Diwrnodau Agored ac ymweliadau ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig
Cyfle delfrydol i gael rhagor o wybodaeth am astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cynhelir ein diwrnod agored rhithiwr nesaf i ôl-raddedigion ddydd Mercher 23 Mehefin 2021 (11.00 - 14.00).
Yn y digwyddiad, cewch y cyfle i wylio ein cyflwyniadau, cymryd rhan mewn sesiynau sgwrsio byw a gofyn cwestiynau i ni am bynciau fel cyllid i ôl-raddedigion, llety a gwasanaethau lles a chefnogi myfyrwyr. Cynhelir y digwyddiad gan ein tîm recriwtio ôl-raddedigion, staff o'n Hysgolion academaidd a gwasanaethau cefnogi myfyrwyr ochr yn ochr â rhai o'n myfyrwyr ôl-raddedig presennol, felly byddwch yn gallu cael y cyngor sydd ei angen arnoch gan y rhai hynny sy'n gwybod orau.
Er na allwn eich croesawu i'n hadeiladau wyneb yn wyneb ar hyn o bryd, beth am wylio ein fideo ‘Postgrad Life on Cathays Park campus’ i gael teimlad ar gyfer sut brofiad yw astudiaethau ôl-raddedig yn yr unig Brifysgol Grŵp Russell yng Nghymru?

"Mae'r Diwrnod Agored yn gyfle perffaith i gael yr holl wybodaeth am eich cwrs, y campws, y bobl a'r ddinas. Dyma fy awgrymiadau ar sut i fanteisio i'r eithaf ar Ddiwrnod Agored."