Ewch i’r prif gynnwys

Dyfarniad y Cam Nesaf

Os wnaethoch gymryd rhan yn ein cynllun Camu ‘Mlaen, ac mae gennych incwm cartref o dan £35,000, gallwch fod yn gymwys am ein Bwrsariaeth Cam Nesaf.

Pwy sy’n gymwys

Myfyrwyr sy'n dod i Brifysgol Caerdydd sydd wedi cymryd rhan yng Nghynllun Ehangu Cyfranogiad y Brifysgol, Camu ‘Mlaen, ac y mae incwm eu cartref yn llai na £35,000.

Swm a ddyfarnwyd

Gallech naill ai gael gostyngiad o £1,000 yn eich ffioedd llety ym Mhrifysgol Caerdydd neu fwrsariaeth teithio o £500 yn eich blwyddyn gyntaf. Gellir gwneud y taliadau hyn ar ben Bwrsariaeth Prifysgol Caerdydd.

Sut i wneud cais

Nid oes proses ymgeisio am y dyfarniad hwn. Byddwn yn cysylltu’n uniongyrchol â myfyrwyr cymwys.

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth ynghylch y dyfarniad hwn, cysylltwch â’r Tîm Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau.

Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau