Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogaeth i’r rheiny â phrofiad milwrol

Student Armed Forces
Armed Forces Covenant 2019

Rydym yn cynnig cefnogaeth bwrpasol i fyfyrwyr sydd wedi gwasanaethu fel milwr rheolaidd neu wrth gefn yn Lluoedd Arfog y DU.

Rydym yn sefydliad sy’n cefnogi’r Lluoedd Arfog ac yn ymrwymedig i gefnogi dynion/menywod a fu’n aelodau o’r lluoedd arfog a’u dibynyddion, trwy ein Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw aelod o gymuned y Lluoedd Arfog yn wynebu anfantais mewn Addysg Uwch.

Rydym yn falch o fod wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, sy'n ceisio cydnabod a chefnogi personél sy'n gwasanaethu, cyn-filwyr a'u teuluoedd. Mae’r Cyfamod â’r Lluoedd Arfog yn addewid gan y genedl i wneud yn siŵr bod y rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog a’u teuluoedd yn cael eu trin yn deg.

Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y sgiliau a’r profiadau y mae rhai sydd wedi gadael y lluoedd arfog yn dod â nhw i’r Brifysgol, ac rydym ni’n gweithio'n agos gyda gwasanaethau cymunedol lleol i ddarparu cyngor priodol, canllawiau a chymorth emosiynol ac ymarferol i’ch cynorthwyo wrth i chi bontio i Addysg Uwch. I'n cynorthwyo yn hyn, rydym yn aelod o rwydwaith Prifysgolion sy'n Cefnogi Personél Gwasanaeth Clwyfedig, Anafedig a Salwch (UNSWIS).

Ydy'r cymorth hwn yn iawn ar eich cyfer chi?

Mae'r term ‘profiad milwrol’ yn berthnasol i'r rhai sydd wedi bod yn filwyr rheolaidd neu’n filwyr wrth gefn yn Lluoedd Arfog y DU (gan gynnwys y Llynges Frenhinol, y Môr-filwyr Brenhinol, y Fyddin Brydeinig, y Llu Awyr Brenhinol a masnachlongwyr sydd wedi bod yn rhan o weithrediadau milwrol).

Gwneud cais ar gyfer cwrs

Gall fod yn anodd deall sut mae'r hyfforddiant a'r cymwysterau a enillwyd yn Lluoedd Arfog y DU yn cymharu â llwybrau a chymwysterau 'traddodiadol'. Mae Prifysgol Caerdydd yn cydnabod y sgiliau a'r wybodaeth hyn a bydd yn eich cefnogi i ddeall a ellir ystyried unrhyw ran o'ch profiad fel dysgu blaenorol achrededig neu'n gyfartal â'r cymwysterau sydd eu hangen. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw un o'n cyrsiau israddedig neu ôl-raddedig gallwch gysylltu â'r Brifysgol a siarad â'n tîm ymholi cyrsiau.

Pan fyddwch chi’n gwneud cais i fynd i brifysgol drwy UCAS cewch y cyfle i ddatgelu eich bod yn rhywun sydd â Phrofiad Milwrol. Byddem yn eich annog i dicio’r blwch ‘ie’ wrth y cwestiwn hwn er mwyn inni allu cysylltu â chi cyn gynted â phosibl ynghylch y cymorth sydd ar gael ichi.

Os nad ydych chi’n barod hyd yn hyn i astudio ar gyfer gradd mae tîm yr Adran Addysg Broffesiynol Barhaus yn cynnig ystod eang o gyrsiau rhan-amser, a hynny ar lefelau ac ar adegau sy’n gyfleus i chi. Nid oes gofynion mynediad ynghlwm wrth lawer o’r cyrsiau hyn, y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw diddordeb yn y pwnc a’r parodrwydd i’w astudio yng nghwmni pobl eraill. Mae'r  yn ffordd arall o ennill cymwysterau Safon Uwch a mynediad gan fod y rhaglen yn cael ei haddysgu a'i hasesu mewn ffordd debyg i gyrsiau israddedig yn y flwyddyn gyntaf.

Cysylltwch â nhw drwy ebostio learn@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch nhw ar 02920 870000.

Cyllid ar gyfer Profiadol Milwrol

Rydym yn Ddarparwr Dysgu Cymeradwy ar y Cynllun Credydau Dysgu Uwch. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan ELCAS. Rydym yn ychwanegu cyrsiau at ein rhestr cyrsiau ELCAS gymeradwy yn barhaus os nad ydych yn gweld y cwrs a ddewiswyd gennych wedi'i restru, cysylltwch â'n tîm derbyn.

Mae gennym Fwrsariaeth Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog ar gyfer myfyrwyr israddedig cymwys yn eu blwyddyn gyntaf. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n tudalen Bwrsariaeth Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog.

Cymorth Pontio

Mae'n bwysig inni fod eich proses pontio i'r brifysgol yn haws o ganlyniad i’r ffaith eich bod yn gallu cael gafael ar wybodaeth ac arweiniad os bydd gennych chi gwestiynau cyn dechrau ac ar ôl hynny.

Mae ein Tîm Allgymorth yn rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i'ch helpu i baratoi ar gyfer y Brifysgol. Darllenwch eu tudalennau ynglŷn â chymryd rhan i weld pa brosiectau y gallwch chi gymryd rhan ynddyn nhw.

Os ydych chi wedi ticio'r blwch yn UCAS bydd ein swyddog cyswllt penodol Lena Smith yn cysylltu â chi i ateb eich cwestiynau cyn dechrau'r cwrs a gall eich cyfeirio at wasanaethau yn y brifysgol y bydd eu hangen arnoch chi hwyrach.

Cymorth tra byddwch chi’n astudio

Ym Mhrifysgol Caerdydd, ein nod yw rhoi profiad rhagorol a chefnogol i’n myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys meithrin ac annog dyfodol hyderus a llwyddiannus i bawb. Rydyn ni’n cynnig cymorth pwrpasol ar ben y cymorth cyffredinol o ran bywyd y myfyrwyr sydd ar gael i bob myfyriwr.

Lena Smith yw'r enw cyswllt pwrpasol ar gyfer myfyrwyr â phrofiad milwrol ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae'n rhoi’r cymorth canlynol drwy gydol eich astudiaethau:

  • cymorth wrth wneud cais am gyllid myfyrwyr a grantiau a bwrsariaethau eraill
  • cymorth o ran materion academaidd, gan gynnwys cysylltu â'ch adran academaidd a helpu myfyrwyr i fod yn ymwybodol o sut i wneud cais am amgylchiadau esgusodol os bydd angen
  • rhoi cymorth o ran tai
  • cyfeirio at wasanaethau prifysgol eraill y Brifysgol megis Gwasanaeth Anabledd y Myfyrwyr, Cwnsela a Lles neu sgiliau astudio
  • cynnal digwyddiadau a gweithgareddau a bod ar gael i gael sgwrs os bydd angen.

Fel rhan o'r Cyfamod â’r Lluoedd Arfog, mae'r Brifysgol wedi penodi’r Is-gapten Paul Thomas fel ein Hyrwyddwr cyntaf dros y Lluoedd Arfog. Mae Paul yn Filwr Wrth Gefn i’r Llynges Frenhinol ac yn ogystal â'i rôl yn y Brifysgol, mae'n helpu i ddatblygu a chefnogi Cymuned Lluoedd Arfog Prifysgol Caerdydd.

Rydym yn gweithio'n agos gyda'r cyswllt penodedig ar gyfer Cyn-filwyr yng Nghyngor Dinas Caerdydd i sicrhau ein bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth cymunedol allanol yng Nghaerdydd a hefyd y gostyngiadau a'r mynediad am ddim sydd ar gael yng Nghaerdydd at nofio mewn canolfannau hamdden lleol.

Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau wrth raddio rydym yn cynnig pecyn i fyfyrwyr sydd â phrofiad milwrol sydd wedi derbyn cefnogaeth gennym. Mae ein pecyn presennol yn cynnwys talu cost hurio’r wisg raddio.

Ar ôl i chi raddio, gallwch wneud cais i aros mewn neuadd breswyl ar y campws dros yr haf tan 1 Medi i sicrhau bod gennych ddigon o amser i gynllunio eich camau nesaf.

Gall ein tîm Dyfodol Myfyrwyr roi cymorth am hyd at dair blynedd ar ôl i chi raddio, a fydd yn cefnogi eich camau nesaf ar ôl ein gadael.

Mae perthynas â Phrifysgol Caerdydd yn un am oes, a gallwch barhau i fod yn gysylltiedig â ni a bod yn rhan o'n cymuned fyd-eang o gynfyfyrwyr.

Dyma rai dolenni defnyddiol i wybodaeth a chymorth:

Mewnol

Allanol

Cysylltu â ni

Lena Smith