Ewch i’r prif gynnwys

Ffioedd dysgu

Diweddarwyd: 24/08/2023 09:25

Popeth sydd angen i chi ei wybod am y ffyrdd o dalu’r ffioedd dysgu yn rhan o’ch ymrestriad ar-lein.

Er mwyn cwblhau'r ymrestru ar-lein, nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd yn llawn. Os ydych yn talu eich ffioedd yn uniongyrchol ac nad ydych yn cael cyllid gan naill ai Cyllid Myfyrwyr neu Noddwr arall, gallwch dalu mewn tri rhandaliad. Gallwch sefydlu’r rhain yn rhan o’ch ymrestriad ar-lein.

I ddysgu rhagor, gallwch fewngofnodi i system gofrestru ar-lein SIMS (pan ofynnir i chi wneud hynny) a rhoddir gwybodaeth i chi ar sut i dalu.

Mae’r ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn eich cwrs (gan gynnwys blynyddoedd sy'n cael eu hailadrodd). I gael amcangyfrif bras o gyfanswm y gost, dylech luosi’r ffioedd gan nifer y blynyddoedd o astudio. Nodwch y gallai ffioedd ar gyfer blynyddoedd i ddod gynyddu.

Benthyciadau Ffioedd Dysgu gan Gyllid Myfyrwyr

Os ydych yn talu eich ffioedd dysgu drwy Fenthyciad Ffioedd Dysgu, cewch hysbysiad o lythyr hawl gan eich corff ariannu myfyrwyr. Gwnewch yn siŵr bod eich Prifysgol, manylion eich cwrs a chyfanswm eich ffioedd dysgu ar y llythyr hwn yn gywir.

Os oes unrhyw wybodaeth ar eich llythyr hawl yn anghywir, y ffordd hawsaf o ddiweddaru eich manylion yw drwy fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein cyn 1 Medi a dewis "Newid eich cais". Dylai gymryd tua 20 diwrnod gwaith i Gyllid Myfyrwyr brosesu’r newid.

Ar ôl 1 Medi, ni fyddwch yn gallu newid y manylion eich hun. Yn lle hynny, cysylltwch â’r Tîm Cyngor ac Arian i gael cymorth ynghylch hyn.

Os ydych yn dod i Brifysgol Caerdydd drwy Glirio, mae cyllid i fyfyrwyr clirio yn cynnig rhagor o wybodaeth am y broses hon a sut i ymdopi ag oediadau posibl gyda’r cyllid.

Ffioedd dysgu anghywir

Os nad yw eich ffioedd dysgu yn arddangos yn gywir, dylech ymrestru ar-lein yr un fath, ond peidiwch â thalu ffioedd. Yna, cysylltwch â ni ar unwaith.

Ymholiadau ffioedd dysgu gan fyfyrwyr

Dulliau talu

Cyn gwneud taliad, darllenwch y wybodaeth am Eich Cyllid i gael manylion ynghylch cyfleoedd posibl am gyllid.

Noder, os nad Medi/Hydref yw dyddiad dechrau eich cwrs, ni fyddwch yn gallu talu â’r dull hwn.

Fel dull talu, cynigir debyd uniongyrchol i fyfyrwyr yn rhan o’r broses cofrestru ar-lein, pan fyddwch yn llenwi gorchymyn debyd uniongyrchol. Bydd y gorchymyn ar waith drwy gydol cyfnod y cwrs.

Gellir talu drwy ddebyd uniongyrchol mewn tri rhandaliad (cyn belled â bod y cyfanswm dyledus dros £500).

Gofalwch fod:

  • y manylion banc ar gyfer cyfrif banc/cymdeithas adeiladu o’r DU sy’n caniatáu debydau uniongyrchol
  • debydau uniongyrchol yn cael eu sefydlu o leiaf mis cyn y dyddiad casglu cyntaf
  • rhybudd o saith diwrnod gwaith yn cael ei roi os oes angen canslo eich trefniadau debyd uniongyrchol
  • gennych gyllid digonol yn eich cyfrif ar gyfer taliad debyd uniongyrchol pan ofynnir amdano.

Myfyrwyr rhyngwladol

Os oes angen i chi agor cyfrif banc yn y DU, bydd angen dogfennaeth swyddogol gan y brifysgol arnoch.

Gellir talu â’r holl gardiau credyd/debyd mawr (ac eithrio American Express) naill ai’n llawn neu mewn tri rhandaliad. Gallwch gyflwyno eich manylion cerdyn yn rhan o’ch cofrestriad ar-lein. Ar ôl i chi dalu’r rhandaliad cyntaf, gellir gwneud taliadau eraill drwy dudalen SIMS Ar-lein.

Os byddwch yn talu mewn tri rhandaliad, y rhain fydd y dyddiadau talu:

Israddedigion ac ôl-raddedigion

  • y rhandaliad cyntaf – yn rhan o’r broses cofrestru ar-lein, neu cyn hynny
  • yr ail randaliad – 29 Ionawr 2024
  • y trydydd rhandaliad – 29 Ebrill 2024.

Trosglwyddiad ar-lein

Ewch i’n gwefan StudentPay i dalu drwy drosglwyddiad banc. Mae manteision y dull talu hwn yn cynnwys:

  • Talu ffioedd ar-lein ag arian cyfred o’ch dewis chi
  • Nid oes ffi comisiwn - dim ffioedd banc ychwanegol am 37 math o arian cyfred
  • Mae’n ddiogel ac yn hawdd i’w ddefnyddio trwy Convera
  • Mae’n ffordd hawdd o wneud taliad trwy eich banc lleol. Ar ôl i chi fewngofnodi i StudentPay, cewch gyfarwyddiadau argraffedig ynghylch sut i drosglwyddo drwy eich banc lleol.

Noder bydd angen i chi gwblhau’r trosglwyddiad drwy fancio ar-lein neu gyflwyno’r manylion banc i’ch banc lleol ymhen 72 awr er mwyn cwblhau trosglwyddo’r arian i Brifysgol Caerdydd.

Bydd Convera yn anfon ebost ar ôl iddynt dderbyn y taliad er mwyn cadarnhau hynny.

Mewn rhai achosion, efallai bydd rhaid i chi wneud trosglwyddiad mewn naill ai Ewros neu USD os nad yw eich dewis o arian cyfred lleol ar gael. Efallai bydd hyn yn codi ffi ryngwladol arnoch, a gallai fod ffi uwch am y trosglwyddiad hwn.

Trosglwyddiad banc uniongyrchol

Hefyd, gellir gwneud taliad banc uniongyrchol i gyfrif banc y Brifysgol naill ai’n llawn neu mewn tri rhandaliad. Fel y gallwn adnabod yn hawdd ar gyfer pwy y mae’r taliad, gwnewch yn siŵr eich bod yn dyfynnu’r canlynol:

  • eich rhif myfyriwr (neu ymgeisydd)
  • eich enw llawn

Nid yw’r broses hon ar gael yn rhan o gofrestru ar-lein, ac rydym yn eich hysbysu bod yn rhaid i ni dderbyn taliadau ddim hwyrach na saith diwrnod gwaith cyn cofrestru ar-lein.

Dylid cyfeirio trosglwyddiadau i:

Lloyds Bank, 31 Heol y Frenhines, Caerdydd, CF10 2AG
Cyfrif: Ffioedd Dysgu Prifysgol Caerdydd
Rhif y Cyfrif: 17852568
Côd Didoli: 30-67-64
BIC: LOYDGB21707
RHIF IBAN: GB53 LOYD 3067 6417 8525 68

Rydym yn eich cynghori i gael derbynneb papur/prawf o drosglwyddiad os ydych am dalu â’r dull hwn. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i ni leoli eich taliad, rhag ofn bod unrhyw broblem yn codi.

Os byddwch yn talu mewn tri rhandaliad, y rhain fydd y dyddiadau talu:

Israddedigion ac ôl-raddedigion

  • y rhandaliad cyntaf - yn rhan o’r broses cofrestru ar-lein, neu cyn hynny
  • yr ail randaliad – 29 Ionawr 2024
  • y trydydd rhandaliad – 29 Ebrill 2024.

Am unrhyw wybodaeth bellach neu i wirio a yw taliad wedi’i dderbyn i mewn i’n cyfrif, cysylltwch â’r Swyddfa Gyllid.

Os ydych yn fyfyriwr dan nawdd, bydd angen i chi gwblhau’r broses ymrestru ar-lein.

Os ydych yn cael nawdd am eich ffioedd dysgu (nid yw hyn yn cynnwys unrhyw aelodau o’ch teulu neu ffrindiau y gallech benderfynu gadael iddynt wneud taliadau ar eich rhan), dylech:

  • gael llythyr gan eich noddwr sy’n cadarnhau eu bod yn derbyn cyfrifoldeb am dalu’r ffi
  • ebostio’r llythyr i onlinequery@caerdydd.ac.uk i’r Is-adran Cyllid cyn gynted â’ch bod yn ei gael, neu ddim hwyrach na saith diwrnod gwaith cyn i chi gofrestru ar-lein.

Rhaid cyflwyno llythyr nawdd swyddogol ar gyfer pob blwyddyn astudio. Os na allwch anfon eich llythyr nawdd i'r Brifysgol cyn i chi gofrestru ar-lein, cewch gyfle i lanlwytho copi fel rhan o’r broses ymrestru ar-lein. Os ydych yn methu gwneud hyn, ni allwch gwblhau eich cofrestriad ar-lein.

Nid yw hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n cael cyllid drwy Gyllid Myfyrwyr oherwydd caiff y wybodaeth hon ei hanfon i Brifysgol Caerdydd yn electronig.

Os yw eich noddwr yn methu â thalu

Yn unol â Gweithdrefnau Ariannol Prifysgol Caerdydd, os bydd eich noddwr yn methu gwneud taliad dyledus am eich ffioedd dysgu, byddwch yn gyfrifol am y taliad llawn fel unigolyn. Sylwer y bydd hyn yn effeithio ar eich gallu i gael dyfarniad gan y Brifysgol. Hefyd, eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr bod eich noddwr yn ymwybodol y dylid talu ffioedd dysgu ymhen 30 diwrnod ar ôl dyddiad yr anfoneb. Os nad ydym wedi derbyn taliad erbyn y dyddiad hwn, byddwch yn gyfrifol am dalu’r ffioedd dysgu llawn fel unigolyn.

Os ydych yn derbyn nawdd rhannol

Os bydd myfyriwr yn derbyn nawdd rhannol, oni bai bod y noddwr yn deddfu fel arall, didynnir y rhan a noddir o’r ffi, bydd y myfyriwr yn atebol am y gweddill y bydd yn rhaid ei dalu mewn tri rhandaliad. Ni ellir defnyddio cyllido rhannol i ohirio gwneud y rhandaliad cyntaf.

Dangosir dyddiadau a symiau eich rhandaliadau ar eich cyfrif SIMS Ar-lein.

Gall myfyrwyr rhyngwladol dalu eu ffioedd drwy ddefnyddio platfform talu Prifysgol Caerdydd a bwerir gan Convera. Bydd hyn yn eich galluogi, yn ogystal â’ch rhieni a’ch noddwyr, i dalu ffioedd myfyrwyr GBP yn y math o arian cyfred o’ch dewis ac yn cynnig dull syml a diogel i chi dalu.

Dysgwch ragor am yr opsiwn talu hwn.

Gallai myfyrwyr sy’n dod i Gaerdydd o’r Unol Daleithiau ddewis cymryd benthyciadau ar gyfer eu holl ffioedd dysgu neu ran ohonynt. Ceir manylion llawn am sut i fynd o gwmpas cyflwyno cais am gyllid ar y dudalen we ‘UDA’.

Mae’r Swyddfa Dramor yn gallu trefnu llythyron i gynorthwyo gyda throsglwyddiadau’r cyllid. Fodd bynnag, oherwydd y galw mawr amdanynt ar adeg hon y flwyddyn, bydd yn rhaid i chi neilltuo o leiaf tri diwrnod gwaith i’r llythyron gael eu cynhyrchu. Yno, bydd llythyron a anfonir dramor yn cael eu hanfon drwy ebost.

I geisio llythyron cyfnewidfa dramor neu dystysgrifau treth Canadaidd, ebostiwch fees@caerdydd.ac.uk.

Talu’n brydlon

Cyfrifoldeb pob myfyriwr yw gofalu bod ffioedd wedi’u cyflwyno yn brydlon neu fod digon o arian (megis grantiau a benthyciadau) ar gael. Rhaid gwneud hynny naill ai ymlaen llaw neu wrth gofrestru ar-lein.

Bydd methiant i dalu ffioedd dysgu erbyn y dyddiad dyledus yn arwain at orfodi Rheoliadau’r Senedd a gallai arwain at ddileu eich cofrestriad.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â’r Swyddfa Gyllid i gael cymorth ynghylch talu eich ffioedd.

Gall y Tîm Cyllid a Chyngor i Fyfyrwyr helpu gydag unrhyw gwestiynau cyffredinol ac ymholiadau manylach ynghylch eich cyllid.

Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr