Ffioedd israddedig cartref
Mae’r ffioedd dysgu’n daladwy i Brifysgol Caerdydd am bob blwyddyn o’ch cwrs (gan gynnwys blynyddoedd sy'n cael eu hailadrodd).
Bydd y ffi flynyddol yn talu:
- yr holl ffioedd dysgu
- costau hanfodol y cwrs
- cofrestru ac arholi (ond nid ffi ailsefyll arholiadau gan ymgeiswyr sydd heb eu cofrestru ar y pryd).
Nid yw ffioedd llety’r Brifysgol wedi eu cynnwys yn y ffi dysgu.
Efallai y bydd arian ar gael tuag at gost eich ffioedd dysgu. Ewch i'n tudalennau am ariannu'ch astudiaethau i gael rhagor o wybodaeth.
Os nad ydych yn siŵr pa statws sy’n berthnasol i chi ('cartref, 'ynysoedd', neu 'dramor'), edrychwch ar ein tudalen statws ffioedd.
Mynediad 2022
Math o fyfyriwr | Ffi 2022/23 |
---|---|
Israddedigion amser llawn 'cartref' | £9,000 |
Myfyrwyr 'cartref' ar leoliad fel rhan o'u gradd, gan gynnwys:
| 15-20% o'r ffi amser llawn, yn dibynnu at y math o leoliad |
Myfyrwyr ym mlwyddyn dysgu yn y gwaith y rhaglen BSc/MArch mewn Pensaernïaeth | 50% o'r ffi amser llawn |
Rhaglenni gofal iechyd / rhaglenni a ariennir gan y GIG | Gwybodaeth am ariannu eich cwrs gofal iechyd |
Ffioedd ar ôl y flwyddyn gyntaf
Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a’r blynyddoedd dilynol mewn cwrs, yn unol â’r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru.
Pan fo’n berthnasol, byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newid erbyn mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn y flwyddyn pan fydd y ffioedd yn cynyddu.
Blynyddoedd blaenorol
Math o fyfyriwr | Ffi 2021/22 |
---|---|
Israddedigion amser llawn 'cartref' | £9,000 |
Myfyrwyr 'cartref' ar leoliad fel rhan o'u gradd, gan gynnwys:
| 15-20% o'r ffi amser llawn, yn dibynnu at y math o leoliad |
Myfyrwyr ym mlwyddyn dysgu yn y gwaith y rhaglen BSc/MArch mewn Pensaernïaeth | 50% o'r ffi amser llawn |
Rhaglenni gofal iechyd / rhaglenni a ariennir gan y GIG | Gwybodaeth am ariannu eich cwrs gofal iechyd |
Math o fyfyriwr | Ffi 2020/21 |
---|---|
Israddedigion amser llawn o'r DU | £9,000 |
Myfyrwyr ar raglen ERASMUS neu’r rhai sy’n astudio dramor am flwyddyn | 15% o'r ffi amser llawn |
Myfyrwyr sydd ar flwyddyn o leoliad gwaith/diwydiannol | 20% o'r ffi amser llawn |
Myfyrwyr ym mlwyddyn dysgu yn y gwaith y rhaglen BSc/MArch mewn Pensaernïaeth | 50% o'r ffi amser llawn |
Rhaglenni gofal iechyd / rhaglenni a ariennir gan y GIG | Gwybodaeth am ariannu eich cwrs gofal iechyd |
Math o fyfyriwr | Ffi 2019/20 |
---|---|
Israddedigion amser llawn o'r DU | £9,000 |
Myfyrwyr ar raglen ERASMUS neu’r rhai sy'n astudio dramor am flwyddyn | 15% o'r ffi amser llawn |
Myfyrwyr sydd ar flwyddyn o leoliad gwaith/diwydiannol | 20% o'r ffi amser llawn |
Myfyrwyr ym mlwyddyn dysgu yn y gwaith y rhaglen BSc/MArch mewn Pensaernïaeth | 50% o’r ffi amser llawn |
Rhaglenni gofal iechyd / rhaglenni a ariennir gan y GIG | Gwybodaeth am ariannu eich cwrs gofal iechyd |
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr y DU/UE yn gymwys i gael cymorth ariannol i dalu cost gyfan unrhyw ffioedd dysgu, fel nad oes rhaid talu dim ymlaen llaw.