Cynllun ffioedd a mynediad
O dan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, mae’n ofynnol i ni ddatblygu cynllun ffioedd a mynediad bob blwyddyn a buddsoddi cyfran o’r incwm ffioedd israddedig ar waith cynllun ffioedd a mynediad.
Mae ein cynllun ffioedd a mynediad yn nodi’r gweithgareddau y byddwn yn eu cyflawni i sicrhau cyfle cyfartal a mynediad teg i grwpiau a dangynrychiolir mewn addysg uwch, a’u cefnogi i gyflawni canlyniadau llwyddiannus. Mae hyn yn cynnwys mesurau i ddenu ceisiadau gan fyfyrwyr o grwpiau a dangynrychiolir a’u cadw.
Mae manylion ar y cynllun ynghylch sut y byddwn yn parhau i ddarparu addysg uwch, gan gynnwys darpariaeth Gymraeg, i’r holl fyfyrwyr israddedig trwy wella profiad y myfyrwyr a chyflogadwyedd.
Crynodeb o'r cynllun ffioedd a mynediad
Er mwyn hyrwyddo cyfle cyfartal, ehangu mynediad at addysg uwch, cynyddu dysgu drwy'r Gymraeg a gwella deilliannau ar gyfer grwpiau a dangynrychiolir a myfyrwyr sy'n agored i niwed, byddwn yn:
- Codi dyheadau a chynyddu mynediad at AU ymhlith grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
- Sicrhau bod cyfraddau parhad grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn unol â gweddill poblogaeth y myfyrwyr.
- Cynyddu nifer y myfyrwyr sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg trwy wella cymuned, diwylliant a darpariaeth Cymraeg y Brifysgol.
- Gwella cyflogadwyedd myfyrwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Er mwyn hyrwyddo addysg uwch, gwella ymgysylltu dinesig, sicrhau dysgu ac addysgu o safon uchel a chefnogi llais y myfyriwr a chyflogadwyedd graddedigion, byddwn yn:
- Parhau i ganolbwyntio ar ymgysylltu byd-eang, cymunedol a dinesig sy'n effeithiol ac o ansawdd uchel.
- Darparu amgylchedd dysgu ac addysgu o ansawdd uchel.
- Canolbwyntio ar wella sy'n gwella profiad y myfyrwyr.
- Parhau i gynnig cwricwla a chyfleoedd ehangach i ehangu cyflogadwyedd myfyrwyr.
Lawrlwytho ein cynlluniau presennol
Mae ein Cynllun Ffioedd a Mynediad yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd ac mae’n bosibl y caiff ei newid. Bydd yn cael ei uwchlwytho eto erbyn diwedd mis Medi 2024. Ewch i Ffioedd am ragor o wybodaeth.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am Gynllun Ffioedd a Mynediad y Brifysgol, cysylltwch â strategicplanning@caerdydd.ac.uk
Cynlluniau o’r blynyddoedd blaenorol
Lawrlwythwch ein cynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd gan CCAUC o’r blynyddoedd blaenorol:
Name | Type | Last updated |
---|---|---|
Cynllun Ffioedd a Mynediad 2018-19 | 07/08/2017 | |
Cynllun Ffioedd a Mynediad 2019-20 | 08/08/2018 | |
Cynllun Ffioedd a Mynediad 2020-21 | 11/07/2019 | |
Cynllun ffioedd a mynediad 2021-22 | 21/01/2022 | |
Cynllun ffioedd a mynediad 2022-23 | 14/10/2021 | |
10/10/2022 |