Ewch i’r prif gynnwys

Cymorth i geiswyr lloches

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o gymorth i fyfyrwyr sy’n geiswyr lloches.

Fel ceisiwr lloches, byddwch yn cael statws myfyriwr rhyngwladol a bydd eich ffi gychwynnol yr un peth â ffioedd myfyrwyr rhyngwladol.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad mewn ffioedd dysgu (hepgor ffioedd dysgu), a phob blwyddyn, rhoddir Dyfarniad Cyfle i ddau ymgeisydd llwyddiannus. Mae cymorth ariannol ar gael hefyd o'r tu allan i'r Brifysgol.

Ddim yn barod ar gyfer y brifysgol eto? Rydyn ni’n cynnig cyrsiau a chymorth i’r rheiny sydd yn teimlo nad ydynt yn barod ar gyfer astudio ar lefel brifysgol eto

Rhagor o wybodaeth am gyllid ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig

Hepgor ffioedd dysgu

Os byddwch yn gymwys i gael gostyngiad mewn ffioedd dysgu, bydd cyfradd eich ffioedd cychwynnol yn cael eu lleihau o'r un ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol i'r un ar gyfer myfyrwyr cartref.

I fod yn gymwys i gael gostyngiad mewn ffioedd dysgu, rhaid i chi:

  • bod yn geisiwr lloches neu’n blentyn i geisiwr lloches
  • bodloni gofynion y cwrs academaidd
  • astudio cwrs amser llawn i israddedigion, ac eithrio Meddygaeth, Deintyddiaeth a chyrsiau eraill a ariennir gan y GIG
  • dangos eich bod wedi gwneud cais am loches yn y DU cyn gwneud cais i UCAS

Mae’r Cynllun Hepgor Ffioedd Dysgu’n cael ei weinyddu yn ôl disgresiwn llwyr Prifysgol Caerdydd.

Tîm Derbyn Myfyrwyr y brifysgol sy’n asesu a ydych yn gymwys. Bydd angen i chi gwblhau holiadur asesu ffioedd a’i ddychwelyd ynghyd â thystiolaeth o'r cais am loches a chadarnhad bod y cais am loches heb ei benderfynu eto.

Os bydd eich cais am ostyngiad mewn ffioedd dysgu’n llwyddiannus:

  • byddwch yn dal i gael eich ystyried yn fyfyriwr rhyngwladol, ond bydd angen i chi dalu’r gyfradd ar gyfer myfyrwyr cartref
  • ni fyddwch yn gymwys i gael benthyciadau ffioedd dysgu na benthyciadau cynhaliaeth, gan y byddwch yn cael eich ystyried yn fyfyriwr rhyngwladol o dan y rheoliadau ffioedd dysgu

Os bydd eich cais am loches yn llwyddiannus

Os bydd eich cais am loches yn llwyddiannus tra byddwch yn astudio yn y brifysgol, bydd eich statws yn newid i ‘myfyriwr cartref’, a fydd yn effeithiol o'r flwyddyn academaidd ganlynol. Ni fyddai angen gostyngiad mewn ffioedd dysgu arnoch mwyach.

Byddai hyn yn wir am y rhai:

  • y rhoddwyd statws ffoadur iddynt, neu
  • sydd wedi sicrhau diogelwch dyngarol, neu
  • sydd wedi cael caniatâd yn ôl disgresiwn i aros, neu
  • y mae eu rhieni, eu priod neu eu partner sifil yn cael eu cydnabod yn ffoadur gan Lywodraeth y DU, neu
    • sydd wedi sicrhau diogelwch dyngarol, neu
    • sydd wedi cael caniatâd yn ôl disgresiwn i aros ac sy’n bodloni'r 'amod teuluol' ar ddyddiad cais yr aelod o’r teulu am loches.

Mae cyllid ar gael gan Gyllid Myfyrwyr os cewch ganlyniad cadarnhaol ar ôl cyflwyno cais am loches. Gweler isod am ragor o wybodaeth.

Os bydd eich cais am loches yn cael ei wrthod

Os bydd eich cais am loches yn cael ei wrthod tra byddwch yn astudio yn y brifysgol:

  • Cewch eich ystyried yn fyfyriwr rhyngwladol o hyd.
  • Bydd y gostyngiad mewn ffioedd dysgu’n dod i ben yn y flwyddyn academaidd ganlynol, a bydd angen i chi dalu’r gyfradd ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.
  • bydd y terfyn amser ar unrhyw fisa neu ganiatâd i aros yn cael ei fonitro a'i gymhwyso'n unol â rheoliadau'r Swyddfa Gartref

Bydd sefydliadau a chyrff ariannu eraill yn gwneud eu hasesiadau eu hunain, ac mae’n bosibl nad ydynt yn hepgor ffioedd dysgu. Ein cyngor yw cysylltu â’r cyrff ariannu perthnasol yn uniongyrchol a rhoi eich manylion er mwyn cadarnhau beth mae gennych yr hawl iddo.

Dyfarniad Cyfle

Rydym yn ymwybodol bod ceiswyr lloches a phlant i geiswyr lloches yn aml yn methu â chael mynediad at gymorth cyllid myfyrwyr arferol y DU.

Mae ein Dyfarniad Cyfle yn talu am gost ffioedd dysgu ac yn rhoi grant nad yw’n ad-daladwy o £4,000 y flwyddyn i gefnogi costau byw. Bob blwyddyn rhoddir y wobr i ddau fyfyriwr israddedig sydd â chynnig diamod neu amodol i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydym yn derbyn ceisiadau gan y rhai sydd naill ai'n geiswyr lloches neu'n blant i geiswyr lloches.

Noder, ni fydd myfyrwyr sy’n astudio Gwyddorau Gofal Iechyd, Deintyddiaeth neu Feddygaeth yn gymwys am y dyfarniad hwn. Nid yw cyrsiau'r GIG ychwaith yn dod o dan y Dyfarniad Cyfle ond gallwch wneud cais i Ymddiriedolaeth Schwab Westheimer am gymorth.

Cymorth ariannol o’r tu allan i'r brifysgol

Nid yw ceiswyr lloches yn gymwys i gael cymorth drwy Gyllid Myfyrwyr. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd y myfyrwyr canlynol yn gymwys:

  • y rhai sydd wedi cael caniatâd yn ôl disgresiwn neu ganiatâd amhenodol i aros (os byddant yn gwneud cais yng Nghymru)
  • y rhai sydd wedi sicrhau diogelwch dyngarol (os byddant yn gwneud cais yng Nghymru)
  • y rhai y rhoddwyd statws ffoadur iddynt

Os rhoddir statws ffoadur i chi tra byddwch yn gwneud eich cwrs, gallwch gael cymorth ariannol gan Gyllid Myfyrwyr o chwarter nesaf y flwyddyn.

Mae'r myfyrwyr hynny â statws ffoadur yn gymwys i gael cymorth ariannol, ni waeth pa mor hir y maent wedi preswylio yn y DU.

Mae’n rhaid i’r rhai sydd wedi sicrhau diogelwch dyngarol a’r rhai sydd wedi cael caniatâd yn ôl disgresiwn/amhenodol i aros fod wedi preswylio yn y DU fel arfer am dair blynedd cyn dechrau'r cwrs er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth ariannol.

Gweler gwefan Cyngor y DU ar gyfer Materion Myfyrwyr Rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am fod yn gymwys i gael cyllid gan Gyllid Myfyrwyr.

Gall Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Caerdydd roi cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n ceisio lloches neu blant i geiswyr lloches sydd wedi mynd i ysgol uwchradd yng Nghaerdydd am o leiaf ddwy flynedd.

Mae dyfarniadau’n werth hyd at £1,000 fesul myfyriwr mewn blwyddyn academaidd benodol.

Mae Rhwydwaith Addysg i Ffoaduriaid y DU yn gweinyddu ysgoloriaethau prifysgol ar gyfer ceiswyr lloches:

  • Un o fentrau Ymddiriedolaeth Schwab a Westheimer yw Ysgoloriaeth Westheimer. Cafodd ei sefydlu gan gyn-ffoaduriaid a elwodd ar groeso a chefnogaeth yn y DU wrth ffoi rhag yr Almaen Natsïaidd. Mae'r ysgoloriaeth hon yn helpu ceiswyr lloches ifanc (hyd at 28 oed) i gael addysg uwch mewn iechyd a gofal cymdeithasol, meddygaeth, nyrsio neu feysydd eraill sy'n gysylltiedig ag iechyd. Mae hyd at dri pherson y flwyddyn yn cael cymorth i astudio ar gyfer gradd gyntaf neu gymhwyster proffesiynol. Mae'r ysgoloriaeth yn talu ffioedd dysgu ‘cartref’ a chostau byw, a hynny hyd at uchafswm o £11,500 y flwyddyn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ysgoloriaeth hon, gallwch ddarllen y Cwestiynau Cyffredin.
  • Mae’r ysgoloriaeth a gefnogir gan Ymddiriedolaeth Elusennol Teulu Marks ar gael i fyfyrwyr sy’n ceisio lloches ac sy’n dechrau cwrs i ôl-raddedigion.

Mae'r Rhwydwaith Cymorth i Ffoaduriaid hefyd yn cynnig gwasanaethau cynghori i'ch helpu i oresgyn unrhyw heriau y gallech eu hwynebu, yn ogystal ag adnoddau defnyddiol.

Mae Rhwydwaith STAR wedi llunio rhestr o sefydliadau addysg uwch sy'n rhoi cymorth i bobl sy'n dal i aros am benderfyniad ynghylch eu cais am loches. Mae hefyd yn rhoi cymorth i’r rhai y rhoddwyd statws ffoadur iddynt ac sydd wedi cael caniatâd yn ôl disgresiwn i aros a mathau eraill o ganiatâd dros dro o ganlyniad i gais am loches.

Nod Prisoners of Conscience yw trawsnewid bywydau pobl sydd wedi cael eu herlid am weithredoedd cydwybod i ddiogelu a datblygu hawliau dynol ledled y byd. Mae'n ariannu addysg ôl-raddedig ac ail-gymhwyso i alluogi carcharorion cydwybod i ailddechrau eu gwaith a, thrwy hynny, ddod yn hunangynhaliol a rhoi rhywbeth yn ôl i gymdeithas.

Cymorth ariannol i ôl-raddedigion

Mae’r Dyfarniad Cyfle a’r Hepgor Ffioedd Dysgu ar gael i fyfyrwyr israddedig yn unig. Mae ysgoloriaeth a gefnogir gan Ymddiriedolaeth Elusennol Teulu Marks yn agored i geiswyr lloches sy’n dechrau rhaglen radd ôl-raddedig. Bydd yn rhaid i chi allu dangos sut y bydd eich gradd ddewisol yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r gymdeithas. Dim ond ymgeiswyr eithriadol o safon academaidd uchel y gellir ei phrofi a gaiff eu hystyried. Mae’r ysgoloriaeth yn talu ffioedd dysgu ‘cartref’ (hyd at £9,500 y flwyddyn). Bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu bod yn gallu talu eu costau byw tra byddant yn y brifysgol.

Mae’n bosibl y bydd sefydliadau eraill yn gallu cynnig mwy o gymorth ar gyfer astudio ôl-raddedig. Mae STAR (Cymdeithas Gweithredu dros Ffoaduriaid) yn darparu rhestr o sefydliadau addysg uwch sydd yn cynnig cymorth i geiswyr lloches, gan gynnwys myfyrwyr ôl-raddedig.

Rhagor o wybodaeth am ein opsiynau cyllid ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig.

Ddim yn barod ar gyfer astudio ar lefel brifysgol?

Os nad ydych yn barod eto ar gyfer astudio ar lefel brifysgol, edrychwch ar y cymorth sydd ar gael gan dîm Ehangu Cyfranogiad Prifysgol Caerdydd. Maen nhw'n cynnig cyrsiau cymunedol achrededig ar Lefel 3 ar draws Caerdydd, mewn partneriaeth gyda Champws Cyntaf a'r adran Addysg Barhaus a Phroffesiynol. Cysylltwch â nhw i gael rhagor o wybodaeth:

Allgymorth

Mae’r tîm Datblygiad Proffesiynol Parhaus hefyd yn cynnig cyrsiau annibynnol lefel 4 a lefel 5, yn ogystal â Llwybrau at Radd.

Cyngor arbenigol

Lena Smith yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer myfyrwyr sy’n ceisio lloches. Gall Lena eich helpu drwy wneud y canlynol:

  • Rhoi cymorth ar faterion academaidd, gan gynnwys cysylltu â'ch adran academaidd a thiwtor eich cwrs
  • Eich cyfeirio at wasanaethau eraill Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys eich helpu i wneud cais i Gyllid Myfyrwyr os byddwch yn dod yn gymwys tra byddwch yn astudio
  • Eich atgyfeirio at gwnselydd trawma arbenigol
  • Eich atgyfeirio at elusennau a ffynonellau cyllid posibl eraill
  • Bod yn rhywun y gallwch siarad ag ef, os bydd angen

Gallwch chi gysylltu â Lena drwy Gyswllt Myfyrwyr.

Cyswllt Myfyrwyr