Ewch i’r prif gynnwys

Cymru

Mae’r wybodaeth ganlynol yn cynnwys ffigurau am fyfyrwyr sy’n bwriadu dechrau cwrs ym mis Medi 2024 ac sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru cyn dechrau ar eu cwrs.

Sylwer bod y ffigurau hyn yn destun rheoliadau sydd wrthi’n cael eu llunio ac felly hwyrach y bydd y rhain yn newid. Cyn gynted ag y caiff y ffigurau hyn eu cadarnhau byddwn ni’n diweddaru'r wybodaeth hon. Yn y cyfamser, dylech barhau i edrych ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Cyllid ar gael i ddechrau cwrs ym mis Medi 2024

Os ydych yn byw yng Nghymru gallwch wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru am arian. Mae'r arian sydd ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru yn cynnwys arian ar gyfer ffioedd dysgu ac arian ar gyfer costau byw.

Benthyciad ffioedd dysgu

Yn amodol ar delerau ac amodau, ni fydd rhaid i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru ac yn astudio tuag at eu gradd gyntaf dalu eu ffioedd dysgu ymlaen llaw. Yn lle hynny, gallent fod yn gymwys am fenthyciad ffioedd dysgu ad-daladwy gwerth hyd at £9,250 y flwyddyn i dalu costau eu ffioedd dysgu. Byddai'r arian hwn yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'ch Prifysgol ar ôl i chi gofrestru.

Byddwch yn dechrau ad-dalu'r benthyciad hwn pan fyddwch wedi cwblhau eich astudiaethau ac yn ennill cyflog sydd uwch na £27,295 y flwyddyn (yn dibynnu ar delerau ac amodau).

Cyllid ar gyfer costau byw

Bydd yr holl fyfyrwyr cymwys sydd fel arfer yn byw yng Nghymru cyn cychwyn ar eu cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd yn gallu cael uchafswm o £12,150 y flwyddyn o gyllid cynhaliaeth (os ydynt yn byw i ffwrdd o gartref eu rhieni) i'w helpu i dalu eu costau byw.

Bydd £1,000 cyntaf y cyllid cynhaliaeth hwn ar gael fel grant di-brawf-modd nas telir yn ôl. Golyga hyn y bydd pob myfyriwr cymwys yn derbyn grant o £1,000 ni waeth beth yw incwm yr aelwyd.

Bydd y £11,150 sy’n weddill ar gael naill ai fel grant cynhaliaeth, benthyciad cynhaliaeth, neu gyfuniad o’r ddau, yn dibynnu ar brawf modd yng nghyswllt incwm y cartref.

Golyga hyn y bydd myfyrwyr cymwys, sy'n byw i ffwrdd o gartref eu rheini, yn gallu cael hyd at £12,150 o gyllid cynhaliaeth. Disgwylir i'r cyllid helpu myfyrwyr i dalu costau eu llety, bwyd, teithio a chostau byw cyffredinol.

Mae'r tabl canlynol yn dangos enghreifftiau o'r arian sydd ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru yn ddibynnol incwm y cartref a ble mae'r myfyriwr yn byw yn ystod ei astudiaethau:

Cymorth cynhaliaeth

Cymorth gyfer myfyriwr israddedig amser llawn sy’n byw oddi cartref yn 2024/25.

Incwm y cartref

Grant cynhaliaeth

Benthyciad cynhaliaeth

Cyfanswm cymorth cynhaliaeth

£18,370

£8,100

£4,050

£12,150

£25,000

£6,947

£5,203

£12,150

£35,000

£5,208

£6,942

£12,150

£45,000

£3,469

£8,681

£12,150

£59,200 (+)

£1,000

£11,150

£12,150

Os byddwch yn byw yng nghartref eich rhieni yn ystod eich astudiaethau, £10,315 yw cyfanswm yr arian cynhaliaeth sydd ar gael. Bydd y £1,000 cyntaf ar gael o hyd fel grant, ni waeth beth fo incwm y cartref, a bydd y £9,315 sy’n weddill ar gael naill ai fel grant cynhaliaeth, benthyciad cynhaliaeth, neu gyfuniad o’r ddau, yn dibynnu ar brawf modd yng nghyswllt incwm yr cartref.

Bydd yr arian cynhaliaeth hwn yn cael ei dalu'n uniongyrchol i fyfyrwyr, fel arfer mewn tri thaliad; un ar ddechrau pob tymor. Fel arfer bydd y taliad cyntaf yn cael ei ryddhau i chi ymhen 3-5 diwrnod gwaith ar ôl i chi orffen ymrestru a chasglu eich cerdyn Adnabod. Felly, mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod arian gennych ar gyfer o leiaf pythefnos pan fyddwch yn cyrraedd y Brifysgol.

Os byddwch yn newid unrhyw fanylion am eich cwrs neu fan astudio, dylech roi gwybod i Gyllid Myfyrwyr Cymru cyn i chi gyrraedd y Brifysgol neu gallai hyn achosi oedi cyn talu'r arian.

Arian ychwanegol gan Gyllid Myfyrwyr Cymru

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau personol, gallai arian ychwanegol fod ar gael i chi. Er enghraifft, os oes gennych anabledd, neu os oes gennych blant neu oedolyn sy'n ddibynnol arnoch. Ewch i Gyllid Myfyrwyr Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Arian ychwanegol gan Brifysgol Caerdydd

Yn ogystal â'r cyllid uchod, gallech fod yn gymwys i gael Bwrsariaeth Prifysgol Caerdydd.

Costau byw yng Nghaerdydd

Mae Caerdydd yn cael ei hystyried yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy'r DU o ran costau byw yn ystod eich astudiaethau. Defnyddiwch ein teclyn cyfrifo costau byw i weld faint mae’n ei gostio i fyw yng Nghaerdydd ar gyfartaledd fel myfyriwr israddedig amser llawn.

Ad-dalu benthyciadau

Bydd y rhai sy'n cymryd benthyciad ffioedd dysgu israddedig neu fenthyciad cynhaliaeth drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru ym mlwyddyn academaidd 23/24 yn ad-dalu'r benthyciad hwn o dan Cynllun Ad-dalu 2.

Cynllun Canslo Benthyciadau Cymru

Mae’r cynllun hwn yn berthnasol i fyfyrwyr fydd yn cael benthyciad cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru ac y mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei fod ar gael i’r rheini sy’n dechrau cwrs amser llawn ym mis Medi 2024. Os ydych yn gymwys, gallai Llywodraeth Cymru ganslo hyd at £1,500 o falans eich benthyciad myfyriwr pan fyddwch yn dechrau ad-dalu. Cewch ragor o wybodaeth gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.

Sut i wneud cais am gyllid

Bydd myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru yn gwneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru am eu cyllid. Rydyn ni’n rhagweld y bydd y broses ymgeisio i fyfyrwyr sy’n bwriadu dechrau cwrs ym mis Medi 2024 yn agor ym mis Mawrth/Ebrill.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrywr:

Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr