Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddorau Biofeddygol gyda Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol (MBiomed)

  • Maes pwnc: Gwyddorau Biofeddygol
  • Côd UCAS: 52G9
  • Derbyniad nesaf: Medi 2023
  • Hyd: 5 blwyddyn
  • Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn ryngosod

Pam astudio'r cwrs hwn

Mae ein cwrs Meistr integredig mewn Gwyddorau Biofeddygol gyda Blwyddyn o Hyfforddiant Proffesiynol ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb mewn ymchwil neu sy'n gobeithio dilyn gyrfa mewn gwyddoniaeth. Mae'r cwrs gradd pum mlynedd hwn yn galluogi myfyrwyr i archwilio ffiniau presennol ein gwybodaeth yn eu dewis nhw o faes, ac mae'n gyfle iddynt hyfforddi mewn uwch-dechnegau ymchwil.

Y gwyddorau biofeddygol yw'r sail ar gyfer ymchwil feddygol a meddygaeth. Byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau sy’n canolbwyntio ar ddatblygiad a swyddogaeth arferol, yn ogystal â mecanweithiau clefydau a phrosesau clefydau. Mae ein gradd Gwyddorau Biofeddygol yn defnyddio dull eang sy’n rhoi’r dewis i chi astudio nifer o bynciau biolegol perthnasol gan gynnwys ffisioleg ddynol, anatomeg ddynol, prosesau clefyd a’u triniaeth, biocemeg, geneteg a microbioleg. Caiff y cwricwlwm a’i hyfforddiant ymarferol ei lywio gan yr amrywiaeth eang o ymchwil fiofeddygol a gynhelir yn Ysgol y Biowyddorau ac yn Ysbyty Athrofaol Cymru, gan eich galluogi i gael hyfforddi mewn pynciau sy’n berthnasol i ymchwil cyfoes gan gynnwys bioleg canser, bôn-gelloedd, peirianneg meinweoedd, therapi genynnau, clefydau niwroddirywiol.

Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn ar leoliad gwaith proffesiynol sy’n berthnasol i’ch gradd. Mae profiad yn dangos y bydd hynny’n gwella llawer ar eich rhagolygon gyrfa wedi hynny.

Byddai rhaglen radd hon yn addas i ystod eang o fyfyrwyr sydd â diddordeb yn y gwyddorau biofeddygol. Mae’r rhaglen yn cyfuno dealltwriaeth wyddonol gyda datblygu sgiliau academaidd (arfarnu beirniadol, gwerthuso a dadansoddi data) ynghyd â datblygu sgiliau ymarferol, cyflwyno ac ysgrifenedig mewn cyd-destun gwyddonol. Yn y pen draw, nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sy'n llysgenhadon cyflogadwy, gwybodus, amryddawn a brwdfrydig ar gyfer gwyddoniaeth.

Bydd y sgiliau a’r wybodaeth y byddwch chi’n eu datblygu yn ystod eich gradd Gwyddorau Biofeddygol yn eich gwneud yn gyflogadwy mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd ym maes gwyddorau biofeddygol gan gynnwys ymchwil, gofal iechyd, cyhoeddi ac addysgu. Bydd y sgiliau dadansoddol a’r sgiliau eraill y byddwch chi’n eu meithrin ar y cwrs hefyd yn sylfaen wych ar gyfer llawer o lwybrau gyrfaol eraill ar wahân i wyddoniaeth. Fel arall, efallai y byddwch am barhau â’ch astudiaethau gyda gradd uwch.

Nodweddion nodedig

Mae gan ein graddau gysylltiad agos â diddordebau ymchwil y staff sy’n eu haddysgu, gan eich caniatáu i brofi cyffro dysgu mewn amgylchedd ymchwil gweithredol. Rydym yn denu llawer iawn o arian ymchwil allanol a bydd hynny’n caniatáu ichi ddefnyddio’r offer, y technegau a'r cyfleusterau diweddaraf yn eich gwaith prosiect. Yr Ysgol yw cartref Canolfan Addysg Anatomegol Cymru ac mae hefyd yn arwain Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, gan ganiatáu mynediad at ystod eang o gyfleoedd hyfforddi cyffrous.

Mae'r rhaglen hon yn cynnig lefel uchel o hyblygrwydd gyda dewis y myfyrwyr wrth ei wraidd. Chi sydd i ddewis beth fydd trywydd eich profiad academaidd. Gallwch ddewis arbenigo mewn maes penodol neu barhau ag amrywiaeth eang o ddysgu gan astudio’r ymchwil ryngddisgyblaethol sy’n sail i lawer o lwyddiant yr Ysgol.

Maes pwnc: Gwyddorau Biofeddygol

  • academic-schoolYsgol y Biowyddorau
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4119
  • MarkerRhodfa'r Amgueddfa, Caerdydd, CF10 3AX

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAA-AAB. Rhaid cynnwys Bioleg (neu Fioleg Ddynol) neu Gemeg.

Bydd angen i chi basio elfen ymarferol wyddoniaeth y Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

 

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.


Rydym yn ystyried eich data cyd-destunol (o dan ba amgylchiadau rydych wedi bod yn astudio) yn ofalus ar ôl i’ch cais ddod i law. Os bydd ystod graddau wedi’i hysbysebu, mae’n adlewyrchu ein cynigion safonol a chyd-destunol nodweddiadol. Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig ym mhen isaf yr ystod graddau a hysbysebir. Os na fydd ystod graddau wedi’i hysbysebu, byddwch fel arfer yn cael pwyntiau ychwanegol yn rhan o’r broses ddethol.  Darganfyddwch ragor am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei ddefnyddio.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

36-34 yn gyffredinol neu 666 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Bioleg neu Cemeg HL.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDD mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol, Gwyddoniaeth Fforensig, neu Reoli Anifeiliaid gyda Rhagoriaeth ym mhob un o'r Unedau Craidd/Gorfodol.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Gofynion mynediad ychwanegol

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:

- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

- TGAU Mathemateg gradd C / 4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.

Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfleusterau labordy gan gynnwys cemegolion
  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £1,800 Dim
Blwyddyn pedwar £9,000 Dim
Blwyddyn pump £9,000 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £25,450 Dim
Blwyddyn dau £25,450 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £5,090 Dim
Blwyddyn pedwar £25,450 Dim
Blwyddyn pump £25,450 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau blynyddoedd rhyngosod

Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.

Costau ychwanegol

Mae'r holl gyrsiau maes sy'n digwydd dramor yn golygu costau ychwanegol – yn bennaf ar gyfer llety a theithio’r myfyrwyr. Rydym yn ymdrechu i gadw'r rhain cyn lleied â phosibl, er enghraifft rydym yn cadw ein Gorsaf Maes a’n staff ein hunain yn Borneo, ac nid yw’r costau hyn yn cael eu hadfer o ffioedd i fyfyrwyr. Rydym hefyd yn cynnig rhai cyrsiau maes ardderchog yng Nghymru nad ydynt yn arwain at gostau ychwanegol.

Ni fyddwn yn codi unrhyw gostau ychwanegol ar gyfer agweddau eraill ar hyfforddiant, er y gallai rhai gwasanaethau (fel myfyrwyr yn argraffu yn ôl y galw) godi ffi.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol. Bydd y Brifysgol yn darparu cyfleusterau TG (mewn man cymunedol), labordai gydag offer arbenigol, a’r holl feddalwedd arbenigol sydd ei angen ar gyfer y cwrs.

Cynghorir myfyrwyr i gael gliniadur personol neu ddyfais gyfatebol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r cwrs MBiomed hwn yn un amser llawn dros bum mlynedd academaidd. Mae'r flwyddyn gyntaf yn cynnwys chwe modiwl 20 credyd, gyda thri modiwl 40 credyd yn cael eu haddysgu yn yr ail flwyddyn. Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn ar leoliad proffesiynol ac, yn y bedwaredd flwyddyn, mae’r prosiect ymchwil yn cario 30 o gredydau ac yn cael ei wneud ochr yn ochr â thri modiwl 30 credyd. Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn astudio dau fodiwl 20 credyd ac yn cynnal prosiect ymchwil gwerth 80 o gredydau.  Er ein bod yn ceisio cynnig cymaint o hyblygrwydd â phosibl wrth wneud ein cyrsiau, gellir cyfyngu ar y dewis o fodiwlau ar sail Gradd Mynediad i sicrhau capasiti ar fodiwlau craidd y mae’n rhaid eu gwneud wrth astudio ar gyfer rhai graddau.

Mae modiwlau blwyddyn un yn cynnwys darlithoedd a sesiynau tiwtorial ategol sy’n darparu gwybodaeth ddamcaniaethol gefndir yn ogystal â dosbarthiadau ymarferol. Mae ein cynlluniau gradd amrywiol yn rhannu blwyddyn gyntaf gyffredin, sy’n rhoi sylw i’r holl agweddau ar fiowyddoniaeth ac mae ganddynt y fantais o gynnig hyblygrwydd o ran eich dewis gradd. Mae dosbarthiadau’n rhoi sgiliau TG biolegwyr i fyfyrwyr a dealltwriaeth o ddadansoddi data yn ystadegol, a defnyddir gwaith cwrs i ddatblygu sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig.

Yn yr ail flwyddyn, rydym yn cynnig modiwlau ar draws ystod eang o bynciau. Mae un modiwl gorfodol sef Cysyniadau Clefydau, ond oni bai am hwn mae gennych rwydd hynt (yn amodol ar rai cyfyngiadau oherwydd amserlennu a niferoedd) i deilwra’r cwrs i gyd-fynd â'ch diddordebau. Ym mhob achos, mae sesiynau ymarferol helaeth mewn labordy yn helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol a’r gallu i werthuso data arbrofol yn feirniadol. Defnyddir aseiniadau a osodwyd a deunydd darllen i hyrwyddo dysgu hunangyfeiriedig a dadansoddi llenyddiaeth ymchwil sylfaenol.

Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn ar leoliad gwaith proffesiynol sy’n berthnasol i’ch gradd. Yn ystod y lleoliad hwn byddwch yn ymgymryd â phob agwedd ar ymchwil, gan gynnwys dylunio arbrofol, casglu data a dadansoddi ac, yn olaf, cyflwyno data gan gynhyrchu adroddiad a chyflwyniad prosiect.

Yn y bedwaredd flwyddyn, mae angen astudio llawer mwy annibynnol, ac mae’n rhaid i’r holl fyfyrwyr gynhyrchu adroddiad sylweddol sy’n seiliedig ar ymchwil (labordy, llenyddiaeth, addysgeg, neu ymrwymiad gwyddonol). Cefnogir y darlithoedd a arweinir gan ymchwil gan ddeunydd darllen cyfeiriedig.

Bydd y modiwlau a addysgir yn y flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar uwch-dechnegau ymchwil, sgiliau chwilio llenyddiaeth a dadansoddi, trafod a gwerthuso'n feirniadol mewn grwpiau, ynghyd â chynllunio gwaith arbrofol. Bydd modiwl y prosiect ymchwil yn gofyn i chi ymgolli'n llwyr mewn gwaith ymchwil mewn labordy am gyfnod o 6 mis.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/2024. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023

Blwyddyn un

Mae’r flwyddyn gyntaf yn flwyddyn gyffredin, sy’n cwmpasu pob agwedd ar y biowyddorau. Mae hyn yn adlewyrchu natur gynyddol amlddisgyblaethol ymchwil y biowyddorau ac mae'n cynnig y fantais ychwanegol o gynnig hyblygrwydd o ran dewis gradd i chi.

Cyflwynir y maes llafur modiwlaidd, modern drwy ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial, cyflwyniadau a dosbarthiadau ymarferol a gynhelir mewn labordai mawr, gyda chyfleusterau da. Mae'n darparu sylfaen gadarn yn yr holl ddisgyblaethau biolegol, gan gynnwys cemeg fiolegol, bioleg celloedd, microbioleg, geneteg, esblygiad, anatomeg a ffisioleg, bioleg anifeiliaid a phlanhigion ac ecoleg, yn ogystal â chanolbwyntio ar ddatblygu medrau gwyddonol ymarferol ac academaidd. Efallai y bydd modiwlau’n gorgyffwrdd ag astudiaethau Safon Uwch ar y cychwyn, ond buan iawn y byddant yn datblygu o ran dyfnder a chwmpas.

Blwyddyn dau

Mae'r ail flwyddyn yn caniatáu i chi arbenigo mwy, ac mae'n adeiladu ar y wybodaeth a'r sgiliau ymarferol yr ydych wedi’u meithrin yn y flwyddyn gyntaf. Bydd pwyslais ar ddadansoddi data a chyfathrebu gwyddonol, yn ogystal â thechnegau a thechnegau maes uwch. Bydd sgiliau deall dylunio arbrofol, adolygu llenyddiaeth, dadansoddi ystadegol a dadansoddi beirniadol yn sylfaen ar gyfer astudio pellach yn y drydedd flwyddyn.

Ochr yn ochr â’r modiwl gorfodol ‘Cysyniadau Clefydau’, byddwch yn dewis dau fodiwl 40 credyd ychwanegol o ddewis o ddeg, gan sicrhau eich bod yn rhydd i fynd ar drywydd meysydd penodol o ddiddordeb. Mae pynciau modiwl sydd ar gael yn cynnwys yr ymennydd ac ymddygiad; bôn-gelloedd; anatomeg; bioleg ddatblygiadol; niwrowyddoniaeth; a ffisioleg.

Drwy gydol y flwyddyn byddwch yn parhau i ddatblygu gwybodaeth eang sy’n dyfnhau am y gwyddorau biofeddygol y gallwch chi arbenigo ymhellach ynddyn nhw yn ystod blynyddoedd olaf eich gradd.

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Mae'r Flwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol (PTY) yn rhoi'r cyfle i chi dreulio 9-12 mis mewn labordy ymchwil academaidd, clinigol neu ddiwydiannol/masnachol, neu sefydliad arall wedi’i gymeradwyo, er mwyn ennill profiad ymchwil yn uniongyrchol.

Byddwch yn ymgymryd ag agweddau gwahanol ar ymchwil, gan gynnwys dylunio arbrofol, casglu data a dadansoddi ac, yn olaf, cyflwyno data gan gynhyrchu adroddiad a chyflwyniad prosiect.

Bydd ein Cydlynwyr Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol yn eich cefnogi i ddod o hyd i safle addas sy’n berthnasol i’ch dyheadau o ran gyrfa, a bydd tiwtor yn cadw mewn cysylltiad gyda chi ac yn ymweld â chi yn ystod eich lleoliad.

Mae nifer o’r lleoliadau yn y DU, ond rydym hefyd wedi cael nifer o leoliadau mewn mannau eraill, yn arbennig yn Ewrop drwy gynllun ‘ERASMUS’ UE y mae Caerdydd yn bartner ynddo, ond hefyd yn cynnwys De-ddwyrain Asia, De Affrica, yr Almaen, yr Eidal ac UDA.

Mae dod o hyd i leoliad yn broses gystadleuol ac ni ellir gwarantu llwyddiant. Fodd bynnag, rydym bob amser wedi llwyddo i leoli’r mwyafrif helaeth o’n myfyrwyr Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol.

Bydd yr adroddiad a luniwch am eich lleoliad yn cyfrif pan asesir eich gradd yn derfynol.

Blwyddyn pedwar

Mae cwricwlwm ein pedwaredd flwyddyn yn eich galluogi i arbenigo'n fanylach yn un o themâu ymchwil mawr yr Ysgol. Mae’r dull hwn yn eich trwytho i ddiwylliant ymchwilio'r biowyddorau, drwy gyfrwng addysgu yn seiliedig ar ymchwil a phrosiect sy'n eich caniatáu i ymchwilio i destun yn llawer manylach.

Defnyddio gwybodaeth graidd i ddatrys problemau a gwerthuso modelau, syniadau a dadleuon cyfredol yn feirniadol sy'n cael y prif sylw yn y drydedd flwyddyn. Er mwyn datblygu sgiliau gwaith annibynnol a dysgu gydol oes, a fydd yn helpu i baratoi ar gyfer yr amgylchedd proffesiynol, bydd y rhan hon o'r cwrs yn cynnwys llawer iawn o astudio hunangyfeiriedig, a fydd yn helpu i’ch paratoi ar gyfer yr amgylchedd proffesiynol.

Yn ogystal â modiwl Technegau Ymchwil Datblygedig 30-credyd (sy'n cynnwys hyfforddiant biowybodeg a phrosiect ymarferol integredig), byddwch hefyd yn cwblhau tri modiwl 30-credyd gan gynnwys modiwl gorfodol am Bynciau Cyfoes ym maes Clefydau). Mae'r pynciau sydd ar gael yn cynnwys mecanweithiau, diagnosteg a therapiwteg canser; bioleg haint; a bioleg cyhyrysgerbydol uwch a llunio meinweoedd.

Blwyddyn pump

Mae blwyddyn olaf y cwrs Meistr yn cynnwys prosiect estynedig mewn labordy ymchwil gweithredol, hyfforddiant pellach mewn technegau ymchwil datblygedig yn ogystal â modiwl 'Ffiniau'r Biowyddorau'. Bydd eich prosiect ymchwil unigol yn un newydd ac mae'n bosibl y bydd y canlyniadau'n ddigon clodwiw i'w cyhoeddi mewn cyfnodolyn gwyddoniaeth, cyfrannu at gyhoeddiad neu sbarduno crynswth newydd o waith ymchwil o ganlyniad. Byddwch yn cael hyfforddiant a chefnogaeth â'ch prosiect gan ymchwilwyr, a bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau sy'n berthnasol i ymchwilio ymarferol gwyddonol. Bydd y fath arbenigedd a gwybodaeth mewn meysydd yr ydym wedi eu datblygu hyd y flwyddyn yn helpu i'ch gwneud yn hynod gyflogadwy yn y sector ymchwil a sector masnachol y biowyddorau fel ei gilydd.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae Ysgol y Biowyddorau yn cynnig profiad addysgol sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr yn seiliedig ar ragoriaeth academaidd. Yn anad dim, mae’r profiad addysgol yn cael ei lywio a’i arwain gan ymchwil flaenllaw, ac mae myfyrwyr a chyrff proffesiynol yn ei ganmol i'r cymylau. Rydym yn ceisio cefnogi pob dysgwr mewn diwylliant dysgu cynhwysol.

Ar y cwrs Gwyddorau Biofeddygol, byddwch yn caffael gwybodaeth graidd a dealltwriaeth drwy gyfrwng darlithoedd, dosbarthiadau ymarferol, seminarau ymchwil, gweithdai a sesiynau tiwtorial. Byddwch yn caffael gwybodaeth uwch a dealltwriaeth drwy astudio annibynnol, gwaith grŵp a gwaith prosiect.

Disgwylir i fyfyrwyr gynnal astudiaeth annibynnol a disgwylir mwy o annibyniaeth o ran dysgu wrth i'r cwrs fynd rhagddo.

Gall fod elfennau dethol o’r cwrs ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae myfyrwyr hefyd yn gallu gofyn am diwtor personol sy'n siarad Cymraeg ar gyfer cymorth academaidd a chymorth bugeiliol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae pob aelod o’r staff academaidd yn Ysgol y Biowyddorau yn ymchwilwyr profiadol yn eu priod feysydd ac maen nhw’n angerddol am rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd gyda myfyrwyr.

Bydd rhyngweithio â staff academaidd yn digwydd yn bennaf yn ystod darlithoedd, sesiynau ymarferol labordai, gweithdai neu sesiynau addysgu grŵp bach (sesiynau tiwtorial). Bydd myfyrwyr hefyd yn cael tiwtor personol a fydd yn cynnig cymorth bugeiliol a chyngor academaidd drwy gydol y cwrs.

Gellir cysylltu â staff darlithio mewn perthynas â sesiynau addysgu neu drwy ebost, ac maen nhw’n gweithredu polisi ‘drws agored’ ar gyfer myfyrwyr ag ymholiadau penodol am ddeunydd cwrs, neu system ar gyfer cadw lle ar gyfer cyfarfod. Hefyd, mae gan bob cynllun gradd gydlynydd cynllun gradd sy'n gallu rhoi cyngor ar faterion academaidd. Mae gan bob blwyddyn astudio gydlynydd blwyddyn a all roi cyngor ar faterion gweinyddol sy'n ymwneud â’r cwrs astudio. Hefyd, mae Swyddfa israddedig hwylus gyda gweinyddwyr cyfeillgar a phrofiadol a all ateb y rhan fwyaf o ymholiadau gweinyddol hefyd.

Adborth
Bydd adborth ar eich astudiaeth, eich gwaith a’ch cynnydd ar sawl ffurf, o sylwadau ysgrifenedig ffurfiol ar eich gwaith a gyflwynwyd i sgyrsiau mwy anffurfiol a chyngor yn ystod dosbarthiadau a sesiynau ymarferol, neu gan eich tiwtor personol. Drwy gydol y cwrs, byddwn yn rhoi adborth manwl ar yr holl waith cwrs a asesir. Fel arfer, darperir hyn ar-lein drwy system 'Grademark', sy'n eich galluogi i weld eich adborth yn gyfleus trwy ddyfais tabled neu gyfrifiadur. Byddwch hefyd yn cael cyfle i drafod eich cynnydd academaidd a’ch datblygiad personol gyda'ch Tiwtor Personol, a thrafod papurau arholiad traethawd er mwyn gwella eich perfformiad. Yn ystod y prosiect ymchwil a gwaith ymarferol, cewch adborth ychwanegol yn rheolaidd gan y staff academaidd sy’n eich goruchwylio.

Sut caf fy asesu?

Fel arfer, asesir modiwlau’r flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn drwy gyfuniad o waith cwrs ac arholiadau. Mae pob modiwl yn cynnwys asesiadau gwaith cwrs, a gallai’r rhain fod ar ffurf adroddiadau ysgrifenedig ymarferol, adroddiadau strwythuredig, profion dosbarth, profion ateb strwythuredig, gwaith grŵp, cyflwyniadau poster a chyflwyniadau llafar ac ymarferion datrys problemau ystadegol/cyfrifiaduro.  Gall asesiadau fod yn grynodol a gallant gyfrif tuag at farc terfynol y modiwl, neu gallant fod yn ffurfiannol, gan eich helpu i ddysgu ac ymarfer sgiliau allweddol a gwybodaeth drwy adborth.  Mae'r arholiadau terfynol ar ddiwedd pob modiwl yn cynnwys adran ateb strwythuredig sy’n cael ei farcio gan beiriant (asesu ehangder gwybodaeth) ac adran ateb ysgrifenedig (asesu dyfnder gwybodaeth mewn pynciau penodol).   

Yn ystod y Flwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol byddwch yn cynhyrchu adroddiad lleoliad, a fydd yn cyfrif tuag at asesiad terfynol eich gradd.

Yn y bedwaredd flwyddyn, asesir modiwlau a addysgir drwy arholiadau a gwaith cwrs dadansoddol estynedig. Caiff prosiectau ymchwil ymarferol neu academaidd eu hasesu gan werthusiad goruchwyliwr, adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad llafar.

Drwy waith cwrs yn unig yr asesir modiwlau'r flwyddyn olaf. Asesir y prosiect ymchwil drwy werthusiad goruchwylwyr, adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Drwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn datblygu cymwyseddau gwyddonol yn ogystal â 'sgiliau cyflogadwyedd' allweddol trosglwyddadwy a fydd yn amhrisiadwy beth bynnag fo eich dewis gyrfa yn y dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • dysgu annibynnol ac astudio hunangyfeiriedig;
  • casglu, trefnu a dadansoddi gwybodaeth i greu dadleuon rhesymegol ac argyhoeddiadol;
  • meddwl yn feirniadol a datrys problemau;
  • cyfathrebu syniadau cymhleth mewn ffordd eglur ac effeithiol (gan ddefnyddio'r holl gyfryngau);
  • gweithio'n effeithiol mewn tîm ac yn unigol;
  • cymwyseddau TG, gan gynnwys pecynnau cyflwyno, graffeg ac ystadegau;
  • perfformio a dehongli dadansoddiadau ystadegol o ddata;
  • rheoli amser yn effeithiol a sgiliau trefnu.

O ganlyniad i ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, dylech allu gwneud y canlynol:

  • dadansoddi, cyfosod a chrynhoi gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau;
  • trafod y berthynas rhwng strwythur/ffurfiant a swyddogaeth/rheoliad moleciwlau, organelau, celloedd, meinweoedd, organebau a phoblogaethau;
  • cyfathrebu gwybodaeth wyddonol, a gwybodaeth arall, yn effeithiol i amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan gynnwys y cyhoedd yn gyffredinol, gan ddefnyddio amrywiaeth o fformatau a dulliau;
  • trafod materion cyfredol mewn perthynas ag ymchwil, ymchwiliadau a/neu ddadleuon;
  • cyfosod dadl neu farn, yn seiliedig ar dystiolaeth a data cadarn;
  • pennu dilysrwydd a chywirdeb canlyniadau ystadegol;
  • adeiladu ar wybodaeth a dealltwriaeth o rôl ac effaith eiddo deallusol (IP) mewn amgylchedd ymchwil;
  • gweithio'n effeithiol mewn amgylchedd sy'n seiliedig ar grŵp, fel arweinydd ac aelod o dîm;
  • dangos y sgiliau angenrheidiol ar gyfer dysgu gydol oes annibynnol (er enghraifft sgiliau trosglwyddadwy gweithio'n annibynnol, rheoli amser, trefnu, menter a gwybodaeth);
  • nodi targedau, a gweithio tuag at y targedau ar gyfer datblygiad personol, datblygiad proffesiynol, datblygiad academaidd a datblygiad gyrfa;
  • dangos sgiliau cynllunio ac arweinyddiaeth ar gyfer gosod, a bodloni, nodau cyraeddadwy yn y gweithle.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae ein gradd meistr integredig mewn Gwyddorau Biofeddygol yn rhoi sylfaen ardderchog ar gyfer gyrfa ym maes ymchwil wyddonol yn y dyfodol. Mae hefyd yn rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy gwyddoniaeth-benodol a mwy cyffredinol fydd yn ddeniadol i ystod eang o gyflogwyr gwyddonol ac anwyddonol.

Mae ein graddedigion Gwyddorau Biofeddygol wedi mynd ymlaen i ystod o yrfaoedd cyffrous a gwerth chweil mewn amrywiaeth o wahanol feysydd, gan gynnwys ymchwil feddygol a gwyddonol, diwydiannau biolegol, gofal iechyd, tocsicoleg, cyhoeddi meddygol neu wyddonol, gwyddoniaeth batholegol, newyddiaduraeth, gwasanaeth cyhoeddus a rheolaeth. Gall gradd mewn Gwyddorau Biofeddygol fod yn gam hefyd at gael hyfforddiant pellach mewn meysydd proffesiynol, gan gynnwys addysgu, meddygaeth, deintyddiaeth, nyrsio, gwyddoniaeth filfeddygol a chyfrifeg.

Mae profiad wedi dangos bod myfyrwyr sydd wedi cwblhau Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol mewn sefyllfa arbennig o dda i gael cyflogaeth sy'n gysylltiedig â'u gradd ar ddiwedd eu hastudiaethau.

Lleoliadau

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol (PTY) sy'n rhoi cyfle i chi dreulio cyfnod o 9-12 mis mewn labordy ymchwil academaidd, clinigol neu ddiwydiannol, neu sefydliad arall wedi’i gymeradwy, er mwyn ennill profiad ymchwil yn uniongyrchol.

Mae llawer o leoliadau yn digwydd yn y DU, ond mae nifer o leoliadau ar gael gennym hefyd yn Ewrop, de-ddwyrain Asia, De Affrica, yr Almaen, yr Eidal ac UDA.
Mae dod o hyd i leoliad yn broses gystadleuol ac ni ellir gwarantu llwyddiant. Chi fydd yn llywio’r broses yn bennaf gan fod y rhan fwyaf o leoliadau yn dibynnu ar y broses ymgeisio a dethol gan y cwmni neu’r sefydliad sy’n bartner. Fodd bynnag, rydyn ni’n rhoi cyngor a chymorth, a hyd yn hyn rydyn ni wedi llwyddo i leoli’r rhan fwyaf o’n myfyrwyr Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol (PTY).

Os na fydd lleoliad ar gael, neu eich bod yn newid eich meddwl, gallwch newid o’r radd bum mlynedd gyda PTY i gwrs gradd MBiomed integredig pedair blynedd.

Gwaith maes

Mae gwaith maes yn bosibl yn rhan o rai modiwlau, gan ein bod yn cynnal nifer o gyrsiau maes arbenigol, biolegol yn seiliedig ar brosiectau mewn amrywiaeth o leoliadau ledled y byd. Mae'r cyrsiau maes hyn yn cynnwys prosiect ymchwil annibynnol, sy'n aml yn cynnwys ymddygiad neu ecoleg anifeiliaid.

Gan ddibynnu ar ddewisiadau modiwl, argaeledd a chyfyngiadau amserlennu, efallai y bydd myfyrwyr y Gwyddorau Biofeddygol yn gallu dewis un o’n cyrsiau maes.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.