Ewch i’r prif gynnwys

Diwygio cymwysterau'r Deyrnas Unedig

Ar hyn o bryd, mae cymwysterau yn y DU yn destun newidiadau sylweddol.

Bydd hyn yn arwain at newidiadau mewn cymwysterau a gynigir a chwricwla ysgol, ac o ganlyniad, caiff ein gofynion mynediad eu diweddaru'n flynyddol i adlewyrchu'r newidiadau hyn.

Rydym yn gweithio i sicrhau nad oes unrhyw ymgeiswyr dan anfantais o ganlyniad i'r newidiadau ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i dderbyn myfyrwyr sydd â chymwysterau priodol ac sy'n gallu elwa fwyaf o addysg Prifysgol Caerdydd, waeth beth fo'u cefndir.

Ysgolion a cholegau Addysg Bellach

Caiff pob ysgol a choleg eu hannog i gynnwys gwybodaeth yn eu geirda ar gais UCAS yn esbonio’r ddarpariaeth cymwysterau sydd ar gael i’w myfyrwyr.

Rydym yn derbyn Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru / Bagloriaeth Cymru ar gyfer mynediad i'n holl raglenni gradd israddedig sy'n gyfwerth ag un Safon Uwch ar yr un radd.

Yn nodweddiadol, bydd ein cynigion yn seiliedig ar y graddau a gyflawnir mewn tri phwnc Safon Uwch.

Ni fyddwn yn gofyn i ymgeiswyr astudio pynciau Safon UG ychwanegol na meddu ar Gymwysterau Prosiect Estynedig fel un o amodau cynnig. Ni fydd ymgeiswyr nad ydynt yn cynnig y cymwysterau hyn o dan anfantais yn y broses o wneud cynnig.

Ers 2017, mae TGAU yn Lloegr wedi cael eu graddio'n rhifiadol ar raddfa o 1-9 gyda 9 yn lefel uchaf o gyflawniad.  Yng Nghymru a Northen Ireland, roedd ysgolion y wladwriaeth yn cadw TGAU gyda strwythur wedi'i raddio'n nhrefn yr wyddor (A*-G).

Strwythur Graddio TGAU
Cymru
Strwythur Graddio TGAU
Lloegr
Strwythur graddio TGAU
Gogledd Iwerddon
A*9 a 8A*
A7A
B6B
C5 a 4C* a C

O fis Medi 2025 bydd y TGAU newydd wedi'i wneud i Gymru yn cael ei gyflwyno. Byddwn yn sicrhau na fydd unrhyw grŵp o fyfyrwyr dan anfantais, ac y bydd ein gofynion TGAU yn cydnabod y gwahanol strwythurau cwricwlwm a graddio.

Mae pynciau gwyddoniaeth Safon Uwch yn Lloegr (Bioleg, Cemeg, a Ffiseg) yn cynnwys canlyniad ar wahân ar gyfer elfen ymarferol y cymhwyster.

Fel arfer, bydd angen llwyddo yn asesiad ymarferol y pynciau Safon Uwch perthnasol ar gyfer y rhaglenni gradd canlynol:

Ym mis Medi 2020 cyflwynwyd Lefelau T yn Lloegr. Gallwn dderbyn Lefelau T ar gyfer mynediad i'r rhan fwyaf o'n rhaglenni israddedig. Gweler gofynion mynediad rhaglen unigol i gael rhagor o fanylion am feini prawf derbyn.