Iaith Saesneg ac Athroniaeth (BA)
- Meysydd pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth , Athroniaeth
- Côd UCAS: QV35
- Derbyniad nesaf: Medi 2024
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn
Treuliwch semester dramor
Mentrwch i ddiwylliant newydd; agorwch eich meddwl i syniadau a phrofiadau newydd mewn bywyd a dysg.
Wedi'i deilwra i chi
Gyda modiwlau dewisol yn bennaf a'r gallu i ddewis modiwlau o ddisgyblaethau eraill mae gennych ryddid i ddewis gradd bersonol.
Profiad yn y diwydiant
Cewch ennill sgiliau, hyder a chysylltiadau drwy'r modiwl cyflogadwyedd, ynghyd ag amrywiaeth o interniaethau llenyddol a diwylliannol.
Dysgu gan y gorau
Cewch elwa o gynnwys a arweinir gan ymchwil; a dysgu gan ysgolheigion iaith ac Athroniaeth byd-enwog.
Mae'r radd gyd-anrhydedd mewn Iaith Saesneg ac Athroniaeth yn rhoi cyfle i chi arbenigo mewn dau bwnc. Mae nifer o fyfyrwyr o’r farn bod hyn yn cyffroi ac yn brofiad gwerth chweil gan eu bod nhw’n gallu gweld yr hyn sy'n debyg ac yn wahanol rhwng y ddau bwnc.
Mae gan iaith Saesneg yng Nghaerdydd gymeriad unigryw. Fel y gellid disgwyl ar unrhyw gwrs da, cewch eich trwytho yn y dulliau o ddadansoddi’r iaith.
Fe ddysgwch chi arfau ieithyddol hanfodol fel ffoneteg, gramadeg a dadansoddi disgwrs, a hynny gan y rhai sy’n helpu i ddatblygu’r meysydd hynny. Gan fod gennym ymagwedd eang at iaith, fe ddysgwch hefyd sut mae dadansoddi’r mathau o destunau amlfoddol (er enghraifft, cyfuno geiriau, lluniau a seiniau) a geir mor aml yn y cyfryngau cyfoes.
Fodd bynnag, man cychwyn yn unig yw dadansoddi iaith. Yr hyn sy'n gwneud Caerdydd yn arbennig yw ein ffocws ar groesffordd iaith gyda diwylliant, cymdeithas, gwleidyddiaeth a meddwl.
Mae Athroniaeth yng Nghaerdydd yn arbennig oherwydd ei phwyslais mawr ar foeseg, gwleidyddiaeth, ac athroniaeth y meddwl, a’r sylw cyfartal y mae’n ei rhoi i ddulliau ‘dadansoddol’ a ‘Chyfandirol’ o ymgymryd ag athroniaeth Orllewinol.
Fel myfyriwr cydanrhydedd, fe welwch fod meysydd a safbwyntiau ategol yn aml sy'n cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ymchwil diweddar.
Rydym yn cynnig cwrs heriol o fodiwlau yn y naill bwnc a’r llall, ac yn ategu hynny ag awyrgylch cyfeillgar a pherthynas ragorol rhwng y staff a’r myfyrwyr.

Maes pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth
Maes pwnc: Athroniaeth
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAB-ABB
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.
- Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
- Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Rhaid bod gennych:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn unrhyw bwnc.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,000 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,000 | Dim |
Blwyddyn tri | £9,000 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £22,700 | Dim |
Blwyddyn dau | £22,700 | Dim |
Blwyddyn tri | £22,700 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Ni fydd angen unrhyw offer penodol arnoch.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae’r cwrs llawn amser hwn yn para am dair blynedd gyda dau semester y flwyddyn. Mae 120 o gredydau bob blwyddyn, wedi eu rhannu’n gyfartal rhwng y ddau bwnc. 20 credyd yw gwerth y rhan fwyaf o’rmodiwlau.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024
Blwyddyn un
Byddwch chi’n astudio 60 credyd Iaith Saesneg a 60 credyd Athroniaeth.
Mae blwyddyn un yn flwyddyn sylfaen i roi i chi’r sgiliau ar gyfer astudiaethau uwch ac yn rhoi trosolwg i chi o ddau bwnc i lywio eich dewisiadau’n ddiweddarach.
Mae’r ddau fodiwl craidd Saesneg Iaith yn rhoi sylfaen wych o ran disgrifio, dadansoddi a dehongli iaith, ac mewn sosioieithyddiaeth.
Byddwch yn astudio tri modiwl craidd mewn athroniaeth.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
How Language Works 1 | SE1113 | 20 Credydau |
How Language Works 2 | SE1114 | 20 Credydau |
Mind, Thought and Reality | SE4101 | 20 Credydau |
Moral and Political Philosophy | SE4103 | 20 Credydau |
Critical Thinking | SE4107 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Language and the Mind | SE1111 | 20 Credydau |
Reading and Writing in the Digital Age | SE1112 | 20 Credydau |
Developing English: History and Society | SE1115 | 20 Credydau |
Understanding Communication | SE1116 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
Byddwch chi’n astudio 60 credyd Iaith Saesneg a 60 credyd Athroniaeth unwaith eto.
O ran Iaith Saesneg byddwch yn astudio un modiwl craidd yn cwmpasu holl elfennau hanfodol seineg, gramadeg a semanteg geiriadurol (ystyr geiriau), gan adeiladu stoc gyffredin o wybodaeth a dealltwriaeth.
Byddwch hefyd yn dewis o blith dau ddewis 'sylfaen' a fydd yn rhoi cyflwyniadau diddorol i feysydd astudio allweddol mewn Saesneg Iaith. Mae'r hyfforddiant a ddarperir drwy’r modiwlau hyn yn eich paratoi chi i wneud eich dewis o'r modiwlau 'estynedig' mwy arbenigol, dan arweiniad ymchwil, yn y drydedd flwyddyn.
Nid oes unrhyw fodiwl craidd ym mlwyddyn dau ar gyfer Athroniaeth. Trwy fodiwlau dewisol, byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn o feysydd allweddol fel estheteg, epistemoleg, moeseg, iaith, metaffiseg, meddwl, seicoleg moesol ac athroniaeth wleidyddol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Sound, Structure and Meaning | SE1411 | 20 Credydau |
Blwyddyn tri
Byddwch chi’n astudio 60 credyd Iaith Saesneg a 60 credyd Athroniaeth.
Cynigir modiwlau Saesneg Iaith ac Athroniaeth yn y drydedd flwyddyn yn y meysydd pwnc mae ein staff yn gweithio ynddyn nhw ar hyn o bryd, gan roi cipolwg unigryw i chi ar rywfaint o’r gwaith mwyaf diweddar ac arloesol mewn ymchwil. O ran Saesneg Iaith, mae'r modiwlau hyn hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i chi gasglu a dadansoddi eich data eich hun yn aml.
Yn nodweddiadol mae’r modiwlau hyn yn mynd i’r afael â meysydd fel anhwylderau cyfathrebu, ieithyddiaeth fforensig, cyfathrebu perswadiol, dysgu ac addysgu ieithoedd, iaith ac ideoleg, ffonoleg, ieithyddiaeth corpws a disgwrs cyfryngau.
O ran Saesneg Iaith ceir hefyd gyfleoedd i ymgymryd â phrosiect (20 credyd) neu draethawd estynedig (40 credyd) yn eich dewis o faes ymchwil (yn amodol ar berfformiad yn yr ail flwyddyn).
Mewn Athroniaeth mae modiwlau arbenigol ar bynciau fel problem yr ymwybod, seicoleg foesol, meta-foeseg, ffeministiaeth ac aestheteg yn eich galluogi chi i ddilyn eich diddordebau ac ymgysylltu â materion cyfredol mewn ymchwil ac ysgolheictod, gan eich galluogi i ddatblygu sgiliau dadansoddi a chyflwyno y bydd cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi, yn ogystal â’ch paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig.
Gallwch hefyd gynnal prosiect neu draethawd hir ar bwnc o'ch dewis chi mewn Athroniaeth.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Rydym hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.
Byddwch yn cael eich addysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd.
Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.
Mae seminarau’n cynnig cyfle buddiol i ymgymryd yn feirniadol â’r prif syniadau a deunydd darllen sy’n gysylltiedig â phwnc, ac i ymchwilio i feysydd o ddiddordeb arbennig gydag arbenigwr yn y maes. Mae’n hanfodol eich bod chi’n paratoi ar gyfer seminarau (gan ymgymryd ag unrhyw waith darllen a bennwyd, gan feithrin dulliau annibynnol o feddwl yn feirniadol) er mwyn cael y budd mwyaf o’r sesiynau.
Sut y caf fy nghefnogi?
Bydd eich oriau cyswllt rheolaidd yn cael eu hategu gan y cyfle i gael cyfarfodydd unigol â staff academaidd, cyfarfodydd cynnydd academaidd cefnogol gyda'ch tiwtor personol a’r cyfle i fynd i seminarau ymchwil a gweithgareddau gyrfaoedd.
Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Adborth
Byddwn yn darparu adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau
Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig i chi ar eich gwaith. Byddwch hefyd yn cael dosbarth adborth ar ôl pob asesiad. Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunan asesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.
Sut caf fy asesu?
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu ffurfiannol a chyfunol, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios, ac aseiniadau creadigol.
Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid dim ond at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Mae gweithdai pwrpasol ar draethodau a chyngor unigol yn eich galluogi chi i greu eich gwaith gorau, ac mae adborth ysgrifenedig ar draethodau’n cyfrannu at waith y dyfodol, gan eich galluogi chi i ddatblygu eich cryfderau a mynd i’r afael ag unrhyw faes gwannach.
Mae prosiect neu draethawd hir (estynedig) dewisol y flwyddyn derfynol yn rhoi cyfle i chi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi, gan ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol; defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd; a chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd i chi:
- deall pynciau cymhleth gyda hyder
- gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
- cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
- nodi a defnyddio data perthnasol
- cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
- cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
- gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
- dysgu yn sgîl beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau
- gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ymchwilio a datrys problemau
- defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
- Cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun
Gyrfaoedd
Rhagolygon gyrfa
YSGOL SAESNEG, CYFATHREBU AC ATHRONIAETH
Mae graddau mewn Saesneg Iaith yn cyfuno’r goreuon o blith sgiliau dyniaethau (hyblygrwydd, cyfathrebu, beirniadu) â sgiliau gwyddorau cymdeithasol (dadansoddi technegol a dull systematig). Mae cyrchfannau cyffredin yn cynnwys addysgu ysgolion cynradd ac uwchradd, addysgu Saesneg fel iaith dramor, newyddiaduraeth (digidol), marchnata a cysylltiadau cyhoeddus, gwerthu a hysbysebu, y gwasanaeth sifil a gweinyddiaeth gyhoeddus.
Mae graddedigion Athroniaeth yn enwog am eu sgiliau dadansoddol pendant a'u gallu i adeiladu a chyfathrebu dadleuon clir. Bydd astudio Athroniaeth, felly, yn datblygu’ch gallu i ganfod y rhesymau dros honiadau pobl, yn dod o hyd i dybiaethau gwaelodol y rhesymau hynny, yn asesu’r rhesymau a’r tybiaethau’n feirniadol, ac yn cyfleu hynny i gyd yn glir ac yn effeithiol.
Astudio yn Gymraeg
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.