Peirianneg Drydanol ac Electronig gyda Blwyddyn mewn Diwydiant (MEng)
- Maes pwnc: Peirianneg
- Côd UCAS: H600
- Derbyniad nesaf: Medi 2023
- Hyd: 5 blwyddyn
- Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn ryngosod

Pam astudio'r cwrs hwn
Lleoliad diwydiannol
Ewch ati i ennill profiad gwerthfawr o weithio mewn rôl â thâl mewn sefydliad yn y DU neu dramor am un flwyddyn academaidd.
Ystyriaeth am ddyfarniad proffesiynol
Mae ein partneriaeth ffurfiol â Sefydliad City and Guilds Llundain yn eich galluogi i ennill Gwobr Uwch Licentiateship ar ôl cwblhau eich lleoliad yn llwyddiannus.
Ysgoloriaethau allanol ar gael
Mae myfyrwyr yn gymwys i gyflwyno cais ar gyfer ysgoloriaethau gan Academi Bŵer y DU a Sefydliad Sgiliau Electronig y DU UKESF (mae Prifysgol Caerdydd yn aelod o'r ddau gynllun).
Mae astudio peirianneg electronig a thrydanol yn eich rhoi yng nghanol disgyblaeth fywiog a chyflym sy’n berthnasol i ddiwydiannau megis electroneg, technoleg gwybodaeth, gweithgynhyrchu, cynhyrchu a chyflenwi ynni, trafnidiaeth a chyfathrebu.
Mae dewis y radd MEng Peirianneg Drydanol ac Electronig pedair blynedd yn cynnig llwybr cyflymach, mwy uniongyrchol at statws Peiriannydd Siartredig na'r cwrs BEng byrrach. Mae’n caniatáu ichi ddefnyddio'r ddwy flynedd ddiwethaf i ehangu a chryfhau eich gwybodaeth mewn peirianneg drydanol ac electronig. Byddwch yn elwa o ddysgu ar lefel uwch mewn dylunio a rheoli a gwerthfawrogiad o'r technegau sydd eu hangen i reoli a threfnu prosiect dylunio peirianneg amlddisgyblaethol.
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys y cyfle i dreulio blwyddyn ar leoliad diwydiannol rhwng ail a thrydedd flwyddyn eich astudiaeth academaidd. Gyda'r opsiwn hwn, byddwn yn eich cefnogi i ddod o hyd i leoliad fydd yn caniatáu ichi weld dros eich hun sut beth yw amgylchedd gwaith proffesiynol. Os byddwch yn llwyddo i sicrhau lleoliad byddwch yn cael cyflog a byddwch yn gwella eich sgiliau cyflogadwyedd trwy ennill profiad uniongyrchol o weithio mewn busnes, diwydiant neu'r sector cyhoeddus.
Adolygir y cwrs bob blwyddyn a cheir mewnbwn gan ein partneriaid diwydiannol er mwyn sicrhau bod y modiwlau a addysgir yn arloesol ac yn adlewyrchu cyflwr cyfredol y diwydiant.
Mae cyrsiau peirianneg drydanol ac electronig eraill yn cynnwys:
- Sylfaen drylwyr yn hanfodion peirianneg drydanol ac electronig os dewiswch gwrs BEng.
- Y cyfle i astudio dramor mewn sefydliad partner am un semester os dewiswch y radd MEng (Rhyngwladol) berthnasol.
Achrediadau

Maes pwnc: Peirianneg
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAB-ABB. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd A mewn Mathemateg. Bydd angen i chi basio’r elfen ymarferol o bwnc gwyddoniaeth Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.
Mae'r radd hon yn adlewyrchu ein cynigion safonol a chyd-destunol nodweddiadol. Rydym yn ystyried eich data cyd-destunol (yr amgylchiadau yr ydych wedi bod yn astudio ynddynt) yn ofalus mewn cais. Bydd myfyrwyr cymwys sy'n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn yn cael cynnig ym mhen isaf yr amrediad graddau a hysbysebir.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd 6 mewn Bioleg Lefel Uwch.
Bagloriaeth Cymru
O 2023 ymlaen, bydd Bagloriaeth Cymru yn cael ei hailenwi'n Dystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru. Bydd y cymhwyster hwn yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DD-DM mewn Diploma BTEC mewn unrhyw bwnc, a gradd A mewn Mathemateg Safon Uwch.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Gofynion mynediad ychwanegol
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Gofynion eraill
Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
- contact with people related to Cardiff University.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
FFfioedd am statws cartref
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.
Costau blynyddoedd rhyngosod
Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.
Costau ychwanegol
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol. Bydd y Brifysgol yn darparu adnoddau fel cyfrifiaduron a meddalwedd cysylltiedig, offer labordy (gan gynnwys unrhyw offer diogelwch) ac amrywiaeth o adnoddau dysgu eraill.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2023. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2023 i ddangos y newidiadau.
Gradd amser llawn a phum mlynedd o hyd yw hon. Byddwch yn treulio'r drydedd flwyddyn yn gweithio mewn diwydiant. Mae'r cwrs yn cynnig cydbwysedd gofalus o fodiwlau craidd a modiwlau dewisol. 10 credyd yw gwerth y rhan fwyaf o fodiwlau, 20 credyd yw gwerth rhai ohonynt, a hyd at 40 credyd yr un yw gwerth ychydig ohonynt, gan gynnwys prosiectau blynyddoedd pedwar a phump. Mae angen i chi ennill 120 o gredydau bob blwyddyn.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/2024. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023
Blwyddyn un
Mae’r flwyddyn gyntaf yn cynnwys cyfres o ddarlithoedd wedi'u hategu gan sesiynau labordy ymarferol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Network Analysis | EN1064 | 10 Credydau |
Laboratory | EN1072 | 20 Credydau |
Professional Engineering | EN1079 | 10 Credydau |
Analogue Communications Systems | EN1081 | 10 Credydau |
Electrical and Electronic Engineering 1 | EN1082 | 10 Credydau |
Electrical and Electronic Engineering 2 | EN1083 | 10 Credydau |
Electromagnetics and Electronic Materials | EN1084 | 10 Credydau |
Power Engineering and Electrical Materials | EN1085 | 10 Credydau |
Engineering Mathematics 1 | EN1093 | 20 Credydau |
Engineering Computing | EN1094 | 10 Credydau |
Blwyddyn dau
Mae’r ail flwyddyn eto'n cynnwys cyfres o ddarlithoedd wedi'u hategu gan sesiynau labordy ymarferol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Control Engineering | EN2058 | 10 Credydau |
Fields, Waves and Transmission Lines | EN2076 | 10 Credydau |
Microcontroller Applications and Embedded Design | EN2081 | 10 Credydau |
Electrical and Electronic Engineering 3 | EN2082 | 10 Credydau |
Electrical and Electronic Engineering 4 | EN2083 | 10 Credydau |
Engineering Mathematics 2 | EN2090 | 10 Credydau |
Machine and Power Electronics | EN2708 | 10 Credydau |
Power Systems Analysis | EN2709 | 10 Credydau |
Group Design Project | EN2710 | 20 Credydau |
Digital Communications Systems | EN2711 | 10 Credydau |
Programming for Engineering | EN2750 | 10 Credydau |
Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod
Treulir y drydedd flwyddyn yn gweithio mewn diwydiant. Fel arfer, disgwylir i chi fod mewn cyflogaeth am o leiaf 30 wythnos i fodloni isafswm gofyniad y Brifysgol, er bod Ysgol Peirianneg Caerdydd yn disgwyl i'r lleoliad bara am y flwyddyn academaidd gyfan.
Yn ystod eich lleoliad gwaith bydd eich tiwtor hyfforddiant diwydiannol neu enwebai yn ymweld â chi o leiaf unwaith, ond ddwywaith yn ddelfrydol, os ydych chi wedi eich lleoli yn y DU.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Industrial Training | EN3095 | 120 Credydau |
Blwyddyn pedwar
Byddwch yn gwneud prosiect mawr sy’n werth 40 credyd yn y bedwaredd blwyddyn. Byddwch yn gweithio'n unigol ar y prosiect, ochr yn ochr ag aelod o staff goruchwylio.
Mae’r modiwlau craidd yn cynnwys Rheoli Prosiectau ond mae yna fodiwlau dewisol hefyd, gan adeiladu ar y sylfeini a sefydlwyd yn y blynyddoedd cynharach.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Engineering Project Management | EN3024 | 10 Credydau |
Automatic Control | EN3057 | 10 Credydau |
Embedded Systems | EN3087 | 10 Credydau |
Individual Project | EN3400 | 40 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Commercialising Innovation | EN3006 | 10 Credydau |
Power Electronics | EN3058 | 10 Credydau |
HF and RF Engineering | EN3082 | 10 Credydau |
Object Oriented Engineering Computing | EN3085 | 10 Credydau |
Power Systems A | EN3701 | 10 Credydau |
Electrical Machines and Drives A | EN3702 | 10 Credydau |
Renewable Energy Technologies | EN3708 | 10 Credydau |
Grid Integration of Renewables | EN3709 | 10 Credydau |
Advanced Analogue IC Design | EN3805 | 10 Credydau |
Analogue and Digital Communication Systems | EN3818 | 20 Credydau |
Introduction to Magnetic Materials | EN3820 | 10 Credydau |
Blwyddyn pump
Byddwch yn gwneud dau brosiect grŵp yn y bumed blwyddyn, sy'n gysylltiedig ag ymchwil amserol. Gyda’i gilydd, mae'r rhain yn ffurfio hanner yr asesiad cyffredinol.
Byddwch yn dilyn y modiwl craidd Rheoli mewn Diwydiant a gallwch ddewis modiwlau o blith modiwlau eraill.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Group Project | EN4100 | 30 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Advanced Communication Systems | EN4059 | 10 Credydau |
Advanced Robotics | EN4062 | 10 Credydau |
RF Circuit Design and CAD | EN4063 | 10 Credydau |
Automotive Design | EN4101 | 30 Credydau |
Integrated Building Design | EN4102 | 30 Credydau |
Renewable Energy Design | EN4103 | 30 Credydau |
Mechatronics Design | EN4110 | 30 Credydau |
Electric Vehicle Design | EN4111 | 30 Credydau |
Advanced Power Electronics and Drives | EN4701 | 10 Credydau |
Advanced Power Systems and High Voltage Technology | EN4702 | 10 Credydau |
Alternative Energy Systems | EN4705 | 10 Credydau |
Smartgrids and Active Network Devices | EN4708 | 10 Credydau |
Distributed Generation, System Design and Regulation | EN4775 | 10 Credydau |
High Frequency Electronic Materials | EN4806 | 10 Credydau |
Power System Protection | EN4807 | 10 Credydau |
Advanced CAD, Fabrication and Test | EN4809 | 10 Credydau |
Magnetic Devices: Transducers, Sensors and Actuators | EN4821 | 10 Credydau |
Artificial Intelligence | EN4902 | 10 Credydau |
High Frequency Device Physics and Design | EN4910 | 10 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Addysgir trwy ddarlithoedd a thiwtorialau, ac ategir hyn gan waith ymarferol mewn labordai a gwaith prosiect. Mae'r modiwlau a addysgir yn y ddwy flynedd gyntaf yn rhai gorfodol i raddau helaeth, ond mae opsiynau ar gael ym mlynyddoedd pedwar a phump fel rheol. Rhaid i bob myfyriwr gwblhau prosiect unigol 40-credyd ym mlwyddyn pedwar, a dyrennir goruchwyliwr ar eu cyfer o blith y staff addysgu. Bydd cyfleoedd i ryngweithio â darpar gyflogwyr.
Sut y caf fy nghefnogi?
Dyrennir tiwtor personol i chi sy'n aelod o'r staff academaidd ac sy'n gysylltiedig â'ch cwrs gradd. Bydd eich tiwtor yno i’ch cynghori ar faterion academaidd, materion nad ydynt yn academaidd a materion personol mewn modd cyfrinachol ac anffurfiol, pan fydd angen ychydig o arweiniad arnoch. Ein nod yw eich helpu chi i oresgyn unrhyw broblem, fach neu fawr, mor ddiffwdan a chyflym â phosibl.
Ar gyfer y prosiect 40 credyd ym mlwyddyn pedwar, dyrennir goruchwyliwr i chi yn y maes ymchwil arbenigol eang a byddwch yn cwrdd yn rheolaidd.
Yn ystod eich blwyddyn ar leoliad gwaith bydd eich tiwtor hyfforddiant diwydiannol neu enwebai yn ymweld â chi o leiaf unwaith, ond ddwywaith yn ddelfrydol, os ydych chi wedi eich lleoli yn y DU.
Bydd y tiwtor yn eich cyfweld, yn gwirio'ch llyfr log / dyddiadur ac yn trafod cynnydd gyda chi, swyddog hyfforddi'r cwmni a / neu'r rheolwr sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol am eich hyfforddiant. Bydd adroddiad cryno yn cael ei ffeilio.
Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Bydd cyfleoedd i chi fyfyrio ar eich galluoedd a'ch perfformiad drwy'r modiwl 'Cynllunio Datblygiad Personol' ar Dysgu Canolog.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Adborth
Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Daw hyn mewn sawl fformat gan gynnwys adborth llafar mewn dosbarthiadau fel dylunio a gwaith prosiect a thrwy ddychwelyd gwaith cwrs wedi'i farcio.
Cewch y cyfle i brofi'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth trwy gydol y semester trwy brofion dosbarth ym Mlynyddoedd 1 a 2, yn ogystal ag adborth ar asesiadau ysgrifenedig. Weithiau, gellir defnyddio asesiad cyfoedion o gyfraniad unigolyn i grŵp, ac efallai y byddwch hefyd yn cael adborth llafar ar gyflwyniadau a chyfraniadau i weithgareddau grŵp.
Sut caf fy asesu?
Your progress in each module is usually assessed at various stages through each semester (through a short test) to give you feedback on your progress, then finally at the end of the appropriate semester. Assessment is undertaken using methods including formal written examinations, case studies, assignments and project work.
Examinations count for 60% to 70% of all assessment throughout the course, depending on the options chosen. The remainder composed mainly of project work and larger pieces of coursework, plus performance in laboratories.
The opportunity to test knowledge and understanding is given through class tests throughout Year 1, plus feedback on written assessments. Occasionally, peer assessment of an individual’s contribution to a group may be used, and students may also receive oral feedback on presentations and contributions to group activities.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu trwy'r Cyngor Peirianneg, sy'n golygu bod cymwyseddau craidd UK-SPEC (Safon y DU ar gyfer Cymhwysedd Peirianneg Broffesiynol) wedi'u hintegreiddio trwy gydol y blynyddoedd y caiff y cwrs addysgu.
Trwy waith labordy byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol sy'n canolbwyntio ar gymhwyso ystod o egwyddorion peirianneg i broblemau technolegol, rheoliadol a moesegol bywyd go iawn a wynebir yn y proffesiwn peirianneg.
Byddwch hefyd yn:
- Gwella eich sgiliau cyfathrebu, ar lafar ac yn ysgrifenedig, trwy gyfres o adroddiadau ac aseiniadau
- Datblygu eich gwybodaeth, sgiliau a hyder i ddatrys problemau amlddisgyblaethol mewn cyd-destun peirianneg
Gyrfaoedd
Rhagolygon gyrfa
Mae gan ein graddedigion peirianneg trydanol ac electronig swyddi allweddol mewn cwmnïau blaenllaw fel National Instruments, Babcock, BAE Systems, RWE npower, Network Rail, Rolls Royce, Ford, Nokia, Bosch a'r Grid Cenedlaethol.
A hithau ar flaen y gad ym maes ymchwil beirianegol, mae gan Gaerdydd gysylltiadau cryf â byd diwydiant. Datblygwyd cysylltiadau niferus â chwmnïau yn y Deyrnas Unedig a thramor drwy ein cynlluniau Blwyddyn mewn Diwydiant a thrwy waith ymgynghorol ein staff. Mae hynny’n cynnwys cynghori ynghylch materion fel polisi ynni, dylunio pontydd, defnyddiau magnetig a dyfeisiau lled-ddargludo.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Gofyn cwestiwn
Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.
Sut i wneud cai
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2018/19 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2021.