Ewch i’r prif gynnwys

Dylunio Adeiladau’n Amgylcheddol (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn yn dysgu o bell

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Nod ein cwrs yw datblygu gwybodaeth ac arbenigedd ynghylch dylunio amgylcheddau iach a chyfforddus mewn adeiladau ac o'u cwmpas, beth bynnag fo'r hinsawdd, gan roi sylw priodol i faterion cynaliadwyedd.

academic-school

Ysgol bensaernïaeth flaenllaw

Astudio yn un o ysgolion pensaernïaeth gorau'r deyrnas.

star

Wedi'i achredu gan CIBSE

Wedi ei hachredu gan Sefydliad Siartredig Peirianwyr Gwasanaethau Adeiladu (CIBSE) ac mae’n bodloni’r gofynion academaidd ar gyfer y cofrestriad proffesiynol CEng.

notepad

Amrywiaeth o opsiynau astudio

Ar gael fel cwrs amser llawn, rhan-amser a dysgu o bell.

building

Cwrs wedi'i sefydlu

Cwrs sefydledig, sy’n rhoi sylfaen ymarferol i weithwyr proffesiynol yr amgylchedd adeiledig ym mhwnc dylunio amgylcheddol ers 1993.

globe

Arbenigedd ymchwil o fri rhyngwladol

Yn seiliedig ar yr arbenigedd ymchwil o fri rhyngwladol yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, mae gennym brofiad ers tro mewn dylunio, monitro ar ymgynghori ar adeiladau cynaliadwy megis Tŷ carbon bositif SOLCER.

certificate

Ysgoloriaethau a ariennir

Mae ysgoloriaethau ar gyfer y cwrs hwn ar gael i fyfyrwyr sy’n cael eu dewis ar sail gystadleuol.

Cardiff Capital Region logo

Mae gwaith adeiladu, gweithredu a thriniaeth diwedd oes adeiladau yn aml yn defnyddio llawer o adnoddau. Maent yn mynnu ynni, trydan a dŵr, wrth gynhyrchu gwastraff tirlenwi, allyriadau CO2 a llygredd arall. Gydag ymwybyddiaeth gynyddol o adnoddau byd-eang sy'n prinhau a phwysigrwydd materion cynaliadwyedd, mae galw cynyddol am weithwyr proffesiynol sy'n gallu mynd i'r afael â phroblemau amgylcheddol yn yr amgylchedd adeiledig a'u datrys. 

Nod ein cwrs MSc Dylunio Adeiladau’n Amgylcheddol yw meithrin gwybodaeth ac arbenigedd sy’n seiliedig ar dystiolaeth ynghylch dylunio amgylcheddau iach a chyfforddus mewn adeiladau ac o'u cwmpas, gan ymateb i’r hinsawdd a rhoi sylw priodol i faterion cynaliadwyedd. 

Cynigir yr opsiynau dysgu o bell naill ai mewn opsiynau amser llawn (blwyddyn), rhan-amser (dwy flynedd) neu ran-amser (tair blynedd), sy’n arbennig o addas ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y maes.   Mae gan y llwybr dysgu o bell draddodiad hir yn yr ysgol, gan gael ei sefydlu yn 2002.

Achrediadau

Kate Paxton, MSc Environmental Design of Buildings
Mae rhaglen dysgu o bell Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi'i theilwra'n neilltuol er mwyn gweddu i’r unigolion hynny nad ydynt yn cael eu haddysgu yng Nghaerdydd. Yn bennaf, rwy’n hoff iawn o’r ffaith y caiff pob darlith ei recordio, gan gynnwys unrhyw gwestiynau a holwyd yn y ddarlith, a thrafodaethau â myfyrwyr lleol. Yn hyn o beth, go brin y collaf unrhyw gynnwys y cwrs, sy’n caniatáu imi ymdrin â’r holl ddeunydd yn fy amser fy hun, ac ar gyflymdra sy’n gweddu i mi. Mae'r staff yn hynod gefnogol ac yn cynnig cymorth yn ystod tiwtorialau ar-lein a thros Skype. Ar ben hynny, rhoddir cyfle imi ymgysylltu â dysgwyr eraill o bell, a myfyrwyr lleol hefyd, naill ai drwy waith grŵp, dros Skype neu yn ystod tiwtorialau ar-lein.
Kate Paxton, MSc Dylunio Adeiladau’n Amgylcheddol (Dysgu o bell) MSc Dylunio Adeiladau'n Amgylcheddol

Ble byddwch yn astudio

Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Ein nod yw gwneud y byd yn lle gwell gyda phensaernïaeth sy'n sensitif i'w gyd-destun, yn gynaliadwy a phrydferth.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4430
  • MarkerRhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3NB

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol megis pensaernïaeth, peirianneg gwasanaethau adeiladu, technoleg adeiladu, neu astudiaethau amgylcheddol, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Datganiad personol sy'n cynnwys eich rhesymau dros astudio'r rhaglen hon ac unrhyw brofiad gyda materion sy'n ymwneud â dylunio amgylcheddau cynaliadwy, cyfforddus ac iach yn eich astudiaethau blaenorol neu yrfa broffesiynol.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Cyflwynir ein MSc Dylunio Adeiladau’n Amgylcheddol mewn dau gam. Mae Cam 1 (dwy ran o dair) yn cynnwys modiwlau a addysgir a modiwlau prosiect gwerth cyfanswm o 120 credyd.  Y traean olaf yw eich traethawd hir (Cam 2). 

Fel myfyriwr amser llawn, byddwch yn gwneud y ddau gam mewn blwyddyn.  

Yng Ngham 1, byddwch yn ymgymryd â phum modiwl a addysgir a thri modiwl prosiect cyn dechrau gweithio ar eich traethawd hir yng Ngham 2. Bydd pob modiwl yn rhoi sylw i ddylunio amgylcheddol o ongl wahanol, gan ganolbwyntio ar themâu penodol, fel gwresogi, goleuo a chynaliadwyedd. Drwy gydol y cwrs, byddwn yn mynd i’r afael ag arferion da mewn perthynas â dylunio amgylcheddol adeiladau mewn hinsoddau ledled y byd. Byddwn yn archwilio: 

  • Materion cyfredol sy'n wynebu cynllunwyr adeiladau amgylcheddol, a sut gallai newid yn yr hinsawdd effeithio ar y proffesiwn.
  • Safonau amgylcheddol – eu darogan, eu mesur a deddfwriaeth.
  • Ffyrdd o gyflawni safonau uchel o ran perfformiad amgylcheddol, gan gynnwys cysur ac iechyd defnyddwyr, gan ddefnyddio adeiladwaith, gwasanaethau mecanyddol a phrosesau cynhyrchu a storio ynni adnewyddadwy yn briodol.
  • Materion cynaliadwyedd ehangach y dylai cynllunwyr amgylcheddol fod yn ymwybodol ohonynt er mwyn ymarfer mewn ffordd gynaliadwy.

Mae’r modiwlau a addysgir ar y cwrs hwn yn rhoi sylfaen ym maes dylunio amgylcheddol a gwyddor bensaernïol yng nghyd-destun datblygu cynaliadwy a pherfformiad amgylcheddol adeiladau. 

Mae’r modiwlau prosiect yn canolbwyntio ar themâu penodol wrth ddylunio adeiladu, megis yr amgylchedd hinsoddol, amgylchedd mewnol yr adeilad a strategaethau dylunio goddefol. Yn y modiwlau hyn, byddwch yn cael y cyfle i gymhwyso’r syniadau dylunio hyn a addysgir i sefyllfaoedd byd go iawn. 

Ar ôl cwblhau'r modiwlau, byddwch yn paratoi traethawd hir, lle byddwch yn dadansoddi pwnc dylunio amgylcheddol sydd o ddiddordeb i chi yn fanylach.  

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Os ydych yn fyfyriwr amser llawn, ac ar y llwybr dysgu o bell am flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â phob modiwl ac yn cwblhau eich traethawd hir mewn un flwyddyn galendr

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Cewch eich addysgu’n bennaf drwy amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog. Drwy’r porth hwn, byddwch yn gallu cael gafael ar yr holl ddeunyddiau addysgu dysgu o bell ar gyfer y cwrs hwn, gan gynnwys sgrinlediadau digidol a deunyddiau darllen penodol sydd ar gael yn ddigidol.  Dyluniwyd y deunyddiau addysgu yn unol â Fframwaith Dysgu Digidol Prifysgol Caerdydd.

Oherwydd natur y cwrs hwn, chi sy'n gyfrifol am ddarllen unrhyw negeseuon e-bost a anfonir gan diwtoriaid modiwl neu gyhoeddiadau a wneir trwy Dysgu Canolog yn aml ac am ymgyfarwyddo ag amserlen y modiwl ac amgylchedd Dysgu Canolog.

Ar gyfer y modiwlau a addysgir, rydyn ni’n defnyddio cymorth clyweledol, arddangosiadau wedi'u hanimeiddio, ac ymarferion rhyngweithiol yn ôl yr angen i gynorthwyo gyda’r dysgu ac i roi sgiliau penodol i bwnc ar waith. Byddwch yn cael mynediad at recordiadau o ddarlithoedd neu arddangosiadau yn rhan o'r modiwlau hyn, a disgwylir i chi eu gwylio / gwrando arnynt. Gosodir tasgau byr i roi cyfleoedd i fyfyrwyr astudio'n unigol a chael adborth ffurfiannol.

Ar gyfer modiwlau'r prosiect, byddwch yn cael cynnig y cyfle i roi eich sgiliau newydd o'r rhaglen ar waith er mwyn atgyfnerthu eich dealltwriaeth a'ch sgiliau yn y maes pwnc ac er mwyn datblygu eich sgiliau datrys problemau a chyflwyno. Byddwn yn cynnal tiwtorialau mewn lleoliadau grŵp trwy ystafell ddosbarth rithwir ac ystafell sgwrsio lle bydd eich gwaith yn cael ei rannu a'i drafod. Dylech hefyd gadw mewn cysylltiad â thiwtor y modiwl a'ch cydfyfyrwyr dysgu o bell ar fforwm trafod ar-lein, lle bydd eich tiwtor yn gallu goruchwylio eich cynnydd fel carfan ac yn unigol.

Bydd dysgu anghydamserol yn cael ei ategu gan sesiynau cydamserol ar ffurf tiwtorialau prosiect.

Sut y caf fy asesu?

Asesir modiwlau a addysgir ac sy'n seiliedig ar brosiectau mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, yn dibynnu ar gynnwys y modiwl a’r deilliannau dysgu (a geir yn y disgrifiadau o’r modiwlau). Rydym yn defnyddio profion dosbarth, asesiadau gwaith cwrs (fel asesiadau ysgrifenedig a phortffolio), neu gyfuniad o'r rhain i asesu eich cynnydd ar y modiwl.

Dim ond eich traethawd hir gaiff ei asesu yn y cam traethawd hir. Mae'r traethawd hir yn adroddiad ysgrifenedig ar ddarn o waith ymchwil rydych wedi'i wneud mewn maes pwnc y cytunwyd arno o dan oruchwyliaeth.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae tiwtor personol yn cael ei neilltuo i bob un o'n myfyrwyr pan fyddan nhw’n cofrestru ar y cwrs. Mae tiwtor personol yno i'ch cefnogi yn ystod eich astudiaethau, a gall roi cyngor i chi ar faterion academaidd a phersonol a all fod yn effeithio ar eich astudiaethau. Dylech gael cyfarfodydd rheolaidd gyda’ch tiwtor personol er mwyn sicrhau eich bod yn cael cefnogaeth lawn.

Bydd gennych fynediad at yr adnoddau electronig o'n Llyfrgell Bensaernïaeth bwrpasol a llyfrgelloedd eraill Prifysgol Caerdydd.

Yn ogystal, mae gan fyfyrwyr o bell arweinydd rhaglen penodedig y mae ei rôl yn benodol i ddysgwyr o bell. Mae’r arweinydd rhaglen hwn yn cefnogi ac yn arwain myfyrwyr drwy eu hastudiaethau yn academaidd ac yn fugeiliol, ac yn cychwyn sefydlu cymunedau ymarfer trwy grwpiau cyfryngau cymdeithasol neu leoliadau creu grwpiau rhithwir eraill.

Os bydd angen, mae apwyntiadau cwnsela a lles ar-lein ar gael.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae Deilliannau Dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi’n gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddan nhw’n eich helpu i ddeall yr hyn mae disgwyl ichi ei wneud. 

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch chi’n gallu:

Gwybod a deall:

  • Arfarnu rôl gweithwyr proffesiynol yr amgylchedd adeiledig wrth gefnogi cynaliadwyedd cyfannol ar ystod o raddfeydd datblygu
  • Archwilio’r paramedrau hinsoddol ac ymddygiadol allweddol sy’n dylanwadu ar gysur y meddianwyr, ansawdd yr aer, a pherfformiad ynni/carbon yr amgylchedd adeiledig
  • Crynhoi sut mae adeiladau'n defnyddio ynni ac yn gollwng carbon ac egluro sut y gellir lleihau hyn wrth gynnal cysur dynol yn yr amgylchedd adeiledig

Sgiliau deallusol:    

  • Syntheseiddio data cymhleth i hwyluso gwneud penderfyniadau
  • Dylunio, gwerthuso a datblygu atebion creadigol i broblemau cymhleth yng nghyd-destun yr amgylchedd adeiledig

Sgiliau ymarferol proffesiynol:     

  • Ymchwilio i broblemau byd go iawn cymhleth mewn perthynas â'r amgylchedd adeiledig a chynaliadwyedd cyfannol
  • Beirniadu gwybodaeth bresennol a chyfiawnhau penderfyniadau a wneir wrth greu datrysiad dylunio

Sgiliau trosglwyddadwy/allweddol:   

  • Creu ac amddiffyn syniadau, egwyddorion a damcaniaethau cymhleth
  • Dewis a chyfiawnhau dulliau priodol ar gyfer datrys problemau
This University offers an exceptional distance learning opportunity for those who cannot make it to Cardiff. I got to know my other distance learning colleagues who come from different countries and backgrounds. The weekly online tutorials brought us colleagues and tutors closer together. One thing that I liked most in the final year project was that we exchanged our climates with that of our buddies for the project. I found that really fascinating. I really love the subject and in my opinion it was portrayed quite vividly.
Anne Casha, MSc Environmental Design of Buildings (Distance Learning)

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,450 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Mae’r ffioedd yn cwmpasu'r holl ffioedd dysgu, costau hanfodol y cwrs, cofrestru ac arholiadau. Mae'r Ysgol yn talu cost popeth sy'n rhan hanfodol o'r rhaglen. Bydd hyn yn cael ei nodi'n glir yng ngwybodaeth y rhaglen.  Bydd unrhyw ymweliadau dewisol / teithiau maes yn golygu costau ychwanegol – caiff hyn ei gyfleu’n glir i fyfyrwyr ymlaen llaw.

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Bydd angen mynediad at gyfrifiadur/gliniadur gyda meddalwedd prosesu geiriau a mynediad da i'r rhyngrwyd, ac sy'n gallu rhedeg meddalwedd Design Builder.   Dylai meddalwedd briodol fod ar gael trwy’r fewnrwyd a chewch eich cyfeirio ati pan fo angen.

Byddai gyriant USB neu galed i storio'ch gwaith, deunydd ysgrifennu cyffredinol a rhywfaint o offer darlunio sylfaenol yn ddefnyddiol hefyd

Lle bo hynny'n briodol, rydym yn darparu trwyddedau myfyrwyr neu fynediad i'r feddalwedd efelychu arbenigol a ddefnyddiwn ar gyfer y cwrs, ond ar hyn o bryd gallwn ond warantu bod y rhain yn gweithio ar gyfrifiaduron gyda system weithredu Windows.

Yn ystod y cwrs, byddwch yn cael defnyddio’r Llyfrgell Bensaernïaeth arbenigol, yn ogystal â llyfrgelloedd eraill y Brifysgol.

Mae’n bosib y byddwch hefyd am brynu rhai o’r testunau allweddol ar gyfer y cwrs. Er bod y testunau sy'n ofynnol ar gyfer astudio ar gael yn llyfrgell yr Ysgol, mae manteision i fod yn berchen ar eich copi personol o waith allweddol fel y gallwch gael mynediad atynt pryd bynnag y dymunwch.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae myfyrwyr ar y cwrs hwn yn aml yn mynd yn ôl i'w proffesiwn gwreiddiol gyda'r fantais o ennill arbenigedd newydd mewn dylunio amgylcheddol a chynaliadwy. Ar ôl cwblhau'r cwrs, mae rhai o'n myfyrwyr sydd â digon o brofiad blaenorol yn eu gyrfa wedi mynd yn eu blaenau i gael eu penodi ar gyfer rolau blaenllaw yn eu proffesiynau perthnasol.

Mae'r rhaglen wedi helpu nifer fawr o weithwyr proffesiynol i ddilyn gyrfa mewn ystod eang o sectorau megis (ymhlith rhai eraill):

  • Gwaith pensaernïol neu beirianneg, gydag arbenigedd mewn dylunio amgylcheddol
  • Ymgynghori (dadansoddiad amgylcheddol o adeiladau a gwerthuso perfformiad adeiladau)
  • Academia (addysgu a/neu ymchwil)
  • Polisi (yn y DU a thramor)

Nodwch nad yw’r cwrs hwn yn addas i’r rhai sydd am astudio Pensaernïaeth Tirwedd.

Gwaith maes

Trefnir ymweliadau tywys o gwmpas adeiladau sy'n dangos sut mae’r syniadau a addysgir ar y cwrs yn cael eu cymhwyso.  Yn y gorffennol, mae'r rhain wedi cynnwys ymweld â Thŷ SOLCER (Cymru), sy’n adeilad carbon bositif, ac adeiladau sy’n defnyddio dulliau arloesol o gyflawni effeithlonrwydd ynni yn Sbaen ac yn Zurich. 

Gwahoddir dysgwyr o bell ar deithiau astudio ac mae croeso iddynt, er nad ydynt yn orfodol.  Mae dysgwyr o bell sydd wedi mynychu yn y gorffennol wedi gweld y profiad yn fuddiol.

Navarra field trip
Students on a recent sustainable architecture study trip to Navarra, Spain..

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Pensaernïaeth, Peirianneg sifil, Gwyddor amgylcheddol


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.