Ffioedd israddedigion tramor
Mae’r ffioedd dysgu’n daladwy i Brifysgol Caerdydd am bob blwyddyn o’ch cwrs (gan gynnwys blynyddoedd sy'n cael eu hailadrodd).
Bydd y ffi flynyddol yn talu:
- yr holl ffioedd dysgu
- costau hanfodol y cwrs
- cofrestru ac arholi (ond nid ffi ailsefyll arholiadau gan ymgeiswyr sydd heb eu cofrestru ar y pryd).
Nid yw ffioedd llety’r Brifysgol wedi eu cynnwys yn y ffi dysgu.
Efallai y bydd arian ar gael tuag at gost eich ffioedd dysgu. Ewch i'n tudalennau am ariannu'ch astudiaethau i gael rhagor o wybodaeth.
Os nad ydych yn siŵr pa statws sy’n berthnasol i chi ('cartref, 'ynysoedd', neu 'dramor'), edrychwch ar ein tudalen statws ffioedd.
Ffioedd ar ôl y flwyddyn gyntaf
Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn o wneud cwrs a’r blynyddoedd dilynol, yn unol â’r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru.
Pan fo’n berthnasol, byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newid mewn ffioedd dysgu erbyn mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn yr un pan fyddant yn cynyddu.
Blynyddoedd blaenorol
Ffioedd israddedigion rhyngwladol ar gyfer mynediad yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu yn dibynnu ar y cwrs a ddewisoch, yn ogystal â lefel a hyd y cwrs.
Gall ein ffioedd dysgu 'tramor' amrywio. Mae'r ffioedd yr un peth ar gyfer y rhan fwyaf o'n cyrsiau, ond nid pob un ohonynt.
Math o fyfyriwr | Ffi 2023/24 |
---|---|
Israddedigion amser llawn | Yn dibynnu ar y cwrs a ddewisoch. |
Myfyrwyr sy’n astudio dramor am flwyddyn | 15% o'r ffi amser llawn |
Myfyrwyr sydd ar flwyddyn o leoliad gwaith/diwydiannol | 20% o'r ffi amser llawn |
Myfyrwyr ym mlwyddyn dysgu yn y gwaith y rhaglen BSc/MArch mewn Pensaernïaeth | 50% o'r ffi amser llawn |
Rhaglenni gofal iechyd / rhaglenni a ariennir gan y GIG | Gwybodaeth am ariannu eich cwrs gofal iechyd |
Cadarnhad o'ch ffioedd
Os cynigir lle i chi ar raglen israddedig, cewch wybod beth fydd y ffi ar gyfer eich rhaglen astudio cyn i chi ddod i'r Brifysgol.
Statws ffioedd
Bydd y Brifysgol yn pennu statws eich ffioedd dysgu wrth brosesu ceisiadau, felly ni allwn gadarnhau hyn ymlaen llaw. Os nad ydych yn siŵr o’ch statws ffioedd, ewch i’n tudalen statws ffioedd.
Ffioedd israddedigion rhyngwladol ar gyfer mynediad yn 2022
Bydd eich ffioedd dysgu yn dibynnu ar y cwrs a ddewisoch, yn ogystal â lefel a hyd y cwrs.
Gall ein ffioedd dysgu 'tramor' amrywio. Mae'r ffioedd yr un peth ar gyfer y rhan fwyaf o'n cyrsiau, ond nid pob un ohonynt.
Ffioedd deintyddol
ffioedd clinigol ar gyfer cyrsiau deintyddol a meddygol: yn ystod elfen gyn-glinigol cyrsiau Deintyddol a Meddygol, codir cyfradd sefydlog, ond fe godir cyfradd glinigol wedi hynny. I gael manylion am sut y cyfrifir y ffioedd clinigol, ewch i’r adran isod am ffioedd cyrsiau Deintyddol a Meddygol.
Codir ffioedd elfen cyn-glinigol o gwrs Deintyddol ar £21,950 ar gyfer mynediad 2021. Mae'r ffi cyn-glinigol yn gymwys ar gyfer blwyddyn gyntaf y rhaglen yn unig. O flwyddyn dau ymlaen, bydd y gyfradd ffioedd clinigol yn cael ei godi.
Bydd y gyfradd ffioedd clinigol yn cael ei osod yn y flwyddyn cyn mynediad a gyda chynnydd blynyddol na fydd mwy na mesur RPIX o chwyddiant yn ogystal â 2%. Mae'r gyfradd RPIX yn cael ei gymryd o fis Ebrill cyn dechrau'r flwyddyn astudio. Unwaith bod y gyfradd ffioedd clinigol wedi'i osod, bydd yn sefydlog am hyd y cyfnod ffioedd clinigol.
Cadarnhad o'ch ffioedd
Os cynigir lle i chi ar raglen israddedig, cewch wybod beth fydd y ffi ar gyfer eich rhaglen astudio cyn i chi ddod i'r Brifysgol.
Statws ffioedd
Bydd y Brifysgol yn pennu statws eich ffioedd dysgu wrth brosesu ceisiadau, felly ni allwn gadarnhau hyn ymlaen llaw. Os nad ydych yn siŵr o’ch statws ffioedd, ewch i’n tudalen statws ffioedd.
Mynediad 2022 i fyfyrwyr or UE
Math o fyfyriwr | Ffi 2022/23 |
---|---|
Israddedigion amser llawn | Yn dibynnu ar y cwrs a ddewisoch. |
Myfyrwyr sy’n astudio dramor am flwyddyn | 15% o'r ffi amser llawn |
Myfyrwyr sydd ar flwyddyn o leoliad gwaith/diwydiannol | 20% o'r ffi amser llawn |
Myfyrwyr ym mlwyddyn dysgu yn y gwaith y rhaglen BSc/MArch mewn Pensaernïaeth | 50% o'r ffi amser llawn |
Rhaglenni gofal iechyd / rhaglenni a ariennir gan y GIG | Gwybodaeth am ariannu eich cwrs gofal iechyd |
Ffioedd israddedigion rhyngwladol ar gyfer mynediad yn 2021

Mynediad 2021 i fyfyrwyr or UE
Math o fyfyriwr | Ffi 2021/22 |
---|---|
Israddedigion amser llawn | Yn dibynnu ar y cwrs a ddewisoch. |
Myfyrwyr sy’n astudio dramor am flwyddyn | 15% o'r ffi amser llawn |
Myfyrwyr sydd ar flwyddyn o leoliad gwaith/diwydiannol | 20% o'r ffi amser llawn |
Myfyrwyr ym mlwyddyn dysgu yn y gwaith y rhaglen BSc/MArch mewn Pensaernïaeth | 50% o'r ffi amser llawn |
Rhaglenni gofal iechyd / rhaglenni a ariennir gan y GIG | Gwybodaeth am ariannu eich cwrs gofal iechyd |
Ffioedd israddedigion rhyngwladol ar gyfer mynediad yn 2020
Bydd eich ffioedd dysgu yn dibynnu ar y cwrs a ddewisoch, yn ogystal â lefel a hyd y cwrs.
Mae ein ffioedd dysgu ar gyfer israddedigion rhyngwladol yr un peth ar gyfer y rhan fwyaf o'n cyrsiau, ond nid pob un ohonynt.
Ffioedd deintyddol
ffioedd clinigol ar gyfer cyrsiau deintyddol a meddygol: yn ystod elfen gyn-glinigol cyrsiau Deintyddol a Meddygol, codir cyfradd sefydlog, ond fe godir cyfradd glinigol wedi hynny. I gael manylion am sut y cyfrifir y ffioedd clinigol, ewch i’r adran isod am ffioedd cyrsiau Deintyddol a Meddygol.
Codir ffioedd elfen cyn-glinigol o gwrs Deintyddol ar £21,950 ar gyfer mynediad 2020. Mae'r ffi cyn-glinigol yn gymwys ar gyfer blwyddyn gyntaf y rhaglen yn unig. O flwyddyn dau ymlaen, bydd y gyfradd ffioedd clinigol yn cael ei godi.
Bydd y gyfradd ffioedd clinigol yn cael ei osod yn y flwyddyn cyn mynediad a gyda chynnydd blynyddol na fydd mwy na mesur RPIX o chwyddiant yn ogystal â 2%. Mae'r gyfradd RPIX yn cael ei gymryd o fis Ebrill cyn dechrau'r flwyddyn astudio. Unwaith bod y gyfradd ffioedd clinigol wedi'i osod, bydd yn sefydlog am hyd y cyfnod ffioedd clinigol.
Bydd enghreiffitiau o'r ffioedd ar gael cyn bo hir.
Cadarnhad o'ch ffioedd
Os cynigir lle i chi ar raglen israddedig, cewch wybod beth fydd y ffi ar gyfer eich rhaglen astudio cyn i chi ddod i'r Brifysgol.
Statws ffioedd
Bydd y Brifysgol yn pennu statws eich ffioedd dysgu wrth brosesu ceisiadau, felly ni allwn gadarnhau hyn ymlaen llaw. Os nad ydych yn siŵr o’ch statws ffioedd, ewch i’n tudalen statws ffioedd.
Mynediad 2020 i fyfyrwyr or UE
Math o fyfyriwr | Ffi 2020/21 |
---|---|
Israddedigion amser llawn o'r UE | £9,000 |
Myfyrwyr ar raglen ERASMUS neu’r rhai sy'n astudio dramor am flwyddyn | 15% o'r ffi amser llawn |