Llenyddiaeth Saesneg a Hanes (BA)
- Meysydd pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth , Hanes a hanes yr henfyd
- Côd UCAS: VQ13
- Derbyniad nesaf: Medi 2023
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Wedi'i deilwra i chi
Gyda modiwlau dewisol yn bennaf a'r gallu i ddewis modiwlau o ddisgyblaethau eraill mae gennych ryddid i ddewis gradd bersonol.
Profiad yn y diwydiant
Cewch ennill sgiliau, hyder a chysylltiadau drwy'r modiwl cyflogadwyedd, ynghyd ag amrywiaeth o interniaethau llenyddol a diwylliannol.
Dysgu gan arbenigwyr
Cewch elwa o addysgu a chefnogaeth gan staff ymchwil-weithredol.
Astudiwch gydag angerdd
Dilynwch eich diddordebau gyda phynciau sy'n amrywio o gaethwasiaeth yn America i hanes Sofietaidd a Japan.
Traethawd hir gyda gwahaniaeth
Dilynwch bwnc sy'n sbarduno eich chwilfrydedd; cewch wella sgiliau niferus gyda chyflwyniad ac elfen ysgrifenedig.
Mae'r radd gyfoethog a gwerth chweil hon yn eich galluogi i gyfuno diddordeb mawr yn y gorffennol gydag angerdd am lenyddiaeth Saesneg.
Yn llenyddiaeth Saesneg, rydym yn cynnig mynediad at holl rychwant cronolegol llenyddiaeth Saesneg, o gyfnod yr Eingl-Sacsoniaid hyd at yr unfed ganrif ar hugain. Ni chyfyngir ein cwricwlwm i’r gair printiedig: gan ein bod yn ymddiddori yn y cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a ffilm, celfyddyd, cerddoriaeth, hanes, iaith a diwylliant poblogaidd, mae ein haddysgu’n adlewyrchu’r diddordebau hynny. Mae hyn yn eich galluogi i lunio eich gradd sy’n gweddu i chi, gan ddewis llwybr traddodiadol o nifer o gyfnodau a genres neu gymysgedd mwy deinamig sy'n cyfuno astudiaeth lenyddol gyda dadansoddiad o ffurfiau diwylliannol eraill.
Yn Hanes, rydym yn rhoi cipolwg i chi ar brosesau newid o'r cyfnod canoloesol i'r cyfnod modern. Mae’r modiwlau hanes yn eich galluogi i ddysgu am fydoedd gwahanol iawn pobl y gorffennol ac i ddeall y presennol yn well. Ar gynnig i chi y mae hanes cymdeithasau mewn rhannau amrywiol o'r byd, gan gynnwys India, Tsieina, yr Almaen, Ffrainc, Rwsia, Prydain a Chymru.
Rydym yn eich annog i 'wneud hanes' drosoch eich hunan, gan gaffael sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi. Byddwch yn dysgu i feddwl yn annibynnol, i asesu cryfderau a gwendidau corff o dystiolaeth hanesyddol drosoch chi eich hunan, ac yn cyflwyno eich canfyddiadau yn glir. Fel hanesydd, byddwch yn ymchwilio’n drwyadl i dopig o ddiddordeb go iawn, gan arwain at eich traethawd ymchwil yn eich blwyddyn olaf.
Yn naturiol, bydd ein staff academaidd cyfeillgar wrth law i’ch arwain ac i ddarparu adborth llawn ac adeiladol drwy gydol eich astudiaethau. Gan ddod â chyfoeth o arbenigedd ar draws thema, cyfnod a daearyddiaeth, bydd ein darlithwyr yn rhannu'r syniadau diweddaraf yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys eu hymchwil arloesol eu hunain.

Maes pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth
Maes pwnc: Hanes a hanes yr henfyd
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
ABB-BBB. Rhaid i’r rhain gynnwys Ysgrifennu Creadigol, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth Saesneg.
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.
Mae'r radd hon yn adlewyrchu ein cynigion safonol a chyd-destunol nodweddiadol. Rydym yn ystyried eich data cyd-destunol (yr amgylchiadau yr ydych wedi bod yn astudio ynddynt) yn ofalus mewn cais. Bydd myfyrwyr cymwys sy'n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn yn cael cynnig ym mhen isaf yr amrediad graddau a hysbysebir.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd 6 ar Lefel Uwch mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth a Pherfformiad Saesneg.
Bagloriaeth Cymru
O 2023 ymlaen, bydd Bagloriaeth Cymru yn cael ei hailenwi'n Dystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru. Bydd y cymhwyster hwn yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DD-DM mewn Diploma BTEC mewn pynciau ynghylch y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, yn ogystal â gradd B mewn Llenyddiaeth Saesneg, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Ysgrifennu Creadigol ar Safon Uwch.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Gofynion mynediad ychwanegol
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Gofynion eraill
Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
FFfioedd am statws cartref
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.
Costau ychwanegol
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Ni fydd angen unrhyw offer penodol arnoch.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2023. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2023 i ddangos y newidiadau.
Mae’r cwrs llawn amser hwn yn para am dair blynedd gyda dau semester y flwyddyn, wedi eu rhannu rhwng y ddau bwnc. Ceir 120 o gredydau bob blwyddyn.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/2024. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023
Blwyddyn un
Byddwch yn astudio 120 credyd ym mhob blwyddyn o'ch gradd, gan gymryd 60 credyd ym mhob disgyblaeth o ystod o fodiwlau craidd a dewisol.
Mae blwyddyn un yn cynnig sylfaen ar gyfer astudio, ac mae wedi'i llunio i roi'r sgiliau i chi ar gyfer astudiaethau uwch ac i roi trosolwg o'ch pynciau i chi. Erbyn diwedd y flwyddyn, byddwch yn cydnabod y tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhwng Llenyddiaeth Saesneg a Hanes, a byddwch yn deall y berthynas gymhleth rhwng cyfnodau hanesyddol a'u harteffactau diwylliannol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
History in Practice Part 1: Questions, Frameworks and Audiences. | HS1119 | 20 Credydau |
Critical Reading and Critical Writing | SE2146 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
The Making of The Modern World, 1750-1970 | HS1105 | 20 Credydau |
Medieval Worlds, AD 500 -1500 | HS1112 | 20 Credydau |
Renaissance, Reformation and Revolution | HS1117 | 20 Credydau |
Modern Britain: Ideas, Politics, Society and Culture | HS1135 | 20 Credydau |
Drama: Stage and Page | SE2139 | 20 Credydau |
Star-cross'd Lovers: the Politics of Desire | SE2140 | 20 Credydau |
Transforming Visions: Text and Image | SE2142 | 20 Credydau |
Transgressive Bodies in Medieval Literature | SE2147 | 20 Credydau |
Ways of Reading | SE2148 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
Byddwch yn gwneud 60 credyd ym mhob disgyblaeth, gan ddewis o blith ystod eang o fodiwlau sy'n amrywio o ran genre, cyfnod a modiwlau rhanbarthol.
Mewn Llenyddiaeth Saesneg, byddwch yn dewis o blith modiwlau sy'n amrywio o ran thema, genre, cyfnod a daearyddiaeth, ac sydd ar wahân i fodiwlau gorfodol. Byddwch yn darllen amrywiaeth o destunau yn eu cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol, yn ogystal â pharhau i ddatblygu eich methodolegau beirniadol a'ch gwybodaeth am y pwnc.
Mewn Hanes, mae pwyslais yn symud ymhellach tuag at waith seminar, gyda mwy o ffocws ar ddadansoddi ffynonellau. Byddwch yn dewis o blith ystod eang o fodiwlau thematig ac arbenigol sy’n edrych ar bynciau a gwledydd yn fanylach.
Blwyddyn tri
Rydych yn cymryd 60 credyd ym mhob disgyblaeth, gan ddewis o nifer fawr o fodiwlau sy'n amrywio o ran genre, cyfnod a modiwlau rhanbarthol.
Erbyn eich blwyddyn olaf, byddwch wedi cael profiad o amrywiaeth o gyfnodau, testunau, genre a dulliau llenyddol, gan ddatblygu eich sgiliau mewn dadansoddi cyd-destunau a thestunau a’ch gallu i feddwl yn feirniadol. Byddwch yn dewis o blith ystod mwy arbenigol o fodiwlau sy'n ymgysylltu â materion cyfredol mewn ymchwil ac ysgolheictod mewn perthynas ag awduron a thestunau a phynciau a meysydd hanesyddol yr ydych chi’n gyfarwydd â nhw, ac efallai rhai sy'n llai cyfarwydd i chi.
Cewch y cyfle hefyd i ymgymryd ag ymchwil annibynnol ar bwnc o'ch dewis yn y naill ddisgyblaeth neu'r llall, gan eich galluogi i ganolbwyntio ar faes neu gyfnod penodol neu edrych yn fanylach ar y cysylltiad rhwng llenyddiaeth a hanes, a gallwch wneud hynny drwy Draethawd Hir os ydych yn dymuno.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Rydym hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.
Byddwch yn cael eich addysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.
Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd. Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.
Fe fyddwch chi hefyd yn dysgu drwy sesiynau ymarferol a theithiau maes, ac yn cymryd rhan mewn sesiynau tiwtorial un i un.
Sut y caf fy nghefnogi?
Bydd eich oriau cyswllt rheolaidd yn cael eu hategu gan y cyfle i gael cyfarfodydd unigol â staff academaidd, cyfarfodydd cynnydd academaidd cefnogol gyda'ch tiwtor personol a’r cyfle i fynd i seminarau ymchwil a gweithgareddau gyrfaoedd.
Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Adborth
Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.
Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig i chi ar eich gwaith. Byddwch hefyd yn cael dosbarth adborth ar ôl pob asesiad. Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunan asesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.
Sut caf fy asesu?
A range of assessment methods are used, including essays, examinations, presentations, portfolios and creative assignments.
Essays and examinations are used not only for assessment purposes but also as a means of developing your capacities to gather, organise, evaluate and deploy relevant information and ideas from a variety of sources in reasoned arguments. Dedicated essay workshops and individual advice enable you to produce your best work, and written feedback on essays feeds forward into future work, enabling you to develop your strengths and address any weaker areas.
The optional final-year dissertation provides you with the opportunity to investigate a specific topic of interest to you in depth and to acquire detailed knowledge about a particular field of study, to use your initiative in the collection and presentation of material and present a clear, cogent argument and draw appropriate conclusions.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol, a fydd yn eich galluogi chi i:
- deall pynciau cymhleth gyda hyder
- gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
- cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
- nodi a defnyddio data perthnasol
- cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
- cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
- gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
- dysgu yn sgîl beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau
- gweithio’n rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
- defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
- cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun
Gwybodaeth arall
Mae dulliau addysgu yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai, gwaith unigol a grŵp, tiwtorialau un i un, a dysgu hunan-gyfeiriedig. Gallwch hefyd ymgymryd ag astudiaeth a gwaith ymchwil annibynnol, dan arweiniad tiwtoriaid academaidd. Mae’r dulliau addysgu hyn yn eich galluogi chi i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a dadansoddi, ac i ddatblygu dulliau o feddwl yn feirniadol mewn amgylchedd cefnogol. Mae addysgu yn cwmpasu’r holl gymwyseddau allweddol, ac yn cael ei wella drwy gynnwys adnoddau dysgu digidol.
Mae'r asesiad yn canolbwyntio ar eich cefnogi i ddatblygu eich syniadau, sgiliau a chymwyseddau. Rydym yn defnyddio ystod eang o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau gwaith cwrs, beirniadaeth o ffynonellau, adolygiadau beirniadol, archwiliadau, profion ar-lein, posteri, cyflwyniadau llafar, blogiau a chyflwyniadau grwpiau. Mae dilyniant yn cael ei adeiladu i mewn i’r asesu, o ran y modd y byddwch chi’n gwneud tasgau tywys llai o faint ym mlwyddyn un, yn ogystal â gwaith ffurfiannol ym mlynyddoedd dau a thri. Fel rhan o'ch hyfforddiant sgiliau yn y flwyddyn gyntaf, cewch gymorth i ddeall sut y mae asesiadau’n gweithio, beth a ddisgwylir gennych chi, sut y bydd eich gwaith yn cael ei farcio a sut i fanteisio i'r eithaf ar eich adborth.
Gyrfaoedd
Rhagolygon gyrfa
Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i ystod eang o yrfaoedd gan ddefnyddio'r sgiliau a enillwyd drwy gydol cyfnodau eu graddau. Mae rhai yn dewis mynd ar drywydd proffesiynau sy'n gwneud defnydd uniongyrchol o'u harbenigedd yn y ddisgyblaeth, tra bod eraill yn mynd i'r sectorau cyhoeddus neu breifat, o addysgu i reoli gwaith dilyn graddedigion.
Dywedodd 95% o raddedigion 2016/17 yr Ysgol eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis i raddio (Arolwg Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch).
Gan gymryd Dosbarth 2017 fel ein hesiampl ddiweddaraf, mae graddedigion o'r Ysgol wedi mynd ymlaen i rolau ym meysydd addysgu, marchnata, cyhoeddi, cysylltiadau cyhoeddus, y gwasanaeth sifil, y fyddin, bancio ac yswiriant, a'r sector elusennol.
Rydym ni’n annog ein myfyrwyr i feddwl am fywyd y tu hwnt i’r Brifysgol o’r diwrnod cyntaf un, gan gynnig modiwlau a chefnogaeth i roi mantais gystadleuol i chi pan fyddwch chi’n graddio. Yn ystod eich gradd gallwch fanteisio'n llawn ar yr ystod eang o gyfleoedd a ddarperir gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd, ac mae modiwl dewisol mewn Cyflogaeth hefyd yn yr ail flwyddyn.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cai
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2018/19 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2021.