn ystod 2005/06)

18,583

9,914

10,034

3

Dŵr

130

126

130

Tanwydd ac Ynni a ddefnyddir i gludo i'r sefydliad

5,991

Heb ei adrodd yn EMR

5,991

Gwastraff

73

73

Teithio ar Fusnes

164

164

Cymudo

10

10

Gweithio Gartref

543

543

Cadwyn Gyflenwi

45,427

45,427

Teithio gan fyfyrwyr y DU a Myfyrwyr Rhyngwladol

I'w gadarnhau

Heb ei fesur

Asedau ar brydles

I'w gadarnhau

Heb ei fesur

 

Buddsoddiadau

I'w gadarnhau

 

Heb ei fesur

Nodau

  1. Rydym wedi dadansoddi ein hallyriadau carbon mwyaf arwyddocaol ar gyfer Cwmpas 1 a 2 ers 2005/06 gan ddefnyddio ein hofferyn Adroddiad Rheoli Ystadau, gan ddarparu gwaelodlin o bron i 20 mlynedd yn ôl.
  2. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Fframwaith Adrodd ar Sero Net Sector Cyhoeddus Llywodraeth Cymru wedi cynnig methodoleg debyg i raddau helaeth, ond wedi’i haddasu mewn rhai achosion, i gyfrifo allyriadau carbon. Ar gyfer Cwmpas 1, mae hyn yn ychwanegu data pellach ar allyriadau o nwyon anesthetig a nwyon F. Ar gyfer Cwmpas 1 a 2, mae mân amrywiadau i gyfrifiadau yn yr Adroddiad Rheoli Ystadau, e.e. mae adeiladau ar brydles wedi'u cynnwys yn adroddiadau Llywodraeth Cymru. Y gwahaniaeth mwyaf yw dadansoddiad ychwanegol o allyriadau Cwmpas 3, er ein bod yn nodi, efallai nad yw'r fethodoleg bresennol ar gyfer cyfrifo'r categori maith iawn o allyriadau 'Cadwyn Gyflenwi' yn adlewyrchu ein hallyriadau yn gywir.  Mae’n ddarpariaeth o’r data hwn yn cefnogi uchelgais bresennol Llywodraeth Cymru i’r sector cyhoeddus gyflawni statws o fod yn carbon niwtral erbyn 2030.
  3. Yn 2023, lansiwyd methodoleg monitro ac adrodd ar allyriadau newydd yn y sector Addysg bellach ac uwch - sef “Fframwaith Allyriadau Carbon Safonol” - gan yr EAUC (Cymdeithas yr Amgylchedd ar gyfer Prifysgolion a Cholegau). Mae’r fframwaith hwn yn cael ei fabwysiadu’n eang ar draws sector addysg y DU a bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnwys adrodd gan ddefnyddio’r fethodoleg hon (eto, ychydig yn gynnil), gan adrodd o 2022/23 ymlaen.

Mae'n cymryd dipyn o amser i ni lunio’n adroddiad ar ddata o’r flwyddyn flaenorol, felly dyma’r rheswm am yr oedi. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon i gynnwys data 2022/23 yn ystod yr haf 2024.