Ewch i’r prif gynnwys

Daearyddiaeth Ffisegol (BSc)

Pam astudio'r cwrs hwn

Mae daearyddwyr ffisegol yn archwilio esblygiad arwyneb y Ddaear a’r wyddoniaeth sydd y tu ôl i’w phrosesau ffisegol.

screen

Cyfleusterau o ansawdd uchel

Bydd y technolegau diweddaraf mewn offer arolygu a mapio, labordai cemegol a labordai gyda System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) ar gael ar eich cyfer.

briefcase

Cysylltiadau cryf

Mae ein cysylltiadau rhagorol â sefydliadau lleol, megis Cyfoeth Naturiol Cymru a Phartneriaeth Aber Afon Hafren, yn helpu ein myfyrwyr i ddod o gyfleoedd i wneud prosiectau a mynd ar leoliadau gwaith.

star

Cwrs hyblyg

Yn y rhan fwyaf o achosion, gallwch ofyn am gael eich symud i raglen radd MSci neu newid i gwrs arall yn yr un Ysgol ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf.

location

Lleoliad gwych

O fynyddoedd trawiadol y gogledd i aber llanwol bioamrywiol yn y de, mae gan Gymru yn lle chwarae i ddaearyddwyr gan fod ystod enfawr o amgylcheddau naturiol i’w harchwilio.

globe

Cyfleoedd gwaith maes

Bydd teithiau maes rheolaidd yn y DU a thramor yn eich helpu i ddatblygu sgiliau gwaith maes cryf. Mae cost teithiau maes yn rhan o ffioedd eich cwrs.

Mae ein planed yn esblygu ac yn ail-lunio ei hun yn barhaus. Mae angen i ni ddeall y wyddoniaeth y tu ôl i brosesau a pheryglon ffisegol, fel llifogydd ac erydu arfordirol, fel y gallwn ni addasu a dod o hyd i atebion i’r heriau y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol.

Byddwch yn archwilio sut mae’r Ddaear yn gweithredu ac yn dysgu am beryglon byd-eang mewn llosgfynyddoedd a thirlithriadau ac yn ymchwilio i sut mae tirweddau'n esblygu dros amser yn rhan o’n cwrs Daearyddiaeth Ffisegol. Byddwch yn astudio prosesau ffisegol o bedwar ban byd ��� o brosesau rhewlifol i ddiffeithdiro. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau mewn mapio ac ymchwilio, ac yn ennill profiad mewn defnyddio meddalwedd ac offer safonol yn y diwydiant.

Fel arfer mae gan fyfyrwyr ar y cwrs hwn ddiddordeb yn y byd ffisegol o’n cwmpas, ac maen nhw am ddefnyddio eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Bydd graddedigion yn gadael gyda’r sgiliau i ddatrys ystod o broblemau bywyd go iawn cymhleth o ran yr amgylchedd ffisegol a gyda phrofiad o waith maes ymarferol ac ymchwil gyfoes â gwyddonwyr blaenllaw.

Rydym yn manteisio i’r eithaf ar ein lleoliad ac yn mynd ar deithiau dydd rheolaidd ar yr arfordir ac i Fannau Brycheiniog yn ne Cymru. Bydd cyfleoedd hefyd i fynd ar deithiau maes tramor. Yn y gorffennol, rydym wedi mynd â myfyrwyr daearyddiaeth i'r Swistir.

Maes pwnc: Gwyddorau'r ddaear a’r amgylchedd

Maes pwnc: Daearyddiaeth (Ffisegol)

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBB (gydag 1 pwnc gwyddoniaeth) neu BBB-BBC (gyda 2 bwnc gwyddoniaeth). Pynciau gwyddoniaeth derbyniol: Bioleg, Cemeg, Cyfrifiadureg, Gwyddorau Amgylcheddol, Daearyddiaeth, Daeareg, Mathemateg, Ffiseg.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.


Mae'r radd hon yn adlewyrchu ein cynigion safonol a chyd-destunol nodweddiadol. Rydym yn ystyried eich data cyd-destunol (yr amgylchiadau yr ydych wedi bod yn astudio ynddynt) yn ofalus mewn cais. Bydd myfyrwyr cymwys sy'n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn yn cael cynnig ym mhen isaf yr amrediad graddau a hysbysebir.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch (gydag 1 pwnc gwyddoniaeth Lefel Uwch) neu 31-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch (gyda dau bwnc gwyddonol Lefel Uwch). Pynciau gwyddoniaeth derbyniol: Bioleg, Cemeg, Cyfrifiadureg, Gwyddorau Amgylcheddol, Daearyddiaeth, Daeareg, Mathemateg, Ffiseg.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddor Anifeiliaid, Gwyddoniaeth Gymhwysol, Gwyddor Iechyd, TGCh, neu’r Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Gofynion mynediad ychwanegol

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n gwneud Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen TGAU Mathemateg. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.

Costau ychwanegol

Mae’r costau gwaith maes ar gyfer eich modiwlau craidd wedi’u cynnwys, ond bydd angen i chi gyfrannu tuag at fwyd os caiff ei ddarparu yn ystod y daith. Bydd angen i chi dalu am fodiwlau gwaith maes dewisol. Bydd cost y teithiau hyn yn cael ei gapio ar swm a bennir gan yr ysgol. Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr sy’n wynebu caledi ariannol yn gymwys i wneud cais am Raglen Cymorth Ariannol Caerdydd i helpu gyda’r costau hyn.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Bydd angen dillad addas arnoch gan gynnwys dillad ar gyfer tywydd cynnes, gwynt a siacedi i’ch diogelu mewn stormydd ac esgidiau cerdded. Byddwn yn darparu’r holl gyfarpar iechyd a diogelwch yn ogystal ag offer maes arbenigol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Gradd amser llawn a thair blynedd o hyd yw hon. Byddwch yn astudio modiwlau craidd ac yn cael sylfaen gref mewn daearyddiaeth ffisegol yn eich blwyddyn gyntaf. Ceir modiwlau craidd a modiwlau dewisol ym mlwyddyn dau a blwyddyn tri, felly mae gennych rywfaint o hyblygrwydd i ddewis y meysydd astudio sydd o ddiddordeb i chi.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/2024. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023

Blwyddyn un

Byddwch yn astudio modiwlau craidd a luniwyd i roi sylfaen gref ym maes gwyddorau’r ddaear a daearyddiaeth yn eich blwyddyn gyntaf. Mae pynciau’n cynnwys cefnforoedd, yr hinsawdd, prosesau’r ddaear ac amgylcheddau byd-eang. Byddwch yn datblygu sgiliau daearyddol hanfodol fel gwaith map a siart, Systemau Gwybodaeth Daearyddol (GIS) a dadansoddi data daearyddol sylfaenol.

Byddwn yn mynd ar gwrs maes preswyl i barc cenedlaethol arfordirol yng Nghymru (naill ai sir Benfro neu Eryri) i ddysgu sgiliau maes allweddol gan gynnwys mapio ac arolygu. Mae pob un o'r graddau yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd yn astudio'r un semester cyntaf. Ar ôl semester un gallwch benderfynu a ydych am barhau â'ch dewis gwreiddiol neu newid i un o'r graddau eraill (fel Daearyddiaeth Forol neu Amgylcheddol). Byddwch yn ennill 120 o gredydau ar gyfer y flwyddyn, ac mae pob modiwl craidd yn werth 20 o gredydau.

Blwyddyn dau

Byddwch yn datblygu’r wybodaeth o’r flwyddyn gyntaf yn eich ail flwyddyn, ac yn dechrau archwilio cysyniadau mwy datblygedig megis geomorffoleg prosesau a hydroleg. Byddwch yn ennill sgiliau a phrofiad mewn samplu, casglu data a dadansoddi yn barod ar gyfer eich traethawd hir ym mlwyddyn tri. Byddwn yn mynd ar gwrs maes preswyl dramor i leoliad arfordirol yn Ewrop lle byddwch yn datblygu eich sgiliau mewn monitro amgylcheddol ac arolygu'r dirwedd ffisegol.

Yn y gorffennol, rydym wedi bod i'r Iseldiroedd a’r Swistir. Yn ystod yr haf rhwng blwyddyn dau a blwyddyn tri, byddwch yn gwneud ymchwil annibynnol dros gyfnod o bum wythnos i’ch paratoi chi ar gyfer eich traethawd hir ym mlwyddyn tri.

Gallwch ddewis ymchwilio i faes sydd o ddiddordeb i chi, gan gynnwys pynciau megis llifogydd ac erydu arfordirol, newidiadau i’r dirwedd yn y dyfodol a newidiadau i broffiliau clogwyni ar hyd arfordiroedd sy’n erydu ar hyn o bryd.

Rydych yn ennill 120 credyd am y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys modiwlau craidd 40 a 20 o gredydau a dewis o fodiwlau dewisol gwerth 20 o gredydau.

Blwyddyn tri

Bydd gennych fwy o ryddid i lywio eich gradd yn eich blwyddyn olaf ac yn dewis modiwlau sy’n cyd-fynd â’ch dyheadau o ran gyrfa. Byddwch hefyd yn datblygu gwybodaeth a sgiliau proffesiynol hanfodol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Byddwch yn ennill 120 o gredydau ar gyfer y flwyddyn. Mae’r modiwlau craidd yn cynnwys eich traethawd hir a Geomorffoleg Amgylcheddol. Gallwch ddewis cwblhau cwrs maes preswyl pellach ac astudio ystod o bynciau arbenigol megis y Newid yn Hinsawdd y Byd yn rhan o’ch modiwlau dewisol.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Rydym yn ysgol gyfeillgar ac anffurfiol a chewch eich addysgu gan arbenigwyr sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang sy’n cynnal ymchwil arloesol yn rhyngwladol.

Rydym yn defnyddio dull addysgu sy’n gymysgedd o ddamcaniaeth a gwaith ymarferol, gan gynnwys: darlithoedd, gwaith yn y labordy, gwaith maes, tiwtorialau, gweithdai a seminarau. Cewch hefyd eich annog i ddysgu’n annibynnol ac mewn grwpiau drwy gydol y cwrs, gan ddatblygu ystod eang o sgiliau a fydd yn hanfodol ar gyfer eich gwaith yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys sgiliau rheoli prosiect a threfnu yn ogystal â datblygu eich gallu wrth gymhwyso technoleg gwybodaeth a defnyddio technegau ac offer o’r radd flaenaf.

Sut y caf fy nghefnogi?

Cefnogaeth

Ar ddechrau'r cwrs, dyrennir Tiwtor Personol i chi ac mi fyddwch yn cwrdd â hwy’n rheolaidd ar gyfer tiwtorialau. Cynhelir tiwtorialau bob pythefnos yn y flwyddyn gyntaf ac yna bob mis ym mlwyddyn dau a thri. Bydd eich tiwtor personol yn arbenigwr yn eich cwrs gradd dewisol, a gall gynnig cyngor ar faterion academaidd a phersonol. Ym mlwyddyn tri, cewch hefyd oruchwyliwr penodol ar gyfer eich prosiect traethawd hir.

Cyfleusterau

Mae gennym wefan Dysgu Canolog lle byddwch yn gallu cyrchu fideos, lluniau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni i wneud darllen pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Caiff darlithoedd eu recordio lle bo'n bosibl fel y gallwch wylio ac astudio yn eich amser eich hun.

Mae gan wefan Dysgu Canolog fodiwl Cynllunio Datblygiad Personol hefyd sy’n eich helpu i asesu eich cynnydd yn rheolaidd ac i ddiwallu eich anghenion datblygu.

Gwasanaethau cefnogi

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Amrywiaeth

Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol, cefnogol a chroesawgar sy'n parchu urddas staff a myfyrwyr o bob oed, ethnigrwydd, anableddau, strwythurau teuluol, rhyw, cenedligrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hiliau, credoau crefyddol neu gredoau eraill, a chefndiroedd economaidd-gymdeithasol. Darllenwch am ein hymrwymiad i egwyddorion Athena SWAN a’n statws Efydd.

Sut caf fy asesu?

We will be assessing your level of knowledge and understanding in each module through a combination of assignments, presentations, fieldwork, examinations and a dissertation. You will receive written and oral feedback on your coursework and there are opportunities for informal feedback throughout the course.

You will complete a wide range of assessments, from traditional essays, data interpretation exercises and posters on topical themes to more interactive assignment experiences including group presentations, technical reports and briefing papers. These different assessments are designed to give you professional assessment experience and help you prepare for employment.

 

NOTE: The University welcomes applications from students with disabilities and we endeavour to offer reasonable alternative assessment methods wherever possible.   We have an Alternative Fieldwork Policy which is adopted in cases where a student cannot attend a scheduled, taught field course, or part(s) thereof, because of extenuating circumstances. 

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y rhain yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

Mae’r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon i’w gweld isod

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • dealltwriaeth systematig o brosesau gofodol ac amserol sy'n ymwneud â phrosesau systemau’r ddaear, gan gynnwys dealltwriaeth feirniadol eang o'r rhyngberthynas rhwng y rhain ar ystod o raddfeydd
  • dealltwriaeth eang o heriau byd-eang gan gynnwys risgiau a pheryglon sy'n gysylltiedig â phrosesau system y ddaear, gan gynnwys dulliau o lywodraethu'r rhain
  • dealltwriaeth systematig o natur amlddisgyblaethol Daearyddiaeth Ffisegol, gan gynnwys ei chynnwys, ei dulliau a'i hathroniaeth, a dealltwriaeth ymarferol gysylltiedig o'r angen i gynnwys gwybodaeth o'r gwyddorau cytras, gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â gwyddorau cefnfor, atmosfferig, ffisegol ac amgylcheddol

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol :

  • Dadlau, dehongli ac egluro achosion a graddfeydd prosesau system ddaear gyfoes ac yn y dyfodol wrth gymhwyso syniadau, cysyniadau a dulliau perthnasol yn feirniadol
  • Casglu, coladu, syntheseiddio a gwerthuso'n feirniadol amrywiaeth eang o ddata a gwybodaeth Daearyddiaeth Ffisegol, gan ddefnyddio dulliau perthnasol mewn meysydd cysylltiedig o wyddoniaeth
  • Gwerthuso ymchwil gyfredol mewn agweddau dethol ar Ddaearyddiaeth Ffisegol, gan ddangos gwerthfawrogiad o ansicrwydd, amwysedd a therfynau dealltwriaeth wyddonol gysylltiedig
  • Gweithio ar draws disgyblaethau i gysylltu gwybodaeth a phrofiad o wyddorau perthynol i ddeall prosesau system y ddaear

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Dadansoddi a dehongli'n feirniadol ystod o wahanol fathau o ddata sy'n gysylltiedig â'r prosesau ymchwil daearyddiaeth ffisegol i ymchwilio i ystod o bynciau amserol ar wyneb y ddaear a chysyniadau damcaniaethol
  • Cynllunio, dylunio a chynnal ymchwil sy'n gysylltiedig â daearyddiaeth ffisegol, gan ddefnyddio'n feirniadol ystod o ddulliau ansoddol a meintiol o gasglu a dadansoddi data mewn astudiaethau maes, ar y môr, yn y labordy ac wrth ddesg.
  • Deall a chymhwyso dulliau a ddefnyddir i gaffael data geo-ofodol a chynrychioli data o'r fath mewn fformatau cartograffig a graffig priodol gan ddefnyddio platfformau priodol, gan gynnwys GIS
  • Mynd i'r afael â phroblemau ymchwil sy'n cynnwys integreiddio a dadansoddi data amrywiol, sy’n aml yn anghyflawn ac ansicr gan ddefnyddio methodolegau a dulliau ansoddol a meintiol priodol
  • Arddangos sgiliau ymarferol a chymhwysedd mewn technoleg gwybodaeth, systemau gwybodaeth ddaearyddol, technegau cartograffig, ystadegol a dadansoddol eraill
  • Defnyddio sgiliau rheoli prosiect a threfnu effeithiol drwy weithio'n annibynnol a thrwy weithio mewn tîm
  • Deall yr agweddau ar gasglu data o ran cyfyngiadau ymarferol, logisteg, diogelwch a moesegol, a hynny mewn amrywiol amgylcheddau, a chymhwyso'r ddealltwriaeth hon, fel sy'n briodol i ymchwil gymhwysol

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Y gallu i gyfleu gwybodaeth, syniadau a dadleuon yn effeithiol mewn amrywiaeth o fformatau gan ddefnyddio cyfryngau llafar, ysgrifenedig a gweledol i gynulleidfaoedd arbenigol a lleyg
  • Y gallu i weithio'n gymwys yn unigol neu fel rhan o dîm wrth osod problemau a datrys problemau o fewn ystod o amgylcheddau ymchwil cymhwysol lle mae’r dasg o wneud penderfyniadau’n gymhleth ac yn amlddisgyblaethol
  • Y gallu i ymgymryd ag astudiaeth annibynnol ac ysgolheictod personol, wedi'u meithrin trwy gymryd mwy o gyfrifoldeb personol, menter a phrofiadau hunan-ddysgu
  • Dealltwriaeth o'r sgiliau a'r cymwyseddau sydd eu hangen i ddod o hyd i waith a chefnogi datblygiad proffesiynol parhaus, a’r gallu i gymhwyso hyn i hunan-fyfyrio, asesu a mynegi sgiliau ac anghenion cyflogadwyedd unigol

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Gyda’r blaned dan bwysau cynyddol o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd a thirwedd newidiol, mae galw mawr am wybodaeth a sgiliau daearyddwyr ffisegol. Gallwch ddefnyddio eich dealltwriaeth o brosesau’r Ddaear i ddod o hyd i atebion cynaliadwy i nifer o heriau cymhleth rydym yn eu hwynebu heddiw ac y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol.

Gallwch ddewis gweithio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau gwahanol a rolau llywodraeth, asiantaethau llywodraethol neu gwmnïau ymgynghori, gan gynnwys gweithio fel arbenigwr technegol neu ddadansoddwr geo-ofodol. Bydd gennych hefyd sgiliau y gellir eu rhoi ar waith mewn sectorau fel yswiriant, cyllid, addysg a chynllunio.

Mae rhai o’n myfyrwyr yn y gorffennol wedi mynd ymlaen i weithio yn Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, llywodraeth leol, cwmnïau ymgynghori amgylcheddol ac elusennau amgylcheddol.

Lleoliadau

Gall unrhyw fyfyriwr sy'n gallu cael lleoliad addas gyda chwmni neu sefydliad drosglwyddo i'n rhaglen pedair blynedd, a graddio gyda BSc gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol. Ni allwn warantu lleoliad i chi, gan fod y broses recriwtio a dethol yn dibynnu ar y cwmni yr ydych yn gwneud cais ar ei gyfer.  Fodd bynnag, byddwn yn eich cefnogi chi i ddod o hyd i leoliad a gwneud cais, a gall gwasanaeth gyrfaoedd y Brifysgol eich helpu gyda'ch ceisiadau, CV a sgiliau cyfweliad.   Yn ôl ein profiad ni, mae myfyrwyr sy'n cyflawni blwyddyn ar leoliad proffesiynol yn dychwelyd i'w hastudiaethau gyda sgiliau cyflogadwyedd a phrofiad diwydiant amhrisiadwy.

Gwaith maes

Rhwng y mynyddoedd trawiadol yn y gogledd ac aber llanw bioamrywiol yn y de, cewch chi gyfoeth o brofiadau ymarferol yn archwilio rhai o ardaloedd o ddiddordeb daearyddol mwyaf unigryw y DU. Rydym yn mynd ar deithiau diwrnod rheolaidd ar hyd yr arfordir ac i Fannau Brycheiniog yn Ne Cymru, yn ogystal â theithiau tramor i leoliadau fel y Swistir a Tenerife.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.